Pesychu

Cyflwyniad

Bydd peswch fel arfer yn gwella ar ei ben ei hun o fewn 3 i 4 wythnos.

Sut gallwch chi drin peswch eich hun

Does dim angen mynd i weld meddyg teulu, fel arfer.

Dylech chi:

  • orffwys
  • yfed digonedd o hylif
  • ceisio aros adref ac osgoi cyswllt â phobl eraill os oes gennych chi dymheredd uchel neu nid ydych yn teimlo’n ddigon da i wneud eich gweithgareddau arferol

Gallech chi hefyd geisio cymryd:

  • parasetamol neu ibuprofen i drin unrhyw boen
  • diod boeth lemon a mêl (ddim yn addas ar gyfer babanod o dan 1 oed)
  • meddyginiaeth lysieuol o’r enw mynawyd y bugail (pelargonium) (yn addas ar gyfer pobl sy’n 12 oed neu’n hŷn)

Ond mae tystiolaeth gyfyngedig i ddangos bod y rhain yn gweithio. Mae diod boeth lemon a mêl yn cael effaith debyg i feddyginiaeth peswch.

Sut i wneud diod boeth lemon a mêl

  1. Gwasgwch hanner lemon mewn mwg o ddŵr wedi berwi.
  2. Ychwanegwch 1 i 2 lwy de o fêl.
  3. Yfwch tra bydd yn gynnes (peidiwch â rhoi diodydd poeth i blant bach).

Gall fferyllydd helpu os oes gennych chi beswch

Os oes gennych chi beswch, gallwch ofyn i fferyllydd am y canlynol:

  • surop peswch
  • moddion peswch (ni ddylid rhoi rhai moddion peswch i blant o dan 12 oed)
  • melysion peswch

Ni fydd y rhain yn stopio’ch peswch, ond byddant yn eich helpu i besychu llai.

Ni fydd moddion llacio a moddion peswch sy’n cynnwys codin yn stopio’ch peswch.

Dewch o hyd i fferyllfa

Ewch i weld meddyg teulu:

  • os ydych chi wedi cael peswch am fwy na 3 wythnos (peswch parhaus)
  • os yw eich peswch yn wael iawn neu’n gwaethygu’n gyflym – er enghraifft, mae gennych chi beswch cras neu dydych chi ddim yn gallu stopio pesychu
  • os ydych chi’n teimlo’n wael iawn
  • os oes gennych chi boen yn y frest
  • os ydych chi’n colli pwysau heb ddim rheswm
  • os yw ochr eich gwddf yn teimlo wedi chwyddo ac yn boenus (chwarennau wedi chwyddo)
  • os ydych chi’n ei chael yn anodd anadlu
  • os oes gennych chi system imiwnedd wan – er enghraifft, oherwydd cemotherapi neu diabetes

Ewch i weld meddyg teulu ar unwaith os ydych chi’n pesychu gwaed.

I ddarganfod beth sy’n achosi eich peswch, efallai bydd eich meddyg teulu:

  • yn cymryd sampl o unrhyw fwcws rydych efallai’n ei godi wrth besychu
  • yn trefnu pelydr-X, prawf alergedd, neu brawf i weld pa mor dda mae eich ysgyfaint yn gweithio
  • yn eich cyfeirio i ysbyty i weld arbenigwr, ond anaml y bydd hyn yn digwydd

Pwysig

Fel arfer, nid yw gwrthfiotigau yn cael eu rhoi ar bresgripsiwn ar gyfer peswch. Bydd meddyg teulu ond yn eu rhoi ar bresgripsiwn os oes eu hangen arnoch chi – er enghraifft, os oes gennych chi haint bacterol neu’ch bod mewn perygl o gymhlethdodau.

Beth sy’n achosi peswch

Caiff y rhan fwyaf o achosion o beswch eu hachosi gan annwyd neu’r ffliw.

Mae achosion eraill yn cynnwys:

  • ysmygu
  • dŵr poeth / llosg cylla (adlifiad asid)
  • alergeddau – er enghraifft, clefyd y gwair
  • heintiau fel broncitis
  • mwcws yn diferu i lawr y gwddf o gefn y trwyn

Anaml iawn y mae peswch yn arwydd o rywbeth difrifol fel canser yr ysgyfaint.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 30/10/2024 08:49:50