Profedigaeth

Cyflwyniad

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn profi galar pan fyddan nhw'n colli rhywbeth neu rywun sy'n bwysig iddyn nhw. Os yw'r teimladau hyn yn effeithio ar eich bywyd, mae pethau y gallwch chi roi cynnig arnyn nhw a allai helpu.

Mae cymorth ar gael hefyd os ydych yn ei chael yn anodd ymdopi â straen, gorbryder neu iselder. 

Mae gwefan UK Gov yn cynnwys gwybodaeth am beth i'w wneud ar ôl i rywun farw, fel cofrestru'r farwolaeth a threfnu angladd.

Symptomau profedigaeth, galar a cholled

Mae profedigaeth, galar a cholled yn gallu achosi llawer o symptomau gwahanol, ac maen nhw'n effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd. Does dim ffordd gywir nac anghywir i deimlo.

Yn ogystal â phrofedigaeth, mae mathau eraill o golled fel diwedd perthynas neu golli swydd neu gartref.

Mae rhai o'r symptomau mwyaf cyffredin yn cynnwys:

  • sioc a diffyg teimlad - fel arfer, dyma'r ymateb cyntaf i golled, ac mae pobl yn aml yn siarad am "fod mewn llesmair"
  • tristwch aruthrol, gyda llawer o grïo
  • blinder neu ludded
  • dicter - tuag at yr unigolyn rydych chi wedi'i golli neu'r rheswm am eich colled
  • euogrwydd - er enghraifft, euogrwydd am deimlo'n flin, am rywbeth y gwnaethoch chi ei ddweud neu ddim ei ddweud, neu beidio â gallu atal eich anwylyn rhag marw

Efallai na fydd gennych y teimladau hyn trwy'r amser, a gallai teimladau pwerus ymddangos yn annisgwyl.

Nid yw hi bob amser yn hawdd adnabod pan fydd profedigaeth, galar neu golled yn achosi i chi ymddwyn neu deimlo'n wahanol.

Cyfnodau profedigaeth neu alar

Yn gyffredinol, mae arbenigwyr yn derbyn ein bod yn mynd trwy 4 cyfnod profedigaeth neu alar, sef:

  • Derbyn bod eich colled yn real
  • Profi poen galar
  • Addasu i fywyd heb yr unigolyn neu'r peth rydych chi wedi'i golli
  • Rhoi llai o egni emosiynol i alaru, a'i roi mewn rhywbeth newydd

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn mynd trwy bob un o'r cyfnodau hyn, ond ni fyddwch o reidrwydd yn symud yn esmwyth o un i'r llall.

Gallai eich galar deimlo'n ddryslyd ac allan o reolaeth, ond bydd y teimladau hyn yn mynd yn llai dwys dros gyfnod, yn y pen draw.

Pethau y gallwch chi roi cynnig arnynt i helpu â phrofedigaeth, galar a cholled

Gwnewch y canlynol:

  • ceisiwch siarad am eich teimladau â ffrind, aelod o'r teulu, gweithiwr iechyd proffesiynol neu gwnselydd - gallech gysylltu â sefydliad cymorth hefyd, fel Gofal mewn Galar Cruse neu ffonio: 0808 808 1677
  • ystyriwch gael cefnogaeth gan gymheiriaid, lle mae pobl yn defnyddio eu profiadau i helpu ei gilydd. Cewch wybod mwy am gefnogaeth gan gymheiriaid ar wefan Mind
  • Mae rhai pobl yn troi at alcohol neu gyffuriau yn ystod cyfnodau anodd. Gallwch chi siarad â rhywun am hyn ar linell gymorth Cyffuriau ac Alcohol DAN, ar 08088 082234, sy'n rhad ac am ddim

Peidiwch â gwneud y canlynol:

  • peidiwch â cheisio gwneud popeth ar unwaith - gosodwch dargedau bach y gallwch chi eu cyflawni'n hawdd
  • peidiwch â chanolbwyntio ar y pethau na allwch chi eu newid - canolbwyntiwch eich amser a'ch egni yn helpu'ch hun i deimlo'n well
  • ceisiwch beidio â dweud wrthych chi'ch hun eich bod ar eich pen eich hun - mae'r rhan fwyaf o bobl yn teimlo galar ar ôl colled, ac mae cymorth ar gael
  • ceisiwch beidio â defnyddio alcohol, sigaréts, gamblo neu gyffuriau i leddfu galar - gall y rhain i gyd gyfrannu at iechyd meddwl gwael

Gwybodaeth a chymorth pellach

Gallwch chi gael gwybodaeth a chymorth pellach ynghylch:

Mae gwefan GOV.UK hefyd yn cynnwys gwybodaeth am beth i'w wneud ar ôl i rywun farw, fel cofrestru'r farwolaeth a threfnu angladd.

Ble i gael cymorth gan y GIG ar gyfer straen, gorbryder neu iselder

Cyfeirio'ch hun am therapi

Os oes angen mwy o gymorth arnoch chi, gallwch chi gael therapïau seicolegol yn rhad ac am ddim, fel therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) ar y GIG.

Gallwch gyfeirio'ch hun yn syth at wasanaeth therapïau seicolegol heb gael eich cyfeirio gan feddyg teulu.

Ewch i weld meddyg teulu:

  • os ydych chi'n ei chael yn anodd ymdopi â straen, gorbryder neu hwyliau isel
  • os yw eich hwyliau wedi bod yn isel am fwy na 2 wythnos
  • os nad yw pethau rydych chi'n rhoi cynnig arnynt eich hun yn helpu
  • os byddai'n well gennych chi gael eich cyfeirio gan feddyg teulu

Ffoniwch 111 neu gofynnwch am apwyntiad brys â'ch meddyg teulu:

  • os oes angen cymorth brys arnoch chi, ond nad yw'n argyfwng

Gall 111 Cymru ddweud wrthych chi ble sydd orau i fynd am gymorth os oes angen i chi weld rhywun. Ewch i 111.wales.nhs.uk neu ffoniwch 111 (neu Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47).

Ffoniwch 999 neu ewch i'r adran achosion brys a damweiniau (A&E):

  • os oes angen cymorth brys arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod
  • os ydych chi wedi gwneud niwed difrifol i chi'ch hun - er enghraifft, trwy gymryd gorddos cyffuriau

Dylid ystyried argyfwng iechyd meddwl yr un mor ddifrifol ag argyfwng meddygol.

Dewch o hyd i'ch adran damweiniau ac achosion brys agosaf



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 05/03/2024 14:10:47