HIV ac AIDS

Cyflwyniad

Symptomau

Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n cael haint HIV yn cael salwch byr, tebyg i'r ffliw, sy'n digwydd 2-6 wythnos ar ôl cael yr haint. Ar ôl hyn, mae'n bosibl na fydd HIV yn achosi unrhyw symptomau am sawl blwyddyn.

Amcangyfrifir bod hyd at 80% y bobl sy'n cael haint HIV yn cael y salwch hwn sy'n debyg i'r ffliw.

Dyma'r symptomau mwyaf cyffredin:

  • tymheredd uwch (twymyn)
  • dolur gwddf 
  • brech ar y corff

Gall symptomau eraill gynnwys:

  • blinder
  • poen yn y cymalau 
  • poen yn y cyhyrau 
  • chwarennau chwyddedig

Fel arfer, mae'r symptomau'n para 1-2 wythnos, ond gallant bara'n hirach. Maen nhw'n arwydd bod eich system imiwnedd yn brwydro yn erbyn y feirws.

Fodd bynnag, nid yw'r symptomau hyn yn golygu o reidrwydd bod gennych feirws HIV. Cofiwch: maen nhw'n cael eu hachosi'n gyffredin gan gyflyrau heblaw HIV.

Os oes gennych nifer o'r symptomau hyn ac rydych yn meddwl efallai gallech chi fod wedi cael haint HIV yn ystod yr wythnosau diwethaf, dylech gael prawf HIV.

Ar ôl i'r symptomau cychwynnol ddiflannu, efallai na fydd HIV yn achosi unrhyw symptomau pellach am flynyddoedd lawer.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae'r feirws yn parhau i fod yn weithredol ac mae'n achosi niwed cynyddol i'ch system imiwnedd.

Gall y broses hon amrywio o berson i berson, ond gall gymryd hyd at 10 mlynedd a byddwch yn teimlo'n dda a bydd golwg dda arnoch yn ystod y cyfnod hwn. 

Pan fydd y system imiwnedd wedi'i niweidio'n ddifrifol, gall y symptomau gynnwys:

  • colli pwysau
  • dolur rhydd cronig
  • chwysu yn y nos 
  • problemau'r croen 
  • heintiau mynych
  • afiechydon difrifol sy'n rhoi bywyd yn y fantol

Gall diagnosis cynt o HIV, a'i drin yn gynt, atal y problemau hyn.

Dylech gael prawf HIV o hyd os oedd risg i chi ar unrhyw adeg yn y gorffennol, hyd yn oed os nad ydych yn cael unrhyw symptomau.

A ydych am wybod mwy?

Achosion

Yn y DU, mae'r rhan fwyaf o achosion o HIV yn cael eu hachosi trwy gael rhyw gyda pherson â HIV nad yw'n cael triniaeth effeithiol, ac nid ydych yn defnyddio condom.

Gall person â HIV drosglwyddo'r feirws i bobl eraill hyd yn oed os nad oes gan y person symptomau. Gall pobl â HIV drosglwyddo'r feirws yn haws yn yr wythnosau ar ôl iddynt gael eu heintio eu hunain. Os bydd y person â HIV yn cael triniaeth ac mae ei lwyth feirysol yn anghanfyddadwy, ni fydd yn trosglwyddo'r feirws trwy ryw.

Pan fydd person yn byw gyda HIV ac yn cael triniaeth effeithiol, mae'n gostwng lefel yr HIV (y llwyth feirysol) yn y gwaed. Pan fydd y lefelau'n isel tu hwnt (islaw 200 copi/ml o waed a fesurir), gelwir hyn yn llwyth feirysol anghanfyddadwy. Enw meddygol arall ar hyn yw ataliedig yn feirysol. Y pryd hwn, ni all HIV gael ei drosglwyddo trwy ryw ac mae wedi arwain at yr ymgyrch U=U - Anghanfyddadwy felly Anhrosglwyddadwy.

Cyswllt rhywiol

Mae'r rhan fwyaf o bobl sydd wedi cael diagnosis o HIV yn y DU yn cael y feirws drwy ryw drwy'r wain neu drwy'r anws, heb gondom.

Gall fod yn bosibl dal HIV drwy ryw heb ddiogelwch drwy'r geg hefyd, ond mae'r risg yn is o lawer.

