Mae gofalwr yn rhywun sydd, heb dâl ac ni waeth am ei oedran, yn gofalu am rywun sy’n anabl, yn sâl, yn oedrannus, sydd â phryder iechyd meddwl neu bryderon yn ymwneud â chaethiwed.
Ledled Cymru, mae cannoedd ar filoedd o bobl yn darparu gofal di-dâl i aelodau o’r teulu neu ffrindiau sy’n sâl, yn oedrannus neu’n anabl. Mae Gofalwyr Cymru yn amcangyfrif y gallai’r ffigur hwn fod yn agos at 450,000 o bobl, sef bron chweched ran o boblogaeth gyffredinol Cymru. (Daw’r ffigur hwn o Adroddiad yr Wythnos Ofalwyr (2023) gan elusennau’r Wythnos Ofalwyr. Mae hyn yn wahanol i’r ffigur 310,000 yng Nghyfrifiad 2021.) Mae’n bwysig bod gofalwyr yn cael eu hamlygu cyn gynted â phosibl ar y daith ofalu er mwyn sicrhau eu bod yn cael unrhyw gymorth ariannol neu ymarferol y gallai fod arnynt ei angen a bod ganddynt ddewis a rheolaeth yn eu bywydau beunyddiol.
Pwy sy’n gallu bod yn ofalwr?
Gall unrhyw un fod yn ofalwr, gan gynnwys pobl iau na 18 oed. Gelwir gofalwyr iau na 18 oed yn ofalwyr ifanc.
Beth mae gofalwr yn ei wneud?
Mae gofalwyr yn cyflawni tasgau ar ran rhywun nad yw’n gallu ymdopi ar ei ben ei hun. Gall hyn gynnwys gofal personol fel ymolchi neu wisgo, darparu cymorth corfforol neu iechyd meddwl ac emosiynol, i gynorthwyo pobl â’u trefniadau byw, fel siopa neu gasglu presgripsiynau i roi meddyginiaethau neu gyflawni gweithredoedd sy’n cynnal bywyd.
Cymorth i ofalwyr
Gall gofalu am rywun ofyn llawer yn gorfforol ac yn emosiynol. Gall y tasgau pob dydd y mae angen eu cyflawni a’r newid mewn amgylchiadau roi straen ar y berthynas rhwng y gofalwr a’r unigolyn y mae’n gofalu amdano ynghyd â pherthnasoedd eraill.
Mae sawl math o gymorth ar gael i ofalwyr. Fe all hyn gynnwys cymorth ariannol, cymorth ymarferol, hawliau cyflogaeth yn y gwaith, cymorth i ddarparu gofal, a grwpiau cymorth lleol i ofalwyr. Mae gan bob gofalwr yr hawl i gael Asesiad o Anghenion Gofalwr gan ei gyngor lleol er mwyn helpu i bennu faint o gymorth y mae arno ei angen. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn berthnasol i bobl mewn angen, o unrhyw oed, ac mae’n cyflwyno’r un hawliau i ofalwyr â’r bobl maen nhw’n gofalu amdanynt. Mae gan bob gofalwr yr hawl i gael asesiad o anghenion, ni waeth faint o gymorth neu’r math o gymorth a ddarperir. Mae’n rhaid i gyngor lleol gynnig asesiad cyn gynted ag y bydd yn amau efallai bod angen cymorth ar ofalwr. Gallwch gael gwybod mwy am y Ddeddf a’ch hawliau trwy ddilyn y dolenni hyn:
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
Gweithio gyda gofalwyr
Eich hawliau fel gofalwr
Os ydych yn ofalwr, efallai bydd gennych yr hawl i gael nifer o wahanol fathau o gymorth, yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol. Amlinellir isod yr amrywiol fathau o gymorth y gallech fod â hawl iddynt.
Lwfans Gofalwr
Beth yw Lwfans Gofalwr?
Os ydych yn treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am rywun sydd â salwch neu anabledd, efallai byddwch yn gymwys i gael arian ychwanegol o’r enw Lwfans Gofalwr.
