Llosgiadau a sgaldiadau

Cyflwyniad

Burns and scalds
Burns and scalds

Niwed i'r croen sy'n cael ei achosi gan wres yw llosgiadau a sgaldiadau. Mae'r ddau yn cael eu trin yn yr un ffordd.

Mae llosgiad yn cael ei achosi gan wres sych - gan haearn smwddio neu dân, er enghraifft. Mae sgaldiad yn cael ei achosi gan rywbeth gwlyb, fel dwr poeth neu stêm.

Gall llosgiadau fod yn boenus iawn, a gallant achosi:

  • cochni ar y croen neu achosi i'r croen bilio
  • pothelli
  • chwyddo
  • croen gwyn neu ruddedig (charred). 

Nid yw faint o boen rydych chi'n ei deimlo bob amser yn cyfateb i ba mor ddifrifol yw'r llosgiad. Gallai llosgiad difrifol iawn, hyd yn oed, fod yn gymharol ddi-boen.

Trin llosgiadau a sgaldiadau

I drin llosgiad, dilynwch y cyngor cymorth cyntaf isod:

  • symudwch yr unigolyn i ffwrdd oddi wrth y ffynhonnell wres ar unwaith i atal y llosgi
  • oerwch y llosgiad â dwr lled oer neu glaear am 20 munud - peidiwch â defnyddio iâ, dwr iasoer, nac unrhyw hufennau na sylweddau seimllyd fel menyn
  • tynnwch ymaith unrhyw ddillad neu emwaith sy'n agos i'r rhan o'r croen sydd wedi'i llosgi, gan gynnwys cewynnau babanod, ond peidiwch â symud unrhyw beth sydd wedi'i lynu wrth yn y croen
  • gwnewch yn siwr fod yr unigolyn yn cadw'n gynnes gan ddefnyddio blanced, er enghraifft, ond peidiwch â'i rhwbio yn erbyn y rhan sydd wedi'i llosgi
  • gorchuddiwch y llosgiad trwy osod darn o haenen lynu (cling film) drosto - gallech ddefnyddio bag plastig glân hefyd ar gyfer llosgiadau ar eich llaw
  • defnyddiwch gyffuriau lladd poen fel parasetamol neu ibuprofen i drin unrhyw boen
  • os yw'r wyneb neu'r llygaid wedi'u llosgi, eisteddwch i fyny os yw'n bosibl, yn hytrach na gorwedd - bydd hyn yn helpu i leihau chwyddo
  • os yw'n llosgiad asid neu gemegol, deialwch 999, ceisiwch dynnu'r cemegyn ac unrhyw ddillad halogedig ymaith yn ofalus, a rinsiwch y rhan o'r corff yr effeithiwyd arni gan ddefnyddio cymaint o ddwr glân â phosibl

Darllenwch fwy ynghylch trin llosgiadau a sgaldiadau.

Pryd i gael sylw meddygol

Yn dibynnu ar ba mor ddifrifol yw'r llosgiad, mae'n bosibl y gellir ei drin gartref.

O ran llosgiadau bach, cadwch y llosgiad yn lân a pheidiwch â byrstio unrhyw bothelli sy'n ffurfio.

Bydd angen sylw meddygol proffesiynol ar losgiadau mwy difrifol.

Dylech fynd i adran damweiniau ac achosion brys ysbyty ar gyfer:

  • pob llosgiad cemegol a thrydanol
  • llosgiadau mawr neu ddwfn - unrhyw losgiad sy'n fwy na llaw yr unigolyn sydd wedi'i anafu
  • llosgiadau sy'n achosi croen gwyn neu ruddedig - o unrhyw faint
  • llosgiadau ar yr wyneb, y dwylo, y breichiau, y traed, y coesau neu'r organau cenhedlu sy'n achosi pothelli

Os yw rhywun wedi mewnanadlu mwg neu fygdarthau (fumes), dylai geisio sylw meddygol hefyd.

