Cyflwyniad
Mae anadl ddrwg (sy'n cael ei alw'n halitosis weithiau) yn gyffredin iawn. Gallwch ei drin eich hun fel arfer.
Sut i drin anadl ddrwg eich hun
Y ffordd orau o wneud yn siwr nad oes gennych anadl ddrwg yw trwy gadw eich dannedd, eich tafod a'ch ceg yn lân.
- brwsiwch eich dannedd a'ch deintgig yn ysgafn o leiaf ddwywaith y dydd, am 2 funud
- defnyddiwch bast dannedd sy'n cynnwys fflworid
- glanhewch eich tafod unwaith y dydd gan ddefnyddio ysgrafell neu lanhäwr y tafod
- glanhewch rhwng eich dannedd gan ddefnyddio brwshys rhyngddeintiol neu fflos o leiaf unwaith y dydd
- ewch am wiriadau deintyddol rheolaidd
- cadwch ddannedd gosod yn lân a'u tynnu dros nos
- defnyddiwch losin mint neu gwm cnoi heb siwgr ar ôl cael bwyd a diod sydd ag arogl cryf
- rhowch gynnig ar ddefnyddio cegolch neu bast dannedd gwrthfacterol
Peidiwch ag
- ysmygu
- golchi eich ceg gyda dŵr yn syth ar ôl brwsio eich dannedd
- bwyta llawer o fwydydd neu yfed llawer o ddiodydd siwgraidd
- brwsio mor galed fel bod eich deintgig neu eich tafod yn gwaedu
Achosion anadl ddrwg
- bwyta neu yfed bwydydd a diodydd sydd ag arogl cryf neu sy'n sbeislyd
- problemau gyda'ch dannedd neu'ch deintgig, clefyd y deintgig, pydredd dannedd neu haint
- mynd ar ddiet lle'r ydych chi'n colli pwysau yn sydyn iawn
- rhai cyflyrau meddygol, fel ceg sych, tonsilitis ac adlif asid
- ysmygu
Ewch i weld meddyg os oes gennych:
- anadl ddrwg sydd ddim yn diflannu ar ôl i chi ei drin eich hun am ychydig wythnosau
- deintgig sy'n boenus, yn gwaedu neu sydd wedi chwyddo
- y ddannoedd neu mae eich dannedd oedolion yn rhydd
- problemau gyda'ch dannedd gosod