Mae'r risg yn uwch:

  • os oes gan y sawl sy'n rhoi rhyw drwy'r geg wlserau neu friwiau'r geg, neu ddeintgig sy'n gwaedu 
  • os yw'r sawl sy'n derbyn rhyw drwy'r geg wedi cael haint HIV yn ddiweddar ac mae llawer o'r feirws yn ei gorff, neu haint arall a drosglwyddir yn rhywiol

Ymddygiadau risg eraill 

Mae ffyrdd eraill o gael HIV yn cynnwys:

  • rhannu nodwyddau, chwistrelli neu offer eraill ar gyfer rhoi pigiadau
  • o'r fam i'r baban cyn neu yn ystod genedigaeth neu wrth fwydo ar y fron os nad yw'r fam yn cael triniaeth 
  • rhannu teganau rhyw gyda rhywun sydd wedi cael haint HIV ac nad yw'n cael triniaeth 
  • gweithwyr gofal iechyd sy'n pigo'u hunain ar ddamwain gyda nodwydd heintiedig, ond mae'r risg hon yn isel tu hwnt
  • trallwysiad gwaed – mae hyn yn brin iawn yn y DU erbyn hyn, ond mae'n broblem o hyd mewn gwledydd sy'n datblygu 

I bwy mae'r risg fwyaf?

Mae'r bobl sydd â mwy o risg cael haint HIV yn cynnwys:

  • dynion sy'n cael rhyw heb ddiogelwch gyda dynion 
  • pobl sy'n cymryd rhan mewn cemryw (defnyddio cyffuriau i helpu gyda rhyw neu ei wella) – mae cemryw o bryder cynyddol oherwydd gall fod yn gysylltiedig â chael llawer o wahanol bartneriaid rhywiol a pheidio â defnyddio condom
  • menywod sy'n cael rhyw heb gondom gyda dynion sy'n cael rhyw gyda dynion 
  • pobl sy'n cael rhyw heb gondom gyda rhywun sydd wedi byw neu deithio yn Affrica 
  • pobl sy'n cymryd cyffuriau trwy bigiad ac sy'n rhannu offer 
  • pobl sy'n cael rhyw heb gondom gyda rhywun sydd wedi cymryd cyffuriau trwy bigiad ac sydd wedi rhannu offer 
  • pobl sydd â haint arall a drosglwyddir yn rhywiol
  • pobl sydd wedi cael trallwysiad gwaed tra'r oeddent yn Affrica, dwyrain Ewrop, gwledydd yr Undeb Sofietaidd gynt, Asia neu ganol neu dde America

Sut caiff HIV ei drosglwyddo 

Nid yw HIV yn cael ei drosglwyddo'n hawdd o un person i'r llall. Nid yw'r feirws yn lledaenu drwy'r aer fel feirysau annwyd a'r ffliw. 

Mae HIV yn byw yn y gwaed ac yn rhai o hylifau'r corff. I gael HIV, mae'n rhaid i un o'r hylifau hyn gan rywun sydd â HIV fynd i'ch gwaed chi.

Dyma hylifau'r corff sy'n cynnwys digon o HIV i heintio rhywun:

  • semen
  • hylifau'r wain, gan gynnwys gwaed y mislif
  • llaeth y fron
  • gwaed
  • y leinin y tu mewn i'r anws

Nid yw hylifau eraill y corff, fel poer, chwys neu wrin, yn cynnwys digon o'r feirws i heintio rhywun arall.

Dyma'r prif ffyrdd y mae'r feirws yn mynd i lif y gwaed:

  • trwy bigiad i lif y gwaed gan ddefnyddio nodwyddau neu offer chwistrellu a rannwyd gyda phobl eraill 
  • trwy'r leinin tenau ar neu'r tu mewn i'r anws, y wain a'r organau rhywiol
  • trwy leinin tenau'r geg a'r llygaid 
  • trwy doriadau a briwiau ar y croen

Nid yw HIV yn cael ei drosglwyddo drwy:

  • boeri
  • cusanu
  • cael eich cnoi
  • cyswllt â chroen iach, heb ei dorri 
  • tisian
  • rhannu bath, llieiniau neu gyllyll a ffyrc
  • defnyddio'r un toiledau neu byllau nofio
  • dadebru ceg wrth geg 
  • cysylltiad ag anifeiliaid neu bryfaid fel mosgitos

Sut mae HIV yn heintio'r corff 

Mae HIV yn heintio'r system imiwnedd, gan achosi niwed cynyddol ac, yn y pen draw, ni fydd y system imiwnedd yn gallu brwydro heintiau.

Mae'r feirws yn glynu ei hun wrth gelloedd y system imiwnedd o'r enw celloedd lymffocyt CD4, sy'n amddiffyn y corff rhag amrywiol facteria, feirysau a germau eraill.

Ar ôl glynu ei hun, mae'n mynd i mewn i'r celloedd CD4 ac yn eu defnyddio i wneud miloedd o gopïau ohono'i hun. Yna, mae'r copïau hyn yn gadael y celloedd CD4, gan eu lladd nhw wrth wneud.

