Beth yw diabetes math 2?
- Mae diabetes math 2 yn gyflwr cyffredin sy'n gwneud i lefel y siwgr (glwcos) yn y gwaed fynd yn rhy uchel.
- Gall achosi symptomau fel syched gormodol, angen pasio dŵr yn aml a blinder. Hefyd, gall gynyddu'r risg y cewch broblemau difrifol gyda'ch llygaid, eich calon a'ch nerfau.
- Mae'n gyflwr oes a all effeithio ar eich bywyd bob dydd. Gall fod angen i chi newid eich diet, cymryd meddyginiaethau a chael archwiliadau rheolaidd.
- Fe'i hachosir gan broblemau gyda chemegyn yn y corff (hormon) o'r enw inswlin. Yn aml, fe'i cysylltir â bod dros bwysau neu'n anweithgar, neu hanes teuluol o ddiabetes math 2.
Symptomau
Gwirio a oes gennych chi ddiabetes math 2
Mae gan lawer o bobl ddiabetes math 2 heb sylweddoli hynny, gan nad yw'r symptomau o reidrwydd yn gwneud i chi deimlo'n sâl.
Mae symptomau diabetes math 2 yn cynnwys:
- pasio dŵr yn fwy na'r arfer, yn enwedig yn y nos
- teimlo'n sychedig drwy'r amser
- teimlo'n flinedig iawn
- colli pwysau heb geisio gwneud hynny
- cosi o gwmpas y pidyn neu'r wain, neu gael y llindag yn aml
- toriadau neu glwyfau sy'n araf i wella
- golwg aneglur
Mae mwy o risg datblygu diabetes math 2 arnoch:
- os ydych chi dros 40 oed (neu 25 oed yn achos pobl o dde Asia)
- os oes gennych berthynas agos sydd â diabetes (fel rhiant, brawd neu chwaer)
- os ydych chi dros eich pwysau neu'n ordew
- os ydych chi o dras de Asiaidd, Tsieineaidd, Affricanaidd Caribïaidd neu Affricanaidd du (hyd yn oed os cawsoch eich geni yn y Deyrnas Unedig)
Ewch i weld meddyg teulu:
- os oes gennych unrhyw rai o symptomau diabetes math 2
- os ydych chi'n pryderu bod mwy o risg i chi ei gael
Gall eich meddyg teulu wneud diagnosis o ddiabetes. Bydd angen prawf gwaed arnoch, efallai yn eich canolfan iechyd leol os na ellir ei wneud yn eich meddygfa.
Gorau po gyntaf y cewch ddiagnosis o ddiabetes a dechrau triniaeth ar ei gyfer. Mae triniaeth gynnar yn lleihau'r risg y cewch chi broblemau iechyd eraill.
Cael diagnosis
Yn aml, gwneir diagnosis o ddiabetes math 2 yn dilyn profion gwaed neu wrin ar gyfer rhywbeth arall.
Fodd bynnag, ddylech weld eich meddyg teulu ar unwaith os cewch chi unrhyw symptomau diabetes.
I ddarganfod a oes gennych ddiabetes math 2, bydd rhaid i chi ddilyn y camau canlynol, fel arfer:
- Ewch i weld eich meddyg teulu am eich symptomau.
- Bydd eich meddyg teulu'n gwirio'ch wrin ac yn trefnu prawf gwaed i wirio lefelau siwgr eich gwaed. Fel arfer, bydd hi'n cymryd diwrnod neu 2 cyn i'r canlyniadau ddod yn ôl.
- Os oes gennych ddiabetes, bydd eich meddyg teulu'n gofyn i chi ddod i mewn eto fel y gall esbonio canlyniadau'r profion a beth fydd yn digwydd nesaf.
Os cewch chi ddiagnosis o ddiabetes
Bydd yr hyn bydd eich meddyg teulu yn ei drafod gyda chi yn ystod eich apwyntiad yn dibynnu ar y diagnosis a'r driniaeth sy'n cael ei hargymell.
