Hyperglycaemia

Cyflwyniad

Hyperglycaemia yw'r term meddygol am lefel siwgr uchel yn y gwaed (glwcos). Mae'n broblem gyffredin i bobl a diabetes.

Gall effeithio ar bobl diabetes math 1 a diabetes math 2, ynghyd a menywod beichiog sydd a diabetes adeg beichiogrwydd.

Ar adegau, gall effeithio ar bobl nad oes ganddynt ddiabetes, ond fel arfer dim ond pobl sy'n ddifrifol dost, fel y rhai sydd wedi cael stroc neu trawiad ar y galon yn ddiweddar, neu sydd a haint difrifol. 

Ni ddylid drysu hyperglycaemia a hypoglycaemia sy'n digwydd pan fydd lefel siwgr rhywun yn syrthio'n rhy isel. 

Mae'r wybodaeth hon yn canolbwyntio ar hyperglycaemia mewn pobl ddiabetig. 

Ydy hyperglycaemia yn ddifrifol?

Nod triniaeth diabetes yw cadw lefelau siwgr y gwaed mor normal a phosibl. 

Ond os oes gennych ddiabetes, ni waeth pa mor ofalus rydych, rydych yn debygol o brofi hyperglycaemia ar ryw adeg. 

Mae'n bwysig gallu adnabod a thrin hyperglycaemia, gan y gall arwain at broblemau iechyd difrifol os na chaiff ei drin. 

Nid yw pyliau ysgafn o bryd i'w gilydd yn achos pryder a gallant gael eu trin yn ddigon hawdd neu gallent ddychwelyd i normal ar eu pen eu hunain. 

Ond, gall hyperglycaemia fod yn beryglus os yw lefelau siwgr yn y gwaed yn uchel iawn ac yn aros felly am gyfnodau hir. 

Gall lefelau uchel iawn o siwgr yn y gwaed achosi cymhlethdodau sy'n peryglu bywyd, er enghraifft;:

  • ketoacidosis diabetig (DKA) - cyflwr sy'n cael ei achosi gan y corff yn gorfod torri i lawr fraster fel ffynhonnell egni, a all arwain at goma diabetig, mae hyn yn dueddol o effeithio ar bobl sydd a diabetes math 1. 
  • cyflwr hyperosmolar hyperglycaemig (HHS) - dadhydradu difrifol a achosir gan y corff yn ceisio cael gwared ar ormod o siwgr, mae hyn yn dueddol o effeithio ar bobl diabetes math 2

Gall cael lefelau uchel o siwgr yn y gwaed am gyfnodau hir o amser (misoedd neu flynyddoedd) arwain at niwed parhaol i rannau o'r corff, fel y llygaid, nerfau, arennau a'r gwaedlestri. 

Os ydych yn profi hyperglycaemia yn rheolaidd, siaradwch gyda'ch meddyg neu uned gofal diabetes. 

Mae'n bosibl y bydd rhaid i chi newid eich triniaeth neu ffordd o fyw i gadw eich lefelau siwgr yn iach. 

Symptomau hyperglycaemia

Mae symptomau hyperglycaemia yn dueddol o ddatblygu'n araf dros ychydig ddiwrnodau neu wythnosau. 

Mewn rhai achosion, ni fydd symptomau tan i lefel y siwgr yn y gwaed fynd yn uchel iawn. 

Mae symptomau hyperglycaemia yn cynnwys:

  • mwy o sychder a ceg sych
  • gorfod mynd i'r toiled yn aml
  • blinder
  • golwg aneglur
  • colli pwysau'n anfwriadol
  • heintiau ailadroddus, fel y llindag, heintiau'r bledren (systisis) a heintiau'r croen
  • poen yn y bol
  • teimlo fel chwydu neu chwydu go iawn
  • anadl sy'n arogli fel ffrwythau

Beth ddylai fy lefelau siwgr yn y gwaed fod?

Pan gewch ddiagnosis o ddiabetes, bydd eich uned gofal diabetes yn dweud wrthych beth yw eich lefelau siwgr a beth ddylech ei wneud i'w ostwng. 

Mae'n bosibl y gofynnir i chi ddefnyddio dyfais brofi i fonitro eich lefelau yn rheolaidd gartref. 

Neu efallai y cewch apwyntiad gyda nyrs neu feddyg bob ychydig o fisoedd i weld beth yw'ch lefelau siwgr cyfartalog - HbA1c yw'r enw ar hwn. 

