Iselder

Help a cymorth

Cyflwyniad

Mae iselder yn fwy na dim ond teimlo’n anhapus neu wedi cael llond bol am ychydig ddyddiau.

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael cyfnodau o deimlo'n isel, ond pan fydd iselder arnoch, byddwch yn teimlo'n drist yn gyson am wythnosau neu fisoedd yn hytrach nag am ychydig ddyddiau yn unig.

Mae rhai pobl yn meddwl mai rhywbeth pitw yw iselder o hyd ac nad yw’n gyflwr iechyd go iawn. Maen nhw'n anghywir. Mae iselder yn salwch go iawn a chanddo symptomau go iawn, ac nid yw’n arwydd o wendid neu rywbeth gallwch chi "ddod ohono" trwy "ddod atoch chi'ch hun".

Y newyddion da yw, gyda'r driniaeth a’r gefnogaeth gywir, gall y rhan fwyaf o bobl wella’n llwyr.

Sut ydych chi’n gwybod a oes iselder arnoch?

Mae iselder yn effeithio ar bobl mewn ffyrdd gwahanol ac fe all achosi amrywiaeth eang o symptomau.

Maen nhw'n amrywio o deimladau hirhoedlog o dristwch ac anobaith i golli diddordeb mewn pethau yr oeddech yn arfer eu mwynhau a theimlo’n ddagreuol iawn. Mae ar lawer o bobl ag iselder symptomau gorbryder hefyd.

Gall fod symptomau corfforol hefyd, fel teimlo’n flinedig yn gyson, cysgu'n wael, colli archwaeth at fwyd neu ryw, a chwyno am boenau amrywiol.

Mae symptomau iselder yn amrywio o'r ysgafn i'r difrifol. Ar ei ysgafnaf, efallai y byddwch yn teimlo’n isel eich ysbryd o hyd yn unig, ond ar ei waethaf gall iselder wneud i chi deimlo fel lladd eich hun ac nad yw bywyd yn werth ei fyw mwyach.

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn profi teimladau o straen, tristwch neu hwyliau isel yn ystod cyfnodau anodd. Gallai hwyliau isel wella ar ôl amser byr, yn hytrach na bod yn arwydd o iselder.

Pryd i weld meddyg

Mae’n bwysig eich bod yn ceisio cymorth gan eich meddyg teulu os ydych yn credu bod iselder arnoch.

Mae llawer o bobl yn aros am amser hir cyn ceisio cymorth ar gyfer iselder, ond mae’n well peidio ag oedi. Po gyntaf y gwelwch y meddyg, po gyntaf y byddwch yn dechrau gwella.

Beth sy'n achosi iselder?

Weithiau, bydd sbardun i’r iselder. Gall digwyddiadau sy'n newid bywyd, fel profedigaeth, colli swydd neu eni baban, ei sbarduno.

Hefyd, mae pobl sydd â hanes iselder yn y teulu yn fwy tebygol o'i brofi eu hunain. Fodd bynnag, gallwch ddioddef iselder heb unrhyw reswm amlwg hefyd.

Trin iselder

Gall triniaeth ar gyfer iselder gynnwys cyfuniad o newidiadau ffordd o fyw, therapïau siarad a meddyginiaeth. Bydd y math o driniaeth a argymhellir i chi yn dibynnu ar b'un a oes iselder ysgafn, cymedrol neu ddifrifol arnoch chi.

Os oes iselder ysgafn arnoch, gallai eich meddyg awgrymu aros i weld p'un a fydd yn gwella ar ei ben ei hun, gan fonitro eich cynnydd. Gelwir hyn yn "aros gwyliadwrus". Gallai hefyd awgrymu newidiadau ffordd o fyw fel ymarfer corff a grwpiau hunangymorth.

Yn aml, mae therapïau siarad, fel therapi ymddygiad gwybyddol (CBT), yn cael eu defnyddio i drin iselder ysgafn nad yw'n gwella neu iselder cymedrol. Caiff gwrth-iselyddion eu rhoi ar bresgripsiwn weithiau hefyd.

Ar gyfer iselder cymedrol i ddifrifol, argymhellir cyfuniad o therapi siarad a gwrth-iselyddion yn aml. Os yw'ch iselder yn ddifrifol, efallai y cewch eich atgyfeirio i dîm iechyd meddwl arbenigol i gael triniaethau siarad arbenigol dwys a meddyginiaeth ar bresgripsiwn.

Byw gydag iselder

Mae llawer o bobl sydd ag iselder yn elwa o wneud newidiadau i'w ffordd o fyw, fel gwneud mwy o ymarfer corff, yfed llai o alcohol, rhoi’r gorau i ysmygu a bwyta’n iachach.

Mae darllen llyfr hunangymorth neu ymuno â grwp cymorth yn fuddiol hefyd. Gallant eich helpu i ddeall beth sy'n achosi i chi deimlo'n isel. Gall rhannu eich profiadau â phobl eraill sydd mewn sefyllfa debyg fod yn gefnogol iawn hefyd.

Darllenwch fwy am y newidiadau y gallwch eu gwneud i'ch ffordd o fyw i'ch helpu i guro iselder.

Symptomau

Mae symptomau iselder yn gallu bod yn gymhleth ac yn amrywio’n fawr o un unigolyn i’r llall. Os byddwch yn dioddef iselder, byddwch yn teimlo’n drist, yn ddiobaith ac yn colli diddordeb yn y pethau yr oeddech yn arfer eu mwynhau.

Bydd y symptomau’n parhau am wythnosau neu fisoedd a byddant yn ddigon gwael i amharu ar eich gwaith, eich bywyd cymdeithasol a’ch bywyd teuluol.

Mae gan iselder lawer o symptomau eraill ac rydych yn annhebygol o ddioddef pob un o’r rhai sydd wedi’u rhestru isod.