Caiff ei dalu ar gyfradd o £76.75 yr wythnos (2023/24).
Pwy sy’n gallu hawlio Lwfans Gofalwr?
Efallai byddwch yn gallu hawlio Lwfans Gofalwr os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:
- Rydych yn gofalu am rywun am 35 awr yr wythnos o leiaf.
- Nid ydych yn ennill mwy na £139 yr wythnos (ar ôl didyniadau gan gynnwys treth, yswiriant gwladol a rhai mathau o dreuliau). Dysgwch fwy am y terfyn ar enillion.
- Mae’r unigolyn rydych yn gofalu amdano’n cael budd-dal anabledd (gan gynnwys Lwfans Byw i’r Anabl, Taliad Annibyniaeth Personol, Lwfans Gweini, Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog). Rydych yn 16 oed neu’n hŷn.
- Nid ydych mewn addysg amser llawn (llai na 21 awr yr wythnos).
- Rydych yn bodloni amodau preswylio a phresenoldeb y Deyrnas Unedig ac amodau mewnfudo’r Deyrnas Unedig – mae gan Gyngor ar Bopeth wybodaeth fanwl am hyn. Cysylltwch ag Advice NI os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon.
I gael rhagor o fanylion am bob un o’r gofynion uchod, darllenwch ymlaen ac edrychwch ar ein taflen ffeithiau Lwfans Gofalwr.
Os oes gennych hawl i gael Lwfans Gofalwr, efallai gallwch gael Premiwm Gofalwr (a elwir yn Ychwanegiad Gofalwr ar gyfer pobl o oedran Pensiwn y Wladwriaeth) neu Elfen Ofalwr os ydych yn cael Credyd Cynhwysol.
Arian ychwanegol yw hwn a delir o fewn unrhyw fudd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd y gallech eu hawlio. Budd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd yw’r rhai hynny sy’n ystyried unrhyw incwm neu gynilion sydd gennych.
A allaf hawlio Premiwm Gofalwr?
Os ydych yn hawlio unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol, efallai gellir ychwanegu Premiwm/Ychwanegiad Gofalwr neu Elfen Ofalwr ato:
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Cymhorthdal Incwm
- Cymorth/Gostyngiadau’r Dreth Gyngor
- Budd-dal Tai
- Credyd Pensiwn Gwarantedig
- Credyd Cynhwysol
Hawliau cyflogaeth ar gyfer gofalwyr
Mae llawer o drefniadau cymorth gofalwyr yn anffurfiol. Fe allech gael cymorth gan ffrindiau a theulu, elusennau neu grwpiau cymunedol. Fodd bynnag, mae gennych hawliau cyfreithiol hefyd fel gofalwr sy’n gweithio, ac mae’n bosibl y bydd gennych hawliau yn rhan o’ch contract cyflogaeth. Y rhain yw: • hawliau statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) • hawliau statudol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb • hawliau statudol o dan Gyfraith Cyflogaeth • hawliau cytundebol yn rhan o’ch contract cyflogaeth. Y cam cyntaf tuag at gael cymorth yw gwybod eich hawliau. Bydd hyn yn helpu i roi’r wybodaeth y mae arnoch ei hangen i gysylltu â chyrff statudol a chyflogwyr yn hyderus i ofyn am gymorth.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y Canllaw i Ofalwyr sy’n Gweithio gan Ofalwyr Cymru
SYLWER – bydd y gyfraith mewn perthynas ag Absenoldeb i Ofalwyr a Gweithio’n Hyblyg yn newid yn 2024, ond nid yw dyddiad y newid a’r rheoliadau wedi cael eu cyhoeddi eto. Byddwn yn diweddaru gwefan Gofalwyr Cymru â’r newidiadau sydd i ddod i ddeddfwriaeth. Mae gennym Hyb Gofalwyr a Chyflogaeth sy’n cynnwys gwybodaeth am hawliau gofalwyr
Weithiau, fe all fod yn anodd iawn cyfuno gofalu am rywun â gwneud swydd, ac mae rhai gofalwyr yn gorfod rhoi’r gorau i weithio er mwyn gofalu am rywun yn amser llawn.