Yn gyffredinol, bydd eich meddyg teulu'n trafod y canlynol gyda chi:
- beth yw diabetes
- beth mae lefel uchel o siwgr yn y gwaed yn ei olygu i'ch iechyd
- pa feddyginiaeth y bydd yn rhaid i chi ei chymryd
- eich diet ac ymarfer corff
- eich ffordd o fyw – er enghraifft, alcohol ac ysmygu
Pwysig
Bydd eich meddyg teulu'n gwneud ei orau i drafod y diagnosis gyda chi, ond gallai'r apwyntiad cyntaf hwn bara 10 i 15 munud yn unig.
Os oes gennych chi gwestiynau am eich diagnosis
Fel arfer, mae'n anodd dirnad popeth y mae'r meddyg teulu'n ei ddweud wrthych yn ystod yr apwyntiad.
Siaradwch â theulu a ffrindiau am yr hyn ddywedodd y meddyg teulu wrthych a gwnewch nodyn o unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Yna, trefnwch apwyntiad arall gyda meddyg teulu ac ewch â'ch rhestr o gwestiynau gyda chi.
Beth sy'n digwydd yn dilyn y diagnosis
Fel arfer, bydd y canlynol yn digwydd yn dilyn eich diagnosis:
- Bydd eich meddyg teulu'n rhoi meddyginiaeth i chi ar bresgripsiwn. Gallai gymryd amser i chi ddod i arfer â'r feddyginiaeth a dod o hyd i'r dosys cywir i chi.
- Gall fod angen i chi wneud newidiadau i'ch diet a bod yn fwy egnïol.
- Bydd yn rhaid i chi fynd i gael gwiriadau diabetes math 2 yn rheolaidd.
- Bydd yn rhaid i chi fod yn effro i arwyddion penodol er mwyn osgoi problemau iechyd eraill.
- Holwch eich meddyg teulu am gwrs addysg rhad ac am ddim ar gyfer diabetes math 2.
Deall meddyginiaeth
Meddyginiaethau ar gyfer diabetes math 2
Mae ar y rhan fwyaf o bobl angen meddyginiaeth i reoli'u diabetes math 2.
Mae meddyginiaeth yn helpu cadw lefel siwgr eich gwaed mor normal â phosibl i atal problemau iechyd. Gall fod rhaid i chi ei chymryd am weddill eich oes.
Fel arfer, bydd diabetes yn gwaethygu gydag amser, felly gall fod angen newid eich meddyginiaeth neu'ch dos.
Hefyd, mae angen addasu'ch diet a bod yn weithgar i gadw lefel siwgr eich gwaed i lawr.
Cael y feddyginiaeth gywir i chi
Mae meddyginiaethau diabetes yn helpu gostwng faint o siwgr sy'n eich gwaed.
Pwysig
Mae sawl math o feddyginiaeth ar gyfer diabetes math 2. Gall dod o hyd i feddyginiaeth a dos sy'n iawn i chi gymryd amser.
Fel arfer, cewch gynnig meddyginiaeth o'r enw metformin i ddechrau.
Os na fydd lefelau siwgr eich gwaed yn is o fewn 3 mis, gall fod angen meddyginiaeth arall arnoch.
Gydag amser, gall fod angen cyfuniad o feddyginiaethau arnoch. Bydd eich meddyg teulu neu'ch nyrs diabetes yn argymell y meddyginiaethau sy'n fwyaf addas i chi.
Nid yw inswlin yn cael ei ddefnyddio'n aml ar gyfer diabetes math 2 yn ystod y blynyddoedd cynnar. Bydd ei angen dim ond pan na fydd meddyginiaethau eraill yn gweithio mwyach.
Mae gan Diabetes UK ragor o wybodaeth ynghylch cymryd meddyginiaethau ar gyfer diabetes math 2.
