Gwefus a thaflod hollt

Cyflwyniad

Cleft lip and palate
Cleft lip and palate

Mae hollt yn fwlch neu doriad yn y wefus uchaf a tho'r geg (y daflod). Mae'n bresennol ers genedigaeth.

Bydd y bwlch yno gan na wnaeth rhannau o wyneb y baban uno'n gywir wrth ddatblygu yn y groth.

Gwefus a thaflod hollt yw'r nam geni wynebol mwyaf cyffredin yn y DU, gan effeithio ar ryw un o bob 700 o fabanod.

Sut olwg sydd ar wefus a thaflod hollt?

Gall babanod gael eu geni gyda gwefus hollt, taflod hollt, neu'r ddau.

Gall gwefus hollt effeithio ar un ochr i'r wefus neu gall fod dwy hollt.

Gall amrywio o ricyn bach i fwlch mawr sy'n cyrraedd y trwyn.

Gall taflod hollt fod yn agoriad bach yng nghefn y geg, neu gall fod yn hollt yn y daflod sy'n mynd yr holl ffordd i flaen y geg.

Weithiau, mae leinin y daflod yn gallu ei guddio. 

Mae gan y Cleft Lip and Palate Association oriel luniau gyda lluniau o wefusau a thaflodau hollt cyn ac ar ôl llawdriniaeth.

Problemau'n gysylltiedig â gwefus a thaflod hollt 

Weithiau, gall gwefusau hollt a thaflodau hollt achosi nifer o broblemau, yn enwedig yn ystod y misoedd cyntaf, cyn gwneud llawdriniaeth.

Mae'r problemau sy'n gallu digwydd yn cynnwys:

  • trafferth bwydo - efallai na fydd babanod sydd â thaflod hollt yn gallu bwydo ar y fron na bwydo o botel arferol, gan nad ydynt yn gallu ffurfio sêl dda gyda'u ceg 
  • problemau gyda'r clyw - mae mwy o duedd i rai babanod sydd â gwefus hollt gael heintiau'r glust a bod hylif yn cronni yn eu clustiau (clust ludiog), a all effeithio ar eu clyw 
  • problemau deintyddol - gall gwefus a thaflod hollt olygu nad yw dannedd plentyn yn datblygu'n gywir a gall fod mwy o risg pydredd dannedd iddynt 
  • problemau lleferydd - os nad yw taflod hollt yn cael ei thrwsio, gall arwain at broblemau lleferydd fel lleferydd aneglur neu drwynol ei sŵn pan fydd plentyn yn hŷn

Bydd y rhan fwyaf o'r problemau hyn yn gwella ar ôl llawdriniaeth a thriniaethau fel therapi iaith a lleferydd.

Achosion

Mae gwefus neu daflod hollt yn digwydd pan fydd y strwythurau sy'n ffurfio'r wefus uchaf neu'r daflod yn methu uno pan fydd baban yn datblygu yn y groth.

Yn aml, mae'r union reswm pam nad yw hyn yn digwydd mewn rhai babanod yn aneglur. Mae'n annhebygol iawn iddo ddigwydd o ganlyniad i rywbeth wnaethoch chi neu na wnaethoch chi yn ystod beichiogrwydd.

Mewn ychydig achosion, mae gwefus a thaflod hollt yn gysylltiedig â:

  • y genynnau y mae plant yn eu hetifeddu oddi wrth eu rhieni (er bod y rhan fwyaf o achosion yn rhai unigol)
  • ysmygu yn ystod beichiogrwydd neu yfed alcohol yn ystod beichiogrwydd 
  • gordewdra yn ystod beichiogrwydd 
  • diffyg asid ffolig yn ystod beichiogrwydd
  • cymryd meddyginiaethau penodol yn gynnar yn ystod beichiogrwydd, fel rhai meddyginiaethau gwrth-ffitiau a thabledi steroid

Mewn ambell achos, gall gwefus neu daflod holl ddigwydd fel rhan o gyflwr sy'n achosi amrywiaeth eang o namau geni, fel syndrom dileu 22q11 (sy'n cael ei alw'n syndrom DiGeorge neu'n syndrom y daflod feddal, y galon a'r wyneb) a Dilyniant Pierre Robin.