Gallai rhai symptomau gymryd amser i ymddangos a gallant gynnwys:

  • pesychu
  • dolur gwddf/llwnc tost
  • trafferth anadlu
  • llosgiadau ar yr wyneb

Dylai pobl sydd mewn perygl uwch o effeithiau llosgiadau, fel plant iau na phum mlwydd oed a menywod beichiog, geisio sylw meddygol ar ôl llosgiad neu sgaldiad hefyd.

Bydd maint a dyfnder y llosgiad yn cael eu hasesu a bydd y rhan o'r corff yr effeithiwyd arni yn cael ei glanhau cyn i orchudd gael ei osod. Mewn achosion difrifol, gallai llawdriniaeth impio croen gael ei hargymell.

Darllenwch fwy ynghylch gwella o losgiadau a sgaldiadau.

Mathau o losgiadau

Mae llosgiadau'n cael eu hasesu yn ôl pa mor ddifrifol y mae eich croen wedi'i niweidio a pha haenau o groen yr effeithiwyd arnynt.

Mae tair haen i'ch croen:

  • yr epidermis - yr haen allanol o groen
  • yr isgroen - yr haen o feinwe yn union oddi tani, sy'n cynnwys capilarïau gwaed, terfynau nerfau, chwarennau chwys a ffoliglau blew
  • bloneg isgroenol (subcutis) - yr haen ddyfnach o floneg a meinwe

Mae pedwar prif fath o losgiad, sy'n tueddu i edrych yn wahanol ac arwain at symptomau gwahanol:

  • llosgiad epidermol arwynebol - lle mae'r epidermis yn cael ei niweidio; bydd eich croen yn goch ac ychydig yn chwyddedig a phoenus, ond nid yn bothellog
  • llosgiad croenol arwynebol - lle mae'r epidermis a rhan o'r isgroen yn cael eu niweidio; bydd eich croen yn troi'n lliw pinc golau a bydd yn boenus, ac fe allai pothelli bach ffurfio
  • llosgiad croenol dwfn neu drwch rhannol - lle mae'r epidermis a'r isgroen yn cael eu niweidio: mae llosg o'r math hwn yn gwneud i'ch croen droi'n goch ac yn flotiog; gallai eich croen fod yn sych neu'n llaith, a mynd yn chwyddedig ac yn bothellog, ac fe allai fod yn boenus iawn neu'n ddi-boen
  • llosgiad trwch llawn - lle mae'r 3 haen o groen (yr epidermis, yr isgroen a'r subcutis) yn cael eu niweidio; bydd y croen yn aml wedi'i losgi i ffwrdd a gallai'r feinwe oddi tano ymddangos yn olau neu'n ddu, tra bydd y croen sy'n weddill yn sych ac yn wyn, yn frown neu'n ddu heb unrhyw bothelli, a gallai'r croen deimlo fel lledr neu fel cwyr hefyd

Atal llosgiadau a sgaldiadau

Mae llawer o losgiadau a sgaldiadau difrifol yn effeithio ar fabanod a phlant ifanc.

Dyma rai enghreifftiau o bethau y gallwch eu gwneud i helpu i atal eich plentyn rhag cael damwain ddifrifol gartref:

  • cadwch eich plentyn allan o'r gegin pryd bynnag y bo'n bosibl
  • profwch dymheredd dwr bath gan ddefnyddio'ch penelin cyn rhoi eich baban neu'ch plentyn bach yn y bath
  • cadwch fatsis, tanwyr a chanhwyllau wedi'u goleuo allan o olwg a chyrraedd plant ifanc
  • cadwch ddiodydd poeth ymhell oddi wrth blant ifanc

Rhagor o gyngor

Os oes arnoch angen cyngor ynglyn â llosgiad neu sgaldiad, gallwch:

  • ffonio 111
  • mynd i uned mân anafiadau
  • ffonio neu fynd i weld eich meddyg teulu

Defnyddiwch y gwasanaethau lleol i ddod o hyd i unedau mân anafiadau yn agos i chi.