Cymryd eich meddyginiaeth
Bydd eich meddyg teulu neu'ch nyrs diabetes yn esbonio sut i gymryd eich meddyginiaeth a sut i'w storio.
Os bydd angen i chi gael inswlin trwy bigiadau, bydd yn dangos sut mae gwneud.
Sgîl-effeithiau
Gall eich meddyginiaeth ar gyfer diabetes achosi sgîl-effeithiau.
Gall y rhain gynnwys:
- bol chwyddedig a dolur rhydd
- colli pwysau neu fagu pwysau
- teimlo'n sâl
- fferau/migyrnau chwyddedig
Ni fydd pawb yn cael sgîl-effeithiau.
Os byddwch chi'n teimlo'n anhwylus ar ôl cymryd meddyginiaeth neu os byddwch chi'n sylwi ar unrhyw sgîl-effeithiau, siaradwch â'ch meddyg teulu neu'ch nyrs diabetes.
Peidiwch â rhoi'r gorau i gymryd meddyginiaeth heb gael cyngor.
Teithio gyda meddyginiaethau diabetes
Os ydych chi'n mynd ar wyliau:
- paciwch feddyginiaeth ychwanegol – siaradwch â'ch nyrs diabetes i gael gwybod faint i'w bacio
- ewch â'ch meddyginiaeth yn eich bag llaw rhag ofn y bydd bagiau yn yr howld yn mynd ar goll neu'n cael eu difrodi
- os byddwch yn hedfan gyda meddyginiaeth rydych chi'n ei chymryd trwy bigiad, gofynnwch am lythyr gan eich meddyg teulu sy'n dweud bod ei hangen arnoch i drin diabetes
Bwyd a chadw'n weithgar
Cadw'n iach os oes gennych ddiabetes math 2
Bydd diet iach a chadw'n weithgar yn eich helpu i reoli lefel siwgr eich gwaed.
Hefyd, bydd yn eich helpu i reoli eich pwysau a theimlo'n well yn gyffredinol.
Gallwch fwyta sawl math o fwyd
Does dim byd na allwch ei fwyta os oes gennych ddiabetes math 2, ond bydd rhaid i chi gyfyngu ar rai bwydydd.
Dylech:
- fwyta amrywiaeth eang o fwydydd – gan gynnwys ffrwythau, llysiau a rhai bwydydd startsh, fel pasta
- lleihau siwgr, braster a halen cymaint â phosibl
- bwyta brecwast, cinio a swper bob dydd – peidiwch â hepgor prydau bwyd
Os oes angen i chi newid eich diet, gallai gwneud newidiadau bach bob wythnos fod yn haws.
Mae gwybodaeth am fwyd i'w gweld ar y gwefannau hyn ynghylch diabetes:
Pwysig
Dylech gael archwiliad diabetes rheolaidd unwaith y flwyddyn i sicrhau bod eich pwysedd gwaed a'ch colesterol (brasterau gwaed) yn iawn.
Help gyda newid eich diet
Os yw newid eich diet yn anodd i chi, efallai y gall dietegydd helpu.
Siaradwch â'ch meddyg teulu neu'ch nyrs diabetes i weld a all y GIG dalu'r gost.
Mae bod yn weithgar yn gostwng lefel siwgr eich gwaed
Mae ymarfer corff yn helpu gostwng lefel siwgr eich gwaed. Dylech anelu am 2.5 awr o weithgarwch yr wythnos.
Gallwch wneud ymarfer corff yn unrhywle, cyn belled â'ch bod chi'n mynd yn fyr o anadl.
Gallai hyn gynnwys:
- cerdded yn gyflym
- dringo'r grisiau
- gwneud gwaith tŷ neu arddio egnïol
Mae gan yr elusen Diabetes UK awgrymiadau ar sut i fod yn weithgar.