Ers i Ddeddf Cyflogaeth 2002 ddod i rym, mae gan rieni sy’n gweithio a chanddynt blant anabl iau na 18 oed yr hawl i ofyn am drefniadau gweithio’n hyblyg. At hynny, ers mis Ebrill 2007, mae gennych yr hawl i ofyn am gael gweithio’n hyblyg hefyd os ydych yn gofalu am oedolyn sy’n berthynas neu sy’n byw yn yr un cyfeiriad â chi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Er bod gennych yr hawl i ofyn am gael gweithio’n hyblyg yn yr amgylchiadau hyn, mae’n bwysig gwybod nad oes rhaid i gyflogwyr ganiatáu’r ceisiadau hyn. Fodd bynnag, mae’n rhaid iddynt roi rhesymau busnes dros wrthod cais am gael gweithio’n hyblyg.
Amser i ffwrdd mewn argyfwng
Mae gan ofalwyr hefyd yr hawl i gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith yn ddi-dâl ar gyfer dibynyddion (y bobl maen nhw’n gofalu amdanynt) mewn argyfwng.
Mae gan bob cyflogai’r hawl i gymryd amser i ffwrdd yn ddi-dâl ar gyfer argyfyngau (a adwaenir hefyd fel amser i ffwrdd ar gyfer ‘dibynyddion’). Mae gennych yr hawl hon ni waeth pa mor hir rydych wedi bod gweithio i’ch cyflogwr.
Mae’n syniad da gwirio’ch contract neu bolisi’ch cwmni i gael gwybod polisi’ch cyflogwr ar amser i ffwrdd ar gyfer dibynyddion. Efallai bydd eich cyflogwr yn eich talu ar gyfer yr amser hwn i ffwrdd, ond nhw sydd i benderfynu hynny.
Gall dibynnydd fod eich partner, eich mam neu’ch tad, eich mab neu’ch merch, neu unrhyw un sy’n byw gyda chi fel aelod o’ch teulu ac sy’n gwbl ddibynnol arnoch. Gall dibynnydd fod yn rhywun a fyddai’n dibynnu ar eich cymorth mewn argyfwng hefyd, fel cymydog oedrannus sy’n byw ar ei ben ei hun.
A oes gennyf yr hawl i gael amser i ffwrdd mewn sefyllfa frys?
Mae gan gyflogeion* yr hawl gyfreithiol i gymryd amser rhesymol i ffwrdd o’r gwaith i ddelio ag argyfwng sy’n ymwneud â rhywun sy’n dibynnu arnynt am gymorth (fel dibynnydd).
Fe allai hyn gynnwys eich priod, eich partner, eich plentyn, eich rhiant, neu bobl eraill sy’n dibynnu arnoch.
Mater i’ch cyflogwr yw penderfynu p’un a yw’r amser i ffwrdd gyda thâl ai peidio.
*Os ydych yn hunangyflogedig, ar gontract tymor byr neu’n cael eich cyflogi trwy asiantaeth, bydd eich amgylchiadau’n wahanol. Argymhellwn eich bod yn cysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS) ar 0300 123 1100 i gael cyngor.
Beth yw argyfwng?
Dyma rai enghreifftiau o sefyllfaoedd pryd y byddech yn cael cymryd amser i ffwrdd ar gyfer argyfwng:
- Mae eich trefniadau gofal arferol wedi chwalu neu wedi cael eu tarfu.
- Mae angen i chi ddelio â marwolaeth dibynnydd.
- Mae dibynnydd yn cael ei daro’n wael, wedi dioddef ymosodiad neu wedi bod mewn damwain.
- Mae angen i chi wneud trefniadau tymor hir ar gyfer dibynnydd sy’n sâl neu wedi’i anafu (ond nid i ddarparu gofal tymor hir eich hun).