Mae'r broses hon yn parhau hyd nes bydd nifer y celloedd CD4, neu eich cyfrif CD4, yn disgyn mor isel yn y pen draw fel bod eich system imiwnedd yn rhoi'r gorau i weithio.

Gall y broses hon gymryd hyd at 10 mlynedd a byddwch chi'n teimlo'n dda a bydd golwg dda arnoch yn ystod y cyfnod hwnnw.

Diagnosis

Yr unig ffordd o ddarganfod a oes gennych HIV yw cael prawf HIV, oherwydd mae'n bosibl na fydd symptomau HIV yn ymddangos am flynyddoedd lawer. Dylai unrhyw un sy'n amau bod ganddynt HIV gael prawf.

Mae profion HIV ar gael i bawb yn rhad ac am ddim drwy'r GIG. Gall llawer o glinigau roi'r canlyniad i chi ar yr un diwrnod. Mae pecynnau profi gartref a samplu gartref ar gael hefyd.

Gofynnwch am becyn samplo cartref am ddim.

Mae risg arbennig o uchel i rai grwpiau o bobl a'r cyngor yw iddynt gael profion rheolaidd:

  • Y cyngor i ddynion sy'n cael rhyw gyda dynion yw cael prawf HIV o leiaf unwaith y flwyddyn, neu bob tri mis os ydynt yn cael rhyw heb gondom gyda phartneriaid newydd neu bartneriaid achlysurol. 
  • Y cyngor i ddynion a menywod duon Affricanaidd yw cael prawf HIV, a phrawf sgrinio rheolaidd am HIV a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, os ydynt yn cael rhyw heb gondom gyda phartneriaid newydd neu bartneriaid achlysurol.

Pobl eraill y mae mwy o risg iddynt gael eu heintio yw pobl sy'n rhannu nodwyddau, chwistrelli neu offer arall ar gyfer rhoi pigiadau.

Pryd i gael prawf

Ceisiwch gyngor meddygol ar unwaith os ydych chi'n amau bod siawns y gallai fod gennych HIV. Gorau po gyntaf y cewch ddiagnosis, er mwyn gallu dechrau triniaeth yn gynt ac osgoi mynd yn sâl iawn.

Gall fod angen ailadrodd rhai profion HIV 1-3 mis ar ôl dod i gysylltiad â haint HIV, ond ni ddylech aros mor hir â hyn i geisio help.

Gall eich meddyg teulu neu weithiwr proffesiynol iechyd rhywiol siarad â chi am gael prawf a thrafod a ddylech chi gymryd meddyginiaeth frys ar gyfer HIV.

Gall meddyginiaeth gwrth-HIV o'r enw proffylacsis ôl-amlygiad (PEP) eich atal chi rhag cael yr haint os byddwch yn ei gymryd o fewn 72 awr o ddod i gysylltiad â'r haint.

Ble i gael prawf HIV

Mae sawl lle y gallwch fynd iddo i gael prawf HIV, gan gynnwys:

  • clinigau iechyd rhywiol 
  • clinigau sy'n cael eu rhedeg gan elusennau fel Ymddiriedolaeth Terrence Higgins
  • rhai meddygfeydd 
  • gwasanaethau lleol ar gyfer dibyniaeth ar gyffuriau
  • clinig cyn-geni, os ydych chi'n feichiog
  • clinig preifat, ble bydd yn rhaid i chi dalu

Hefyd, mae pecynnau samplu gartref a phrofi gartref y gallwch eu defnyddio os nad ydych am fynd i'r un o'r lleoedd hyn.

Mathau o brawf HIV 

Mae pedwar prif fath o brawf HIV:

  • prawf gwaed – bydd sampl o waed yn cael ei chymryd mewn clinig a'i hanfon i'w phrofi mewn labordy. Fel arfer, bydd y canlyniadau ar gael ar yr un diwrnod neu o fewn ychydig ddiwrnodau.
  • prawf pwynt gofal – bydd clinig yn cymryd sampl o boer o'ch ceg neu smotyn bach o waed o'ch bys. Nid oes angen i'r sampl hon gael ei hanfon i labordy a bydd y canlyniadau ar gael ymhen ychydig funudau.
  • pecyn samplu gartref – byddwch yn casglu sampl o boer neu smotyn bach o waed gartref ac yn ei hanfon yn y post i'w phrofi. Cewch alwad ffôn neu neges destun gyda'ch canlyniad ymhen ychydig ddiwrnodau. Ewch i test.hiv i weld a ydych chi'n gymwys i gael prawf am ddim. Os nad ydych chi, gallwch eu prynu ar-lein neu o rai fferyllfeydd. Maen nhw ar gael yn rhad ac am ddim gan GIG Cymru (Profi a Phostio)
  • pecyn profi gartref – byddwch yn casglu sampl o boer neu smotyn bach o waed eich hun ac yn ei phrofi gartref. Bydd y canlyniad ar gael ymhen munudau. Mae'n bwysig gwirio bod marc sicrhau ansawdd CE i'w weld ar unrhyw brawf a brynwch, a'i fod wedi'i drwyddedu i'w werthu yn y DU, gan fod ansawdd hunanbrofion HIV sydd ar gael o dramor yn gallu bod yn wael.

