Fflworid

Cyflwyniad

Fluoride
Fluoride

Mae fflworid yn fwyn ac mae lefelau amrywiol ohono i'w gael mewn dŵr, yn dibynnu ar ble'r ydych chi'n byw.

Gall fflworid helpu i atal pydredd dannedd. Mae'n cael ei gynnwys mewn past dannedd ac yn cael ei ychwanegu at ddŵr yfed, weithiau.

Past dannedd â fflworid

Mae brwsio â phast dannedd â fflworid ddwywaith y dydd yn ffordd effeithiol tu hwnt o atal pydredd dannedd. Hefyd, gallwch leihau'r risg y bydd eich dannedd yn pydru trwy gyfyngu faint o fwydydd a diodydd melys rydych chi'n eu bwyta a'u hyfed.

Mae faint o fflworid sydd mewn past dannedd yn cael ei fesur mewn rhannau fesul miliwn (ppm) ac mae i'w weld ar y tiwb.

Gall plant ddefnyddio past dannedd sy'n cynnwys 1,000 – 1,450 ppm o fflworid.

  • Dylai plant o dan 3 oed ddefnyddio rhwbiad o bast dannedd
  • Dylai plant dros 3 oed ddefnyddio maint pysen o bast dannedd

Os oes mwy o risg carïedd dannedd i blant ac oedolion, gallant gael cyngor i ddefnyddio past dannedd cryfach.

Gall deintyddion roi past dannedd â lefel uchel o fflworid ar bresgripsiwn, a fydd yn cynnwys naill ai 2,800ppm neu 5,000ppm o fflworid. Dim ond y sawl sy'n cael hwn ar bresgripsiwn ddylai ei ddefnyddio, nid y teulu cyfan. 

Mae rhagor o wybodaeth am frwsio'r dannedd i'w gweld ar wefan Cynllun Gwên.

Triniaethau fflworid eraill

Golch fflworid i'r geg

Gall golch fflworid i'r geg gael ei ragnodi i oedolion a phlant dros 8 oed y mae perygl i'w dannedd bydru. Dylai gael ei ddefnyddio bob dydd, yn ogystal â brwsio ddwywaith y dydd.

Dylai golch i'r geg gael ei ddefnyddio ar adeg wahanol i frwsio er mwyn osgoi golchi'r past dannedd oddi ar eich dannedd.

Farnais fflworid 

Gall gweithiwr deintyddol proffesiynol roi farnais fflworid ar ddannedd cyntaf a dannedd oedolion.

Mae hyn yn cynnwys paentio farnais sy'n cynnwys lefel uchel o fflworid ar wyneb y dant i atal pydredd. Mae'n gweithio trwy gryfhau enamel y dant, fel y bydd yn gallu gwrthsefyll pydru yn well.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Cynllun Gwên

Ychwanegu fflworid at ddŵr yn y gymuned

Mae pob cyflenwad dŵr yn cynnwys lefelau bach amrywiol o fflworid sy'n digwydd yn naturiol. Ychwanegu fflworid at ddŵr yn y gymuned yw'r broses o addasu lefel y fflworid mewn dŵr yfed fel ei fod ar y lefelau gorau i atal pydredd dannedd. Mae cynlluniau effeithiol i ychwanegu fflworid at ddŵr wedi bodoli yn fyd-eang ers dros 70 mlynedd.

Mae ychwanegu fflworid at ddŵr yn y gymuned wedi bod yn ffordd ddiogel ac effeithiol o leihau pydredd dannedd. Nid oes tystiolaeth o unrhyw risgiau sylweddol i iechyd yn gysylltiedig ag ychwanegu fflworid at ddŵr.

Mae dros 400 miliwn o bobl yn fyd eang yn cael dŵr yfed â fflworid ynddo. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gynlluniau i ychwanegu fflworid at ddŵr yn y gymuned yng Nghymru. 

A yw fflworid yn ddiogel?

Mae pryder y gall fflworid fod yn gysylltiedig ag amrywiaeth o gyflyrau iechyd. Nid oes tystiolaeth argyhoeddiadol i ategu'r pryderon hyn.

Gall cyflwr cosmetig o'r enw fflworosis deintiol ddigwydd os bydd dannedd plant yn dod i gysylltiad â gormod o fflworid pan fyddant yn datblygu (rhwng genedigaeth a 6 oed). Mae fflworosis deintiol ysgafn i'w weld ar ffurf llinellau gwyn perlaidd mân iawn ar wyneb y dannedd. Gall fflworosis difrifol achosi pantiau yn enamel y dant neu afliwio'r enamel.

Nid yw'n gyffredin yn y DU bod fflworosis yn ddigon difrifol i effeithio'n ddifrifol ar olwg y dannedd. Mae hyn oherwydd bod yr Arolygiaeth Dŵr Yfed yn monitro lefelau'r fflworid mewn dŵr yn ofalus ac yn eu haddasu os bydd angen.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 19/03/2024 11:39:36