Symptomau seicolegol

Mae symptomau seicolegol iselder yn cynnwys: 

  • hwyl isel neu dristwch parhaus
  • teimlo’n ddiobaith ac yn ddiymadferth 
  • diffyg hunan-barch
  • teimlo’n ddagreuol
  • teimlo’n euog
  • teimlo’n groendenau ac yn anoddefgar tuag at bobl eraill 
  • diffyg cymhelliant neu ddiddordeb mewn pethau
  • ei chael hi'n anodd gwneud penderfyniadau
  • peidio â mwynhau bywyd 
  • teimlo'n bryderus neu’n ofidus 
  • meddwl am ladd eich hun neu niweidio eich hun

Symptomau corfforol

Mae symptomau corfforol iselder yn cynnwys:

  • symud neu siarad yn arafach na'r arfer
  • newid mewn archwaeth bwyd neu bwysau (gostyngiad, fel arfer, ond weithiau ceir cynnydd)
  • rhwymedd
  • dioddef poenau anesboniadwy
  • diffyg egni
  • diffyg diddordeb mewn rhyw (colli libido)
  • newidiadau yng nghylchred y mislif
  • patrymau cysgu afreolaidd - er enghraifft, cael trafferth mynd i gysgu gyda'r nos neu ddeffro yn oriau mân y bore

Symptomau cymdeithasol

Mae symptomau cymdeithasol iselder yn cynnwys:

  • osgoi dod i gysylltiad â ffrindiau a chymryd rhan mewn llai o weithgareddau cymdeithasol
  • esgeuluso eich hobïau a'ch diddordebau
  • anawsterau yn eich bywyd cartref a'ch bywyd teuluol

Graddau difrifoldeb iselder

Yn aml, gall iselder ddod ymlaen yn raddol, ac felly gall fod yn anodd sylwi bod rhywbeth o’i le. Mae llawer o bobl yn ceisio ymdopi â’u symptomau heb ddeall bod salwch arnynt. Weithiau, gall gymryd ffrind neu aelod o’r teulu i awgrymu bod rhywbeth o’i le.

Mae meddygon yn disgrifio iselder yn ôl pa mor ddifrifol ydyw:

  • iselder ysgafn - mae'n effeithio rhywfaint ar eich bywyd pob dydd
  • iselder cymedrol - mae'n effeithio'n sylweddol ar eich bywyd pob dydd
  • iselder difrifol - mae'n ei gwneud bron yn amhosibl i chi fyw bywyd pob dydd; gallai ychydig o bobl sydd ag iselder difrifol ddioddef symptomau seicotig.

Galar ac iselder

Gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng galar ac iselder. Maen nhw'n rhannu llawer o’r un nodweddion, ond mae gwahaniaethau pwysig rhyngddynt.

Mae galar yn ymateb cwbl naturiol i golled, tra bod iselder yn salwch.

Mae pobl sy’n galaru yn gweld bod teimladau o golled a thristwch yn mynd a dod, ond maen nhw'n dal i allu mwynhau pethau ac edrych ymlaen at y dyfodol.

I’r gwrthwyneb, mae pobl sy’n dioddef iselder yn teimlo'n drist drwy'r amser. Maen nhw'n ei chael yn anodd mwynhau unrhyw beth neu fod yn gadarnhaol am y dyfodol.

Darllenwch fwy am ymdopi â galar a phrofedigaeth.

Mathau eraill o iselder

Mae gwahanol fathau o iselder, a rhai cyflyrau y gall iselder fod yn un o’u symptomau. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • iselder ôl-enedigol - weithiau, bydd mamau, tadau neu bartneriaid newydd yn datblygu iselder ar ôl cael baban; gelwir hyn yn iselder ôl-enedigol ac mae'n cael ei drin mewn ffordd debyg i fathau eraill o iselder, gyda therapïau siarad a meddyginiaethau gwrthiselder.
  • anhwylder deubegwn - mae hefyd yn cael ei alw’n “iselder manig”. Bydd anhwylder deubegwn yn achosi cyfnodau o iselder a hefyd cyfnodau o deimlo’n orawyddus (mania). Mae'r symptomau iselder yn debyg i iselder clinigol, ond gall y cyfnodau o fania gynnwys ymddygiad niweidiol fel gamblo, mynd ar sbri gwario a chael rhyw anniogel.
  • anhwylder affeithiol tymhorol (SAD) - gelwir hefyd yn 'iselder y gaeaf'; mae SAD yn fath o iselder sydd â phatrwm tymhorol iddo yn ymwneud â'r gaeaf, fel arfer

Pryd i geisio cymorth

Ewch i weld meddyg teulu os byddwch chi'n profi symptomau iselder am y rhan fwyaf o'r dydd, bob dydd, am fwy na phythefnos.

Gall hwyliau isel wella ar ôl cyfnod byr.

 

Achosion

Nid oes un peth neilltuol yn achosi iselder. Gall ddigwydd am resymau amrywiol ac mae ganddo lawer o sbardunau gwahanol.

I rai pobl, gall digwyddiadau bywyd gofidus neu ddirdynnol, fel profedigaeth, ysgaru, salwch, colli swydd a phryderon yn ymwneud ag arian neu waith, ei achosi.

Yn aml, gall achosion gwahanol gyfuno i sbarduno iselder. Er enghraifft, gallech deimlo’n isel ar ôl bod yn sâl ac yna dioddef digwyddiad trawmatig, fel profedigaeth, sydd wedyn yn arwain at iselder.

Bydd pobl yn siarad yn aml am “gylch tuag i lawr” o ddigwyddiadau sy’n arwain at iselder. Er enghraifft, os bydd eich perthynas â’ch partner yn chwalu, rydych yn debygol o deimlo’n isel, felly rydych yn rhoi’r gorau i weld ffrindiau a theulu, a gallech ddechrau yfed mwy. Gall hyn i gyd wneud i chi deimlo’n waeth a sbarduno iselder.

Mae rhai astudiaethau hefyd wedi awgrymu eich bod yn fwy tebygol o ddioddef iselder wrth i chi fynd yn hŷn, a’i fod yn fwy cyffredin ymhlith pobl sy’n wynebu amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd anodd.

Digwyddiadau sy'n achosi straen

Mae’n cymryd amser i’r rhan fwyaf o bobl ddygymod â digwyddiadau dirdynnol, fel profedigaeth neu berthynas yn chwalu. Pan fydd straen fel hyn yn digwydd, mae mwy o risg y byddwch yn dioddef iselder os byddwch yn rhoi’r gorau i weld ffrindiau a theulu, a cheisio delio â’ch problemau ar eich pen eich hun.

Personoliaeth

Gallech fod yn fwy agored i iselder os oes gennych rai nodweddion personoliaeth penodol, fel diffyg hunan-barch neu fod yn or-feirniadol ohonoch chi’ch hun. Mae’n bosibl mai’r genynnau rydych wedi’u hetifeddu gan eich rhieni sy’n gyfrifol am hyn, eich profiadau cynnar mewn bywyd, neu'r ddau.