Os na fydd y prawf yn dod o hyd i arwydd o haint, mae eich canlyniad yn "negyddol". Os bydd arwyddion o haint yn cael eu darganfod, mae'r canlyniad yn "bositif".

Y prawf gwaed yw'r prawf mwyaf cywir ac, fel arfer, gall roi canlyniadau dibynadwy o fis ar ôl haint.

Mae'r profion eraill yn tueddu i fod yn llai cywir ac mae'n bosibl na fyddant yn rhoi canlyniad dibynadwy am gyfnod hirach ar ôl dod i gysylltiad â'r haint. Y cyfnod ffenestr yw'r enw ar hwn.

Yn achos pob prawf, dylid gwneud prawf gwaed i gadarnhau'r canlyniad os bydd y prawf cyntaf yn bositif.

Os bydd y prawf hwn yn bositif hefyd, cewch eich cyfeirio at glinig HIV arbenigol am ragor o brofion a thrafodaeth am eich opsiynau am driniaeth.

Sgrinio ar gyfer HIV yn ystod beichiogrwydd

Mae prawf gwaed yn cael ei gynnig i bob menyw feichiog i wirio a oes ganddynt HIV, sy'n rhan arferol o sgrinio cyn-geni.

Os na chaiff ei drin, gall HIV gael ei drosglwyddo o fenyw feichiog i'w baban yn ystod beichiogrwydd, genedigaeth neu fwydo ar y fron. Mae triniaeth yn ystod beichiogrwydd yn lleihau risg trosglwyddo HIV i'r baban yn sylweddol.

Triniaeth

Er nad oes iachâd i HIV, mae triniaethau effeithiol iawn sy'n galluogi'r rhan fwyaf o bobl sydd â'r feirws i fyw bywyd hir ac iach.

Cyffuriau HIV brys

Os ydych chi'n amau i chi ddod i gysylltiad â'r feirws, gall meddyginiaeth proffylacsis ôl-amlygiad (PEP) eich atal chi rhag cael eich heintio.

Rhaid dechrau PEP o fewn 72 awr o ddod i gysylltiad â'r feirws er mwyn iddo fod yn effeithiol. Fe'i hargymhellir yn dilyn amlygiad risg uwch yn unig, yn enwedig os yw'n hysbys bod y partner rhywiol yn bositif.

Mae PEP yn cynnwys cymryd triniaeth HIV bob dydd am fis. Gall achosi rhai sgîl-effeithiau.

Dylech allu cael PEP gan:

  • glinigau iechyd rhywiol neu gliniau meddygaeth genhedlol-wrinol (GUM)
  • ysbytai – adrannau damweiniau ac achosion brys fel arfer

Os oes gennych HIV yn barod, cysylltwch â'ch clinig HIV os yw'r PEP ar gyfer y sawl gawsoch chi ryw gydag ef/hi.

A ydych am wybod mwy?

Os byddwch yn profi'n bositif

Os cewch ddiagnosis o HIV, byddwch yn cael profion gwaed rheolaidd i fonitro hynt yr haint HIV cyn cael triniaeth.

Dau brawf gwaed pwysig yw:

  • Prawf llwyth feirysol HIV – prawf gwaed sy'n monitro faint o feirws HIV sydd yn eich gwaed
  • Cyfrif celloedd lymffocyt CD4 – sy'n mesur sut mae'r HIV wedi effeithio ar eich system imiwnedd

Gellir dechrau triniaeth unrhyw bryd yn dilyn eich diagnosis, yn dibynnu ar eich amgylchiadau ac mewn ymgynghoriad â'ch meddyg HIV.

A ydych am wybod mwy?

Cyffuriau gwrth-retrofeirysol

Caiff HIV ei drin gyda meddyginiaethau gwrth-retrofeirysol, sy'n gweithio trwy atal y feirws rhag atgynhyrchu yn y corff. Mae hyn yn galluogi'r system imiwnedd i drwsio'i hun ac atal niwed pellach.

Defnyddir cyfuniad o gyffuriau HIV oherwydd gall HIV addasu'n gyflym a mynd yn ymwrthol. 