Triniaeth

Mae'n rhaid defnyddio cymorth cyntaf priodol i drin unrhyw losgiadau neu sgaldiadau cyn gynted â phosibl. Bydd hyn yn cyfyngu ar faint o niwed fydd yn cael ei wneud i'ch croen.

Gallwch ddefnyddio'r technegau cymorth cyntaf canlynol arnoch chi eich hun neu rywun arall sydd wedi cael ei losgi.

Cymorth cyntaf ar gyfer llosgiadau

  • Stopiwch y broses losgi cyn gynted â phosibl. Gallai hyn olygu symud yr unigolyn i ffwrdd oddi wrth yr ardal, diffodd y fflamau gan ddefnyddio dwr neu fygu'r fflamau gyda blanced. Peidiwch â'ch rhoi eich hun mewn perygl o losgi ychwaith.
  • Tynnwch ymaith unrhyw ddillad neu emwaith sy'n agos i'r rhan o'r croen sydd wedi llosgi, gan gynnwys cewynnau babanod. Ond peidiwch â cheisio tynnu unrhyw beth sydd wedi glynu wrth y croen wedi llosgi, oherwydd gallai hyn achosi mwy o niwed.
  • Dylech oeri'r llosg gan ddefnyddio dwr lled oer neu ddwr claear am 20 munud, cyn gynted â phosibl ar ôl yr anaf. Peidiwch byth â defnyddio iâ, dwr iasoer, nac unrhyw hufennau na sylweddau seimllyd, fel menyn.
  • Cadwch eich hun neu'r unigolyn yn gynnes. Defnyddiwch flanced neu haenau o ddillad, ond peidiwch â'u rhoi ar y rhan o'r corff sydd wedi'i hanafu. Bydd cadw'n gynnes yn atal hypothermia rhag digwydd, sef pan fydd tymheredd y corff yn disgyn islaw 35C (95F). Mae hyn yn risg os ydych yn oeri ardal fawr o losg, yn enwedig ymhlith plant a'r henoed.
  • Gorchuddiwch y llosg â haenen lynu (cling film). Rhowch ddarn o haenen lynu dros y llosg, yn hytrach na'i lapio o gwmpas braich neu goes. Gall bag plastig clir, glân gael ei ddefnyddio ar gyfer llosgiadau i'r dwylo.
  • Triniwch boen llosg gan ddefnyddio parasetamol neu ibuprofen. Dylech bob amser ddarllen cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr pan fyddwch yn defnyddio meddyginiaeth wedi'i phrynu dros y cownter. Ni ddylid rhoi asbrin i blant iau nag 16 oed.
  • Ceisiwch eistedd i fyny os yw'r wyneb neu'r llygaid wedi cael eu llosgi. Ceisiwch osgoi gorwedd oherwydd bydd hyn yn helpu i leihau chwyddo.

Pryd i fynd i'r ysbyty

Pan fyddwch wedi cymryd y camau hyn, bydd angen i chi benderfynu a oes angen mwy o driniaeth feddygol.

Ewch i adran damweiniau ac achosion brys (A&E) mewn ysbyty ar gyfer:

  • pob llosgiad cemegol a thrydanol
  • llosgiadau mawr neu ddwfn sy'n fwy na llaw yr unigolyn sydd wedi'i anafu
  • llosgiadau o unrhyw faint sy'n achosi croen gwyn neu ruddedig (charred)
  • llosgiadau ar yr wyneb, y dwylo, y breichiau, y traed, y coesau neu'r organau cenhedlu sy'n achosi pothelli

Dylech hefyd geisio cymorth meddygol ar unwaith os yw'r canlynol yn wir am yr unigolyn sydd wedi'i losgi:

  • os oes ganddo anafiadau eraill y mae angen eu trin
  • os yw'n dioddef sioc - mae'r arwyddion yn cynnwys croen oer a llaith, chwysu, anadlu'n gyflym ac yn ysgafn, a gwendid neu bendro
  • os yw'n feichiog
  • os yw'n hyn na 60 oed
  • os yw'n iau na phum mlwydd oed
  • os oes ganddo gyflwr meddygol, fel clefyd y galon, yr ysgyfaint neu'r afu/iau, neu diabetes
  • os oes ganddo system imiwnedd (system amddiffyn y corff) wannach, er enghraifft oherwydd HIV neu AIDS neu oherwydd ei fod yn cael cemotherapi ar gyfer canser

Os yw rhywun wedi mewnanadlu mwg neu fygdarthau (fumes), dylai geisio sylw meddygol hefyd.

