Yn aml, gallwch drin annwyd heb weld eich meddyg teulu. Dylech ddechrau teimlo'n well ymhen wythnos neu ddwy.
Gwiriwch i weld a oes annwyd arnoch chi
Mae symptomau annwyd yn datblygu'n raddol a gallant gynnwys:
- trwyn llawn neu drwyn sy'n rhedeg
- gwddf tost/dolur gwddf
- pen tost/cur pen
- poenau yn eich cyhyrau
- peswch
- tisian
- tymheredd uwch
- pwysedd yn eich clustiau a'ch wyneb
- colli'r gallu i flasu ac arogli
Mae'r symptomau yr un fath mewn oedolion a phlant. Weithiau, mae'r symptomau'n para'n hirach mewn plant.
Adnabod y gwahaniaeth rhwng annwyd a'r ffliw
Mae symptomau annwyd a'r ffliw yn debyg, ond mae'r ffliw yn tueddu i fod yn fwy difrifol.
Annwyd
- Mae'n ymddangos yn raddol
- Mae'n effeithio ar eich trwyn a'ch gwddf yn bennaf
- Mae'n gwneud i chi deimlo'n anhwylus ond gallwch barhau i weithredu fel arfer (er enghraifft, mynd i'r gwaith)
Ffliw
- Mae'n ymddangos yn gyflym o fewn ychydig oriau
- Mae'n effeithio ar fwy na'ch trwyn a'ch gwddf yn unig
- Mae'n gwneud i chi deimlo'n flinedig iawn ac yn rhy anhwylus i barhau i weithredu fel arfer
Sut gallwch chi drin annwyd eich hun
I'ch helpu i wella'n gyflymach, dylech:
- orffwys a chysgu
- cadw'n gynnes
- yfed digon o ddwr (mae sudd ffrwythau neu ddiod ffrwythau wedi'i chymysgu â dwr yn iawn) i osgoi dadhydradu
- garglo dwr hallt i leddfu gwddf tost/dolur gwddf
Gall fferyllydd helpu â meddyginiaethau annwyd
Gallwch brynu meddyginiaethau peswch ac annwyd mewn fferyllfeydd neu archfarchnadoedd. Gall fferyllydd eich cynghori ar y feddyginiaeth orau.
Gallwch:
- leddfu trwyn llawn â chwistrellau neu dabledi llacio
- lleddfu poenau neu ostwng tymheredd â chyffuriau lleddfu poen fel paracetamol neu ibuprofen
Peidiwch â defnyddio meddyginiaethau annwyd a pheswch os ydych chi'n cymryd tabledi paracetamol ac ibuprofen, gan ei bod yn rhwydd cymryd mwy na'r dos a argymhellir.
Nid yw rhai o'r rhain yn addas i blant, babanod a menywod beichiog.
Nid oes llawer o dystiolaeth fod ychwanegion (fel fitamin c, echinacea neu arlleg) yn atal annwyd neu'n eich helpu i wella'n gynt.
Dewch o hyd i fferyllfa yma.
Ewch at Feddyg Teulu:
- os nad yw'ch symptomau'n gwella ar ôl 3 wythnos
- os yw'ch symptomau'n gwaethygu'n sydyn
- os yw'ch tymheredd yn uchel iawn neu os ydych yn teimlo'n boeth ac yn rhynllyd
- os ydych yn pryderu am symptomau eich plentyn
- os ydych chi'n ei chael hi'n anodd anadlu neu'n datblygu poen yn y frest
- os oes gennych gyflwr meddygol tymor hir - er enghraifft, diabetes, neu glefyd y galon, yr ysgyfaint neu'r arennau neu glefyd niwrolegol
- os oes gennych system imiwnedd wannach - er enghraifft, oherwydd eich bod yn cael cemotherapi
Gwrthfiotigau
Nid yw Meddygon Teulu'n argymell gwrthfiotigau ar gyfer annwyd oherwydd ni fyddant yn lleddfu'ch symptomau nac yn eich helpu i wella'n gynt.
Mae gwrthfiotigau'n effeithiol yn erbyn heintiau bacteriol yn unig, ac mae annwyd yn cael ei achosi gan firysau.
Sut i osgoi lledaenu annwyd
Mae annwyd yn cael ei achosi gan firysau ac mae'n lledaenu'n rhwydd i bobl eraill. Rydych yn heintus hyd nes y bydd eich holl symptomau wedi mynd. Mae hyn fel arfer yn cymryd wythnos neu ddwy.
Mae annwyd yn cael ei ledaenu gan germau o besychu a thisian sy'n gallu byw ar ddwylo ac arwynebau am 24 awr.
I leihau perygl lledaenu annwyd:
- golchwch eich dwylo'n aml â dwr cynnes a sebon
- defnyddiwch hancesi papur i ddal germau pan fyddwch yn pesychu neu'n tisian
- rhowch hancesi papur wedi'u defnyddio yn y bin cyn gynted â phosibl
Sut i osgoi dal annwyd
Gall rhywun sydd ag annwyd ddechrau ei ledaenu o ychydig ddiwrnodau cyn i'w symptomau ddechrau hyd nes y bydd y symptomau wedi mynd.
Dyma'r ffyrdd gorau o osgoi dal annwyd:
- golchi eich dwylo â dwr cynnes a sebon
- peidio â rhannu tywelion neu eitemau cartref (fel cwpanau) â rhywun sydd ag annwyd
- peidio â chyffwrdd â'ch llygaid neu'ch trwyn rhag ofn eich bod wedi dod i gysylltiad â'r feirws - gall heintio'r corff fel hyn
- aros yn ffit ac yn iach
Mae'r brechlyn ffliw yn helpu i atal y ffliw ond nid annwyd.