Mae eich pwysau yn bwysig
Bydd colli pwysau (os ydych chi dros eich pwysau) yn ei gwneud hi'n haws i'ch corff ostwng lefel siwgr eich gwaed a gall wella'ch pwysedd gwaed a'ch colesterol.
I wybod p'un a ydych chi dros eich pwysau, cyfrifwch indecs màs eich corff (BMI).
Os oes angen colli pwysau arnoch, ceisiwch wneud hynny'n araf, gydag amser. Anelwch am ryw 0.5 i 1kg yr wythnos.
Mae gan yr elusen, Diabetes UK, ragor o gwybodaeth am bwysau iach a cholli pwysau.
Mae tystiolaeth fod bwyta diet isel mewn calorïau (rhwng 800 a 1,200 calori'r diwrnod) am gyfnod tymor byr (tua 12 wythnos) yn gallu helpu gyda symptomau diabetes math 2. Ac, mae rhai pobl wedi sylwi bod eu symptomau'n gwella dros dro.
Nid yw diet isel mewn calorïau yn ddiogel nac yn addas i bawb sydd â diabetes math 2, fel pobl y mae angen iddynt gymryd inswlin. Felly, mae'n bwysig cael cyngor meddygol cyn dilyn y math hwn o ddiet.
Mynd am archwiliadau rheolaidd
Mae archwiliadau diabetes math 2 yn helpu sicrhau nad yw eich cyflwr yn arwain at broblemau iechyd eraill.
Bob 3 mis
Gwirio siwgr gwaed (prawf HbA1C)
Mae'n gwirio lefelau siwgr cyfartalog eich gwaed a pha mor agos yw'r rhain at fod yn normal.
Byddwch yn cael y gwiriadau hyn bob 3 mis pan fyddwch newydd gael diagnosis, yna bob 6 mis pan fyddwch chi'n sefydlog.
Gall eich meddyg teulu neu'ch nyrs diabetes wneud hyn.
Unwaith y flwyddyn
Traed
Mae'n archwilio a ydych chi wedi colli teimlad yn eich traed ac mae'n chwilio am wlserau a heintiau.
Gall eich meddyg teulu, nyrs diabetes neu bodiatregydd wneud hyn.
Siaradwch â'ch meddyg teulu ar unwaith os oes gennych doriadau neu gleisiau ar eich traed, neu fferdod ynddynt.
Llygaid
Mae'n chwilio am niwed i'r gwaedlestri yn eich llygaid.
Siaradwch â'ch meddyg teulu ar unwaith os yw'ch golwg yn aneglur.
Pwysedd gwaed, colesterol a'r arennau
Mae'n chwilio am bwysedd gwaed uchel, clefyd y galon a chlefyd yr arennau.
Gall eich meddyg teulu neu nyrs diabetes wneud hyn.
Problemau iechyd
Mae angen i chi gadw llygad ar eich iechyd a chael archwiliadau rheolaidd os oes gennych ddiabetes math 2, oherwydd gall arwain at:
- glefyd y galon a strôc
- colli teimlad a phoen (difrod i nerfau) – gan achosi problemau â chyfathrach rywiol
- problemau'r traed – fel doluriau a heintiau
- colli'r golwg a dallineb
- camesgor a marw-enedigaeth
- problemau gyda'ch arennau
Rheoli lefel siwgr eich gwaed a chael archwiliadau diabetes yn rheolaidd yw'r ffordd orau o leihau'r risg y cewch gymhlethdodau.
Cael archwiliad o'ch calon
Dylech gael archwiliad colesterol (brasterau gwaed) a phwysedd gwaed o leiaf unwaith y flwyddyn. Mae diabetes yn cynyddu'r risg y cewch glefyd y galon a strôc, felly mae'n bwysig bod pwysedd gwaed uchel a cholesterol uchel yn cael eu darganfod a'u trin yn gynnar.