Hanes teuluol

Os oes rhywun arall yn eich teulu wedi dioddef iselder yn y gorffennol, fel rhiant neu chwaer neu frawd, mae’n fwy tebygol y byddwch chi’n ei ddatblygu hefyd.

Rhoi genedigaeth

Mae rhai menywod yn arbennig o agored i ddioddef iselder ar ôl beichiogrwydd. Gall y newidiadau hormonaidd a chorfforol, yn ogystal â chyfrifoldeb ychwanegol bywyd newydd, arwain at iselder ôl-enedigol.

Unigrwydd

Gall teimladau o unigrwydd, wedi'u hachosi gan bethau fel colli cysylltiad â’ch ffrindiau a'ch teulu gynyddu’ch risg o ddioddef iselder. 

Alcohol a chyffuriau

Pan fydd bywyd yn anodd, mae rhai pobl yn ceisio ymdopi trwy yfed gormod o alcohol neu gymryd cyffuriau. Gall hyn arwain at gylch o iselder.

Mae canabis yn gallu eich helpu i ymlacio, ond mae tystiolaeth yn dangos ei fod yn gallu achosi iselder, yn enwedig ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau.

Ni ddylech chi yfed i "foddi'ch gofidiau" chwaith. Mae alcohol yn effeithio ar gemeg yr ymennydd, sy'n cynyddu risg iselder.

Salwch

Gallech fod mewn mwy o berygl o ddioddef iselder os oes gennych salwch hirsefydlog neu salwch sy’n bygwth bywyd, fel clefyd coronaidd y galon neu ganser.

Mae anafiadau i’r pen yn gallu achosi iselder hefyd, er nad yw hyn yn cael ei gydnabod yn aml. Gall anaf difrifol i'r pen ysgogi newidiadau o ran hwyliau a phroblemau emosiynol.

Gall rhai pobl fod â thyroid tanweithredol (isthyroidedd) oherwydd problemau a'u system imiwnedd. Mewn achosion mwy prin, gall mân anaf i'r pen niweidio'r chwarren bitwidol, sef chwarren maint pysen wrth waelod yr ymennydd sy'n cynhyrchu hormonau sy'n ysgogi'r thyroid.

Gall hyn achosi nifer o symptomau, fel blinder eithafol a llai o ddiddordeb mewn rhyw (colli libido), sy'n gallu arwain at iselder.

Diagnosis

Os byddwch yn profi symptomau iselder bron trwy’r dydd, bob dydd am fwy na phythefnos, dylech geisio cymorth gan eich meddyg teulu.

Mae’n arbennig o bwysig i chi siarad â’ch meddyg teulu:

  • os bydd gennych symptomau iselder nad ydynt yn gwella
  • os bydd eich hwyliau’n effeithio ar eich gwaith, eich diddordebau eraill a’ch perthynas â’ch teulu a'ch ffrindiau
  • os byddwch yn meddwl am hunanladdiad neu hunan-niwed

Weithiau, pan fyddwch yn teimlo'n isel, gall fod yn anodd credu y gall triniaeth helpu, mewn gwirionedd. Ond po gyntaf yr ewch chi am driniaeth, po gyntaf y bydd eich iselder yn gwella.

Nid oes unrhyw brofion corfforol ar gyfer iselder, ond efallai y bydd eich meddyg teulu yn eich archwilio’n gorfforol ac yn cynnal rhai profion gwaed neu wrin er mwyn diystyru cyflyrau eraill sydd â symptomau tebyg, fel thyroid tanweithredol.

Y brif ffordd y bydd eich meddyg teulu yn dweud wrthych a oes iselder arnoch yw trwy ofyn cwestiynau am eich iechyd yn gyffredinol a sut mae’r ffordd rydych yn teimlo yn effeithio arnoch yn feddyliol ac yn gorfforol.

Ceisiwch fod mor agored a gonest ag y gallwch wrth ateb. Bydd disgrifio eich symptomau a sut maen nhw'n effeithio arnoch o gymorth mawr i’ch meddyg teulu benderfynu a oes iselder arnoch a pha mor ddifrifol ydyw.

Bydd unrhyw drafodaeth a gewch gyda’ch meddyg teulu yn gyfrinachol. Yr unig bryd y bydd y rheol hon yn cael ei thorri yw os oes risg sylweddol o niwed i chi neu bobl eraill, a byddai dweud wrth aelod o’ch teulu neu ofalwr yn lleihau’r risg honno.

Triniaeth

Fel arfer, bydd triniaeth ar gyfer iselder yn cynnwys cyfuniad o hunangymorth, therapïau siarad a meddyginiaethau.

Bydd y math o driniaeth a argymhellir wedi’i seilio ar y math o iselder sydd gennych chi. 

Iselder ysgafn

Os oes iselder ysgafn arnoch chi, gallai'r triniaethau canlynol gael eu hargymell.

Aros i weld 

Os byddwch yn cael diagnosis o iselder ysgafn, efallai y bydd y meddyg teulu yn awgrymu aros am gyfnod byr i weld a fydd eich iselder yn gwella ar ei ben ei hun. Yn yr achos hwn, byddwch yn gweld eich meddyg teulu eto ymhen pythefnos i fonitro eich cynnydd. Yr enw ar hyn yw aros yn wyliadwrus.

Ymarfer corff 

Mae tystiolaeth yn dangos y gall ymarfer corff helpu ag iselder, ac mae'n un o'r prif driniaethau ar gyfer iselder ysgafn.  Efallai y cewch eich cyfeirio i ddosbarth ymarfer corff mewn grŵp.

Hunangymorth 

Gall siarad am eich teimladau fod o gymorth. Gallech siarad â ffrind neu berthynas, neu gallech ofyn i'ch meddyg teulu neu wasanaeth therapïau seicolegol lleol a oes yna unrhyw grwpiau hunangymorth i bobl ag iselder yn eich ardal.

Iselder ysgafn i gymedrol

Os oes iselder ysgafn i gymedrol arnoch chi, ac nid yw'n gwella, neu iselder cymedrol, gallai therapi siarad fod yn fuddiol i chi.