Mae angen i chi ddelio â digwyddiad yn ymwneud â phlentyn yn ystod oriau ysgol. Faint o amser i ffwrdd?
Mae gan bob cyflogai’r hawl i gymryd amser ‘rhesymol’ i ffwrdd o’r gwaith i ddelio ag argyfwng neu fater annisgwyl yn ymwneud â dibynnydd. Fe allai hyn gynnwys eich partner, eich plentyn neu’ch rhiant, neu rywun sy’n byw gyda chi fel rhan o’ch teulu – fe allai pobl eraill sy’n dibynnu arnoch am gymorth mewn argyfwng fod yn gymwys hefyd. Mae’r amser i ffwrdd yn ddi-dâl oni bai bod eich cyflogwr yn fodlon rhoi amser i ffwrdd gyda thâl fel hawl gytundebol.
Beth mae angen i mi ei wneud?
Os oes angen i chi ddefnyddio’r hawl hon i gymryd amser i ffwrdd, bydd angen i chi roi gwybod i’ch cyflogwr cyn gynted â phosibl. Os byddwch yn dychwelyd i’r gwaith cyn i chi gael cyfle i ddweud wrth eich cyflogwr eich bod wedi cymryd amser i ffwrdd, bydd angen i chi roi gwybod iddo pam oeddech i ffwrdd o’r gwaith o hyd.
Os bydd yn cymryd mwy o amser i ddelio â’r broblem, rhowch wybod i’ch cyflogwr cyn gynted ag y gallwch, gan esbonio pam mae arnoch angen mwy o amser a faint yn fwy o amser y credwch y bydd arnoch ei angen. Nodwch hyn yn ysgrifenedig, os gallwch. Efallai bydd gan eich cyflogwr ffurflen i chi ei llenwi.
Beth os bydd yn gwrthod?
Os ydych yn credu bod eich cais i gael amser i ffwrdd wedi cael ei wrthod yn afresymol, gallwch wneud cwyn i dribiwnlys cyflogaeth. Dylech wneud hyn o fewn tri mis o’r adeg y gwrthodwyd eich cais am absenoldeb argyfwng.
Mae’r hawl i gymryd amser i ffwrdd ar gyfer dibynyddion yn gallu rhoi rhywfaint o amddiffyniad cyfreithiol i chi. Os ydych yn credu bod eich cyflogwr wedi’ch trin yn annheg oherwydd eich bod wedi cymryd amser i ffwrdd i ddelio ag argyfwng neu helpu dibynnydd, gofynnwch i’ch undeb neu gynghorydd cyfreithiol am gyngor.
Gofalwyr ifanc
Os ydych yn ofalwr sy’n iau na 18 oed, mae’n bwysig iawn eich bod yn cael y cymorth a’r gefnogaeth y mae arnoch eu hangen.
Mae gan eich cyngor lleol gyfrifoldeb i sicrhau nad yw’ch dyletswyddau fel gofalwr yn amharu ar eich addysg, eich datblygiad, a’ch ansawdd bywyd cyffredinol. Mae’n rhaid iddo hefyd sicrhau nad ydych yn mynd yn gaeth i’ch rôl fel gofalwr.
Y cam cyntaf tuag at helpu plentyn a’i deulu yw cynnal asesiad anghenion, ac mae ystyriaethau penodol yn berthnasol i anghenion plant. Bydd y broses asesu ar gyfer plant yn cael ei chynnal o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ond bydd yn ofynnol i ymarferwyr hefyd gasglu tystiolaeth o’r Fframwaith Asesu Plant mewn Angen a’u Teuluoedd i lywio’r cynllun gofal a chymorth, lle y bo’r angen. Mae’n rhaid i benderfyniad i wrthod cynnal asesiad gael ei ddiystyru pan fyddai gwrthodiad o’r fath yn anghyson â lles plentyn.