Os ydych chi'n cael triniaeth ar gyfer colesterol uchel a phwysedd gwaed uchel yn barod, daliwch ati i gymryd eich meddyginiaeth.
Mae diabetes hefyd yn gwaethygu effeithiau ysmygu ar eich calon.
Colli teimlad
Dylech roi gwybod i'ch meddyg teulu neu'ch nyrs diabetes os sylwch chi ar unrhyw newidiadau yn eich corff.
Gall diabetes niweidio'ch nerfau (niwropathi). Fel arfer, mae hyn yn effeithio ar eich traed, ond gall effeithio ar rannau eraill o'ch corff, gan achosi:
- fferdod
- poen neu ferwino
- problemau gyda chyfathrach rywiol
- rhwymedd neu ddolur rhydd
Gall triniaeth gynnar atal difrod i nerfau rhag gwaethygu.
Gofalu am eich traed
Dylech archwilio'ch traed bob dydd. Gall diabetes ostwng cyflenwad y gwaed i'ch traed a pheri i chi golli teimlad.
Mae hyn yn golygu nad yw anafiadau i'r traed yn gwella'n dda ac efallai na sylwch chi os bydd eich troed yn boenus neu os oes anaf iddi. Gall problemau fel hyn arwain at wlserau a heintiau.
Mae pethau syml yn bwysig, fel:
- cadw'r traen yn lân ac yn sych i osgoi heintiau
- ceisio peidio â cherdded yn droednoeth tu allan i osgoi torri'r croen
- gwisgo esgidiau sy'n ffitio'n dda
Siaradwch â'ch meddyg teulu neu nyrs diabetes os sylwch chi ar unrhyw newidiadau yn eich traed, gan gynnwys:
- toriadau, holltau neu bothelli
- poen neu ferwino
- traed cwsg
Mae gan Diabetes UK gyngor ar sut i archwilio'ch traed.
Hefyd, dylai eich meddyg teulu, nyrs diabetes neu bodiatregydd archwilio'ch traed bob blwyddyn.
Gall briwiau neu heintiau heb eu trin yn gynnar arwain at fadredd. Mae dros 135 o drychiadau o ganlyniad i ddiabetes yn cael eu cynnal bob wythnos yn y DU.
Diabetes a'ch llygaid
Dylai pawb sydd â diabetes sy'n 12 oed neu'n hŷn gael gwahoddiad i archwilio'u llygaid am newidiadau oherwydd diabetes unwaith y flwyddyn.
Os oes gennych ddiabetes, mae retinopathi diabetig yn risg i'ch llygaid. Cyflwr yw hwn a all arwain at golli'r golwg os na chaiff ei drin.
Mae sgrinio, sy'n cynnwys rhoi diferion yn eich llygaid i weld cefn eich llygad yn well, a thynnu ffotograffau ohonynt, yn ffordd o ddarganfod y cyflwr yn gynnar fel y gall gael ei drin yn fwy effeithiol.
Darllenwch ragor am sgrinio retinopathi diabetig.
Siaradwch â'ch optometrydd/optegydd lleol ar unwaith os sylwch chi ar newidiadau i'ch golwg, gan gynnwys:
- golwg aneglur, yn enwedig yn y nos
- siapiau'n arnofio yn eich golwg (brychau)
- sensitifrwydd i olau
Mae'r sgrinio diabetig yn archwilio am newidiadau oherwydd diabetes yn unig. Mae cael diabetes yn golygu y gallech fod yn fwy tebygol o gael cyflyrau eraill y llygaid, fel glawcoma neu gataractau, felly mae'n bwysig hefyd i chi gael archwiliadau o'ch llygaid yn rheolaidd (yn rhad ac am ddim drwy'r GIG), gyda'ch optometrydd/optegydd lleol.
Dod o hyd i optometrydd/optegydd yma
Beichiogrwydd a diabetes
Siaradwch â'ch meddyg teulu neu'ch tîm gofal os ydych chi'n meddwl cael babi.