Mae gwahanol fathau o therapïau siarad ar gyfer iselder, gan gynnwys therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) a chwnsela.

Gall eich meddyg teulu eich cyfeirio am driniaeth siarad neu gallwch gyfeirio'ch hun yn syth at wasanaeth therapïau seicolegol.

Iselder cymedrol i ddifrifol

Os oes iselder cymedrol i ddifrifol arnoch chi, gellir argymell y triniaethau canlynol.

Gwrth-iselyddion

Meddyginiaethau sy'n trin symptomau iselder yw gwrth-iselyddion. Mae llawer o wahanol fathau o wrth-iselydd. 

Rhaid iddynt gael eu rhoi ar bresgripsiwn gan feddyg, fel arfer ar gyfer iselder cymedrol neu ddifrifol.

Therapi cyfun

Efallai bydd eich meddyg teulu yn argymell eich bod yn cymryd cwrs o wrth-iselyddion ynghyd â therapi siarad, yn enwedig os yw'ch iselder yn eithaf difrifol. 

Fel arfer, bydd cyfuniad o wrth-iselyddion a therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) yn gweithio’n well na chael un o’r triniaethau hyn yn unig.

Timau iechyd meddwl 

Os bydd iselder difrifol arnoch, efallai y cewch eich cyfeirio at dîm iechyd meddwl sy'n cynnwys seicolegwyr, seiciatryddion, nyrsys arbenigol a therapyddion galwedigaethol.

Yn aml, bydd y timau hyn yn cynnig triniaethau siarad arbenigol dwys yn ogystal â rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn.

Therapïau siarad

Therapi ymddygiad gwybyddol (CBT)

Mae therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) yn ceisio eich helpu i ddeall eich meddyliau a'ch ymddygiad a sut maen nhw'n effeithio arnoch chi.

Mae CBT yn cydnabod y gallai digwyddiadau yn eich gorffennol fod wedi ffurfio eich cymeriad, ond mae'n canolbwyntio'n bennaf ar sut gallwch chi newid eich ffordd o feddwl, teimlo ac ymddwyn yn y presennol.

Mae'n eich addysgu ynglŷn â sut i oresgyn meddyliau negyddol - er enghraifft, bod â'r gallu i herio teimladau o anobaith.

Mae CBT ar gael trwy'r GIG i bobl sydd ag iselder neu gyflwr iechyd meddwl arall y dangoswyd ei fod yn eu helpu.

Os yw CBT yn cael ei argymell, fel arfer, byddwch yn cael sesiwn fer gyda therapydd unwaith yr wythnos, neu unwaith bob pythefnos.

Mae cwrs y driniaeth fel arfer yn para rhwng 5 a 20 sesiwn, a phob sesiwn yn para 30 i 60 munud.

Mewn rhai achosion, efallai y bydd CBT grŵp yn cael ei gynnig i chi.

CBT Ar-lein

Mae CBT ar-lein yn fath o CBT sy'n gweithio trwy gyfrifiadur, yn hytrach nag wyneb yn wyneb â therapydd. 

Byddwch yn cael cyfres o sesiynau wythnosol a dylech gael eich cefnogi gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol. 

Therapi rhyngbersonol (IPT)

Mae therapi rhyngbersonol (IPT) yn canolbwyntio ar eich perthynas â phobl eraill ac ar unrhyw broblemau sydd gennych yn eich perthynas ag eraill, fel anawsterau wrth gyfathrebu neu ymdopi â phrofedigaeth.

Mae rhywfaint o dystiolaeth y gall IPT fod yr un mor effeithiol â gwrth-iselyddion neu CBT, ond mae angen mwy o ymchwil.

Seicotherapi seicodynamig

Mewn seicotherapi seicodynamig (seicoddadansoddol), bydd therapydd seicoddadansoddol yn eich annog i ddweud beth bynnag sy'n mynd trwy eich meddwl.

Bydd hyn yn eich helpu i ddod yn ymwybodol o ystyron neu batrymau cudd yn yr hyn rydych chi'n ei wneud neu'n ei ddweud a allai fod yn cyfrannu at eich problemau. 

Cwnsela

Mae cwnsela yn fath o therapi sy’n eich helpu i feddwl am y problemau rydych chi’n eu profi yn eich bywyd er mwyn dod o hyd i ffyrdd newydd o ymdrin â nhw.

Bydd cwnselwyr yn eich cynorthwyo i ddod o hyd i atebion i broblemau, ond ni fyddant yn dweud wrthych beth i’w wneud. Gallwch chi siarad yn gyfrinachol â chwnselydd, sy'n eich cynorthwyo ac yn cynnig cyngor ymarferol.

Trwy'r GIG, efallai y byddwch chi'n cael cynnig un sesiwn gwnsela, cwrs byr o sesiynau dros ychydig o wythnosau neu fisoedd, neu gwrs hwy sy'n para am sawl mis neu flwyddyn. 

Mae cwnsela yn ddelfrydol i bobl sy'n iach ar y cyfan, ond sydd angen cymorth i ymdopi ag argyfwng cyfredol, fel dicter, problemau â pherthynas, profedigaeth, colli swydd, anffrwythlondeb neu salwch difrifol.

Cael cymorth

Ewch i weld eich meddyg teulu i gael rhagor o wybodaeth am sut i gael triniaethau siarad y GIG. Gall eich cyfeirio am driniaethau siarad lleol ar gyfer iselder.

Gallwch chi ddewis hunangyfeirio hefyd. Mae hyn yn golygu os byddai'n well gennych beidio â siarad â'ch meddyg teulu, gallwch fynd yn syth at wasanaeth therapïau seicolegol.

Gwrth-iselyddion

Meddyginiaethau sy'n trin symptomau iselder yw gwrth-iselyddion. Mae bron i 30 o fathau gwahanol ar gael.

Bydd y rhan fwyaf o bobl sy'n dioddef iselder cymedrol neu ddifrifol yn elwa o gael gwrth-iselyddion, ond nid ydynt yn addas i bawb.

Efallai y byddwch yn ymateb i un gwrth-iselydd, ond nid i un arall, a gallai fod angen i chi roi cynnig ar ddwy driniaeth neu fwy cyn dod o hyd i un sy'n gweithio i chi.