Gallai gymryd amser i rai symptomau ymddangos, er enghraifft:

  • pesychu
  • dolur gwddf/llwnc tost
  • trafferth anadlu
  • blew trwynol wedi'u llosgi
  • llosgiadau i'r wyneb.

Darllenwch fwy ynghylch gwella o losgiadau a sgaldiadau i gael gwybodaeth am sut mae llosgiadau difrifol yn cael eu trin.

Llosgiadau trydanol

Efallai na fydd llosgiadau trydanol yn edrych yn ddifrifol, ond gallant fod yn niweidiol iawn. Dylai rhywun sydd wedi dioddef llosg trydanol geisio sylw meddygol ar unwaith gan adran damweiniau ac achosion brys.

Os yw'r unigolyn wedi cael ei anafu gan ffynhonnell foltedd isel (hyd at 220 i 240 folt), fel cyflenwad trydan domestig, diffoddwch y cyflenwad trydan yn ddiogel neu symudwch yr unigolyn i ffwrdd oddi wrth y ffynhonnell drydanol gan ddefnyddio deunydd nad yw'n dargludo trydan, fel darn o bren neu gadair bren.

Peidiwch â mynd yn agos at rywun sydd mewn cyswllt â ffynhonnell foltedd uchel (1,000 folt neu fwy).

Llosgiadau asid a chemegol

Gall llosgiadau asid a chemegol fod yn niweidiol iawn ac mae angen iddynt gael sylw meddygol ar unwaith mewn adran damweiniau ac achosion brys.

Os oes modd, ceisiwch gael gwybod pa gemegyn a achosodd y llosg a dywedwch wrth y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn yr adran damweiniau ac achosion brys.

Os ydych yn helpu rhywun arall, gwisgwch ddillad amddiffynnol priodol, yna:

  • tynnwch unrhyw ddillad yr effeithiwyd arnynt oddi ar yr unigolyn
  • os yw'r cemegyn yn un sych, dylech ei sgubo oddi ar y croen
  • defnyddiwch ddwr sy'n rhedeg i gael gwared ar unrhyw olion o'r cemegyn o'r rhan o'r corff sydd wedi llosgi

Llosg haul

Mewn achosion llosg haul, dilynwch y cyngor isod:

  • Os ydych yn sylwi ar unrhyw arwyddion llosg haul, fel croen poeth, coch a phoenus, symudwch i'r cysgod neu dan do os oes modd.
  • Cymerwch fath neu gawod claear i oeri'r rhan o groen sydd wedi llosgi.
  • Rhowch drwyth 'after sun' ar y rhan sydd wedi llosgi er mwyn ei lleithio, ei hoeri a'i lleddfu. Peidiwch â defnyddio sylweddau seimllyd neu olewog.
  • Os ydych yn dioddef poen, cymerwch barasetamol neu ibuprofen i helpu i'w liniaru. Dylech bob amser ddarllen cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a pheidiwch â rhoi asbrin i blentyn iau nag 16 oed.
  • Gwnewch yn siwr nad ydych yn dadhydradu trwy yfed digon o ddwr.
  • Cadwch lygad am arwyddion lludded gwres neu drawiad gwres, sef pan fydd y tymheredd yn eich corff yn codi i 37 i 40°C (98.6 i 104°F) neu uwch. Mae'r symptomau'n cynnwys pendro, pwls cyflym iawn neu chwydu.

Os bydd rhywun yn dioddef lludded gwres, dylid mynd ag ef i rywle oer yn gyflym, rhoi dwr iddo i'w yfed a llacio ei ddillad. Dylai ddechrau teimlo'n well o fewn hanner awr.