Diagnosis

Fel arfer, bydd sgan anomaleddau canol beichiogrwydd, sy'n cael ei wneud pan fyddwch rhwng 18 a 21 wythnos yn feichiog, yn darganfod gwefusau hollt. Ni fydd pob gwefus hollt yn amlwg yn ystod y sgan hwn ac mae'n anodd iawn darganfod taflod hollt mewn sgan uwchsain arferol. 

Os na fydd gwefus neu daflod hollt yn ymddangos ar y sgan, bydd yn cael ei weld yn syth fel arfer ar ôl rhoi genedigaeth neu ystod yr archwiliad corfforol o faban newydd-anedig, a wneir o fewn 72 awr o enedigaeth.

Ar ôl gwneud diagnosis o wefus neu daflod hollt, cewch eich atgyfeirio i dîm arbenigol y GIG ar holltau a fydd yn esbonio cyflwr eich plentyn, yn trafod y triniaethau y gall fod eu hangen ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Hefyd, gallai fod yn ddefnyddiol i chi gysylltu â grŵp cymorth, fel y Cleft Lip and Palate Association, a all gynnig cyngor a'ch rhoi mewn cysylltiad â rhieni sydd mewn sefyllfa debyg.

Triniaethau ar gyfer gwefus a thaflod hollt

Mae gwefusau hollt a thaflodau hollt yn cael eu trin mewn canolfannau arbenigol y GIG ar gyfer holltau.

Fel arfer, bydd gan eich plentyn gynllun gofal hirdymor sy'n amlinellu'r triniaethau a'r asesiadau y bydd yn debygol o fod eu hangen wrth dyfu i fyny.

Dyma'r prif driniaethau:

  • llawdriniaeth – bydd llawdriniaeth i gywiro gwefus hollt yn cael ei chynnal tua 3-6 mis oed a bydd llawdriniaeth i atgyweirio taflod hollt yn cael ei gwneud tua 6-12 mis oed 
  • cymorth bwydo – gall fod angen cyngor arnoch am osod eich baban ar eich bron i'w helpu i fwydo, neu gall fod angen i chi fwydo'ch baban gan ddefnyddio potel wedi'i dylunio'n arbennig 
  • monitro'r clyw – mae mwy o siawns gan fabanod a aned gyda thaflodau hollt gael clust ludiog, a all effeithio ar y clyw; mae monitro'u clyw yn fanwl yn bwysig ac, os bydd clust ludiog yn effeithio'n sylweddol ar eu clyw, gall teclyn cymorth clyw gael ei osod neu gall tiwbiau bach o'r enw gromedau gael eu gosod yn eu clustiau i ddraenio'r hylif
  • therapi iaith a lleferydd – os yw eich baban yn cael ei eni gyda hollt yn effeithio ar ei daflod (taflod hollt neu wefus a thaflod hollt), bydd therapydd iaith a lleferydd yn monitro datblygiad iaith a lleferydd eich plentyn trwy gydol ei blentyndod; bydd yn helpu gydag unrhyw broblemau iaith a lleferydd fel bo'r angen 
  • hylendid deintyddol da a thriniaeth orthodontig – cewch gyngor ar ofalu am ddannedd eich plentyn, a gall fod angen sythwyr os nad yw ei ddannedd oedolyn yn dod trwodd yn gywir

outlook

Mae mwyafrif y plant sy'n cael triniaeth ar gyfer gwefus neu daflod hollt yn tyfu i fyny i gael bywyd hollol normal.

Ni fydd y rhan fwyaf o blant sydd wedi'u heffeithio yn cael unrhyw broblemau meddygol difrifol eraill ac, fel arfer, gall triniaeth wella golwg yr wyneb a datrys pethau fel problemau bwydo a lleferydd.

Gall llawdriniaeth i atgyweirio'r hollt adael craith fach binc uwchlaw'r gwefusau. Bydd hyn yn pylu gydag amser ac yn mynd yn llai amlwg wrth i'ch plentyn fynd yn hŷn.

