Enwaediad dynion

Oedolyn

Tynnu'r blaengroen trwy lawdriniaeth yw enwaedu dynion.

Y blaengroen yw'r plyg croen ôl-dynadwy sy'n gorchuddio pen y pidyn. Mae'n barhad y croen sy'n gorchuddio'r pidyn cyfan.

Mae'r dudalen hon yn canolbwyntio ar enwaedu dynion am resymau meddygol. Darllenwch am enwaedu bechgyn am resymau meddygol

Pam mae enwaedu'n cael ei wneud ar ddynion

Gall enwaedu gael ei wneud am sawl rheswm.

Rhesymau meddygol

Ymhlith dynion, bydd enwaedu'n cael ei wneud gan amlaf pan fydd y blaengroen yn dynn ac ni fydd yn tynnu'n ôl. Yr enw ar hyn yw ffimosis (blaengroen tynn).

Ond mae triniaethau eraill, fel steroidau argroenol, yn cael eu ffafrio weithiau.

Rhesymau anfeddygol

Mae enwaedu yn arfer cyffredin mewn cymunedau Iddewig ac Islamaidd, ac mae llawer o gymunedau Affricanaidd yn ei arfer hefyd.

Mae'r rhan fwyaf o enwaediadau anfeddygol yn cael eu gwneud ar blant.

Atal HIV 

Mae tystiolaeth bod enwaedu'n lleihau'r risg y bydd dynion heterorywiol yn cael HIV.

Fe'i hannogir fel rhan o raglenni atal HIV yn rhai o wledydd Affrica sydd â chyfraddau HIV uchel.

Rhesymau meddygol dros gael enwaediad

Ymhlith dynion, mae enwaedu weithiau'n cael ei ystyried yn opsiwn triniaeth posibl ar gyfer y cyflyrau canlynol.

Blaengroen tynn (ffimosis)

Yn achos ffimosis, bydd y blaengroen yn rhy dynn i gael ei dynnu'n ôl dros ben y pidyn (glans).

Weithiau, gall hyn achosi poen adeg codiad ac, mewn achosion prin, gall pasio dŵr fod yn anodd

Balanitis mynych

Yn achos balanitis, bydd y blaengroen a phen y pidyn yn llidio ac yn datblygu haint

Paraffimosis

Yn achos paraffimosis, ni ellir symud y blaengroen yn ôl i'w safle gwreiddiol ar ôl ei dynnu'n ôl, gan wneud i ben y pidyn chwyddo a mynd yn boenus.

Mae angen triniaeth ar frys i osgoi cymhlethdodau difrifol, fel cyfyngu ar lif y gwaed i'r pidyn

Balanitis xerotica obliterans

Mae'r cyflwr hwn yn achosi ffimosis ac, mewn rhaid achosion, mae'n effeithio ar ben y pidyn hefyd, a all greithio a llidio

Canser y pidyn

Math prin iawn o ganser yw canser y pidyn, pan fydd ardal goch, tyfiant tebyg i ddafaden, neu wlser yn ymddangos ar ben y pidyn neu o dan y blaengroen.

Triniaethau eraill

Gan amlaf, bydd enwaedu'n cael ei argymell dim ond ar ôl rhoi cynnig ar driniaethau llai ymwthiol a pheryglus eraill, sydd heb weithio.

Gellir trin achosion ysgafn o ffimosis gyda steroidau argroenol i helpu meddalu'r croen a'i gwneud hi'n haws i'r blaengroen dynnu'n ôl.

Yn achos paraffimosis, gallai gweithiwr iechyd proffesiynol roi gel anesthetig lleol ar y glans i helpu lleihau'r poen a'r llid.

Yna, gall roi pwysau ar ben y pidyn, tra'n gwthio'r blaengroen ymlaen.

Mewn achosion difrifol o paraffimosis, gall gel anesthetig lleol gael ei roi ar y pidyn a gwneir toriad bach yn y blaengroen i helpu lleddfu'r pwysedd.

Weithiau, gall balanitis a balanitis xerotica obliterans gael eu trin yn llwyddiannus gan ddefnyddio eli, gel neu hufen corticosteroid, hufennau gwrthfiotig neu hufennau gwrthffyngaidd.

Y 3 prif driniaeth sy'n opsiwn ar gyfer canser y pidyn yw:

  • llawdriniaeth i godi'r celloedd canseraidd ac, weithiau, y feinwe gyfagos
  • radiotherapi
  • cemotherapi

Os ydych chi'n ystyried enwaedu am reswm meddygol, mae'n werth trafod opsiynau triniaeth eraill gyda'ch meddyg teulu neu'ch arbenigwr.

Atal HIV 

Mae tystiolaeth o sawl treial yn Affrica bod risg is i ddynion sydd wedi cael eu henwaedu o gael HIV oddi wrth fenywod heintiedig.

Ond nid yw'n glir a all enwaedu dynion helpu atal heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol (STIs).

Bu nifer o astudiaethau i enwaedu dynion a risg heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol, ond mae'r dystiolaeth hyd yn hyn wedi bod yn amhendant ac yn anghyson.

