Clefyd y deintgig

Beth yw clefyd gwm

Gum disease
Gum disease

Mae clefyd y deintgig (periodontitis/clefyd periodontol) yn gyflwr sy'n effeithio ar y deintgig, yr asgwrn ac ar feinweoedd cynnal eraill y dannedd. Gall clefyd y deintgig gael ei atal a gall gael ei drin yn llwyddiannus os caiff ei ddarganfod yn ddigon cynnar.

Nid yw'r cyflwr yn boenus fel arfer, felly efallai na fyddwch yn gwybod amdano hyd nes bydd eich gweithiwr deintyddol proffesiynol yn chwilio amdano.

Yr enw ar gam cynnar clefyd y deintgig yw llid y gorchfan. Os oes gennych lid y gorchfan, gallai eich deintgig waedu pan fyddwch yn brwsio eich dannedd ac efallai bydd gennych anadl ddrwg. Gall llid y gorchfan gael ei ddadwneud trwy lanhau'r dannedd a'r deintgig yn effeithiol.

Os na fyddwch yn rheoli llid y gorchfan, gall clefyd y deintgig ddatblygu. Mae hyn yn arwain at golli'r asgwrn sy'n cynnal y dannedd. Gall dannedd symud o ganlyniad a gall arwain at fylchau rhwng dannedd. Gall dannedd fynd yn rhydd a disgyn allan yn y pen draw.

Beth sy'n achosi clefyd y deintgig

Caiff clefyd y deintgig ei achosi gan facteria sy'n casglu wrth ymyl y deintgig mewn sylwedd gludiog o'r enw plac deintiol. 

Mae angen gwaredu plac deintiol trwy frwsio a glanhau o gwmpas a rhwng y dannedd ddwywaith y dydd. Os na chaiff ei lanhau'n gywir, mae'r deintgig yn dechrau dod i ffwrdd oddi wrth y dant, gan greu poced. Yna, mae'r plac yn tyfu islaw llinell y deintgig. Gydag amser, mae'r asgwrn sy'n cynnal y dant yn cael ei ddinistrio, mae'r deintgig yn crebachu ac, yn pen draw, mae'r dannedd yn dechrau siglo ac yna gallant ddisgyn allan.

Mae mwy o risg i rai pobl ddatblygu clefyd y deintgig. Mae hyn yn cynnwys pobl:

  • yr oedd gan eu rhieni glefyd y deintgig 
  • sydd â diabetes
  • sy'n ysmygu (neu efallai'n defnyddio e-sigaréts)
  • sydd dan straen
  • sydd â diet gwael
  • sy'n ordew
  • sydd â chyflyrau meddygol penodol 

Beth alla i ei wneud i atal clefyd y deintgig

I atal clefyd y deintgig:

  • Brwsiwch eich dannedd am 2 funud, ddwywaith y dydd
  • Glanhewch rhwng y dannedd gan ddefnyddio fflos neu frwshys rhyngddeintiol unwaith y dydd 
  • Os ydych chi'n ysmygu, rhowch y gorau iddi

I'ch helpu i roi'r gorau i ysmygu, ffoniwch 0800 085 2219 neu ewch i www.helpafiistopio.cymru/ 

Os oes gennych ddiabetes, bydd rheoli hyn yn dda hefyd yn helpu i reoli clefyd y deintgig. Siaradwch â'ch meddyg teulu.

Ewch i weld gweithiwr deintyddol proffesiynol am archwiliadau mor rheolaidd ag y byddant yn ei argymell.

Mae deintgig sy'n gwaedu yn arwydd o glefyd y deintgig. Os bydd eich deintgig yn gwaedu wrth i chi frwsio eich dannedd, ffoniwch eich deintyddfa am gyngor.

Sut mae clefyd y deintgig yn cael ei drin?

Nod triniaeth ar gyfer clefyd y deintgig yw lleihau lefelau'r bacteria o gwmpas eich dannedd ac atal y cyflwr rhag gwaethygu.

Gall eich deintydd addysgu'r ffyrdd gorau i chi gadw'ch dannedd a'ch deintgig yn lân. Er mwyn i driniaeth clefyd y deintgig fod yn llwyddiannus, mae'n rhaid i hylendid eich ceg fod yn dda trwy frwsio o gwmpas a rhwng eich dannedd ddwywaith y dydd. Defnyddiwch fflos neu frwshys rhyngddeintiol i lanhau rhwng eich dannedd.

Gall triniaeth gynnwys glanhau'r dannedd yn broffesiynol gan weithiwr deintyddol proffesiynol, fel deintydd, therapydd neu hylenydd.

Mae gan Gymdeithas Periodontoleg Prydain lawer o wybodaeth ddefnyddiol i gleifion am glefyd y deintgig.

Llid madreddog wlserol llym y gorchfan (ANUG)

Mewn achosion prin, gall cyflwr o'r enw llid madreddog wlserol llym y gorchfan (ANUG) ddatblygu. Mae ANUG yn fwy cyffredin ymhlith ysmygwyr.

Mae symptomau ANUG yn fwy difrifol na chlefyd y deintgig a gallant gynnwys:

  • deintgig poenus, sy'n gwaedu
  • wlserau poenus
  • deintgig sy'n cilio rhwng eich dannedd
  • anadl ddrwg
  • blas metelig yn eich ceg
  • gormod o boer
  • trafferth llyncu neu siarad
  • tymheredd uchel (twymyn)

Yn ogystal â'r cyngor uchod ar hylendid y geg, gall fod angen poenleddfwyr ar ANUG. I leddfu poen, cymerwch barasetamol neu Ibuprofen (dilynwch gyfarwyddiadau'r dos ar y pecyn).

Ffoniwch eich deintyddfa am apwyntiad brys.

Os nad oes gennych ddeintydd rheolaidd, ffoniwch rif y llinell gymorth ddeintyddol ar gyfer ardal eich Bwrdd Iechyd Lleol.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 19/03/2024 11:41:29