Os na, gallai ddatblygu trawiad gwres. Mae hyn yn argyfwng meddygol a bydd angen i chi ffonio 999 am ambiwlans.

Darllenwch fwy ynghylch cymhlethdodau llosgiadau a sgaldiadau.

Gwella

Bydd pa mor hir y mae'n ei gymryd i wella ar ôl cael llosg neu sgaldiad yn dibynnu ar ba mor ddifrifol ydyw a sut mae'n cael ei drin. Os yw'r clwyf yn mynd yn heintiedig, dylech geisio sylw meddygol pellach.

Llosgiadau nad oes angen sylw meddygol arnynt

Os yw eich llosg neu sgaldiad yn ysgafn ac yn cael ei drin gartref, bydd yn gwella heb fod angen rhagor o driniaeth, fel arfer.

Darllenwch fwy ynghylch sut i drin llosgiadau a sgaldiadau.

Tra bod y croen yn gwella, cadwch yr ardal yn lân a pheidiwch â rhoi unrhyw hufennau na sylweddau seimllyd arni. Peidiwch â thorri unrhyw bothelli oherwydd gall hyn arwain at heintiau.

Os ydych wedi sgaldio'r tu mewn i'ch ceg trwy yfed rhywbeth poeth, ceisiwch osgoi pethau sy'n gallu llidio'r ardal wedi'i sgaldio, fel bwyd poeth a sbeislyd, alcohol ac ysmygu, nes bod yr ardal yn gwella.

Fel arfer, mae llosgiadau neu sgaldiadau ysgafn sy'n effeithio ar haen uchaf y croen yn unig (llosgiadau epidermol arwynebol) yn gwella ymhen tua wythnos heb unrhyw greithio.

Llosgiadau y mae angen sylw meddygol arnynt

Os oes gennych losgiad neu sgaldiad y mae angen sylw meddygol arno, bydd yn cael ei asesu i benderfynu faint o ofal y mae ei angen.

Bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n eich trin:

  • yn asesu maint a dyfnder y llosg drwy archwilio'r ardal
  • yn glanhau'r llosg, gan ofalu peidio â thorri unrhyw bothelli
  • yn gorchuddio'r llosg gan ddefnyddio gorchudd di-haint (sef pad a rhwymyn rhwyllog i'w ddal yn ei le, fel arfer)
  • yn cynnig cyffuriau lladd poen i chi, os oes angen (parasetamol neu ibuprofen fel arfer)

Yn dibynnu ar sut digwyddodd y llosg, gallech gael eich cynghori i gael pigiad i atal tetanws, sef cyflwr sy'n cael ei achosi pan fydd bacteria yn mynd i mewn i glwyf.

Er enghraifft, gallai pigiad tetanws gael ei argymell os oes posibilrwydd bod pridd wedi mynd i mewn i'r clwyf.

Bydd eich gorchudd yn cael ei archwilio'n rheolaidd am arwyddion haint. Caiff ei newid yn rheolaidd hefyd nes bod y llosg wedi gwella'n llwyr.

Fel arfer, mae mân losgiadau sy'n effeithio ar yr haen allanol o groen a rhywfaint o'r haen feinwe oddi tani (llosgiadau isgroenol arwynebol) yn gwella ymhen tua 14 diwrnod, heb adael fawr o greithio.

Os yw'r llosg yn gymedrol i ddifrifol, efallai y cewch eich atgyfeirio i wasanaeth gofal llosgiadau arbenigol.

Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i chi gael llawdriniaeth i dynnu'r ardal o groen sydd wedi llosgi ymaith a'i hamnewid ag impiad croen a gymerwyd o ran arall o'ch corff.

Gall llosgiadau dyfnach a mwy difrifol gymryd misoedd neu hyd yn oed flynyddoedd i wella'n llwyr, a byddant fel arfer yn gadael rhywfaint o greithio gweladwy.

