Cysylltu â ni

Pryderon a Chanmoliaeth

Mae’n bwysig inni gynnwys pobl wrth ddatblygu ein gwasanaethau gan ei fod yn helpu i sicrhau ein bod yn gwella gwasanaethau mewn ffordd sy’n ateb eich anghenion. Mae yna ambell ffordd y gallwch gysylltu â ni ynglyn â’ch barn. Darllenwch isod i weld pa ddull fyddai fwyaf addas i chi.

Canmoliaeth

Mae’n bwysig inni wybod pan mae rhywbeth wedi gweithio’n dda. Gall yr wybodaeth hon ein helpu i rannu arfer da a gwella gwasanaethau. Os dymunwch ganmol gwasanaeth, aelod o staff neu dîm gallwch adael inni wybod ar lein neu trwy gysylltu â ni trwy’r manylion isod. Cyflwynwch fanylion eich diolchiadau ar lein.

Pryderon

Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn anelu i ddarparu Gwasanaeth o ansawdd uchel ond weithiau, gall rhywbeth fynd o’i le. Pan fydd hynny’n digwydd, gadewch inni wybod os gwelwch yn dda fel y gallwn geisio gwella pethau a dysgu o’ch profiad i wella ein gwasanaethau i bobl eraill. Bydd unrhyw beth a ddywedwch yn cael ei drin yn gyfrinachol o dan y broses pryderon. Cyflwynwch fanylion eich pryder.

Mynegi Pryder
Os na fyddwch yn hapus gydag unrhyw wasanaeth, gofal neu driniaeth rydych yn ei dderbyn, gallwch fynegi pryder neu awgrym i helpu i wella ein gwasanaethau.

Bydd yr Ymddiriedolaeth yn sicrhau cyfrinachedd, yn eich trin gyda chydymdeimlad ac yn rhoi diweddariad ar sut rydym yn delio â’ch pryder. Byddwn yn ymchwilio o dan Reoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion a Gwneud Iawn) 2011 a chynnig eglurhad. Os byddwn yn canfod y gellid neu y dylid gwneud rhywbeth yn wahanol, byddwn yn eich cynghori am y newidiadau a wneir o fewn y sefydliad o ganlyniad.

Cyn mynegi pryder, mae’n bwysig eich bod yn meddwl am yr hyn y dymunwch iddo ddigwydd a gwneud hynny’n glir i sicrhau ein bod yn deall eich disgwyliadau. Efallai y byddwch eisiau:

  • Ymddiheuriad;
  • Rhywun i egluro beth sydd wedi digwydd;
  • Rhai newidiadau neu welliannau;
  • Sicrhau fod pobl yn cydnabod eu camgymeriadau; a
  • Sicrhau nad yw’r un peth yn digwydd eto.

Pwy sy’n gallu mynegi pryder?
Gallwch fynegi pryder os ydych yn glaf neu os ydych wedi eich effeithio, neu’n debyg o gael eich effeithio gan rywbeth mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi neu heb ei wneud.

Os byddai’n well gennych, gall gofalwr, ffrind, perthynas neu’r Cyngor Iechyd Cymuned (CHC) eich cynrychioli ond gofynnir ichi gytuno i hyn.
Gallwch fynegi pryder ar ran rhywun arall os bydd gennych eu caniatâd yn ysgrifenedig.

Oes yna derfyn amser ar gyfer mynegi pryder?
Dylech geisio siarad gyda’r Tîm Pryderon am eich pryder gynted â phosibl ond gellir cyflwyno pryder hyd at flwyddyn yn dilyn y digwyddiad.

Sut i gysylltu â ni i ganmol neu i fynegi pryder
Os byddwch yn teimlo y gallwch wneud hynny, dylech fynegi pryder trwy siarad ag aelod o staff ar y pryd. Mae’n bosibl y gallan nhw ddatrys eich pryder ‘yn y fan a’r lle’.

Os byddai’n well gennych fynegi pryder yn ffurfiol, gallwch gysylltu ag aelod o’r tîm pryderon trwy:

Gysylltu â ni ar lein

Cysylltu â ni trwy Ebost

Ysgrifennu atom

Jason Killens
Prif Weithredwr
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Ty Elwy, Uned 7
Ffordd Richard Davies

Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
LL17 0LJ

 

Cysylltu â ni dros y ffôn
0300 321 321 1

Beth os byddaf angen cymorth i fynegi pryder?
Mae’r Cyngor Iechyd Cymuned (CIC) yn gweithio i ymestyn a gwella ansawdd eich gwasanaeth iechyd lleol. Maent yn llais statudol ac annibynnol mewn gwasanaethau iechyd a ddarperir ledled Cymru. Gall y CIC gynnig cymorth a chyngor cyfrinachol am ddim os bydd gennych broblem neu bryder am wasanaethau GIG. Mae manylion cyswllt y CIC lleol ar y wefan: http://www.communityhealthcouncils.org.uk/

