Cyflwyniad
Mae tua 1 o bob 8 menyw yn y DU yn cael diagnosis o ganser y fron yn ystod eu hoes. Mae siawns dda o wella os caiff ei ganfod yn ei gamau cynnar.
Nod sgrinio'r fron yw canfod canserau'r fron yn gynnar. Mae'n defnyddio prawf pelydr-X o'r enw mamogram a all ganfod canserau pan fyddant yn rhy fach i'w gweld neu eu teimlo.
Sgrinio'r fron - beth i'w ddisgwyl
Mae'r fideo byr hwn yn helpu pobl i ddeall beth yw sgrinio'r fron a pham ei fod yn bwysig. Mae'n dangos y daith sgrinio, gan gynnwys sut mae pelydr-X y fron (mamogram) yn cael ei gymryd a pha gefnogaeth sydd ar gael.
Mae fideo Iaith Arwyddion Prydain hefyd.
Gallwch ddod o hyd i'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar sgrinio'r fron ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.