Dolur rhydd

Cyflwyniad

Mae dolur rhydd a chwydu'n gyffredin mewn oedolion, plant a babanod. Gallwch eu cael nhw gyda'i gilydd neu'n unigol.

Fel arfer, maen nhw'n cael eu hachosi gan fyg stumog a dylen nhw wella ymhen ychydig ddiwrnodau.

Sut i drin dolur rhydd a chwydu eich hun

Fel arfer, gallwch drin eich hun neu'ch plentyn gartref.

Y peth pwysicaf yw yfed digon o hylifau i osgoi dadhydradu.

Gwnewch y canlynol:

  • arhoswch gartref a gorffwys
  • yfwch lawer o hylifau, fel dwr a diod ffrwythau - cymerwch lymeidiau bach os ydych yn teimlo'n gyfoglyd
  • parhewch i fwydo'ch baban ar y fron neu drwy botel - os yw'n chwydu, ceisiwch roi ychydig bach iddo yn amlach nag arfer
  • os yw'ch baban yn cymryd fformiwla neu fwydydd solet, rhowch lymeidiau bach o ddwr iddo rhwng bwyd
  • bwytewch pan fyddwch yn gallu - does dim angen i chi gymryd neu osgoi unrhyw fwydydd penodol
  • cymerwch barasetamol neu ibuprofen os ydych chi'n teimlo'n anghysurus - darllenwch y daflen cyn eu rhoi nhw i'ch plentyn

Peidiwch â gwneud y canlynol:

  • yfed sudd ffrwythau neu ddiodydd pefriog - gallan nhw wneud dolur rhydd yn waeth
  • gwanhau fformiwla babanod - paratowch y fformiwla ar ei chryfder arferol
  • rhoi meddyginiaeth atal dolur rhydd i blant ifanc
  • rhoi asbrin i blant iau nag 16 oed

Pa mor hir mae dolur rhydd a chwydu'n para

Mewn oedolion a phlant:

  • mae dolur rhydd fel arfer yn para 5 i 7 diwrnod
  • mae chwydu fel arfer yn para 1 i 2 ddiwrnod

Gall dolur rhydd a chwydu ledaenu'n rhwydd

Os oes gennych fyg stumog, gallech fod yn heintus i bobl eraill.

Rydych chi'n fwyaf heintus o'r adeg pan fydd y symptomau'n dechrau tan 2 ddiwrnod ar ôl iddyn nhw fynd heibio. Arhoswch i ffwrdd o'r ysgol neu'r gwaith hyd nes y bydd y symptomau wedi peidio am 2 ddiwrnod.

I osgoi lledaenu haint:

Gwnewch y canlynol:

  • golchwch eich dwylo â sebon a dwr yn aml
  • golchwch ddillad a dillad gwely brwnt ar wahân ar dymheredd poeth
  • glanhewch seddau ty bach, dolenni fflysio, tapiau, arwynebau a dolenni drysau bob dydd

Peidiwch â gwneud y canlynol:

  • paratoi bwyd i bobl eraill, os yw'n bosibl
  • rhannu tywelion, clytiau ymolchi, cyllyll a ffyrc neu offer
  • defnyddio pwll nofio tan 2 wythnos ar ôl i'r symptomau orffen

Gall fferyllydd helpu:

  • os yw'ch baban yn iau na 12 mis oed a'i fod yn dioddef dolur rhydd neu'n chwydu
  • os oes gennych chi neu'ch plentyn (dros 12 mis oed) arwyddion dadhydradu - fel wrin tywyll, drewllyd neu basio llai o ddwr nag arfer
  • os yw'ch plentyn wedi cael mwy na 5 pwl o ddolur rhydd neu wedi chwydu mwy na 3 gwaith mewn 24 awr

Fe allai argymell:

  • pecynnau bach ailhydradu i'w cymysgu â dwr a'u hyfed
  • meddyginiaeth i atal dolur rhydd am ychydig oriau (fel loperamide) - nid yw hyn yn addas i blant ifanc

