Gofalu am blentyn sâl

Cyflwyniad

Os yw'ch plentyn yn sâl, y peth pwysicaf i'w wneud yw gwrando arno.

Os ydyn nhw'n dweud nad oes angen iddyn nhw fod yn y gwely, mae'n debyg nad ydyn nhw. Efallai y byddan nhw'n teimlo'n well ar y soffa gyda blanced neu duvet.

P'un a ydynt yn y gwely neu ar y soffa, bydd y canlynol yn eu helpu i deimlo'n fwy cyfforddus.

• Cadwch yr ystafell yn awyrog heb fod yn ddrafftiog. Os yw'r ystafell yn rhy gynnes, mae'n debyg y byddan nhw'n teimlo'n waeth.
• Rhowch ddigon i yfed i'ch plentyn. Am y diwrnod cyntaf neu ddau, peidiwch â thrafferthu am fwyd oni bai eu bod isio. Ar ôl hynny, dechreuwch geisio eu temtio gyda darnau o fwyd a'u hannog i gael diodydd maethlon fel llaeth.
• Ceisiwch roi amser i'ch plentyn ar gyfer gemau tawel, straeon, cwmni a chysur.
• Mae plant sâl yn mynd yn flinedig iawn ac angen digon o orffwys. Anogwch eich plentyn i gysgu pan fydd angen, efallai gyda stori wedi’i darllen gennych chi neu ar ddyfais symudol neu gryno ddisg.
• Peidiwch byth â chwympo i gysgu gyda babi sâl ar y soffa gyda chi, hyd yn oed os ydych chi'ch dau wedi blino'n. Mae hyn yn cynyddu'r siawns o syndrom marwolaeth sydyn babanod (SIDS).

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am beth i'w wneud os oes gan eich plentyn dymheredd uchel.

Gall gofalu am blentyn sâl, hyd yn oed am ychydig ddyddiau, fod yn flinedig.

Gorffwyswch a chysgu pan allwch chi, a cheisiwch gael rhywun arall i gymryd yr awenau bob hyn a hyn i roi seibiant i chi.

Cymorth meddygol ar gyfer salwch plant

Gall eich ymwelydd iechyd, nyrs practis, ymarferydd nyrsio, meddyg teulu a fferyllydd i gyd roi cyngor i chi ar sut i drin salwch eich plentyn.

Gall y meddyg teulu drin eich plentyn a rhagnodi meddyginiaethau. Gall rhai ymwelwyr iechyd, nyrsys a fferyllwyr hefyd wneud diagnosis o salwch a rhagnodi meddyginiaethau ar gyfer eich plentyn.

Os yw'ch plentyn yn sâl, gallwch chi roi cynnig ar eich fferyllfa leol yn gyntaf. Byddant yn dweud wrthych os oes angen i'ch plentyn weld meddyg teulu. Os oes gan eich plentyn arwyddion o salwch difrifol, cysylltwch â'ch meddygfa yn uniongyrchol neu ewch â nhw'n syth i adran damweiniau ac achosion brys eich ysbyty lleol.

Mae'r rhan fwyaf o feddygfeydd yn gefnogol iawn i rieni plant bach. Bydd rhai yn ffitio babanod i mewn heb apwyntiad neu yn eu gweld ar ddechrau oriau y feddygfa. Bydd llawer o feddygon teulu hefyd yn rhoi cyngor dros y ffôn.

Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd cysylltu â'ch meddyg neu gyrraedd y feddygfa, gallwch ffonio GIG 111 Cymru am gyngor meddygol, 24 awr y dydd.

Delio â mân ddamweiniau plant

Mae llawer o feddygfeydd meddygon teulu, unedau mân anafiadau (MIUs), a fferyllfeydd wedi'u cyfarparu i ymdrin â mân anafiadau, megis toriadau neu eitemau sydd wedi'u dal yn y trwyn neu'r glust.

Yn y sefyllfa hon, gofynnwch i feddyg teulu neu GIG 111 Cymru am gyngor ar ble i fynd cyn i chi fynd i'r adran damweiniau ac achosion brys.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 13/12/2022 14:05:23