Gall rhai oedolion sydd wedi cael triniaeth atgyweirio gwefus neu daflod hollt fod yn hunanymwybodol neu'n anhapus â'u golwg. Gall eich meddyg teulu eich atgyfeirio'n ôl i ganolfan holltau y GIG am driniaeth a chymorth pellach os oes unrhyw broblemau'n parhau.

A fydd gwefus a thaflod hollt yn digwydd eto?

Mae'r rhan fwyaf o wefusau a thaflodau hollt yn ddigwyddiadau unigol ac mae'n annhebygol y cewch blentyn arall â'r cyflwr.

Mae risg cael plentyn â gwefus a thaflod hollt ychydig yn uwch os ydych chi wedi cael plentyn gyda'r cyflwr o'r blaen, ond credir mai tua 2-8% yw'r siawns y bydd hyn yn digwydd eto.

Os cawsoch chi neu eich partner eich geni gyda hollt, mae eich siawns o gael baban gyda hollt tua 2-8% hefyd. Ni fydd y rhan fwyaf o blant sydd â rhiant â hollt yn cael eu geni gyda hollt.

Gall y siawns y bydd plentyn arall yn cael ei eni gyda hollt neu y bydd rhiant yn trosglwyddo'r cyflwr i'w plentyn fod yn uwch mewn achosion sy'n gysylltiedig â chyflyrau genetig. 

Er enghraifft mae 50% o siawns y bydd rhiant â syndrom dileu 22q11 (syndrom DiGeorge) yn trosglwyddo'r cyflwr i'w plentyn.

Gwybodaeth am eich plentyn 

Os oes gan eich plentyn wefus neu daflod hollt, bydd eich tîm clinigol yn trosglwyddo gwybodaeth amdano neu amdani i'r Gwasanaeth Cofrestru Anomaleddau Cynhenid a Chlefydau Prin Cenedlaethol (NCARDRS).

Mae hwn yn helpu gwyddonwyr i chwilio am ffyrdd gwell o atal a thrin y cyflwr hwn. Gallwch optio allan o'r gofrestr unrhyw bryd.

Triniaeth

Gall fod angen nifer o driniaethau ac asesiadau ar blant sydd â gwefus neu daflod hollt wrth iddynt dyfu i fyny. 

Caiff yr hollt ei thrin gyda llawdriniaeth fel arfer. Gall fod angen triniaethau eraill, fel therapi lleferydd neu ofal deintyddol, ar gyfer symptomau cysylltiedig.

Bydd tîm hollt amlddisgyblaethol arbenigol yn gofalu am eich plentyn mewn canolfan holltau'r GIG.

Cynllun gofal eich plentyn 

Bydd plant â holltau'n cael cynllun gofal wedi'i addasu i'w hanghenion unigol. Dyma amserlen nodweddiadol cynllun gofal ar gyfer gwefus a thaflod hollt:

  • genedigaeth i chwe wythnos - cymorth â bwyta, cymorth i rieni, profion clyw ac asesiad pediatrig
  • 3-6 mis - llawdriniaeth i atgyweirio gwefus hollt
  • 6-12 mis - llawdriniaeth i atgyweirio taflod hollt
  • 18 mis - asesiad lleferydd 
  • tair blynedd - asesiad lleferydd
  • pum mlynedd - asesiad lleferydd
  • 8-12 mlynedd - impiad asgwrn i daflod yn ardal y deintgig
  • 12-15 mlynedd - triniaeth orthodontig a monitro twf y safn

Hefyd, bydd angen i'ch plentyn fynychu apwyntiadau rheolaidd fel claf allanol yn y clinig holltau er mwyn monitro ei c(h)yflwr yn ofalus a mynd i'r afael ag unrhyw broblemau.

Argymhellir y rhain hyd nes bydd tuag 21 oed fel arfer, pan fydd yn debygol o fod wedi rhoi'r gorau i dyfu.