Dewch o hyd i fferyllfa

Ewch at Feddyg Teulu:

  • os ydych chi'n parhau i chwydu ac yn methu cadw hylif i lawr
  • os ydych chi'n parhau i fod yn ddadhydredig ar ôl defnyddio pecynnau bach ailhydradu
  • os oes gennych chi ddolur rhydd gwaedlyd neu os ydych chi'n gwaedu o'ch pen ôl
  • os yw'ch chwyd yn wyrdd neu'n felyn
  • os ydych chi wedi bod yn cael dolur rhydd am fwy na 7 diwrnod neu wedi bod yn chwydu am fwy na 2 ddiwrnod

Ewch â'ch plentyn at y Meddyg Teulu:

  • os yw'n iau na 12 mis oed ac yn dangos arwyddion dadhydradu - fel llai o glytiau/cewynnau gwlyb
  • os yw'n iau na 3 mis oed a bod ganddo dymheredd o 38C neu uwch
  • os yw'n 3 i 6 mis oed a bod ganddo dymheredd o 39C neu uwch
  • os yw'n parhau i chwydu ac nid yw'n gallu cadw hylif i lawr
  • os yw wedi bod yn cael dolur rhydd am fwy na 7 diwrnod neu wedi bod yn chwydu am fwy na 2 ddiwrnod

Gwiriwch â'r Meddyg Teulu cyn mynd i mewn. Fe allai awgrymu ymgynghoriad dros y ffôn.

Ffoniwch  111.  Mae'r gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd, bob dydd. Er diogelwch cleifion, cofnodir pob galwad. Mae 111 yn rhad ac am ddim i'w ffonio.

Ewch â'ch plentyn at y Meddyg Teulu ar frys:

  • os yw'n parhau i ddangos arwyddion dadhydradu ar ôl defnyddio pecynnau bach ailhydradu
  • os yw ei chwyd yn wyrdd neu'n felyn
  • os oes gwaed yn ei garthion neu os yw'n gwaedu o'i ben ôl

Ewch i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys (A&E) os na allwch gael gafael ar eich Meddyg Teulu. Dewch o hyd i Adran Damweiniau ac Achosion Brys (A&E).

Ffoniwch 999 neu ewch i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys (A&E) os ydych chi neu'ch plentyn:

  • yn chwydu gwaed neu os yw'ch chwyd yn edrych fel coffi mâl
  • yn dioddef gwddf stiff a phoen pan fyddwch yn edrych ar oleuadau llachar
  • yn cael cur pen/pen tost neu boen stumog sydyn, difrifol
  • wedi llyncu rhywbeth gwenwynig, o bosibl

Achosion dolur rhydd a chwydu

Mae'n debygol na fyddwch yn gwybod yn union beth sydd wedi achosi dolur rhydd a chwydu, ond mae'r prif achosion yn cael eu trin yn yr un ffordd.

Maen nhw fel arfer o ganlyniad i:

  • fyg stumog (gastroenteritis)
  • norofirws - sydd hefyd yn cael ei adnabod fel y "byg chwydu"
  • gwenwyn bwyd

Achosion eraill dolur rhydd

  • meddyginiaethau - darllenwch y daflen i weld a yw dolur rhydd yn sgil-effaith
  • anoddefgarwch bwyd neu alergedd bwyd
  • syndrom coluddyn llidus (IBS)
  • clefyd llid y coluddyn
  • clefyd seliag
  • clefyd cildroadol (diverticular)

Achosion eraill chwydu

  • beichiogrwydd
  • meigryn
  • labyrinthitis
  • meddyginiaethau - darllenwch y daflen i weld a yw chwydu'n sgil-effaith
  • adlif - pan fydd baban yn dod â bwyd yn ei ôl ("poeri allan")
  • heintiau eraill - fel haint y llwybr wrinol (UTI)


Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 06/11/2024 15:18:48