Pothelli

Mae barn arbenigwyr yn amrywio ynglyn â sut i reoli pothelli sy'n cael eu hachosi gan losgiadau. Ond fe'ch argymhellir i beidio â thorri unrhyw bothelli eich hun.

Os yw'ch llosg wedi achosi pothell, dylech geisio sylw meddygol.

Bydd y bothell yn aros yn gyflawn, fwy na thebyg, er bod rhai unedau llosgiadau mewn ysbytai yn dilyn polisi o dynnu'r haen uchaf o groen o'r bothell (deroofing).

Mewn rhai achosion, gallai nodwydd gael ei defnyddio i wneud twll bach yn y bothell i ddraenio'r hylif.

Gelwir hyn yn allsugno ac fe allai gael ei wneud ar bothelli mawr neu bothelli sy'n debygol o dorri.

Bydd eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn rhoi cyngor i chi ynglyn â'r ffordd orau o ofalu am eich pothell a pha fath o orchudd y dylech ei ddefnyddio.

Amlygiad i'r haul

Yn ystod yr ychydig flynyddoedd cyntaf ar ôl eich llosg, dylech geisio osgoi amlygu'r croen sydd wedi'i niweidio i olau haul uniongyrchol oherwydd gallai hyn achosi iddo bothellu.

Bydd yn arbennig o sensitif yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl yr anaf. Mae hyn yn berthnasol i ardal newydd o groen ar ôl impiad croen hefyd.

Mae'n bwysig gorchuddio'r ardal â dillad cotwm. Os yw'r llosgiad neu'r sgaldiad ar eich wyneb, gwisgwch gap â phig neu het cantel llydan pan fyddwch allan yn yr haul.

Dylid rhoi eli haul cryf (er enghraifft, un sydd â ffactor amddiffyn rhag yr haul, sef SPF, o 50) ar yr holl ardaloedd yr effeithiwyd arnynt.

Gellir amlygu'r ardal i olau'r haul eto tua 3 blynedd ar ôl yr anaf, ond mae'n bwysig iawn defnyddio eli haul cryf o hyd (SPF 25 neu uwch) ac aros allan o'r haul canol dydd.

Pryd i geisio cyngor meddygol pellach

P'un a oedd angen sylw meddygol ar eich llosg ai peidio, dylech geisio cyngor meddygol:

  • os yw'r clwyf yn mynd yn boenus neu'n ddrewllyd
  • os ydych yn datblygu tymheredd uchel o 38C neu uwch
  • os yw'r gorchudd yn cael ei wlychu â hylif sy'n gollwng o'r clwyf
  • os nad yw'r clwyf wedi gwella ar ôl pythefnos

 

Cymhlethdodau

Weithiau, gall llosgiadau a sgaldiadau arwain at broblemau eraill, gan gynnwys sioc, lludded gwres, haint a chreithio.

Sioc

Ar ôl anaf difrifol, mae'n bosibl mynd i sioc. Mae sioc yn gyflwr sy'n bygwth bywyd, sy'n digwydd pan na fydd cyflenwad digonol o ocsigen i'r corff.

Mae'n bosibl mynd i sioc ar ôl cael llosg difrifol.

Mae arwyddion a symptomau sioc yn cynnwys:

  • wyneb gwelw
  • croen oer neu oerwlyb (ychydig yn llaith)
  • pwls cyflym
  • anadlu cyflym, ysgafn
  • dylyfu gên
  • bod yn anymwybodol

Ffoniwch 999 a gofynnwch am ambiwlans os ydych yn credu bod rhywun sydd wedi cael ei anafu'n ddifrifol yn mynd i sioc.

Tra byddwch yn aros am yr ambiwlans:

  • rhowch yr unigolyn i orwedd (os yw ei anafiadau'n caniatáu hynny) a chodwch ei goesau a'u cynnal i fyny
  • defnyddiwch got neu flanced i'w gadw'n gynnes, ond peidiwch â gorchuddio ei wyneb nac ardal y llosg
  • peidiwch â rhoi unrhyw beth iddo i'w fwyta na'i yfed

Lludded gwres a thrawiad gwres

Mae lludded gwres a thrawiad gwres yn ddau gyflwr iechyd sy'n gysylltiedig â gwres, sy'n digwydd pan fydd y tymheredd y tu mewn i'ch corff yn codi i rhwng 37 a 40C neu uwch.