Mae gwahanol gyfuniadau o feddyginiaethau HIV yn gweithio i wahanol bobl, felly bydd y feddyginiaeth rydych chi'n ei chymryd yn unigol i chi.

Bydd lefel y feirws HIV yn eich gwaed (llwyth feirysol) yn cael ei mesur i weld pa mor dda mae'r driniaeth yn gweithio. Pan na fydd modd ei mesur mwyach, gelwir hyn yn anghanfyddadwy. Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n cymryd triniaeth HIV yn ddyddiol yn cyrraedd llwyth feirysol anghanfyddadwy o fewn 6 mis o ddechrau triniaeth.

Gall llawer o'r meddyginiaethau a ddefnyddir i drin HIV ryngweithio â meddyginiaethau eraill sy'n cael eu rhoi ar bresgripsiwn gan eich meddyg teulu neu eu prynu dros y cownter.

Mae'r rhain yn cynnwys meddyginiaethau llysieuol fel eurinllys, ynghyd â rhai cyffuriau adloniant. Holwch staff eich clinig HIV neu'ch meddyg teulu bob amser cyn cymryd unrhyw feddyginiaethau eraill.

A ydych am wybod mwy?

Byw gyda

Os byddwch yn rheoli eich cyflwr yn gywir trwy gymryd eich meddyginiaeth yn gywir, dylech allu byw bywyd normal.

Effaith seicolegol HIV

Cael cymorth

Gan fod HIV yn gyflwr hirdymor, byddwch mewn cysylltiad rheolaidd â'ch tîm gofal iechyd, a fydd yn adolygu eich triniaeth yn barhaus.

Mae datblygu perthynas dda â'ch tîm gofal iechyd yn golygu y gallwch drafod eich symptomau neu eich pryderon yn hawdd. Po fwyaf y bydd y tîm yn ei wybod, y mwyaf y gallant eich helpu chi.

Mae pobl â HIV yn cael eu gweld mewn clinig HIV arbenigol, sydd fel arfer yn rhan o glinig iechyd rhywiol neu glefydau heintus yn eich ysbyty lleol.

Dod o hyd i wasanaethau cymorth HIV yn lleol

Cymorth seicolegol

Gall cael diagnosis o HIV achosi poen meddwl mawr ac mae teimlo gorbryder neu iselder yn gyffredin.

Gall eich tîm gofal iechyd ddarparu cwnsela i chi, fel y gallwch drafod eich cyflwr a'ch pryderon yn llawn.

Gallai fod yn ddefnyddiol i chi siarad â chwnselydd neu seicolegydd hyfforddedig, neu rywun ar linell gymorth arbenigol. Bydd gan eich clinig HIV wybodaeth am y rhain.

I rai pobl, mae'n ddefnyddiol siarad â phobl eraill sydd â HIV, naill ai mewn grŵp cymorth lleol neu ystafell sgwrsio ar y we.

A ydych am wybod mwy?

Dweud wrth bobl am eich HIV

Dweud wrth eich partner a chyn-bartneriaid

Os oes gennych HIV, mae'n bwysig bod eich partner rhywiol presennol ac unrhyw bartneriaid rhywiol a gawsoch ers cael eich heintio'n cael eu profi a'u trin. 

Gall rhai pobl deimlo'n flin, yn ofidus neu'n chwithig am drafod HIV gyda'u partner presennol neu gyn-bartneriaid. Trafodwch eich pryderon gyda'ch meddyg teulu neu staff y clinig.

Byddant yn gallu rhoi cyngor i chi am bwy i gysylltu â nhw a'r ffordd orau o wneud, neu mae'n bosibl y gallant gysylltu â nhw ar eich rhan.

Hefyd, byddant yn rhoi cyngor i chi ar ddatgelu eich statws i bartneriaid yn y dyfodol a sut y gallwch leihau risg trosglwyddo'r feirws i rywun arall.

Ni all unrhyw un eich gorfodi chi i ddweud wrth yr un o'ch partneriaid fod gennych HIV, ond argymhellir yn gryf eich bod chi'n gwneud hynny.

Heb brawf na thriniaeth, gall canlyniadau HIV fod yn ofnadwy ac arwain yn y pen draw at salwch difrifol a marwolaeth.

Dweud wrth eich cyflogwr

Mae pobl â HIV yn cael eu hamddiffyn o dan y Ddeddf Cydraddoldeb (2010).

Nid yw'n orfodol yn gyfreithiol i chi ddweud wrth eich cyflogwr fod HIV gennych, oni bai bod gennych swydd reng flaen yn y lluoedd arfog neu rydych chi'n gweithio mewn rôl gofal iechyd lle'r ydych yn gwneud triniaethau ymwthiol.