Rhieni-ofalwyr plant anabl
Rhiant-ofalwr yw rhywun dros 18 oed sy’n darparu gofal i blentyn anabl (iau na 18 oed) y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant amdano. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn mynnu bod cynghorau lleol yn asesu rhieni-ofalwyr pan fydd yn ymddangos bod angen cymorth neu pan fydd y rhiant yn gofyn am asesiad. Gellir cyfuno’r asesiad hwn ag asesiad ar gyfer y plentyn anabl, ac fe allai gael ei gynnal gan yr un unigolyn ar yr un pryd. Mae’n rhaid i’r cyngor lleol hefyd fod yn fodlon bod y plentyn a’i deulu’n dod o fewn cwmpas y Ddeddf. Ni all cyngor lleol godi tâl am ofal a chymorth ar gyfer plentyn.
A chithau’n ofalwr, mae’n debygol y byddwch yn gyfarwydd ag ymgymryd â chyfrifoldeb ar eich pen eich hun. Fodd bynnag, nid yw hynny’n golygu bod rhaid i chi ymdopi ar eich pen eich hun bob amser, ac na allwch ofyn i bobl eraill am gymorth.
Fe allai’r cyngor canlynol helpu i wneud eich dyletswyddau fel gofalwr yn haws.
Cydnabyddwch eich bod yn ofalwr
Er eich bod yn gofalu am rywun sydd angen eich cymorth, mae’n bosibl nad ydych yn ystyried eich hun yn ofalwr. Nid yw hyn yn anghyffredin; mae llawer o ofalwyr yn ystyried eu rôl fel gwneud yr hyn y mae angen ei wneud yn unig, neu fel gofalu am ffrind, neu aelod o’r teulu.
Fodd bynnag, fe allai fod yn fuddiol i chi sylweddoli eich bod yn ofalwr, a rhoi statws gofalwr i’ch hun. Mae hyn yn golygu bod yn ymwybodol o’ch hawliau fel gofalwr, rhoi gwybod i bobl eraill am eich rôl, a chael yr holl gymorth y mae arnoch ei angen.
Gadewch i ffrindiau a theulu helpu
Fe allech deimlo’n amharod i ofyn i ffrindiau neu aelodau o’r teulu am gymorth gyda’ch cyfrifoldebau gofalu, ac fe allen nhw ofni cynnig cymorth er mwyn peidio â rhoi’r argraff na allwch ymdopi ar eich pen eich hun. Fodd bynnag, nid yw’n beth da i chi frwydro ymlaen heb gymorth y bobl sydd agosaf i chi, ac fe all effeithio ar eich iechyd a’ch lles.
Ceisiwch siarad â’ch ffrindiau a’ch teulu am hyd a lled eich rôl fel gofalwr a rhowch wybod iddynt y byddech yn croesawu eu cymorth. Nid yw derbyn cymorth yn effeithio ar eich gallu fel gofalwr, ac fe all pethau bach hyd yn oed, fel cymorth i wneud mân dasgau yn y tŷ, neu gael seibiant o ofalu o bryd i’w gilydd, wneud gwahaniaeth cadarnhaol.
Cofiwch ofalu amdanoch eich hun
Mae un o bob pedwar gofalwr wedi dweud wrth Ofalwyr Cymru bod gofalu am rywun arall wedi effeithio’n uniongyrchol ar eu hiechyd eu hunain. Yn aml, mae gofalwyr yn datblygu problemau â’r cefn o ganlyniad i godi heb hyfforddiant priodol, ac mae llawer o ofalwyr yn dioddef cyflyrau iechyd sy’n gysylltiedig â straen.
Mae’n rhwydd anwybyddu eich lles eich hun pan fyddwch yn gofalu am rywun arall. Ond os ydych yn ofalwr, mae’n bwysig eich bod yn neilltuo amser yn rheolaidd i wneud rhywbeth rydych chi’n ei fwynhau, fel ymlacio gyda llyfr, neu ymweld â ffrindiau. Bydd neilltuo amser i ofalu amdanoch eich hun yn helpu i atal straen a blinder ac fe all wneud gofalu’n haws.