Llawdriniaeth

Llawdriniaeth atgyweirio'r wefus

Mae llawdriniaeth atgyweirio'r wefus yn cael ei chynnal fel arfer pan fydd y plentyn tua thri mis oed.

Bydd eich plentyn yn cael anesthetig cyffredinol (bydd yn cysgu) a bydd y wefus hollt yn cael ei hatgyweirio'n ofalus a'i chau gyda phwythau.

Bydd y llawdriniaeth yn cymryd awr i ddwy awr, fel arfer.

Bydd y rhan fwyaf o blant yn yr ysbyty am ddiwrnod neu ddau. Gellir gwneud trefniadau i chi aros gyda nhw yn ystod y cyfnod hwn.

Bydd y pwythau'n cael eu tynnu ymhen ychydig ddiwrnodau neu gallant doddi ar eu pen eu hunain, yn dibynnu ar y math o bwyth a ddefnyddiwyd.

Bydd ychydig o graith gan eich plentyn, ond bydd y llawfeddyg yn ceisio unioni'r graith â llinellau naturiol y wefus fel ei bod yn llai amlwg. Dylai bylu a mynd yn llai amlwg gydag amser.

Llawdriniaeth atgyweirio'r daflod

Mae llawdriniaeth atgyweirio'r daflod fel arfer yn cael ei chynnal pan fydd eich plentyn yn 6-12 mis oed.

Bydd y bwlch yn nhaflod y geg yn cael ei gau a bydd cyhyrau a leinin y daflod yn cael eu had-drefnu. Bydd y clwyf yn cael ei gau gyda phwythau tawdd.

Bydd y llawdriniaeth yn cymryd tua dwy awr fel arfer ac yn cael ei gwneud o dan anesthetig cyffredinol. Mae'r rhan fwyaf o blant yn yr ysbyty am ddiwrnod i dridiau ac, eto, gall trefniadau gael eu gwneud i chi aros gyda'ch plentyn.

Bydd y graith o atgyweirio'r daflod y tu mewn i'r geg. 

Llawdriniaeth ychwanegol

Mewn rhai achosion, gallai llawdriniaeth ychwanegol gael ei chynnal yn nes ymlaen i:

  • atgyweirio hollt yn y deintgig gan ddefnyddio darn o asgwrn (impiad asgwrn) – gwneir hyn tua 8-12 oed 
  • gwella golwg a gweithrediad y gwefusau a'r daflod – gall fod angen hyn os nad yw'r llawdriniaeth wreiddiol yn gwella'n dda neu os oes unrhyw broblemau â'r lleferydd yn parhau 
  • gwella siâp y trwyn (rhinoplasti)
  • gwella golwg y safn – gall safn is rhai plant sy'n cael eu geni  gyda gwefus neu daflod hollt fod yn fach neu wedi'i osod yn ôl

Help a chyngor ar gyfer bwydo

Mae llawer o fabanod sydd â thaflod hollt yn cael problemau wrth fwydo ar y fron oherwydd y bwlch yn nho eu ceg.

Gallant gael trafferth ffurfio sêl gyda'u ceg – felly gallant lyncu llawer o aer a gall llaeth ddod allan o'u trwyn. Hefyd, gallant gael trafferth magu pwysau yn ystod yr ychydig fisoedd cyntaf.

Gall nyrs sy'n arbenigo ar holltau roi cyngor ar safle, dulliau bwydo eraill a diddyfnu, os bydd angen. 

Os nad yw bwydo ar y fron yn bosibl, gallant awgrymu tynnu llaeth o'ch bron i botel hyblyg wedi'i dylunio'n arbennig i fabanod sydd â thaflod hollt. 

Yn achlysurol iawn, gall fod angen bwydo'ch baban trwy diwb wedi'i osod yn ei drwyn hyd nes cynnal y llawdriniaeth.

Trin problemau'r clyw

Mae plant â thaflod hollt yn fwy tebygol o ddatblygu cyflwr o'r enw clust ludiog, pan fydd hylif yn cronni yn y glust.

