Iechyd Meddwl a Lles

Cyflwyniad

GIG 111 CYMRU PWYSO DAU

I gael cymorth iechyd meddwl ar frys FFONIWCH 111 a phwyso RHIF 2

Mae'r gwasanaeth ar gael i bobl o bob oed, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ym mhob rhan o Gymru, i sicrhau bod pobl sydd angen cymorth yn gallu cael gafael arno’n gyflym pan fydd ei angen arnynt fwyaf.

Os ydych chi eisiau siarad â rhywun ar frys am eich iechyd meddwl, neu os ydych chi'n poeni am aelod o'r teulu, ffoniwch GIG 111 a dewis opsiwn 2 i gael eich cysylltu’n uniongyrchol â gweithiwr iechyd meddwl yn eich ardal. .

Gallwch ffonio am ddim o linell ffôn neu ffôn symudol, hyd yn oed os nad oes gennych gredyd ar ôl.

GIG 111 Cymru Pwyso 2

24/7, 365 diwrnod y flwyddyn

Yn teimlo'n isel neu'n bryderus?

Mae cymorth ychwanegol ar gyfer eich lles meddyliol ar gael ledled Cymru, ar-lein a dros y ffôn. Mae'r adnoddau hyn yn ddiogel, am ddim, ac nid oes angen atgyfeiriad arnoch, felly edrychwch i weld beth all eich helpu chi heddiw.

Cymorth i bobl sydd wedi profi digwyddiadau gofidus.

 

Disgrifiad sain ar gyfer y fideo Iechyd Meddwl a Lles uchod

Mae gofalu am dy les meddyliol yr un mor bwysig â gofalu am dy gorff. Mewn cyfnod anodd mae’n iawn teimlo wedi dy orlethu. Gall siarad ag eraill – ar-lein neu wyneb yn wyneb – dy helpu i deimlo’n fwy positif. Neilltua amser ar gyfer rhywbeth rwyt ti’n ei fwynhau. Gall bod allan yn yr awyr agored a chysylltu â byd natur helpu hefyd. Os wyt ti angen Cymorth ychwanegol, mae pobl y galli di eu ffonio ddydd a nos a fydd yn gwrando. Ffonia 0800 132 737 neu tecstia ‘help’ i 81066. Helpa ni i dy helpu di. Cymera gamau bach tuag at fod yn iachach.

 

 

SilverCloud

 

Mae SilverCloud yn gwrs ar-lein sy'n cynnig cefnogaeth ar gyfer pryder, iselder ysbryd, a llawer mwy, i gyd yn seiliedig ar Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT). Gall unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hyn gofrestru ar nhswales.silvercloudhealth.com/signup/.

Llinell Gwrando Iechyd Meddwl (CALL)

Mae'n darparu llinell gymorth gwrando iechyd meddwl a chefnogaeth emosiynol gyfrinachol sydd ar agor 24/7. Gall CALL hefyd gyfeirio at gefnogaeth mewn cymunedau lleol ac ystod o wybodaeth ar-lein. Ffoniwch 0800132737, tecstiwch “help” i 81066 neu ewch i callhelpline.org.uk/.

Llinell gymorth curo anhwylderau bwyta (Beat)

Mae Beat yn darparu llinellau cymorth a gwybodaeth i oedolion a phobl ifanc, gan gynnig amgylchedd cefnogol i siarad am anhwylderau bwyta a sut i gael help. Ffoniwch 0808 801 0677 neu ewch i https://www.beateatingdisorders.org.uk/support-services.

Monitro Gweithredol Mind

Mae'n darparu chwe wythnos o hunangymorth dan arweiniad ar gyfer pryder, iselder ysbryd, hunan-barch a mwy. I ddechrau, siaradwch â'ch meddyg teulu, unrhyw weithiwr iechyd proffesiynol arall, neu cofrestrwch yn uniongyrchol yn: https://www.mind.org.uk/get-involved/active-monitoring-sign-up/active-monitoring-form/

Bywyd ACTif

Mae'r cwrs fideo ar-lein “Bywyd ACTif” yn rhannu ffyrdd ymarferol o ymdopi â meddyliau a theimladau sy'n achosi trallod a helpu i fyw bywyd gyda mwy o hyder. I ddechrau, ewch i phw.nhs.wales/activateyourlife.

Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Person Ifanc

Mae'r Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Person Ifanc yn cysylltu pobl ifanc, rhwng 11 a 25 oed, â gwefannau, apiau, llinellau cymorth, a mwy i gynyddu gwytnwch. Gallwch gael at y pecyn cymorth yn bit.ly/ypmhten.

Dyma ganllaw byr i helpu pobl ifanc i baratoi i siarad â'u meddyg teulu am hunan-niweidio a phrofiadau hunanladdol.

