Annwyd, cyffredin

Cyflwyniad

Cold, common
Cold, common

Yn aml, gallwch drin annwyd heb weld eich meddyg teulu. Dylech ddechrau teimlo'n well ymhen wythnos neu ddwy.

Gwiriwch i weld a oes annwyd arnoch chi

Mae symptomau annwyd yn datblygu'n raddol a gallant gynnwys:

  • trwyn llawn neu drwyn sy'n rhedeg
  • gwddf tost/dolur gwddf
  • pen tost/cur pen
  • poenau yn eich cyhyrau
  • peswch
  • tisian
  • tymheredd uwch
  • pwysedd yn eich clustiau a'ch wyneb
  • colli'r gallu i flasu ac arogli

Mae’r symptomau'r un fath mewn oedolion a phlant. Weithiau, mae'r symptomau'n para'n hirach mewn plant.

Adnabod y gwahaniaeth rhwng annwyd a’r ffliw

Mae symptomau annwyd a’r ffliw yn debyg, ond mae’r ffliw yn tueddu i fod yn fwy difrifol.

Annwyd

  • Mae'n ymddangos yn raddol
  • Mae'n effeithio ar eich trwyn a'ch gwddf, yn bennaf
  • Mae'n gwneud i chi deimlo'n anhwylus ond gallwch barhau i weithredu yn unol â’r arfer (er enghraifft, mynd i'r gwaith)

Ffliw

  • Mae'n ymddangos yn gyflym o fewn ychydig oriau
  • Mae'n effeithio ar fwy na'ch trwyn a'ch gwddf yn unig
  • Mae'n gwneud i chi deimlo'n flinedig iawn ac yn rhy anhwylus i barhau i weithredu yn unol â’r arfer

Sut gallwch chi drin annwyd eich hun

I'ch helpu i wella'n gyflymach, dylech:

  • orffwys a chysgu
  • yfed digon o ddŵr (mae sudd ffrwythau neu ddiod ffrwythau wedi'i chymysgu â dŵr yn iawn) i osgoi dadhydradu
  • garglo dŵr hallt i leddfu gwddf tost / dolur gwddf (nid yw’n addas ar gyfer plant)

Os oes gennych chi dymheredd uchel neu os nad ydych yn teimlo'n ddigon da i wneud eich gweithgareddau arferol, ceisiwch aros gartref ac osgoi cyswllt â phobl eraill hyd nes eich bod chi'n teimlo'n well.

Gall fferyllydd helpu â meddyginiaethau annwyd

Gallwch brynu meddyginiaethau peswch ac annwyd mewn fferyllfeydd neu archfarchnadoedd. Gall fferyllydd eich cynghori ar y feddyginiaeth orau.

Gallwch:

  • leddfu trwyn llawn â chwistrellau neu dabledi llacio
  • lleddfu poenau neu ostwng tymheredd â chyffuriau lleddfu poen fel
  • parasetamol neu ibuprofen

Ni ddylai cyffuriau llacio gael eu rhoi i blant o dan 6 oed. Ni ddylai plant rhwng 6 ac 12 oed eu cymryd am fwy na 5 diwrnod.

Peidiwch â defnyddio meddyginiaethau annwyd a pheswch os ydych chi'n cymryd tabledi parasetamol ac ibuprofen, gan ei bod yn rhwydd cymryd mwy na'r dos a argymhellir.

Nid yw rhai o'r rhain yn addas i blant, babanod a menywod beichiog.

Nid oes llawer o dystiolaeth fod ychwanegion (fel fitamin c, echinacea neu arlleg) yn atal annwyd neu'n eich helpu i wella'n gynt.

Dewch o hyd i fferyllfa yma.

Ffoniwch fferyllfa neu gysylltu â nhw ar-lein cyn mynd yno wyneb yn wyneb. Gallwch chi gael meddyginiaethau wedi’u danfon neu ofyn i rywun eu casglu ar eich rhan.

Ewch i weld meddyg teulu:

  • os nad yw'ch symptomau'n gwella ar ôl 3 wythnos
  • os yw'ch symptomau'n gwaethygu'n sydyn
  • os yw'ch tymheredd yn uchel iawn neu os ydych yn teimlo'n boeth ac yn rhynllyd
  • os ydych yn pryderu am symptomau eich plentyn
  • os ydych chi'n ei chael hi'n anodd anadlu neu'n datblygu poen yn y frest
  • os oes gennych gyflwr meddygol tymor hir - er enghraifft, diabetes, neu gyflwr ar y galon, yr ysgyfaint neu'r arennau
  • os oes gennych system imiwnedd wannach - er enghraifft, oherwydd eich bod yn cael cemotherapi

Gwrthfiotigau

Nid yw meddygon teulu'n argymell gwrthfiotigau ar gyfer annwyd oherwydd ni fyddant yn lleddfu'ch symptomau nac yn eich helpu i wella'n gynt.

Mae gwrthfiotigau'n effeithiol yn erbyn heintiau bacterol yn unig, ac mae annwyd yn cael ei achosi gan feirysau.

Sut i osgoi lledaenu annwyd

Mae annwyd yn cael ei achosi gan feirysau ac mae'n lledaenu'n rhwydd i bobl eraill. Rydych yn heintus hyd nes y bydd eich holl symptomau wedi mynd. Mae hyn fel arfer yn cymryd wythnos neu ddwy.

Mae annwyd yn cael ei ledaenu gan germau o besychu a thisian sy'n gallu byw ar ddwylo ac arwynebau am 24 awr.

I leihau perygl lledaenu annwyd:

  • golchwch eich dwylo'n aml â dŵr cynnes a sebon
  • defnyddiwch hancesi papur i ddal germau pan fyddwch yn pesychu neu'n tisian
  • rhowch hancesi papur wedi'u defnyddio yn y bin cyn gynted â phosibl

Sut i osgoi dal annwyd

Gall rhywun sydd ag annwyd ddechrau ei ledaenu o ychydig ddiwrnodau cyn i'w symptomau ddechrau hyd nes bydd y symptomau wedi mynd.

Dyma'r ffyrdd gorau o osgoi dal annwyd:

  • golchi eich dwylo â dŵr cynnes a sebon
  • peidio â rhannu tywelion neu eitemau cartref (fel cwpanau) â rhywun sydd ag annwyd
  • peidio â chyffwrdd â'ch llygaid neu'ch trwyn rhag ofn eich bod wedi dod i gysylltiad â'r feirws - gall heintio'r corff fel hyn
  • aros yn ffit ac yn iach

Mae'r brechlyn ffliw yn helpu i atal y ffliw ond nid annwyd.

 



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 04/09/2023 11:28:10