Os ydych chi'n gweithio mewn rôl gofal iechyd, bydd angen i'ch tîm iechyd galwedigaethol a'ch meddyg HIV eich monitro i sicrhau nad ydych yn peri risg haint i chi'ch hun nac i gleifion.

Hefyd, mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod cyfyngiadau ar y cwestiynau iechyd y gall cyflogwyr eu gofyn yn ystod proses gwneud cais am swydd.

Mae hawl gan gyflogwyr ofyn cwestiynau iechyd dim ond ar ôl cynnig swydd, i'w helpu i benderfynu a allwch ymgymryd â thasgau sy'n hanfodol i'r swydd.

Os gofynnir cwestiwn i chi ac nid ydych o'r farn bod y cwestiwn yn cael ei ganiatáu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gallwch ddweud wrth y cyflogwr neu'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Mae gan wefan GOV.UK fwy o wybodaeth am gwestiynau y gall cyflogwr eu gofyn am iechyd ac anabledd.

Os ydych chi'n weithiwr sydd â HIV, fe allech boeni y bydd eich statws HIV yn dod yn wybodaeth gyhoeddus neu y byddwch yn wynebu gwahaniaethu os dywedwch wrth eich cyflogwr.

Ar y llaw arall, os yw eich pennaeth yn gefnogol, gallai dweud wrtho ei gwneud hi'n haws i addasiadau gael eu gwneud i'ch llwyth gwaith neu i chi gael amser i ffwrdd.

Mae gan y sefydliadau sydd wedi'u rhestru isod lawer o wybodaeth, a gallant roi cyngor i chi ar y rhain a materion eraill sy'n gysylltiedig â gwaith.

A ydych am wybod mwy?

Beichiogrwydd a HIV

Cyngor i fenywod beichiog 

Mae triniaeth HIV ar gael i atal menyw feichiog rhag trosglwyddo HIV i'w phlentyn.

Heb driniaeth, mae un siawns mewn pedwar y bydd eich baban yn cael ei heintio â HIV. Gyda thriniaeth, mae'r risg yn llai nag 1 ym mhob 100 (<1%).

Mae datblygiadau mewn triniaeth yn golygu nad oes mwy o risg trosglwyddo'r feirws i'ch baban wrth eni drwy'r wain.

Ond, i rai menywod, gall toriad Cesaraidd gael ei argymell o hyd, yn aml am resymau nad ydynt yn gysylltiedig â'ch HIV.

Trafodwch risgiau a manteision pob dull esgor gyda'r staff yn eich clinig HIV. Chi fydd â'r penderfyniad terfynol ynghylch sut i esgor eich baban a bydd staff yn parchu'r penderfyniad hwnnw.

Y ffordd orau i fam sy'n byw gyda HIV yn y DU fwydo'i baban yw bwydo â photel gan ddefnyddio llaeth fformiwla. Os ydych chi'n cael triniaeth ac mae gennych lwyth feirysol anghanfyddadwy ac rydych yn dewis bwydo eich baban ar y fron, gall eich tîm gofal eich helpu i'w wneud mor ddiogel â phosibl i'ch baban, ond ni fydd mor ddiogel â defnyddio fformiwla.(BF-Leaflet-1.pdf)

Cenhedlu

Os oes gennych chi neu eich partner HIV, gall fod opsiynau ar gael sy'n caniatáu i chi genhedlu plentyn yn ddiogel. Dylech ofyn i'ch meddyg HIV am gyngor.

Os oes gennych HIV ac rydych yn beichiogi, cysylltwch â'ch clinig HIV.

Mae hyn yn bwysig oherwydd:

  • gall rhai triniaethau HIV fod yn niweidiol i'ch baban heb ei eni, felly bydd angen adolygu eich cynllun triniaeth
  • gall fod angen meddyginiaethau ychwanegol i atal eich baban rhag dal HIV

A ydych am wybod mwy?

Heintiau manteisgar

Risg haint

Bydd risg i chi ddatblygu heintiau na fyddent yn achosi risg i chi fel arfer, oherwydd bod y feirws HIV wedi niweidio eich system imiwnedd.

Mae'r heintiau manteisgar hyn, fel y'u gelwir, yn digwydd pan fydd gennych system imiwnedd wan iawn.

Ond, os byddwch chi'n cymryd eich triniaeth HIV, mae'r tebygolrwydd o ddatblygu'r rhain yn isel.