Mae'r mathau gwahanol o wrth-iselyddion yn gweithio cystal â'i gilydd, fwy neu lai. Fodd bynnag, mae'r sgil-effeithiau'n amrywio rhwng triniaethau gwahanol a phobl wahanol.

Pan fyddwch chi'n dechrau cymryd gwrth-iselyddion, dylech chi fynd i weld meddyg teulu neu nyrs arbenigol bob wythnos neu bythefnos am o leiaf 4 wythnos i asesu pa mor dda maen nhw'n gweithio.

Os byddant yn gweithio, bydd angen i chi barhau i gymryd yr un ddos am o leiaf 4 i 6 mis ar ôl i'ch symptomau leddfu.

Os ydych chi wedi cael pyliau o iselder yn y gorffennol, efallai y bydd angen i chi barhau i gymryd gwrth-iselyddion am hyd at 5 mlynedd neu fwy.

Nid yw gwrth-iselyddion yn gaethiwus, ond byddwch yn barod am symptomau diddyfnu os byddwch yn rhoi'r gorau i'w cymryd yn sydyn neu os byddwch yn colli dos ohonynt.

Atalyddion aildderbyn serotonin dethol (SSRIs)

Os yw eich meddyg teulu yn credu y byddech yn elwa o gymryd gwrth-iselydd, fel arfer byddwch yn cael presgripsiwn am fath modern o'r enw atalydd aildderbyn serotonin dethol (SSRI).

Enghreifftiau o wrth-iselyddion SSRI sy'n cael eu defnyddio'n gyffredin yw paroxetine (Seroxat), fluoxetine (Prozac) a citalopram (Cipramil).

Mae'r rhain yn helpu i godi lefel cemegyn naturiol yn eich ymennydd o'r enw serotonin, y credir ei fod yn gemegyn 'hwyliau da'.

Mae SSRIs yn gweithio cystal â gwrth-iselyddion hŷn ac mae ganddynt lai o sgil-effeithiau, er eu bod yn gallu achosi cyfog a chur pen/pen tost, yn ogystal â cheg sych a phroblemau o ran cael rhyw. Fodd bynnag, mae'r sgil-effeithiau hyn fel arfer yn gwella dros amser.

Nid yw rhai SSRIs yn addas i blant a phobl ifanc dan 18 oed. Mae ymchwil yn dangos y gall risg hunan-niwed ac ymddygiad hunanladdol gynyddu os cânt eu defnyddio gan bobl ifanc dan 18 oed.

Fluoxetine yw'r unig SSRI y gellir ei roi ar bresgripsiwn i'r rhai dan 18 oed, ond hyd yn oed bryd hynny, dim ond pan fydd arbenigwr wedi rhoi caniatâd.

Mae vortioxetine (Brintellix neu Lundbeck) yn SSRI a argymhellir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) ar gyfer trin iselder difrifol mewn oedolion.

Mae sgil-effeithiau cyffredin sy'n gysylltiedig â vortioxetine yn cynnwys breuddwydion anarferol, rhwymedd, dolur rhydd, pendro, cosi, cyfog a chwydu.

Gwrth-iselyddion trichylchol (TCAs)

Mae gwrth-iselyddion trichylchol (TCAs) yn grŵp o wrth-iselyddion sy'n cael eu defnyddio i drin iselder cymedrol i ddifrifol.

Mae TCAs, sy'n cynnwys imipramine (Imipramil) ac amitriptyline, wedi bod ar gael am gyfnod hwy na SSRIs.

Maen nhw'n gweithio trwy godi lefelau'r cemegau serotonin a noradrenalin yn eich ymennydd. Mae'r ddau yn helpu i godi'ch hwyl.

Maen nhw'n ddiogel, yn gyffredinol, ond mae'n syniad gwael ysmygu canabis os byddwch yn cymryd TCAs gan ei fod yn gallu gwneud i'ch calon guro'n gyflym.

Gall sgil-effeithiau TCAs, sy'n amrywio o un unigolyn i'r llall, gynnwys ceg sych, golwg aneglur, rhwymedd, problemau pasio wrin, chwysu, teimlo'n benysgafn a syrthni difrifol.

Mae'r sgil-effeithiau fel arfer yn gwella o fewn 10 diwrnod, wrth i'ch corff ddod i arfer â'r feddyginiaeth.

Gwrth-iselyddion eraill

Mae gwrth-iselyddion newydd, fel venlafaxine (Efexor), duloxetine (Cymbalta neu Yentreve) a mirtazapine (Zispin Soltab), yn gweithio mewn ffordd ychydig yn wahanol i SSRIs a TCAs.

Yr enw ar venlafaxine a duloxetine yw atalyddion aildderbyn serotonin-noradrenalin (SNRIs). Fel TCAs, maen nhw'n newid y lefelau serotonin a noradrenalin yn eich ymennydd.

Mae astudiaethau wedi dangos bod SNRI yn gallu bod yn fwy effeithiol na SSRI, er nad yw'n cael ei roi ar bresgripsiwn fel rheol, gan ei fod yn gallu arwain at godi pwysedd gwaed.

Symptomau diddyfnu

Nid yw gwrth-iselyddion yn gaethiwus yn yr un ffordd â chyffuriau anghyfreithlon a sigarennau, ond pan fyddwch yn rhoi'r gorau i'w cymryd, gallech gael rhai symptomau diddyfnu.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • anhwylder ar y stumog
  • symptomau tebyg i'r ffliw
  • gorbryder
  • y bendro
  • breuddwydion byw yn y nos
  • teimladau yn y corff sy'n teimlo fel siociau trydan

Effeithiau eithaf ysgafn yw'r rhain yn y rhan fwyaf o achosion na fydd yn para mwy nag wythnos neu ddwy, ond weithiau gallant fod yn eithaf difrifol.

Mae'n ymddangos eu bod yn fwyaf tebygol o ddigwydd gyda paroxetine (Seroxat) a venlafaxine (Efexor).

Bydd symptomau diddyfnu'n digwydd yn fuan iawn ar ôl rhoi'r gorau i gymryd y tabledi, felly mae'n hawdd gwahaniaethu rhyngddyn nhw a symptomau ail bwl o iselder, sy'n dueddol o ddigwydd ar ôl ychydig wythnosau.

Triniaethau eraill

Ymwybyddiaeth ofalgar

Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn golygu rhoi sylw agosach i'r presennol a chanolbwyntio ar eich meddyliau, eich teimladau, eich synhwyrau corfforol, a'r byd o'ch amgylch i wella eich lles meddyliol.