Beth sy’n digwydd nesaf?
Pan fyddwch yn mynegi pryder, byddwn yn:

  • Gadael ichi wybod o fewn 2 ddiwrnod gwaith ein bod wedi derbyn eich pryder (nid yw’n cynnwys penwythnos a gwyl banc).
  • Gofyn a oes unrhyw anghenion arbennig y dylem fod yn ymwybodol ohonynt wrth ddelio gyda’ch pryder
  • Gofyn i ba raddau yr ydych yn dymuno cymryd rhan
  • Ymchwilio eich pryder
  • Gadael ichi wybod beth ydym wedi’i ganfod a beth fyddwn yn ei wneud
  • Gadael ichi gael ymateb terfynol o fewn 30 diwrnod gwaith o’r dyddiad y derbyniwyd eich pryder. Os na fyddwn yn gallu ymateb o fewn yr amser hynny, byddwn yn rhoi rhesymau ac yn gadael ichi wybod pryd y gallwch ddisgwyl ymateb.

Gwneud iawn
Mewn rhai achosion, bydd angen ymchwiliadau pellach o dan y trefniadau gwneud iawn. Mae gwneud iawn yn amryw o gamau y gellir eu cymryd i ddatrys pryder ble rydym wedi bod ar fai ac achosi niwed. Gall gynnwys ymddiheuriad ac eglurhad ysgrifenedig o’r hyn a ddigwyddodd, cynnig triniaeth/adsefydliad i helpu i ddatrys y broblem a/neu iawndal ariannol. Os bydd gwneud iawn yn berthnasol i’ch pryder, byddem yn eich hysbysu beth fyddai hyn yn ei olygu yn fwy manwl.

Beth ddylwn i wneud os wyf yn parhau’n anhapus?
Os byddwch yn parhau’n anhapus gyda’n hymchwiliad ac ymateb i’ch pryder, efallai y bydd yn bosibl datrys hyn trwy gyfarfod staff yr Ymddiriedolaeth i drafod eich pryderon mewn ffordd anffurfiol ac adeiladol. Mae hyn yn aml yn profi’n ffordd bositif ac effeithiol iawn i ddod i ganlyniad boddhaol i bawb dan sylw

Dweud eich Dweud

Rydym bob amser yn edrych am ffyrdd i wella ein gwasanaethau. Os bydd gennych unrhyw sylwadau am y gwasanaethau a ddarperir yn lleol neu os dymunwch ddweud wrthym am eich profiad o’n gwasanaethau, cysylltwch â’r Tîm Profiad Cleifion trwy ddilyn y cyswllt hwn casglu eich profiadau a dysgu gwersi.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn croesawu sylwadau yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Cysylltiadau a Chyswllt Defnyddiol

Os byddwch yn parhau’n anhapus gallwch gysylltu ag Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae eu manylion o dan y Cysylltiadau Defnyddiol isod.
 

Gweithio i Wella
I weld y daflen Gweithio i Wella cliciwch yma.

Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru
Ffôn: 0845 6447814
Ffôn: 029 20 235558
http://www.communityhealthcouncils.org.uk/
Ebost: enquiries@waleschc.org.uk
 

Canolfan Cyngor ar Bopeth
Tel: 03444 77 20 20
Text Relay: 03444 111 445
www.adviceguide.org.uk/wales

 

Ombwdsman Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru
Ffôn: 0845 6010987
http://www.ombudsman-wales.org.uk/
Ebost: ask@ombudsman-wales.org.uk
Cyfeiriad: 1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
Caerdydd
CF35 5LJ

RHYBUDD O BROSESU TEG
Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru'n gweithio mewn partneriaeth gyda'r Asiantaeth Diogelwch Cleifion Cenedlaethol (NPSA) trwy gyflwyno adroddiadau am ddigwyddiadau diogelwch cleifion i'r NPSA trwy'r System Genedlaethol ar gyfer Adrodd a Dysgu (RLS). Trosglwyddir gwybodaeth i'r NPSA i'w galluogi i ddysgu oddi wrth ddigwyddiadau diogelwch cleifion ac i gyflawni ei swyddogaeth yn ymwneud â rheolaeth barhaol gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru a Lloegr. Mae'r RLS yn gweithredu mewn dull cyfrinachol ond, mewn rhai achosion, gellir trosglwyddo gwybodaeth sy'n cynnwys data personol cleifion, staff neu ymwelwyr i'r NPSA. Pan ddigwydd hyn, dilëir y wybodaeth, gan nad yw'n fwriad gan yr NPSA i gadw gwybodaeth sy'n datgelu hunaniaeth pobl.