Carers UK – Cynllun wrth gefn
Pan fyddwch yn gofalu am rywun, fe all cynllun wrth gefn roi tawelwch meddwl i chi os bydd rhywbeth annisgwyl neu heb ei drefnu’n digwydd ac nad ydych yn gallu parhau i ofalu. Mae llawer o bethau i’w hystyried wrth greu cynllun wrth gefn da sy’n bodloni’ch anghenion chi ac anghenion yr unigolyn/unigolion rydych yn gofalu amdano/amdanynt. Mae Carers UK wedi datblygu offeryn syml i’ch helpu i greu cynllun wrth gefn.
Cerdyn Argyfwng Gofalwyr
Mae gofalwyr yn dweud wrthym yn aml eu bod yn pryderu beth fyddai’n digwydd i’r unigolyn maen nhw’n gofalu amdano petaen nhw’n cael damwain neu’n mynd yn analluog.
Mae Gofalwyr Cymru wedi datblygu cerdyn newydd i chi i ymateb i hyn.
Os bydd argyfwng neu ddamwain yn digwydd, bydd cario’r cerdyn hwn yn rhoi gwybod i weithwyr argyfwng a phobl eraill fod rhywun yn dibynnu arnoch fel gofalwr. Mae’r cerdyn yn cynnwys lle ar gyfer cysylltiadau mewn argyfwng, er enghraifft aelodau o’r teulu neu ffrindiau sy’n gallu helpu.
Gallwch hefyd gael ffob allweddi sy’n dweud ‘Rydw i’n ofalwr’ ar un ochr a rhif argyfwng o’ch dewis ar y llall y gellir ei gadw gyda’ch allweddi bob amser.
Gallwch gael cerdyn neu ffob allweddi trwy ffonio Gofalwyr Cymru ar 029 2081 1370 neu anfon neges e-bost at info@carerswales.org.
Fe allai’r cyngor canlynol fod yn ddefnyddiol i’ch galluogi i gael y cymorth a’r gefnogaeth y mae arnoch eu hangen fel gofalwr.
Dywedwch wrth bobl eraill eich bod chi’n ofalwr
Y cam cyntaf tuag at gael cymorth fel gofalwr yw rhoi gwybod i bobl eraill am eich sefyllfa. Nid oes cofrestr genedlaethol ar gyfer gofalwyr, ond fe all rhoi gwybod i weithwyr gofal iechyd proffesiynol, eich cyflogwr, a’r bobl sydd agosaf i chi am eich rôl fel gofalwr eich galluogi i gael llawer o wahanol fathau o gymorth.
Os ydych yn ofalwr, fe ddylech ddweud wrth y canlynol.
- Eich meddyg teulu – fe ddylai sicrhau eich bod yn cael archwiliadau iechyd rheolaidd a phigiad ffliw am ddim, ac efallai bydd yn gallu darparu amserau apwyntiad hyblyg, neu ymweliadau cartref.
- Eich gwasanaethau cymdeithasol lleol – gallant roi asesiad gofalwr i chi (gweler isod) i bennu faint o gymorth y mae arnoch ei angen, cynnig gofal amgen er mwyn rhoi seibiant i chi, a darparu cymhorthion ac offer byw â chymorth.
- Eich cyflogwr – y mae’n rhaid iddo gynnig oriau hyblyg ac amser i ffwrdd ar fyr rybudd i chi (gweler yr adran ‘ffeithiau’).
- Eich teulu a’ch ffrindiau – peidiwch ag ofni gofyn am eu cymorth os oes arnoch ei angen.
Gofynnwch am gael Asesiad o Anghenion Gofalwr
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn berthnasol i bobl mewn angen, o unrhyw oed, gan gynnwys gofalwyr. Pan fydd yn ymddangos efallai bod angen cymorth ar ofalwr, ni waeth faint o gymorth neu’r math o gymorth a ddarperir, sefyllfa ariannol y gofalwr neu faint o gymorth y gallai fod ei angen, mae’n rhaid i’r cyngor lleol gynnig asesiad.