Fi a Fy Iechyd

Os oes gennych chi gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol tymor hir, mae’r cynllun yma yn ceisio’ch helpu chi a’ch gofalwr.  Mae’n gwneud hynny trwy roi gwybodaeth glir i staff iechyd a gofal a allai fod yn gorfod ymweld â'ch cartref mewn argyfwng. Gweler mwy o wybodaeth yma.

Anhwylderau iechyd meddwl

Mae iechyd meddwl yn ymwneud â sut rydym yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn. Bydd un o bob pedwar o bobl yn y Deyrnas Unedig yn cael problem iechyd meddwl rywbryd, a gall hynny effeithio ar eu bywydau pob dydd, eu perthnasoedd neu eu hiechyd corfforol. Bydd un neu ddau o bob 100 o bobl yn profi salwch meddwl mwy difrifol fel sgitsoffrenia neu anhwylder deubegynol.

Gall problemau iechyd meddwl effeithio ar unrhyw un. Heb gymorth a thriniaeth, gall problemau iechyd meddwl gael effaith ddifrifol ar yr unigolyn a'r bobl sydd o’i gwmpas. Fodd bynnag, gall mwyafrif y bobl sy'n profi problemau iechyd meddwl ddod drostynt, neu ddysgu byw gyda nhw, yn enwedig os cânt gymorth yn gynnar.

Mae anhwylderau iechyd meddwl yn cymryd llawer o wahanol ffurfiau ac yn effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd. Mae sgitsoffrenia, iselder ac anhwylderau personoliaeth oll yn fathau o broblem iechyd meddwl.

Yn y gorffennol, mae symptomau iechyd meddwl wedi cael eu rhannu'n grwpiau yn bennaf. Cânt eu dosbarthu naill ai fel symptomau 'niwrotig' neu 'seicotig'. Mae 'niwrotig' yn cyfeirio at y symptomau hynny y gellir ystyried eu bod yn ffurfiau difrifol o brofiadau emosiynol 'cyffredin' fel iselder ysbryd, pryder neu banig. Yn amlach na pheidio, mae 'niwrosisau' yn cael eu galw'n 'broblemau iechyd meddwl cyffredin' erbyn hyn.

Symptomau 'seicotig', sy'n llai cyffredin, yw'r rhai hynny sy'n amharu ar ganfyddiad rhywun o realiti. Gallai hyn olygu bod yr unigolyn yn cael rhithweledigaethau. Hynny yw, maen nhw'n gweld, yn clywed, yn arogleuo neu'n teimlo pethau na all unrhyw un arall eu gweld, eu clywed, eu harogleuo na'u teimlo.

Nid oes un achos i broblemau iechyd meddwl ac mae’r rhesymau pam maen nhw'n datblygu yn gymhleth.

Pwy sy'n cael ei effeithio

Mae problemau iechyd meddwl yn fwy cyffredin ymysg rhai grwpiau, fel:

  • pobl sydd ag amodau byw gwael
  • pobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig
  • pobl anabl
  • pobl ddigartref
  • troseddwyr

Yn gyffredinol, mae clefydau fel clefyd Alzheimer a dementia yn datblygu wrth fynd yn hyn, tra bod anhwylderau bwyta'n fwy cyffredin ymhlith pobl ifanc.

Weithiau, mae gwahaniaethu'n digwydd yn erbyn pobl â phroblemau iechyd meddwl. Gall hyn arwain at broblemau cymdeithasol fel digartrefedd, ac fe allai wneud y broblem iechyd meddwl yn waeth.

Gall problemau iechyd meddwl hefyd ddatblygu o ddigwyddiadau anodd mewn bywyd, fel symud ty, colli’ch swydd, neu farwolaeth rhywun sy'n agos atoch. Gall yfed gormod o alcohol dros gyfnod hir a defnyddio cyffuriau anghyfreithlon gyfrannu at broblemau iechyd meddwl, yn enwedig mewn pobl sydd eisoes yn fregus.

Triniaeth a chymorth

Mae angen i bobl â phroblemau iechyd meddwl gael help a chymorth i'w galluogi i ymdopi â’u salwch. Mae llawer o ddewisiadau triniaeth ar gael, gan gynnwys meddyginiaeth, cwnsela, seicotherapi a hunangymorth.

Mae’n bwysig bod pobl ag afiechydon iechyd meddwl yn cael gwybod am y dewisiadau sydd ar gael fel y gallant benderfynu pa driniaeth sydd orau iddynt.

Cam pwysig arall yn y broses o wella yw bod yr unigolyn yn derbyn ei fod yn sâl, a’i fod eisiau gwella. Gall hyn gymryd amser, ac mae’n bwysig bod teulu a ffrindiau yn gefnogol.

Mae ein hadran dolenni dethol yn cynnwys dolenni i dudalennau ar y wefan hon sy'n ymdrin â gwahanol gyflyrau a thriniaethau iechyd meddwl.