Gallwch gael beichiogrwydd a genedigaeth ddiogel os oes gennych ddiabetes math 2. Ond bydd angen i chi gymryd camau rhagofalus ychwanegol a mynd i fwy o apwyntiadau, cyn ac yn ystod beichiogrwydd.
Dod o hyd i help a chefnogaeth
Mae llawer o wybodaeth a chefnogaeth ar gael ar gyfer diabetes math 2. Mae rhywfaint o'r gefnogaeth yn dibynnu ar ble'r ydych chi'n byw.
Dilynwch gwrs i'ch helpu i reoli'ch diabetes
Mae cyrsiau addysg rhad ac am ddim i'ch helpu i ddysgu rhagor am eich diabetes math 2 a'i reoli.
Bydd angen i'ch meddyg teulu'ch atgyfeirio chi, ond gallwch ffonio'ch meddygfa i gael llythyr atgyfeirio, felly ni fydd angen i chi drefnu apwyntiad.
Darllenwch fwy o wybodaeth ynghylch cyrsiau addysg ar gyfer diabetes math 2.
Dweud wrth y DVLA bod gennych ddiabetes math 2
Os ydych chi'n cymryd inswlin ar gyfer eich diabetes math 2, bydd angen dweud wrth y DVLA. Mae hyn oherwydd risg siwgr isel y gwaed (hypoglycaemia). Gallwch gael eich dirwyo os na ddwedwch wrth y DVLA.
Grwpiau cefnogaeth ar gyfer diabetes math 2
Mae'r elusen, Diabetes UK, yn cynnal grwpiau cefnogaeth lleol.
Gall y rhain helpu gyda phethau fel rheoli'ch diabetes yn ddyddiol, diet, ymarfer corff neu ddelio â phroblemau emosiynol, fel iselder. Maen nhw'n cynnig lle i siarad a darganfod sut mae pobl eraill yn byw gyda'r cyflwr.
Blogiau, fforymau ac apiau
- Fforwm Diabetes.co.uk – trafodaethau am fyw gyda diabetes a'i reoli
- Blogiau Diabetes UK – casgliad o flogiau ar weithio a diabetes, bwyd, y llygaid a mwy
- Diabetes Chat – sgyrsiau wedi'u trefnu gyda gweithwyr proffesiynol gofal iechyd neu'r cyfle i siarad â phobl eraill
Gall dweud wrth bobl eraill fod yn anodd
Gall fod yn anodd dweud wrth bobl eraill fod diabetes arnoch, ond gall helpu pe bai rhai pobl yn gwybod:
- gall teulu'ch cefnogi chi – yn enwedig gan y bydd angen i chi wneud newidiadau i'r hyn rydych chi'n ei fwyta
- mae'n bwysig bod eich cydweithwyr neu'ch cyflogwr yn gwybod rhag ofn bydd argyfwng
- gall cael diagnosis o ddiabetes effeithio ar eich hwyl – bydd dweud wrth eich partner yn ei helpu i ddeall sut rydych chi'n teimlo
Cadw ID meddygol arnoch rhag ofn y bydd argyfwng
Mae rhai pobl yn dewis gwisgo band llawes arbenigol neu gadw rhywbeth yn eu waled sy'n dweud bod ganddynt ddiabetes, rhag ofn y bydd argyfwng.
Os yw'n hysbys bod gennych ddiabetes, gall hyn wneud gwahaniaeth i'r driniaeth a gewch.
Chwiliwch y rhyngrwyd am "medical ID" i ddod o hyd i wefannau sy'n eu gwerthu.
Gofal cymdeithasol a chanllaw cymorth:
- os oes angen help arnoch gyda byw o ddydd i ddydd oherwydd salwch neu anabledd
- os ydych yn gofalu am rywun yn rheolaidd gan eu bod yn sâl, yn oedrannus neu'n anabl – gan gynnwys aelodau'r teulu