Gall lludded gwres a thrawiad gwres fod yn ddifrifol iawn. Maen nhw'n aml yn cael eu hachosi trwy gael gormod o olau'r haul neu wres.

Mae symptomau lludded gwres a thrawiad gwres yn cynnwys:

  • blinder eithafol a diffyg egni
  • pendro neu lewygu
  • cyfog (teimlo'n sâl) neu chwydu
  • pwls cyflym
  • cur pen/pen tost
  • poen yn y cyhyrau
  • tymer ddrwg
  • dryswch

Os bydd rhywun yn dioddef lludded gwres, dylid mynd ag ef i rywle oer yn gyflym, rhoi dwr iddo i'w yfed a llacio ei ddillad. Dylai ddechrau teimlo'n well o fewn hanner awr.

Os na, gallai ddatblygu trawiad gwres. Mae hyn yn argyfwng meddygol a bydd angen i chi ffonio 999 am ambiwlans.

Darllenwch fwy ynghylch beth i'w wneud os bydd rhywun yn dioddef lludded gwres neu drawiad gwres.

Haint

Gall clwyfau gael eu heintio os bydd bacteria'n mynd i mewn iddynt. Os oes pothell dros eich llosgiad neu'ch sgaldiad sydd wedi torri, gallai gael ei heintio os nad yw'n cael ei gadw'n lân.

Dylech geisio sylw meddygol ar gyfer unrhyw losg sy'n achosi pothell.

Mae'n bosibl bod eich clwyf wedi ei heintio:

  • os yw'n anghyfforddus, yn boenus neu'n ddrewllyd
  • os oes gennych dymheredd uchel sy'n 38C neu uwch
  • os oes gennych arwyddion llid yr isgroen, sef haint facterol sy'n achosi i'r croen gochi a chwyddo

Dylech geisio sylw meddygol ar unwaith os ydych yn credu bod eich llosg wedi cael ei heintio. Fel arfer, gall haint gael ei thrin gan ddefnyddio gwrthfiotigau a meddyginiaeth lladd poen, os oes ei hangen.

Mewn achosion prin, gall llosg sydd wedi'i heintio achosi gwenwyn gwaed (sepsis) neu syndrom sioc wenwynig. Mae'r cyflyrau difrifol hyn yn gallu bod yn angheuol os nad ydynt yn cael eu trin.

Mae arwyddion sepsis a syndrom sioc wenwynig yn cynnwys:

  • tymheredd uchel
  • pendro
  • chwydu

Creithio

Mae craith yn ddarn neu'n llinell o feinwe sy'n aros ar ôl i glwyf wella. Nid yw'r rhan fwyaf o fân losgiadau yn gadael rhyw lawer o greithiau.

Gallwch geisio lleihau'r risg o greithio ar ôl i'r clwyf wella trwy:

  • roi esmwythydd, fel hufen dyfrllyd neu eli emylsio arno ddwywaith neu deirgwaith y dydd
  • defnyddio eli haul sydd â ffactor amddiffyn (SPF) uchel rhag yr haul i ddiogelu'r ardal rhag yr haul pan fyddwch y tu allan

Effaith seicolegol

Gall llosgiadau a sgaldiadau, yn enwedig rhai difrifol, achosi gofid sy'n para am gyfnod hir.

Ar ôl llosg neu sgaldiad, mae rhai pobl yn dweud eu bod yn profi:

  • teimladau o bryder a straen
  • hwyliau isel ac iselder
  • diffyg hyder a hunan-barch

Gallai rhai pobl sy'n gwella o losg ddatblygu anhwylder straen wedi trawma (PTSD) hefyd, sy'n gallu achosi symptomau fel ôl-fflachiadau, hunllefau, a meddyliau digroeso ac ymwthiol.