Mae llawer o grwpiau cymorth ac elusennau sy’n cynnig cyngor, cwnsela cyfrinachol a gwybodaeth am y mathau o driniaeth sydd ar gael a ble i gael help. Defnyddiwch ein hadnodd chwilio am wasanaethau lleol i gael manylion y rhain.

Gofalwyr

Os ydych yn gofalu am rywun sy'n sâl neu'n anabl, gall hynny effeithio ar eich iechyd meddwl. Fe wnaeth adroddiad swyddogol ar iechyd meddwl gofalwyr ganfod bod dros hanner o'r holl ofalwyr wedi adrodd am symptomau problemau iechyd meddwl, fel straen neu iselder. Mae hyn yn uwch nag yn y boblogaeth gyffredinol.

I gael gwybod mwy am y gwasanaethau a all eich helpu i ymdopi â gofalu am rywun, ewch i wefan Gofalwyr Cymru.

Cwestiynau ac Atebion

A allaf siarad â meddyg teulu am iechyd meddwl rhywun arall?

Mae'n dibynnu p'un a oes gennych chi gydsyniad (caniatâd) yr unigolyn.

Os oes gennych gydsyniad

Gall eich ffrind neu'ch perthynas roi caniatâd i'w feddyg teulu, ar lafar neu'n ysgrifenedig, drafod ei iechyd gyda chi. Os oes gennych gydsyniad, gallwch siarad â meddyg teulu eich ffrind neu'ch perthynas ynglyn â'i iechyd meddwl.

Os nad oes gennych gydsyniad 

Gallwch godi pryderon ynglyn ag iechyd eich ffrind neu'ch perthynas gyda'i feddyg teulu heb ei gydsyniad, ond oherwydd cyfrinachedd cleifion, ni fydd y meddyg teulu'n gallu trafod unrhyw fanylion.

Gall meddyg teulu ymyrryd dim ond os oes angen i ffrind neu berthynas gael triniaeth o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl (1983). Mae'r ddeddf hon yn caniatáu i rai pobl â phroblemau iechyd meddwl gael eu cadw dan orfod mewn ysbyty seiciatrig. Mae gwefan Mind yn rhoi mwy o wybodaeth ar y dudalen: Canllaw Mind i Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.

Fodd bynnag, os byddwch yn cytuno, efallai y bydd y meddyg teulu'n fodlon dweud wrth eich ffrind neu'ch perthynas eich bod yn pryderu amdano, ac fe allai awgrymu eich cynnwys yn rhai o'r trafodaethau.

Gallwch siarad â'ch meddyg teulu am iechyd meddwl rhywun arall, ond ni fydd yn gallu trafod achos penodol. Er y gallai eich meddyg teulu eich helpu i ddeall sut i roi cymorth, fe allai fod yn gyflymach ac yn haws cael gwybodaeth o fan arall.

Cael gwybodaeth a chyngor

Os ydych yn pryderu am iechyd meddwl ffrind neu berthynas, gallwch gael gwybodaeth a chyngor mewn sawl ffordd. Er enghraifft, gallwch:

  • ddefnyddio'r mynegai A-Z i ddod o hyd i wybodaeth am gannoedd o wahanol gyflyrau iechyd
  • ffonio rhif 111 

Gallech siarad â'ch ffrind neu'ch perthynas yn uniongyrchol i drafod ei gyflwr neu ei driniaeth. Dywedwch wrtho eich bod yn pryderu am ei iechyd a chynigiwch gymorth a chefnogaeth.

Weithiau, fe all fod yn anodd i rywun weld neu gyfaddef fod ganddo broblem iechyd, er enghraifft, os oes ganddo broblem alcohol neu gyffuriau.

Cofnodion meddygol

O dan y Ddeddf Diogelu Data (1998), gall cofnodion meddygol unigolyn gael eu gweld gan:

  • yr unigolyn ei hun
  • rhiant neu warcheidwad plentyn iau nag 16 oed - ond mewn rhai achosion, efallai y bydd gan y plentyn yr hawl i benderfynu a gaiff y wybodaeth hon ei throsglwyddo ymlaen
  • ffrind neu berthynas os oes ganddo ganiatâd ysgrifenedig yr unigolyn
  • ffrind neu berthynas os oes ganddo bwer atwrnai

Cydsynio i driniaeth

Yn ôl y gyfraith, ni all unrhyw un gydsynio i driniaeth ar ran oedolyn arall. Dim ond yr unigolyn sy'n derbyn y driniaeth sy'n gallu rhoi ei ganiatâd iddi fynd ymlaen.

Os yw cyflwr unigolyn yn golygu nad yw'n gallu gwneud penderfyniad ynglyn â'i driniaeth; er enghraifft, os oes dementia arno, mae'n rhaid i'r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n ei drin weithredu er pennaf les yr unigolyn.

Gweler y mynegai A-Z am ragor o wybodaeth ynghylch cydsynio i driniaeth.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 06/06/2023 09:30:49