Anaf pen

Cyflwyniad

Mae mân anafiadau i'r pen yn gyffredin ymysg pobl o bob oed, ac yn anaml iawn y byddant yn arwain at unrhyw niwed parhaol i'r ymennydd.

Os bydd eich plentyn yn cael cnoc neu ergyd i'r pen, dylech ei roi i eistedd, ei gysuro a gwneud yn siwr ei fod yn gorffwys. Gallwch ddal clwtyn oer wrth ei ben, neu ddefnyddio bag o iâ neu bys wedi'u rhewi, wedi'i lapio mewn lliain llestri.

Mae symptomau mân anaf i'r pen yn ysgafn fel arfer, ac ni fyddant yn para'n hir. Gallent gynnwys:

  • cur pen/pen tost ysgafn
  • cyfog (teimlo'n sâl)
  • pendro ysgafn
  • golwg ychydig yn aneglur

Os bydd symptomau eich plentyn yn gwaethygu'n sylweddol, ewch ag ef i adran damweiniau ac achosion brys eich ysbyty agosaf ar unwaith neu ffoniwch 999 a gofyn am ambiwlans.

Yr hyn y dylech gadw llygad allan amdano

Mae arwyddion anaf i'r ymennydd yn dilyn anaf i'r pen yn cynnwys:

  • bod yn anymwybodol - naill ai am amser byr (cyfergyd) neu am gyfnod hirach
  • ffitiau
  • problemau gyda'r synhwyrau - fel colli clyw neu olwg dwbl
  • chwydu'n fynych
  • gwaed neu hylif clir yn dod o'r clustiau neu'r trwyn
  • colli cof (amnesia) 

Os bydd unrhyw rai o'r symptomau hyn yn digwydd ar ôl anaf i'r pen, ewch i'ch adran damweiniau ac achosion brys agosaf ar unwaith neu ffoniwch 999 a gofyn am ambiwlans.

Pa mor gyffredin yw anafiadau i'r pen?

Bob blwyddyn yng Nghymru a Lloegr, bydd rhyw 700,000 o bobl yn mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys gydag anaf i'r pen. O'r rhain, dim ond mân anaf i'r pen sydd gan 80% ohonynt.

Achosion mwyaf cyffredin anafiadau i'r pen yw cwympiadau, ymosodiadau a damweiniau traffig ffordd. 

Mae plant yn fwy tebygol o gael mân anaf i'r pen gan eu bod yn fywiog iawn.

Trin mân anaf i'r pen

Bydd y rhan fwyaf o bobl sy'n mynd i'r ysbyty oherwydd bod ganddynt fân anaf i'r pen yn cael mynd adref yn fuan wedi hynny, gan wella'n llwyr mewn ychydig ddyddiau.

Ar ôl mynd i'r ysbyty gyda mân anaf i'r pen, cewch fynd adref yn weddol gyflym a byddwch yn gallu gwella gartref. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn gwella'n llwyr mewn ychydig ddyddiau.

Mae'n bwysig bod rhywun yn aros gyda'r unigolyn a anafwyd am y 24 awr gyntaf ar ôl yr anaf, er mwyn sylwi ar unrhyw symptomau newydd a allai ddatblygu.

Mae hefyd yn bwysig gorffwys ac osgoi gwaethygu'r anaf gyda sefyllfaoedd sy'n peri straen, a dylai'r unigolyn osgoi chwaraeon cyffwrdd hyd nes bydd wedi gwella'n llwyr.

Gellir trin pen tost / cur pen ysgafn gyda pharasetamol, ond darllenwch gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr bob amser i sicrhau bod y dos cywir yn cael ei gymryd. Peidiwch â rhoi asbrin i blant dan 16 oed.

Darllenwch fwy o wybodaeth ynghylch trin mân anaf i'r pen.

Atal anafiadau i'r pen

Er y gall fod yn anodd rhagweld neu osgoi anaf i'r pen, mae rhai camau y gallwch eu cymryd i helpu i leihau risg anaf mwy difrifol. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • gwisgo helmed ddiogelwch pan fyddwch yn beicio
  • lleihau peryglon yn y cartref a allai achosi cwymp
  • gwneud eich cartref yn ddiogel i blant
  • defnyddio'r offer diogelwch cywir ar gyfer gwaith, chwaraeon a gwaith yn y cartref

Darllenwch fwy o wybodaeth ynghylch atal mân anaf i'r pen.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 19/11/2024 10:04:17