Y pedwar prif fath o heintiau manteisgar yw:

  • heintiau bacterol, fel niwmonia neu dwbercwlosis (TB) 
  • heintiau ffyngaidd, fel llindag y geg a niwmonia niwmosystis (PCP) 
  • heintiau parasitig, fel tocsoplasmosis
  • heintiau feirysol, fel yr eryr (herpes zoster

Hefyd, mae mwy o risg i bobl â HIV datblygedig ddatblygu rhai mathau o ganser, fel canser y system lymffatig (lymffoma).

Niwmonia

Gall niwmonia bacterol ddatblygu'n gymhlethdod heintiau eraill, fel y ffliw. Gall gael ei drin gyda gwrthfiotigau. Heb ei drin, gall niwmonia fod yn angheuol.

Mae pawb sydd â chyflwr hirdymor, fel HIV, yn cael eu hannog i gael pigiad y ffliw bob hydref i amddiffyn rhag y ffliw tymhorol.

Hefyd, argymhellir eu bod yn cael brechiad niwmococol, sy'n amddiffyn rhag haint difrifol y frest o'r enw niwmonia niwmococol.

Niwmonia niwmosystis (PCP)

Mae niwmonia niwmosystis (PCP) yn haint ffyngaidd yr ysgyfaint, sy'n gallu rhoi bywyd yn y fantol os na chaiff ei drin yn brydlon.

Cyn datblygiadau mewn triniaeth HIV, PCP oedd prif achos marwolaeth ymhlith pobl â HIV yn y byd datblygedig.

Mae symptomau PCP yn cynnwys:

  • peswch sych, cyson
  • bod yn fyr o anadl 
  • trafferth anadlu
  • twymyn (mewn rhai achosion)

Rhowch wybod am unrhyw symptomau PCP yn syth gan fod y cyflwr yn gallu gwaethygu'n sydyn heb rybudd.

Gall PCP gael ei drin gyda gwrthfiotigau. Os bydd eich cyfrif CD4 yn disgyn islaw 200, gallech gael gwrthfiotigau i'w cymryd bob dydd nes bod eich cyfrif CD4 yn dringo uwchlaw 200.

Twbercwlosis (TB)

Mae twbercwlosis (TB) yn haint bacterol arall. Yn fyd-eang, dyma un o brif achosion marwolaeth pobl HIV positif.

Weithiau, gall y bacteria sy'n gyfrifol am achosi TB drosglwyddo rhwng pobl yn yr aer. Onid, ni fydd llawer o bobl â TB yn heintus.

Gall TB gael ei drin gan ddefnyddio gwrthfiotigau, ond mae rhai rhywogaethau bacteria wedi datblygu ymwrthedd i wrthfiotigau a gall y rhain fod yn fwy anodd eu trin.

Candidïasis (y llindag)

Mae candidïasis yn haint ffyngaidd sy'n gyffredin ymhlith pobl sy'n byw gyda HIV. Mae'n achosi caeniad gwyn, trwchus i ymddangos y tu mewn i'r geg, y tafod, y gwddf neu'r wain.

Yn anaml iawn y mae candidïasis yn ddifrifol, ond gall fod yn chwithig ac yn boenus. Gall gael ei drin gyda hylifau a thabledi gwrthffyngaidd.

Dywedwch wrth y staff yn eich clinig CD4 os ydych chi'n cael candidïasis yn fynych, oherwydd gall fod yn arwydd o gyfrif CD4 isel.

Canser

Mae mwy o risg i bobl â HIV datblygedig ddatblygu rhai mathau o ganser.

Amcangyfrifir bod rhywun sydd â haint HIV cam hwyr heb ei drin 100 gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu rhai canserau o gymharu â rhywun heb y cyflwr.

Y ddau fath mwyaf cyffredin o ganser sy'n effeithio ar bobl â HIV yw:

  • lymffoma – canser y system lymffatig, rhwydwaith o chwarennau sy'n llunio rhan o'n system imiwnedd 
  • sarcoma Kaposi – mae hyn yn gwneud i namau (lesions) dyfu ar eich croen, a gall effeithio ar eich organau mewnol hefyd 

Mae triniaeth HIV yn bwysig i leihau eich risg canser a chyflyrau hirdymor, fel clefyd cardiofasgwlar a chlefyd anadlol. Os ydych chi'n ysmygu, mae rhoi'r gorau iddi'n bwysig hefyd i leihau'r risg hon.

Arian a chymorth ariannol

Arian

Os oes rhaid i chi roi'r gorau i weithio neu weithio'n rhan-amser oherwydd HIV, gall fod yn anodd i chi ymdopi'n ariannol.

Ond, gallai fod hawl gennych gael un neu fwy o'r mathau canlynol o gymorth ariannol:

A ydych am wybod mwy?

