Wedi Colli Llenwad Neu Goron

Cyflwyniad

Os ydych chi wedi colli llenwad neu goron (sydd hefyd yn cael ei galw'n gap), ewch i weld deintydd. Os ydych wedi dal gafael ar y goron, cadwch honno'n ddiogel a mynd â hi gyda chi at y deintydd.

Os nad oes gennych ddeintydd neu os na allwch gael apwyntiad brys, ffoniwch eich Llinell Cymorth Deintyddol leol.

Peidiwch â mynd at eich meddyg teulu. Ni fydd yn gallu rhoi triniaeth ddeintyddol i chi.

Tra byddwch chi'n aros i weld deintydd:

  • Cadwch eich dannedd mor lân ag y gallwch trwy eu brwsio ddwywaith y dydd gan ddefnyddio past dannedd â fflworid
  • Bwytewch ac yfwch lai o fwydydd a diodydd melys a cheisiwch gadw'r rhain i brydau bwyd yn unig
  • Ceisiwch osgoi bwyta ar fwydydd caled os yw eich dant wedi torri neu os yw wedi colli llenwad/coron
  • Osgowch fwydydd neu ddiodydd poeth neu oer iawn a all achosi sensitifrwydd

Os yw'r dant yn sensitif, defnyddiwch bast dannedd i ddannedd sensitif. Gall hwn fod ar ei fwyaf effeithiol os caiff ei roi'n uniongyrchol ar eich dant gyda'ch bys a'i adael ar y dant. 

Beth fydd y deintydd yn ei wneud 

Bydd y deintydd yn asesu eich dant ac yn rhoi cyngor i chi ar yr opsiynau triniaeth.

Gall awgrymu:

  • Llenwad neu ei atgyweirio dros dro i ddechrau
  • Yn y tymor hir, gall fod angen llenwad neu goron newydd arnoch chi 
  • Os na all y dant gael ei atgyweirio, gall fod angen triniaeth sianel y gwreiddyn arno neu ei dynnu


Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 19/03/2024 11:43:19