Mae hyn oherwydd bod y cyhyrau yn y daflod wedi'u cysylltu â'r glust ganol. Os nad yw'r cyhyrau'n gweithio'n gywir oherwydd yr hollt, gall secretiadau gludiog gronni yn y glust ganol a lleihau clyw.

Bydd eich plentyn yn cael profion clyw rheolaidd i archwilio am broblemau.

Gall problemau'r clyw wella ar ôl atgyweirio taflod hollt ac, os bydd angen, gallant gael eu trin trwy osod tiwbiau plastig bach iawn o'r enw gromedau i ddrwm y glust. Mae'r rhain yn caniatáu i'r hylif ddraenio o'r glust. Weithiau, gellir argymell cymhorthion clyw, hefyd.

Gofal deintyddol

Os bydd hollt yn gysylltiedig ag ardal y deintgig, mae'n gyffredin i ddannedd i'r naill o'ch a'r llall o'r hollt fod ar dro neu ddim yn y safle cywir. Yn aml, gall dant fod ar goll neu gall fod dant ychwanegol.

Bydd deintydd pediatrig yn monitro iechyd dannedd eich plentyn ac yn argymell triniaeth, pan fo angen.

Efallai hefyd y bydd angen triniaeth orthodonteg, sy'n helpu i wella aliniad a golwg dannedd. Gall hyn gynnwys defnyddio sythwyr neu declynnau deintyddol eraill i helpu sythu'r dannedd.

Bydd triniaeth sythwr yn dechrau fel arfer ar ôl colli'r holl ddannedd cyntaf, ond gall fod angen cyn impio'r asgwrn i atgyweirio hollt y deintgig. 

Gan fod dannedd plant â hollt yn fwy tebygol o bydru, mae'n bwysig eu hannog nhw i lanhau eu dannedd yn dda a mynd i weld eu deintydd yn rheolaidd.

Therapi iaith a lleferydd

Bydd atgyweirio taflod hollt yn lleihau'r posibilrwydd o broblemau lleferydd yn y dyfodol yn sylweddol ond, mewn ambell achos, bydd angen rhyw fath o therapi lleferydd o hyd ar blant sydd â thaflod hollt wedi'i hatgyweirio. 

Bydd therapydd iaith a lleferydd yn cynnal nifer o asesiadau o leferydd eich plentyn wrth iddo fynd yn hŷn.

Os bydd unrhyw broblemau, gall argymell asesiad pellach o'r ffordd y mae'r daflod yn gweithio a/neu weithio gyda chi i helpu'ch plentyn i ddatblygu lleferydd clir. Gall eich cyfeirio chi at wasanaethau therapi iaith a lleferydd cymunedol yn nes at eich cartref. 

Bydd y therapydd iaith a lleferydd yn parhau i fonitro lleferydd eich plentyn hyd nes bydd yn oedolyn a bydd yn gweithio gyda'ch plentyn am ba hyd bynnag y bydd angen cymorth arno.

Weithiau, gall fod angen llawdriniaeth gywirol bellach ar nifer fach o blant sydd â mwy o aer yn llifo trwy eu trwyn wrth siarad, gan arwain at leferydd trwynol ei sain.

Safleoedd yn y DU sy'n arbenigo ar wefus a thaflod hollt

Lloegr

  • Royal Victoria Infirmary, Newcastle-upon-Tyne
  • Leeds General Infirmary
  • Royal Manchester Children's Hospital
  • Alder Hey Children's Hospital, Lerpwl
  • Nottingham Children's Hospital
  • Birmingham Children's Hospital
  • Addenbrooke's Hospital, Caergrawnt
  • Great Ormond Street Hospital, Llundain
  • Broomfield Hospital, Chelmsford
  • John Radcliffe Hospital, Rhydychen
  • Salisbury District Hospital
  • Bristol Royal Hospital for Children
  • Guy's and St Thomas' Hospital, Llundain

Cymru

Yr Alban

  • Royal Hospital for Sick Children, Caeredin
  • Royal Hospital for Sick Children, Glasgow

Gogledd Iwerddon

  • Children's Hospital, Belffast


Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 19/03/2024 11:34:17