Atal

Mae sawl ffordd effeithiol o atal neu leihau risg haint HIV. Siaradwch â'ch clinig iechyd rhywiol lleol neu'ch meddyg teulu i gael cyngor pellach am y ffordd orau o leihau'ch risg.

Triniaeth fel dull atal

Pan fydd rhywun â HIV yn cymryd triniaeth effeithiol, mae'n lleihau eu llwyth feirysol i lefelau anghanfyddadwy. Mae hyn yn golygu bod lefel y feirws HIV yn y gwaed mor isel fel nad yw prawf yn gallu ei ddarganfod.

Mae cael llwyth feirysol anghanfyddadwy am 6 mis neu fwy yn golygu nad yw'n bosibl trosglwyddo'r feirws yn ystod rhyw. Yr enw ar hyn yw anghanfyddadwy=anhrosglwyddadwy (U=U), neu "driniaeth fel dull atal".

Eisiau gwybod mwy?

NAM aidsmap: datganiad consensws anghanfyddadwy=anhrosglwyddadwy (U=U)

Condomau

Mae condomau ar gael i ddynion a menywod. Mae'r rhain ar gael mewn amrywiaeth o liwiau, gweadau, deunyddiau a blasau.

Condom yw un o'r mathau mwyaf effeithiol o amddiffyn rhag HIV a heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol (STIs). Gall gael ei ddefnyddio ar gyfer rhyw drwy'r wain neu'r anws, ac ar gyfer rhyw geneuol ar ddynion.

Gall HIV gael ei drosglwyddo cyn alldaflu, trwy secretiadau o'r wain a chyn dod, ac o'r anws.

Mae'n bwysig iawn gwisgo condom cyn bod unrhyw gyswllt rhywiol yn digwydd rhwng y pidyn, y wain, y geg neu'r anws.

Iraid

Mae iraid yn cael ei ddefnyddio'n aml i fwyhau pleser rhywiol a diogelwch trwy ychwanegu lleithder at y wain neu'r anws yn ystod rhyw.

Gall iraid wneud rhyw yn fwy diogel trwy leihau risg rhwygo'r wain neu'r anws oherwydd sychder neu ffrithiant, a gall atal condom rhag rhwygo hefyd.

Dim ond iraid dŵr (fel K-Y Jelly) yn hytrach nag iraid olew (fel Vaseline neu olew tylino neu olew baban) ddylai gael ei ddefnyddio gyda chondom.

Mae ireidiau olew yn gwanhau'r latecs mewn condomau ac yn gallu gwneud iddynt dorri neu rwygo.

Rhannu nodwyddau ac offer pigiadau

Os ydych chi'n chwistrellu cyffuriau, gallai hyn eich amlygu chi i HIV a feirysau eraill yn y gwaed, fel hepatitis C.

Mae'n bwysig peidio â rhannu nodwyddau, chwistrelli nac offer arall rhoi pigiadau, fel llwyau a swabiau.

Mae llawer o awdurdodau lleol a fferyllfeydd yn cynnig rhaglenni cyfnewid nodwyddau, lle y gall nodwyddau gael eu newid am rai glân.

Os ydych chi'n defnyddio heroin, ystyriwch gofrestru ar raglen methadon. Gall methadon gael ei gymryd ar ffurf hylif, felly mae'n lleihau'ch risg cael HIV.

Dylai meddyg neu gwnselydd cyffuriau allu rhoi cyngor i chi ar raglenni cyfnewid nodwyddau a rhaglenni methadon.

Os byddwch chi'n cael tatŵ neu'n tyllu'r croen, mae'n bwysig bod nodwydd lân, wedi'i diheintio, yn cael ei defnyddio bob amser.

Meddyginiaeth atal HIV 

Os ydych chi'n HIV negyddol, mae'n bosibl y gallech gymryd proffylacsis cyn-amlygiad (PrEP) i leihau'r risg y cewch y feirws.

Mae PrEP ar gael trwy GIG Cymru i bob unigolyn y mae asesiad wedi dangos bod risg uchel iddynt gael haint HIV.

Mae ar gael ar ffurf tabled a dylid ei gymryd cyn i chi gael rhyw a dod i gysylltiad â HIV. Byddwch yn gallu cael y feddyginiaeth gan unrhyw glinig iechyd rhywiol yng Nghymru. 

Sgrinio ar gyfer HIV yn ystod beichiogrwydd

Mae pob menyw feichiog yn cael cynnig prawf gwaed i wirio a oes ganddi HIV fel rhan o sgrinio cyn-geni arferol.

Os na chaiff ei drin, gall HIV gael ei drosglwyddo o fenyw feichiog i'w baban yn ystod beichiogrwydd, genedigaeth neu fwydo ar y fron.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 17/11/2023 12:37:08