Y nod yw datblygu gwell dealltwriaeth o'ch meddwl a'ch corff, a dysgu sut i fyw gyda mwy o werthfawrogiad a llai o bryder.

Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn cael ei hargymell gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) fel ffordd o atal iselder mewn pobl sydd wedi cael tri phwl o iselder neu fwy yn y gorffennol.

Eurinllys

Mae eurinllys (St John's wort) yn driniaeth lysieuol y bydd rhai pobl yn ei chymryd ar gyfer iselder. Mae ar gael o siopau bwyd iechyd a fferyllfeydd.

Er bod rhywfaint o dystiolaeth y gallai helpu iselder ysgafn neu gymedrol, nid yw'n cael ei argymell gan feddygon.

Y rheswm am hyn yw bod meintiau ei gynhwysion gweithredol yn amrywio ymhlith brandiau a sypiau unigol, felly ni allwch fod yn sicr pa fath o effaith y bydd yn ei chael arnoch.

Mae cymryd eurinllys gyda meddyginiaethau eraill, fel cyffuriau gwrthgonfylsiwn, gwrthgeulyddion, gwrth-iselyddion a'r bilsen atal cenhedlu yn gallu achosi problemau difrifol hefyd.

Ni ddylech gymryd eurinllys os ydych yn feichiog neu'n bwydo o'r fron, oherwydd nid ydym yn gwybod yn sicr ei fod yn ddiogel.

Hefyd, gall eurinllys ryngweithio â'r bilsen atal cenhedlu, gan leihau ei heffeithiolrwydd.

Ysgogi'r ymennydd

Weithiau, caiff ysgogi'r ymennydd ei ddefnyddio i drin iselder difrifol nad yw wedi ymateb i driniaethau eraill.

Gellir defnyddio cerrynt electromagnetig i ysgogi rhai ardaloedd o'r ymennydd i geisio gwella symptomau iselder.

Mae nifer o wahanol fathau o ysgogi'r ymennydd sy'n gallu cael eu defnyddio i drin iselder, gan gynnwys ysgogiad cerrynt union trawsgreuanol (tDCS), ysgogiad magnetig trawsgreuanol ailadroddus (rTMS) a therapi electrogynhyrfol (ECT).

Ysgogiad cerrynt union trawsgreuanol (tDCS)

Mae ysgogiad cerrynt union trawsgreuanol (tDCS) yn defnyddio ysgogydd bach a weithredir gan fatri i gyflenwi cerrynt cryfder isel, cyson trwy 2 electrod sy'n cael eu gosod ar y pen.

Mae'r cerrynt trydan yn ysgogi gweithgarwch yr ymennydd i helpu i wella symptomau iselder.

Byddwch yn effro yn ystod tDCS, sydd fel arfer yn cael ei gynnal gan dechnegydd hyfforddedig (er ei bod yn bosibl cael eich hyfforddi i'w wneud eich hun). 

Byddwch chi'n cael sesiynau triniaeth bob dydd ac maen nhw'n para 20 i 30 munud, am sawl wythnos.

Gellir defnyddio'r driniaeth hon ar ei phen ei hun neu gyda thriniaethau eraill ar gyfer iselder. 

Mae gan NICE fwy o wybodaeth am ysgogiad cerrynt union trawsgreuanol ar gyfer iselder, gan gynnwys y buddion a'r risgiau.

Ysgogiad magnetig trawsgreuanol ailadroddus (rTMS)

Mae ysgogiad magnetig trawsgreuanol ailadroddus (rTMS) yn cynnwys gosod coil electromagnetig yn erbyn eich pen.

Mae'r coil yn anfon pylsiau ailadroddus o ynni magnetig ar wahanol amledd, sy'n cael ei gyflenwi i ardaloedd penodol o'r ymennydd.

Mae'r ysgogiad yn gallu gwella symptomau iselder a gorbryder.

Os byddwch chi'n penderfynu cael rTMS, gofynnir i chi roi eich caniatâd (cydsyniad) i gael y driniaeth.

Dylid eich atgoffa hefyd y gallwch chi dynnu'ch cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg.

Caiff y weithdrefn ei gwneud mewn ysbyty gan dechnegydd neu glinigydd hyfforddedig. Nid oes angen unrhyw anesthetig na thawelydd, a gallwch chi adael yr ysbyty ar yr un diwrnod.

Gallwch chi yrru ar ôl cael sesiwn rTMS, a pharhau â gweithgareddau eraill, yn ôl yr arfer.

Byddwch chi'n cael sesiynau bob dydd, sy'n para tua 30 munud am 2 i 6 wythnos.

Mae gan NICE fwy o wybodaeth am ysgogiad magnetig trawsgreuanol ailadroddus ar gyfer iselder, gan gynnwys y buddion a'r risgiau.

Therapi electrogynhyrfol (ECT)

Mae therapi electrogynhyrfol (ECT) yn fath mwy mewnwthiol o ysgogi'r ymennydd, sydd weithiau'n cael ei argymell ar gyfer iselder difrifol os yw pob opsiwn triniaeth arall wedi methu, neu pan gredir bod y sefyllfa yn bygwth bywyd.

Yn ystod ECT, caiff cerrynt trydan wedi'i gyfrifo'n ofalus ei drosglwyddo i'r ymennydd trwy electrodau sy'n cael eu gosod ar y pen.

Mae'r cerrynt yn ysgogi'r ymennydd ac yn sbarduno ffit, sy'n helpu lleddfu symptomau iselder.

Mae ECT bob amser yn cael ei roi mewn ysbyty gan feddyg arbenigol o dan anesthetig cyffredinol. Byddwch chi hefyd yn cael ymlaciwr cyhyrau i atal y corff rhag gwingo.

Fel arfer, caiff ECT ei roi ddwywaith yr wythnos am 3 i 6 wythnos (6 i 12 sesiwn i gyd).

Dylai eich arbenigwr esbonio'n glir sut mae ECT yn gweithio, ynghyd â'r buddion, y risgiau a'r sgil-effeithiau posibl, er mwyn i chi allu gwneud penderfyniad gwybodus.

Os byddwch chi'n penderfynu cael ECT, gofynnir am eich caniatâd (cydsyniad) i gael y driniaeth.