Mae gennych yr hawl i gael asesiad gofalwr hyd yn oed os nad yw’r unigolyn rydych yn gofalu amdano eisiau cael cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol neu os yw wedi cael ei asesu ond mae’r cyngor lleol wedi penderfynu nad yw’n gymwys i gael cymorth.
Bydd eich asesiad yn cael ei gynnal gan eich cyngor lleol er mwyn penderfynu beth y mae arnoch ei angen i ddechrau gofalu, neu barhau i ofalu. Fe ddylech gael cynnig asesiad pan ddaw i’r amlwg efallai y bydd arnoch angen cymorth, yn awr neu yn y dyfodol. Mae gennych yr hawl i gael asesiad p’un a ydych yn byw gyda’r unigolyn rydych yn gofalu amdano ai peidio. Os na chynigir asesiad i chi, gallwch ofyn am gael un pan fyddwch yn rhoi gwybod i’r gwasanaethau cymdeithasol am eich rôl fel gofalwr.
Fe allech chi a’r unigolyn rydych yn gofalu amdano gymryd rhan yn yr asesiad, er bod gennych hawl gyfreithiol i gael asesiad gofalwr ar wahân gyda’ch gweithiwr cymdeithasol os ydych yn dymuno.
Fe ddylai eich gweithiwr cymdeithasol edrych ar bob agwedd ar eich rôl fel gofalwr, gan gynnwys y problemau corfforol a allai fod gennych, yn ogystal â’r agweddau cyflogaeth, emosiynol, a chymdeithasol ar eich bywyd. Fe all hyn fod yn llawer i feddwl amdano ar unwaith.
Sut gall asesiad gofalwr eich helpu
Mae llawer o wahanol fathau o gymorth y gallech fod â hawl iddynt, gan gynnwys:
- cymorth ymarferol â gwaith tŷ neu arddio
- hyfforddiant i’ch helpu â’ch rôl ofalu, er enghraifft symud a thrafod yr unigolyn rydych yn gofalu amdano
- cyfarpar neu newidiadau i’ch cartref
- cefnogaeth emosiynol, fel cwnsela
- seibiant o ofalu, fel gofal seibiant ar gyfer yr unigolyn rydych yn gofalu amdano
- cyngor ynglŷn â budd-daliadau
- cymorth i wella’ch lles, fel mynediad at ddosbarthiadau ymarfer corff, gweithgareddau cymdeithasol neu addysg oedolion.
Rhestrir isod rai o’r mathau o gymorth gofalwyr a allai fod ar gael i chi trwy’ch asesiad. Fe allai’r math o gymorth y gallwch ei gael ddibynnu ar y gwasanaethau sydd ar gael yn eich ardal leol.
Gofal cartref
Mae gofal cartref yn cynnwys cymorth â thasgau cyffredinol yn y cartref, fel coginio a siopa. Fe allai fod ar gael trwy’r gwasanaethau cymdeithasol.
Gofal dydd
Gall canolfannau gofal dydd gynnig cyfle i’r unigolyn rydych yn gofalu amdano wneud hobïau newydd a threfnu diwrnodau allan, ac fe allant hefyd roi seibiant i chi o ofalu. Mae canolfannau gofal dydd yn cael eu cynnal gan adrannau gwasanaethau cymdeithasol, neu sefydliadau gwirfoddol, fel elusennau.
Dyfeisiau byw â chymorth
Mae dyfeisiau byw â chymorth yn cynnwys teclynnau a dyfeisiau sy’n gallu gwneud tasgau pob dydd yn haws i unigolyn anabl a’i ofalwr, fel canllawiau, teclynnau codi, a theclynnau troi tapiau. Mewn rhai achosion, fe allai’r unigolyn rydych yn gofalu amdano gael grant i addasu ei gartref i fodloni ei anghenion.
