Llau pen

Cyflwyniad

Head lice and nits
Head lice and nits

Head Lice

 

Mae llau pen a nedd yn gyffredin iawn mewn plant ifanc. Nid ydynt yn gysylltiedig â gwallt brwnt o gwbl ac maen nhw fel arfer yn cael eu dal trwy gysylltiad pen uniongyrchol.

 

Gwiriwch ai llau pen ydyw

 

Pryfed bach hyd at 3mm o hyd yw llau pen, ac maen nhw'n gallu bod yn anodd eu gweld. Mae wyau llau pen (nedd) yn felyn, yn frown neu'n wyn (plisg gwag) ac ynghlwm wrth wallt.

 

Gall llau pen weithiau wneud i'ch pen deimlo'n:

  • goslyd
  • fel petai rhywbeth yn symud yn eich gwallt

Yr unig ffordd o fod yn sicr bod gan rywun lau pen yw trwy ddod o hyd i lau byw neu wyau.

 

Gallwch wneud hyn trwy gribo ei wallt â​ chrib fân arbennig (crib canfod trwy gribo). Gallwch brynu'r rhain ar-lein neu mewn fferyllfeydd.

Sut i gael gwared ar lau pen

Pwysig - Gallwch drin llau pen heb weld meddyg teulu.

Triniwch lau pen cyn gynted ag y sylwch arnynt. Dylech archwilio pawb yn y tŷ a'u trin ar yr un diwrnod os oes ganddynt lau pen.

Nid oes angen cadw'ch plentyn draw o'r ysgol os oes ganddo lau pen.

Cribo gwlyb

Gellir cael gwared ar lau pen a nedd trwy gribo gwlyb. Dylech roi cynnig ar y dull hwn yn gyntaf.

Gallwch brynu crib fân arbennig (crib canfod trwy gribo) ar-lein neu mewn fferyllfeydd i gael gwared ar lau pen a nedd.

Bydd y pecyn yn cynnwys cyfarwyddiadau i'w dilyn, ond yn nodweddiadol:

  • defnyddiwch y grib ar wallt gwlyb neu sych - er ei bod fel arfer yn gweithio orau ar wallt gwlyb gyda chyflyrydd
  • cribwch y gwallt i gyd, o'r gwreiddiau i'r blaenau
  • ailadroddwch bob ychydig ddiwrnodau am 2 wythnos

Fel arfer, bydd yn cymryd tua 10 munud i gribo gwallt byr, ac 20 i 30 munud i gribo gwallt hir, crychlyd neu gyrliog.

Trwythau neu chwistrellau meddyginiaethol

Gofynnwch i'ch fferyllydd am gyngor os ydych wedi rhoi cynnig ar gribo gwlyb am 2 wythnos, ond mae gan eich plentyn lau pen neu nedd o hyd.

Efallai y bydd yn argymell defnyddio trwythau a chwistrellau meddyginiaethol. Mae'r rhain yn lladd llau pen mewn pob math o wallt, a gallwch eu prynu mewn fferyllfeydd, archfarchnadoedd neu ar-lein.

Dylai'r llau pen farw o fewn diwrnod. Mae trwythau a chwistrellau'n dod gyda chrib i gael gwared ar lau marw ac wyau.

Bydd angen ailadrodd rhai triniaethau ar ôl wythnos i ladd unrhyw lau sydd newydd ddeor.

Gwiriwch y pecyn i wneud yn siŵr eu bod nhw'n briodol i chi neu'ch plentyn, ac i gael gwybod sut i'w defnyddio.

Os nad yw trwythau neu chwistrellau'n gweithio, siaradwch â'ch fferyllydd am driniaethau eraill.

Nid yw rhai triniaethau'n cael eu hargymell oherwydd eu bod yn annhebygol o weithio.

Er enghraifft:

  • cynhyrchion sy'n cynnwys permethrin
  • "ymlidyddion" llau pen
  • cribau trydan ar gyfer llau pen
  • triniaethau olew coed a phlanhigion, fel meddyginiaethau llysieuol olew coeden de, olew ewcalyptws ac olew lafant

Ni allwch atal llau pen

Ni allwch wneud unrhyw beth i atal llau pen. Gallwch leihau'r perygl o ledu llau trwy osgoi cysylltiad pen uniongyrchol.

Peidiwch â defnyddio trwythau a chwistrellau meddyginiaethol i atal llau pen. Gall hyn lidio croen y pen.

Nid oes angen cadw plant draw oddi wrth yr ysgol, na golchi dillad ar dymheredd poeth.

Darllenwch fanylion meddygol am lau pen.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 19/11/2024 10:52:12