Cyflwyniad
Sinysau wedi chwyddo yw llid y sinysau, sydd fel arfer yn cael ei achosi gan haint. Mae'n gyffredin ac fel arfer yn clirio ar ei ben ei hun o fewn 2 i 3 wythnos. Ond gall meddyginiaethau helpu os yw'n cymryd amser hir i ddiflannu.
Gwiriwch a oes gennych chi lid y sinysau
Mae llid y sinysau yn gyffredin ar ôl cael annwyd neu’r ffliw.
Mae symptomau llid y sinysau yn cynnwys:
- poen, chwyddo a thynerwch o gwmpas eich bochau, eich llygaid neu'ch talcen
- trwyn llawn
- llai o synnwyr arogli
- mwcws gwyrdd neu felyn o'ch trwyn
- cur pen sinws
- tymheredd uchel
- y ddannoedd
- anadl drwg
Gall arwyddion o lid y sinysau ymhlith plant ifanc hefyd gynnwys anniddigrwydd, trafferth bwydo, ac anadlu trwy eu ceg.
Beth yw'r sinysau?
Mae'r sinysau’n fannau bach, gwag y tu ôl i esgyrn eich bochau a'ch talcen sy'n cysylltu â thu mewn y trwyn.
Mae llid y sinysau yn achosi i leinin y sinysau chwyddo.
Mae hyn yn atal mwcws rhag draenio i'ch trwyn a'ch gwddf yn iawn, gan wneud i chi deimlo bod eich sinysau’n llawn.
Sut gallwch chi drin llid y sinysau eich hun
Yn aml, gallwch drin llid y sinysau ysgafn heb weld meddyg teulu drwy wneud y canlynol:
- cael digon o orffwys
- yfed digon o hylifau
- cymryd poenladdwyr, fel paracetamol neu Ibuprofen - peidiwch â rhoi aspirin i blant dan 16 oed
- osgoi sbardunau alergedd a pheidio ag ysmygu
- glanhau eich trwyn gyda thoddiant dŵr halen er mwyn lleddfu gorlawnder
Sut i lanhau eich trwyn gyda thoddiant dŵr halen
- Berwch beint o ddŵr, yna ei adael i oeri
- Cymysgwch lwy de o halen a llwy de o soda pobi i mewn i'r dŵr
- Golchwch eich dwylo
- Sefwch dros sinc, gwnewch gwpan â chledr un llaw ac arllwys ychydig bach o'r toddiant iddo
- Anadlwch y dŵr i mewn i un ffroen ar y tro. Anadlwch drwy eich ceg a gadael i'r dŵr arllwys yn ôl i'r sinc. Ceisiwch beidio â gadael i'r dŵr fynd i lawr cefn eich gwddf
- Ailadroddwch y 5 cam cyntaf hyd at 3 gwaith y dydd nes bod eich trwyn yn teimlo'n fwy cyfforddus
Nid oes angen i chi ddefnyddio'r holl doddiant, ond defnyddiwch doddiant newydd bob tro rydych chi'n glanhau eich trwyn.
Gall fferyllydd helpu gyda llid y sinysau
Gall fferyllydd eich cynghori am feddyginiaethau a all helpu, fel:
Gallwch brynu chwistrelli trwynol heb bresgripsiwn, ond ni ddylid eu defnyddio am fwy nag wythnos.
Dewch o hyd i fferyllfa
Ewch i weld Meddyg Teulu:
- os yw eich symptomau’n ddifrifol
- os nad yw poenladdwyr yn helpu neu os yw’ch symptomau'n gwaethygu
- os nad yw’ch symptomau’n gwella ar ôl wythnos
- os ydych chi’n parhau i gael lid y sinysau
Triniaeth ar gyfer llid y sinysau gan feddyg teulu
Os oes gennych lid y sinysau, efallai y bydd eich meddyg teulu yn gallu argymell meddyginiaethau eraill i helpu â'ch symptomau, fel:
- chwistrelli neu ddiferion trwynol steroid - i leihau'r chwyddo yn eich sinysau
- gwrth-histaminau - os yw alergedd yn achosi’ch symptomau
- gwrthfiotigau - os yw haint bacterol yn achosi’ch symptomau ac os ydych chi'n sâl iawn neu mewn perygl o gymhlethdodau (ond nid oes angen gwrthfiotigau yn aml, gan mai feirws sy'n achosi llid y sinysau fel arfer)
Efallai y bydd angen i chi gymryd chwistrelli neu ddiferion trwynol steroid am ychydig o fisoedd. Weithiau, maent yn achosi llid, dolur gwddf neu waedlifau o’r trwyn.
Efallai y bydd eich meddyg teulu yn eich cyfeirio at arbenigwr y glust, y trwyn a’r gwddf (ENT) os ydych, er enghraifft:
- yn dal i gael llid y sinysau ar ôl 3 mis o driniaeth
- yn parhau i gael llid y sinysau
- yn cael symptomau ar un ochr eich wyneb yn unig
Efallai y byddant yn argymell llawdriniaeth mewn rhai achosion, hefyd.
Llawdriniaeth ar gyfer llid y sinysau
Gelwir llawdriniaeth i drin llid y sinysau cronig yn llawdriniaeth endosgopig gweithredol ar y sinysau (FESS).
Caiff FESS ei gwblhau o dan anesthetig cyffredinol (pan fyddwch yn cysgu).
Gall y llawfeddyg ledu eich sinysau drwy naill ai:
- dynnu rhywfaint o'r meinwe croen sydd wedi'i blocio
- chwyddo balŵn bach yn y sinysau sydd wedi'u blocio, wedyn ei dynnu
Dylech allu cael FESS o fewn 18 wythnos ar ôl eich apwyntiad meddyg teulu.
Cewch fwy o wybodaeth am FESS ar wefan ENT UK