Dylid eich atgoffa hefyd y gallwch chi dynnu'ch cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg.

Bydd eich iechyd yn cael ei fonitro'n agos yn ystod pob sesiwn ECT, ac ar ei hôl.

Bydd triniaeth fel arfer yn cael ei hatal cyn gynted ag y byddwch chi'n dechrau teimlo'n well, neu os bydd y sgil-effeithiau yn fwy na'r buddion.

Mewn rhai achosion, gellir argymell rhywbeth o'r enw therapi "cynnal" neu "barhau".

Yn yr achos hwn, caiff triniaeth ei rhoi yn llai aml (unwaith bob 2 i 3 wythnos) i sicrhau bod eich symptomau ddim yn dod yn ôl.

Gallwch chi ddarllen mwy am argymhellion NICE ar gyfer defnyddio therapi electrogynhyrfol.

Lithiwm

Os ydych chi wedi rhoi cynnig ar sawl math gwahanol o wrth-iselyddion a heb weld unrhyw welliant, efallai y bydd eich meddyg yn cynnig math o feddyginiaeth o'r enw lithiwm i chi, yn ogystal â'ch triniaeth bresennol.

Mae dau fath o lithiwm: lithiwm carbonad a lithiwm sitrad. Mae'r ddau ohonynt yn effeithiol, fel arfer, ond os ydych yn cymryd un sy'n gweithio i chi, mae'n well peidio â'i newid.

Os bydd y lefel hon o lithiwm yn eich gwaed yn mynd yn rhy uchel, gall fynd yn wenwynig. Felly, bydd angen i chi gael profion gwaed bob tri mis i wirio eich lefelau lithiwm tra byddwch yn cymryd y feddyginiaeth.

Bydd angen i chi osgoi bwyta diet isel o ran halen hefyd, oherwydd gall hyn achosi i'r lithiwm fynd yn wenwynig. Gofynnwch i'ch meddyg teulu am gyngor ynglŷn â'ch diet.

Byw gyda

Gallwch godi'ch hwyl a helpu i wella eich iselder trwy ddilyn rhai camau allweddol.

Cymerwch eich meddyginiaeth

Mae'n bwysig iawn eich bod yn cymryd eich gwrth-iselyddion yn ôl y presgripsiwn, hyd yn oed os byddwch yn dechrau teimlo'n well. Os byddwch yn rhoi'r gorau i'w cymryd yn rhy fuan, gallai eich iselder ddychwelyd.

Siaradwch â'ch meddyg neu fferyllydd os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynglyn â'r feddyginiaeth rydych chi'n ei chymryd. Bydd y daflen sy'n dod gyda'ch meddyginiaeth yn cynnwys gwybodaeth am ryngweithiadau posibl â meddyginiaethau neu atchwanegiadau eraill.

Gwiriwch gyda'ch meddyg yn gyntaf os ydych yn bwriadu cymryd unrhyw feddyginiaethau dros y cownter, fel tabledi lladd poen, neu unrhyw atchwanegiadau maethol. Weithiau, gall y rhain ymyrryd â gwrth-iselyddion.

Ymarfer corff a diet

Gall ymarfer corff a diet iach wneud gwahaniaeth enfawr i ba mor gyflym y byddwch yn gwella o iselder. Bydd y ddau'n gwella eich iechyd yn gyffredinol hefyd.

Mae diet iach yn gallu codi'ch hwyliau hefyd. Yn wir, mae bwyta'n iach yn ymddangos yr un mor bwysig ar gyfer cynnal iechyd meddwl ag ydyw o ran atal problemau iechyd corfforol.

Mae ymchwil yn awgrymu y gall ymarfer corff fod yr un mor effeithiol â gwrth-iselyddion o ran lleihau symptomau iselder.

Mae bod yn weithgar yn gorfforol yn gallu codi'ch hwyl, lleihau straen a gorbryder, annog endorffinau i gael eu rhyddhau (cemegau yn eich corff sy'n gwneud i chi deimlo'n dda) a gwella hunan-barch. Hefyd, gall ymarfer corff dynnu eich sylw oddi wrth feddyliau negyddol, a gall wella rhyngweithio cymdeithasol.

Ymwybyddiaeth ofalgar

Gall fod yn hawdd rhuthro trwy fywyd heb aros i roi sylw i lawer o bethau. Gall rhoi mwy o sylw i'r eiliad presennol – i'ch meddyliau a'ch teimladau eich hun, a'r byd o'ch cwmpas – wella eich lles meddyliol. Mae rhai pobl yn galw'r ymwybyddiaeth hon yn 'ymwybyddiaeth ofalgar', a gallwch gymryd camau i'w datblygu yn eich bywyd eich hun.

Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell 'therapi gwybyddol wedi'i seilio ar ymwybyddiaeth ofalgar' i bobl sy'n iach ar hyn o bryd, ond sydd wedi profi tri neu fwy o byliau o iselder yn y gorffennol. Gallai helpu i atal pwl o iselder yn y dyfodol.

Darllenwch ganllawiau NICE am adnabod a rheoli iselder mewn oedolion.

Siarad amdano

Gall rhannu problem gyda rhywun arall neu gyda grŵp eich cynorthwyo a rhoi dealltwriaeth i chi o'ch iselder eich hun. Mae ymchwil yn dangos y gall siarad helpu pobl i wella o iselder ac ymdopi â straen yn well.

Efallai na fyddwch yn teimlo'n gyfforddus yn trafod eich iechyd meddwl a rhannu'ch gofid gyda phobl eraill. Os felly, mae ysgrifennu am sut rydych yn teimlo neu fynegi'ch emosiynau drwy farddoniaeth neu gelf yn ffyrdd eraill o'ch helpu i godi'ch hwyl. 

Ysmygu, cyffuriau ac alcohol

Os oes iselder arnoch, gall fod yn demtasiwn ysmygu neu yfed alcohol i wneud i chi deimlo'n well. Efallai y bydd ysmygu ac yfed i weld yn helpu ar y dechrau, ond maen nhw'n gwneud pethau'n waeth yn y pen draw.

Byddwch yn ofalus iawn â chanabis. Efallai y byddwch yn ystyried ei fod yn ddiniwed, ond mae ymchwil wedi dangos bod cysylltiad cryf rhwng defnyddio canabis ac afiechyd meddwl, gan gynnwys iselder.

