Pothelli

Cyflwyniad

Blisters
Blisters

Dylai pothelli wella ar eu pennau'u hunain ymhen wythnos. Gallant fod yn boenus wrth iddynt wella, ond ni ddylai fod angen i chi weld meddyg teulu.

Sut gallwch chi drin pothell eich hun

Er mwyn lleddfu unrhyw boen, defnyddiwch becyn rhew (neu fag o lysiau rhewedig wedi'i lapio mewn tywel) ar y bothell am hyd at 30 munud.

I amddiffyn y bothell a helpu atal haint:

Gwnewch yn siwr eich bod yn:

  • gorchuddio pothelli sy'n debygol o dorri gyda phlastr neu ddresin meddal
  • golchi'ch dwylo cyn cyffwrdd â phothell sydd wedi torri
  • gadael i'r hylif mewn pothell sydd wedi torri i ddraenio cyn ei gorchuddio â phlastr neu ddresin

Peidiwch â

  • thorri pothell eich hun
  • plicio'r croen oddi ar bothell sydd wedi torri
  • pigo ar ymylon y croen sydd ar ôl
  • gwisgo'r esgidiau neu ddefnyddio'r offer a achosodd eich pothell hyd nes ei bod y gwella

Gall fferyllydd helpu gyda phothelli

Er mwyn amddiffyn eich pothell rhag cael ei heintio, gall fferyllydd argymell plastr neu ddresin i'w gorchuddio tra bydd yn gwella.

Gall dresin hydrocolloid helpu i leihau poen a chyflymu'r gwella.

Chwiliwch fferyllfa yma.

Gwiriwch ai pothell sydd gennych

Pocedi bach o hylif clir o dan haenen o groen yw pothelli.

Mae pothelli gwaed yn goch neu'n ddu ac yn llawn gwaed yn lle hylif clir.

Os yw'r bothell wedi'i heintio, gall fod yn goch, yn boeth ac yn llawn crawn gwyrdd neu felyn.

Pwysig

Peidiwch ag anwybyddu pothell heintiedig. Heb driniaeth, gallai arwain at haint y croen neu'r gwaed.

Ewch i weld meddyg teulu:

  • os yw pothell yn boenus iawn neu'n dod yn ôl dro ar ôl tro
  • os yw'r croen yn edrych ei fod wedi'i heintio - mae'n goch, yn boeth ac mae'r bothell yn llawn crawn gwyrdd neu felyn
  • os yw pothell mewn lle anarferol - fel eich amrannau, ceg neu organau cenhedlu
  • os oes nifer o bothelli wedi ymddangos heb unrhyw reswm
  • os achoswyd pothell trwy losgi, sgaldanu, llosg haul, neu adwaith alergaidd

Triniaeth gan feddyg teulu

Efallai y bydd eich meddyg teulu'n torri pothell fawr neu boenus gan ddefnyddio nodwydd wedi'i diheintio. Os yw eich pothell wedi'i heintio, gall roi presgripsiwn am wrthfiotigau.

Gall hefyd gynnig triniaeth neu gyngor os yw'r pothelli'n cael eu hachosi gan gyflwr meddygol.

Sut i atal pothelli

Mae pothelli'n datblygu i amddiffyn croen sydd wedi'i niweidio a'i helpu i wella. Gan amlaf maent yn cael eu hachosi gan ffrithiant, llosgiadau ac adweithiau'r croen, fel adwaith alergaidd.

Mae pothelli gwaed yn ymddangos pan fydd gwaedlestri yn y croen wedi'u difrodi hefyd. Maent yn fwy poenus na phothell arferol yn aml.

Os ydych chi'n cael pothelli ffrithiant (friction) yn rheolaidd:

  • gwisgwch esgidiau esmwyth, sy'n ffitio'n dda
  • torrwch esgidiau newydd i mewn yn raddol
  • gwisgwch sanau gwlân mwy trwchus wrth wneud ymarfer corff
  • ysgeintiwch bowdr talcwm yn eich sanau os yw eich traed chi'n chwysu
  • gwisgwch fenig amddiffynnol pan fyddwch yn gwneud ymarfer corff neu os ydych chi'n defnyddio offer yn y gwaith

 

 

 

 



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 01/03/2024 14:17:10