Nid yw'r rhan fwyaf o boenau yn y frest yn arwydd o unrhyw beth difrifol, ond dylech geisio cyngor meddygol rhag ofn. Ceisiwch gymorth meddygol ar unwaith os ydych yn credu eich bod yn cael trawiad ar y galon.
Ffoniwch 999 os ydych yn cael poen sydyn yn y frest:
- sy'n lledu i'ch breichiau, eich cefn, eich gwddf neu'ch gên
- sy'n gwneud i'ch brest deimlo'n dynn neu'n drwm
- a oedd hefyd wedi dechrau trwy fod yn fyr o anadl, chwysu a theimlo'n gyfoglyd neu chwydu
- sy'n para mwy na 15 munud
Gallech fod yn cael trawiad ar y galon. Ffoniwch 999 ar unwaith oherwydd bydd angen i chi gael triniaeth ar frys mewn ysbyty.
Ewch at Feddyg Teulu:
- os ydych yn cael poen yn y frest sy'n mynd a dod
- os ydych yn cael poen yn y frest sy'n mynd yn gyflym ond rydych yn pryderu o hyd
Mae'n bwysig cael cyngor meddygol i wneud yn siŵr nad yw'n rhywbeth difrifol.
Achosion cyffredin poen yn y frest
Mae llawer o wahanol bethau'n achosi poen yn y frest - dim ond y rhai mwyaf cyffredin a restrir isod. Yn y rhan fwyaf o achosion, nid yw poen yn y frest yn cael ei achosi gan broblem â'r galon.
Efallai y bydd eich symptomau'n rhoi syniad i chi o beth sy'n eu hachosi. Peidiwch â rhoi diagnosis i'ch hun - ewch at eich Meddyg Teulu os ydych yn pryderu.
Symptomau poen yn y frest ac achosion posibl
- Mae'n dechrau ar ôl bwyta, cael bwyd yn ei ôl neu hylifau sy'n blasu'n chwerw, teimlo'n llawn ac wedi chwyddo - gallai fod oherwydd llosg cylla/dŵr poeth neu gamdreuliad
- Mae'n dechrau ar ôl anaf i'r frest neu ymarfer corff ar y frest, ac yn teimlo'n well wrth orffwys y cyhyr - gallai fod oherwydd ysigiad i'r frest
- Mae'n cael ei sbarduno gan bryderon neu sefyllfa sy'n achosi straen, mae'r galon yn curo'n gyflymach, chwysu, pendro - gallai fod oherwydd gorbryder neu bwl o banig
- Mae'n gwaethygu wrth i chi anadlu i mewn ac allan, pesychu mwcws melyn neu wyrdd, tymheredd uchel - gallai fod oherwydd haint ar y frest neu niwmonia
- Teimlad coslyd ar y croen, mae brech yn ymddangos ar y croen sy'n troi'n bothelli - gallai fod oherwydd yr eryr
Poen yn y frest a phroblemau â'r galon
Mae'r problemau mwyaf cyffredin â'r galon sy'n achosi poen yn cynnwys:
- pericarditis - sydd fel arfer yn achosi gwayw o boen sydyn sy'n gwaethygu wrth i chi anadlu'n ddwfn neu orwedd
- angina neu drawiad ar y galon - sydd â symptomau tebyg, ond mae trawiad ar y galon yn bygwth bywyd
Rydych yn fwy tebygol o gael problemau â'r galon os ydych yn hŷn neu'n gwybod eich bod mewn perygl o glefyd coronaidd y galon.
Er enghraifft:
- os ydych yn ysmygu
- os ydych dros bwysau'n ddifrifol (yn ordew)
- os oes gennych bwysedd gwaed uchel, diabetes neu golesterol uchel
- os oes hanes o drawiadau ar y galon neu angina ymhlith aelodau'ch teulu sy'n iau na 60 oed