Taliadau uniongyrchol
Mae ‘taliadau uniongyrchol’ i drefnu’ch cymorth gofal eich hun yn opsiwn sydd ar gael os ydych wedi cael asesiad sy’n dangos eich bod yn gymwys i gael cymorth gwasanaethau gofal gan eich awdurdod lleol (neu’r Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon). I gael rhagor o wybodaeth, gweler canllaw Gofalwyr Cymru ar asesiadau.
Os ydych chi, neu’r unigolyn rydych yn gofalu amdano, wedi cael asesiad sy’n dangos bod arnoch angen cymorth gwasanaethau cymdeithasol, efallai y cynigir taliad uniongyrchol i chi yn lle cael y cymorth a drefnir gan y cyngor lleol neu’r Ymddiriedolaeth. Weithiau, fe allent awgrymu cyfuniad (y cyfeirir ato fel ‘pecyn cymysg’). Mae Gofalwyr Cymru yn esbonio taliadau uniongyrchol a sut maen nhw’n gweithio yn fanylach.
Hawliwch eich budd-daliadau ariannol
A chithau’n ofalwr, fe allech fod â hawl i gael cymorth ariannol ar ffurf y Lwfans Gofalwr. Mae rhai gofalwyr hefyd yn gymwys i gael swm ychwanegol o arian o’r enw Premiwm Gofalwr. Gweler yr adrannau ‘ffeithiau’ a ‘dolenni dethol’ i gael rhagor o wybodaeth am y Lwfans Gofalwr a’r Premiwm Gofalwr.
Mae Ymddiriedolaeth Ofalwyr Cymru yn falch o fod yn gweithio gyda Phartneriaid Rhwydwaith ledled Cymru i ddarparu £1m o grantiau a gwasanaethau i gefnogi gofalwyr sy’n profi caledi y gaeaf hwn. Dysgwch fwy yma. Neu ewch i Turn2us.org i gael rhagor o wybodaeth am grantiau.
Cysylltwch â’ch grŵp neu’ch canolfan agosaf ar gyfer gofalwyr
Mae grwpiau a chanolfannau gofalwyr yn cynnig gwybodaeth, cymorth, a ffordd o gyfarfod a chymdeithasu â phobl eraill yn eich ardal sy’n ofalwyr hefyd.
Canllaw Dod Allan o’r Ysbyty
Mae’n ddefnyddiol gwybod beth i’w ystyried os ydych yn bwriadu gofalu am rywun sy’n dod allan o’r ysbyty, yn enwedig os yw ei anghenion wedi newid. Mae’r canllaw Dod Allan o’r Ysbyty gan Ofalwyr Cymru yn esbonio beth i’w ddisgwyl, y camau y dylid eu dilyn, eich hawliau fel gofalwr, a beth i’w wneud os bydd pethau’n mynd o chwith. Mae’n berthnasol i bobl sy’n byw yng Nghymru.
Canllaw Gofalu am Rywun
Ar adegau, fe all gofalu arwain at lawer o bethau da a bod yn werth chweil. Does dim byd mwy naturiol na dynol na helpu ein hanwyliaid i gael y mwyaf o fywyd. Yn yr un modd, does dim byd mwy anodd na chanolbwyntio ar anghenion rhywun arall heb anwybyddu ein rhai ni. P’un a ydym yn gofalu bob awr o’r dydd a’r nos neu’n cydbwyso gofalu â gwaith a bywyd teuluol, mae’n gallu bod yn llafurus. Mae’r ‘system’ yn gallu bod yn ddryslyd. Mae’r emosiynau’n gallu bod yn ysgytwol. Pa ffordd bynnag mae gofalu’n effeithio arnoch, rydym ni yma. Mae’r canllaw Gofalu am Rywun gan Ofalwyr Cymru wedi’i ddylunio i amlinellu’ch hawliau fel gofalwr a’r cymorth sydd ar gael i chi.
Gwybodaeth i ofalwyr a'r bobl y maent yn eu cefnogi
Mae gofalwyr a darparwyr gofal yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod y bobl y maent yn gofalu amdanynt yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i gael mynediad at sgrinio pan gânt eu gwahodd. Gallwch ddarganfod mwy am hyn yma.