Mae'r dystiolaeth yn dangos, os byddwch yn ysmygu canabis:

  • byddwch yn gwneud eich symptomau iselder yn waeth
  • byddwch yn teimlo'n fwy blinedig ac yn colli diddordeb mewn pethau
  • byddwch yn fwy tebygol o gael pwl arall o iselder ynghynt ac yn amlach
  • ni fyddwch yn ymateb cystal i feddyginiaethau gwrthiselder
  • byddwch yn fwy tebygol o roi'r gorau i ddefnyddio meddyginiaethau gwrthiselder
  • byddwch yn llai tebygol o wella'n llwyr

Gall eich meddyg teulu roi cyngor a chymorth i chi os ydych chi'n yfed neu'n ysmygu gormod, neu'n defnyddio cyffuriau. 

Gwaith a sefyllfa ariannol

Os yw eich iselder yn cael ei achosi gan weithio gormod neu os yw'n effeithio ar eich gallu i wneud eich gwaith, gallai fod angen i chi gymryd ychydig o amser i ffwrdd i wella.

Fodd bynnag, mae tystiolaeth y gall cymryd amser hir i ffwrdd o'r gwaith wneud iselder yn waeth. Hefyd, mae cryn dipyn o dystiolaeth y gall mynd yn ôl i'r gwaith eich helpu i wella o iselder.

Mae'n bwysig osgoi gormod o straen, ac mae hyn yn cynnwys straen yn gysylltiedig â gwaith. Os ydych yn gyflogedig, efallai y gallwch weithio llai o oriau neu weithio mewn ffordd fwy hyblyg, yn enwedig os yw'n ymddangos bod pwysau gwaith yn sbarduno eich symptomau.

O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rhaid i bob cyflogwr wneud addasiadau rhesymol i alluogi pobl ag anableddau i gael eu cyflogi. Gall hyn gynnwys pobl â diagnosis o afiechyd meddwl.

Os na allwch weithio o ganlyniad i'ch iselder, efallai y byddwch yn gymwys i gael ystod o fudd-daliadau, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau. Mae'r rhain yn cynnwys:  

Gofalu am rywun sy'n dioddef iselder

Nid yr unigolyn sydd ag iselder yw'r unig un y mae'r salwch yn effeithio arno/arni. Mae'n effeithio ar y bobl sy'n agos ato/ati hefyd.

Os ydych yn gofalu am rywun ag iselder, gall eich perthynas gydag ef/gyda hi, a bywyd teuluol yn gyffredinol, ddod o dan straen. Efallai y byddwch yn teimlo ar goll a heb wybod beth i'w wneud. Gallai helpu i ddod o hyd i grŵp cymorth a siarad â phobl eraill sydd mewn sefyllfa debyg.

Os ydych yn cael anawsterau o ran perthynas neu briodas, gallai fod o gymorth i chi gysylltu â chwnselydd perthynas sy'n gallu siarad trwy bethau gyda chi a'ch partner.

Mae dynion yn llai tebygol na menywod o ofyn am help, ac maen nhw hefyd yn fwy tebygol o droi at alcohol a chyffuriau pan fyddant yn dioddef iselder.

Ymdopi â phrofedigaeth

Gall colli rhywun agos atoch sbarduno eich iselder.

Pan fydd rhywun rydych chi'n ei garu'n marw, efallai y byddwch chi'n teimlo nad yw'n bosibl i chi wella o'r ergyd emosiynol. Ond, gydag amser a'r help a'r cymorth cywir, mae'n bosibl i chi ddechrau byw eich bywyd eto. 

Iselder a hunanladdiad

Mae mwyafrif yr achosion o hunanladdiad yn gysylltiedig ag anhwylderau meddwl, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu sbarduno gan iselder difrifol.

Mae rhai o'r arwyddion sy'n rhybuddio bod pobl ag iselder yn ystyried lladd eu hunain yn cynnwys:

  • gwneud trefniadau olaf, fel rhoi eiddo i ffwrdd, gwneud ewyllys neu ffarwelio â ffrindiau
  • siarad am farwolaeth neu hunanladdiad – gall hyn fod yn ddatganiad uniongyrchol, fel "O na chawn i fod yn farw", ond yn aml bydd pobl ag iselder yn siarad am y pwnc yn anuniongyrchol, gan ddefnyddio ymadroddion fel "Dw i'n meddwl bod pobl farw yn sicr yn hapusach na ni" neu "Oni fyddai'n braf mynd i gysgu a pheidio â deffro fyth eto"
  • hunan-niweidio, fel torri eu breichiau neu eu coesau, neu losgi eu hunain gyda sigaréts
  • codi hwyl yn sydyn, a allai olygu fod unigolyn wedi penderfynu lladd ei hun a'i fod yn teimlo'n well oherwydd y penderfyniad hwn

Os ydych yn teimlo eich bod am ladd eich hun neu mewn argyfwng iselder, cysylltwch â'ch meddyg teulu cyn gynted â phosibl. Bydd yn gallu eich helpu.

Os na allwch gysylltu â'ch meddyg teulu neu os nad ydych eisiau gwneud hynny, ffoniwch y Samariaid ar 116 123 (mae'r llinell gymorth ar agor 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn). Gallwch chi hefyd anfon neges e-bost at jo@samaritans.org.

Helpu ffrind neu berthynas sydd am ladd ei hun

Os gwelwch chi unrhyw un o'r arwyddion rhybuddio uchod mewn ffrind neu berthynas:

  • mynnwch help proffesiynol i'r unigolyn
  • rhowch wybod iddo/iddi nad yw ar ei ben/phen ei hun a'ch bod yn poeni amdano/amdani
  • cynigiwch eich cymorth i ddod o hyd i atebion eraill i'w broblemau/phroblemau

Os ydych yn teimlo bod perygl uniongyrchol, arhoswch gyda'r unigolyn neu trefnwch i rywun aros gydag ef/gyda hi, a symudwch unrhyw beth a allai gael ei ddefnyddio i gyflawni hunanladdiad, fel meddyginiaeth.

Gall meddyginiaeth dros y cownter, fel tabledi lladd poen, fod yr un mor beryglus â meddyginiaeth ar bresgripsiwn. Hefyd, dylech gael gwared â gwrthrychau miniog a chemegau cartref gwenwynig, fel cannydd.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 09/11/2023 15:48:18