Mae gan bawb lefelau siwgr gwahano ond, yn gyffredinol

  • os ydych yn monitro eich hun gartref gyda chit hunan-brofi - targed normal yw 4 i 7mmol/l cyn bwyta a dan 8.5 i 99mmol/l wedi pryd o fwyd.
  • os yw eich lefel HbA1c yn cael ei brofi bob mis - targed normal yw islaw 48mmol/mol (neu 6.5% ar yr hen glorian bwyso)

Mae gan wefan Diabetes UK fwy o wybodaeth am lefelau siwgr yn y gwaed a phrofi

Beth sy'n achosi lefelau uchel yn y siwgr gwaed?

Gall amrywiaeth o bethau brocio cynnydd mewn lefelau siwgr yn y gwaed, gan gynnwys

  • straen
  • salwch, fel annwyd
  • bwyta gormod, er enghraifft bwyta rhwng prydau
  • diffyg ymarfer corff
  • methu dos o'ch meddyginiaeth diabetes neu gymryd dos anghywir
  • gor-drin pwl o hypoglycaemia (lefelau isel o siwgr yn y gwaed)
  • cymryd rhai meddyginiaethau, fel steroidau

Gall pyliau achlysurol o hyperglycaemia ddigwydd i blant ac oedolion ifanc yn ystod pyliau o dyfu. 

Trin hyperglycaemia

Os oes gennych ddiagnosis o ddiabetes a bod gennych symptomau hyperglycaemia, dilynwch y cyngor gan eich uned gofal diabetes i ostwng eich lefelau siwgr. 

Os nad ydych yn siwr beth i'w wneud, ffoniwch feddyg neu eich uned gofal. 

Efallai y cewch eich cynghori i:

  • newid eich deiet - er enghraifft, osgoi bwydydd sy'n peri i'ch lefelau siwgr yn y gwaed godi, fel cacennau neu ddiodydd melys
  • yfed digon o ddiodydd heb siwgr - gall hyn helpu os ydych wedi dadhydradu
  • gwneud ymarfer corff yn amlach - gall ymarfer rheolaidd, ysgafn fel cerdded ostwng eich lefel siwgr yn y gwaed, yn enwedig os yw'n eich helpu i golli pwysau
  • os ydych yn defnyddio inswlin, addaswch eich dos - gall yr uned gofal diabetes roi cyngor penodol i chi am hyn

Efallai y cewch eich cynghori i fonitro eich lefelau yn fwy gofalus neu brofi eich gwaed neu wrin am bethau o'r enw cetonau (ketoacidosis).

Tan i'ch lefelau siwgr ddychwelyd i normal, cadwch lygad ar symptomau ychwanegol a allai fod yn arwydd o gyflwr mwy difrifol.

Pryd i gael sylw meddygol brys

Cysylltwch a'ch uned gofal diabetes ar unwaith os yw eich lefelau siwgr yn uchel a bod gennych y symptomau canlynol:

  • teimlo fel chwydu neu chwydu go iawn
  • poen yn y bol a dolur rhydd
  • anadlu'n gyflym ac yn ddwfn
  • tymheredd (38C neu uwch) am fwy na 24 awr
  • arwyddion o ddadhydradu, fel pen tost/cur pen, croen sych a churiad calon gwan a chyflym
  • cael trafferth cadw'n effro

Gallai'r symptomau hyn fod yn arwydd o hyperglycaemia mwy difrifol, fel ketoacidosis diabetig neu gyflwr hypersmolar hyperglycaemig ac efallai y bydd arnoch angen gofal yn yr ysbyty. 

Sut i atal hyperglycaemia

Mae ffyrdd syml o ostwng eich risg o hyperglycaemia difrifol neu sy'n para'n hir. 

  • byddwch yn ofalus o beth a fwytewch - byddwch yn arbennig o ofalus sut gall bwyta byrbrydau a bwydydd melys neu garbohydradau effeithio ar eich lefelau siwgr yn y gwaed
  • cadwch at eich cynllun triniaeth - cofiwch gymryd eich inswlin neu feddyginiaeth diabetes arall a argymhellwyd gan eich uned diabetes
  • byddwch yn actif - gall ymarfer corff rheolaidd helpu stopio eich lefelau siwgr rhag codi, ond dylech wirio gyda'ch meddyg yn gyntaf os ydych yn cymryd meddyginiaeth diabetes, gan y gall rhai meddyginiaethau arwain at hypoglycaemia os gwnewch ormod o ymarfer corff
  • gofalwch am eich hun pan fyddwch yn dost - gall eich uned gofal diabetes roi rhai 'rheolau diwrnodau tost' sy'n amlinellu beth gallwch ei wneud i gadw eich lefelau siwgr dan reolaeth yn ystod salwch
  • monitrwch eich lefel siwgr yn y gwaed - mae'n bosibl y bydd eich uned gofal yn awgrymu defnyddio dyfais i wirio eich lefel gartref er mwyn i chi allu gweld cynnydd yn gynnar a chymryd camau i'w atal.

 



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 18/10/2023 15:05:53