Y driniaeth

Fel arfer, bydd enwaedu'n cael ei wneud ar sail claf dydd. Ystyr hyn yw y cewch eich derbyn i'r ysbyty ar y diwrnod y cewch chi'r llawdriniaeth ac ni fydd rhaid i chi aros dros nos.

Gofynnir i chi beidio â bwyta ac yfed am 6 awr cyn llawdriniaeth os ydych chi'n cael anesthetig cyffredinol.

Ar ôl i chi gael eich derbyn i'r ysbyty, byddwch yn gweld aelodau'r tîm meddygol a fydd yn cynnal y driniaeth, gan gynnwys eich llawfeddyg a'ch anesthetydd.

Mae hwn yn gyfle da i drafod unrhyw bryderon sydd gennych a gofyn cwestiynau am unrhyw beth nad ydych chi'n siwr amdano.

Gofynnir i chi lofnodi ffurflen gydsynio i gadarnhau eich bod chi'n cytuno i'r llawdriniaeth.

Fel arfer, byddwch yn cael anesthetig cyffredinol, sy'n golygu na fyddwch yn effro trwy gydol y weithdrefn, neu bigiad anesthetig lleol, a fydd yn fferru'ch pidyn a'r ardal gyfagos.

Mewn ambell achos, defnyddir anesthetig sbinol, lle na fyddwch yn gallu teimlo dim islaw'ch canol.

Mae enwaedu'n driniaeth gymharol syml. Bydd y blaengroen yn cael ei dorri i ffwrdd fymryn y tu ôl i ben y pidyn gan ddefnyddio cyllell llawfeddyg neu siswrn llawfeddygol.

Gellir atal unrhyw waed gan ddefnyddio gwres (serio) a bydd gweddill ymylon y croen yn cael eu pwytho gan ddefnyddio pwythau tawdd.

Mae Cymdeithas Llawfeddygon Wrolegol Prydain (BAUS) wedi cynhyrchu taflen sy'n amlinellu'r driniaeth enwaedu (PDF, 970kb) yn fanylach.

Gwella yn dilyn enwaedu

Ar ôl cael eich rhyddhau o'r ysbyty, cewch gyngor ar wella gartref, gan gynnwys pryd y gallwch yrru, dychwelyd i'r gwaith a chael cyfathrach rywiol.

Fel arfer, mae'n cymryd o leiaf 10 niwrnod i'ch pidyn wella ar ôl enwaedu.

Yn ôl pob tebyg, cewch gyngor i gymryd o leiaf wythnos i ffwrdd o'r gwaith i wella.

Nid oes angen i chi ddweud wrth y DVLA os ydych chi wedi cael triniaeth enwaedu gyffredinol ac nid oes gennych unrhyw gyflyrau meddygol eraill sy'n effeithio ar eich gallu i yrru.

Ond eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn iawn i yrru ar ôl cael llawdriniaeth.

Dylech osgoi cael cyfathrach rywiol am o leiaf 4 wythnos ar ôl eich llawdriniaeth.

Bydd eich tîm gofal yn rhoi rhif ffôn cyswllt i chi ei ffonio rhag ofn y cewch chi broblemau neu os oes gennych bryderon.

Hefyd, dylech gael manylion am eich apwyntiad dilynol, a all fod yn yr ysbyty neu gyda'ch meddyg teulu.

Am 3 neu 4 diwrnod ar ôl eich llawdriniaeth, mae'n debygol y cewch chi ychydig o anghysur a chwyddo o gwmpas pen y pidyn.

Cyn gadael yr ysbyty, cewch boenladdwyr, fel parasetamol neu ibuprofen, i helpu lleddfu hyn.

Ond cysylltwch â'ch meddyg teulu os cewch chi dymheredd, mwy o gochni, gwaedu, poen cyson neu boen gwayw yn eich pidyn, oherwydd gallai hynny fod yn arwydd o haint.

Bydd rhoi jeli petrolewm (Vaseline) o amgylch pen y pidyn yn helpu i'w atal rhag glynu wrth eich dillad isaf.

Hefyd, bydd gwisgo dillad llac, ysgafn am ddeuddydd neu dri ar ôl eich llawdriniaeth yn helpu osgoi llidio'ch pidyn tra bydd yn gwella.

Ni ddylech deimlo poen nac anghysur wrth basio dŵr, ond os byddwch, cysylltwch â'ch tîm meddygol.

Risgiau enwaediad dynion

Yn y DU, mae cymhlethdodau ar ôl enwaediadau am resymau meddygol yn brin ac nid yw'r rhan fwyaf o ddynion yn cael unrhyw broblemau arwyddocaol.

Heblaw am y chwyddo cychwynnol, gwaedu a haint yw'r ddwy broblem fwyaf cyffredin sy'n gysylltiedig ag enwaedu.

Mae siawns o rhwng 1 o bob 10 ac 1 o bob 50 y byddwch yn gwaedu neu'n cael haint.

Gall cymhlethdodau posibl eraill enwaedu gynnwys:

  • lleihau'n barhaol yr ymdeimlad ym mhen y pidyn, yn enwedig yn ystod cyfathrach rywiol
  • tynerwch o gwmpas y graith
  • yr angen am dynnu pwythau sydd heb doddi
  • weithiau, bydd angen llawdriniaeth arall i dynnu rhagor o groen o ben y pidyn


Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 08/01/2024 14:14:50