Os ydych yn profi unrhyw un o'r materion emosiynol hyn, dylech siarad â'r staff yn y gwasanaeth gofal llosgiadau.

Gallant drefnu apwyntiad gyda seicolegydd sydd â phrofiad o drin pobl sy'n gwella o losgiadau a sgaldiadau.

Atal

Mae llawer o losgiadau a sgaldiadau difrifol yn effeithio ar fabanod a phlant ifanc. Gall y cyngor canlynol eich helpu i atal eich plentyn rhag cael damwain ddifrifol.

Yn y gegin

  • mae'n well cadw eich plentyn bach allan o'r gegin, ymhell i ffwrdd oddi wrth degellau, sosbenni a drysau ffwrn poeth - gallech roi giât ddiogelwch ar draws y drws i'w atal rhag mynd i mewn
  • defnyddiwch degell sydd â chortyn byr neu gyrliog i'w atal rhag hongian dros ymyl yr arwyneb gwaith, lle y gellid gafael ynddo
  • pan fyddwch yn coginio, defnyddiwch y cylchau yng nghefn y cwcer a throwch ddolenni sosbenni tuag at y cefn fel na all eich plentyn afael ynddynt

Yn yr ystafell ymolchi

  • peidiwch byth â gadael plentyn iau na phum mlwydd oed ar ei ben ei hun yn y baddon, hyd yn oed am eiliad
  • gosodwch falf gymysgu thermostatig ar dap dŵr poeth eich baddon i reoli'r tymheredd
  • rhowch ddŵr oer yn y baddon yn gyntaf, yna ychwanegwch y dŵr poeth - defnyddiwch eich penelin i brofi tymheredd y dŵr cyn rhoi eich baban neu'ch plentyn bach yn y baddon

Yn y cartref yn gyffredinol

  • rhowch eich haearn smwddio, sythwr gwallt neu efeiliau cyrlio allan o gyrraedd tra'u bod yn oeri ar ôl i chi orffen eu defnyddio
  • gosodwch giardiau tân ar draws pob tân a gwresogydd
  • cadwch fatsis, tanwyr a chanhwyllau wedi'u goleuo allan o olwg a chyrraedd plant ifanc

Diodydd poeth

  • cadwch ddiodydd poeth ymhell oddi wrth blant ifanc - gall diod boeth sgaldio 20 munud ar ôl iddi gael ei pharatoi
  • rhowch ddiodydd poeth i lawr cyn i chi ddal eich baban
  • ar ôl cynhesu potel o laeth, siglwch y botel yn dda a phrofwch dymheredd y llaeth drwy roi ychydig ddiferion ar y tu mewn i'ch arddwrn cyn bwydo – dylai deimlo'n llugoer, nid yn boeth
  • peidiwch â gadael i'ch plentyn yfed diod boeth trwy welltyn

Atal llosg haul

  • anogwch eich plentyn i chwarae yn y cysgod (o dan goed, er enghraifft), yn enwedig rhwng 11am a 3pm, pan fydd yr haul ar ei gryfaf
  • cadwch fabanod iau na chwe mis oed allan o olau haul uniongyrchol, yn enwedig tua chanol dydd
  • gorchuddiwch eich plentyn mewn dillad cotwm llac, fel crys T mawr gyda llewys
  • anogwch eich plentyn i wisgo het hyblyg â chantel llydan sy'n cysgodi ei wyneb a'i wddf
  • rhowch eli haul ar y rhannau o groen eich plentyn sydd yn y golwg, hyd yn oed ar ddiwrnodau cymylog - mae gan y rhan fwyaf o fathau o eli haul ar gyfer plant ffactor amddiffyn rhag yr haul (SPF) o rhwng 30 a 50 ac maen nhw'n effeithiol yn erbyn UVA ac UVB
  • rhowch eli haul ar eich croen sawl gwaith drwy gydol y dydd - dylech hyd yn oed ail-roi eli haul gwrth-ddŵr ar eich croen ar ôl i chi ddod allan o'r dŵr


Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 07/03/2024 10:36:14