Clwy’r pennau

Cyflwyniad

Mae clwy'r pennau (y dwymyn doben) yn haint firaol heintus a oedd yn arfer bod yn gyffredin ymhlith plant cyn cyflwyno'r brechlyn MMR (y frech goch, clwy'r pennau a rwbela).

Y symptom mwyaf amlwg yw'r chwyddiadau poenus ar ochr y wyneb o dan y clustiau (y chwarennau parotid), sy'n rhoi golwg nodedig i unigolyn, tebyg i "wyneb bochdew".

 

Mae symptomau eraill yn cynnwys cur pen/pen tost, poen yn y cymalau a thymheredd uchel, sy'n gallu datblygu ychydig ddyddiau cyn i'r chwarennau parotid chwyddo.

Pryd i weld eich meddyg teulu

Mae'n bwysig i chi gysylltu â'ch meddyg teulu os byddwch yn amau clwy'r pennau er mwyn cael diagnosis. Er nad yw clwy'r pennau'n ddifrifol fel arfer, mae ganddo symptomau tebyg i fathau mwy difrifol o haint, fel twymyn y chwarennau a thonsilitis.

Fel arfer, gall eich meddyg teulu wneud diagnosis ar ôl gweld a theimlo'r chwydd, edrych ar leoliad y tonsiliau yn y geg a gwirio tymheredd yr unigolyn i weld a yw'n uwch na'r arfer.

Rhowch wybod i'ch meddyg teulu ymlaen llaw os byddwch yn mynd i'r feddygfa, er mwyn iddo/iddi allu cymryd unrhyw ragofalon angenrheidiol i atal yr haint rhag cael ei lledaenu.

Os bydd eich meddyg teulu yn amau clwy'r pennau, dylai roi gwybod i'ch tîm diogelu iechyd lleol (HPT). Bydd yr HPT yn trefnu i sampl o boer gael ei phrofi er mwyn cadarnhau neu ddiystyru'r diagnosis.

Sut mae clwy'r pennau yn cael ei ledaenu

Mae clwy'r pennau yn cael ei ledaenu yn yr un ffordd ag anwydon a'r ffliw – trwy ddiferion heintiedig o boer a all gael eu mewnanadlu neu eu codi oddi ar arwynebau a'u trosglwyddo i'r geg neu'r trwyn.

Bydd unigolyn yn fwyaf heintus ychydig ddyddiau cyn i'r symptomau ddatblygu ac am ychydig ddyddiau wedyn.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae'n bwysig ceisio atal lledaenu'r haint i bobl eraill, yn enwedig pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc sydd heb gael eu brechu.

Os bydd clwy'r pennau arnoch chi, fe allwch chi helpu i'w atal rhag cael ei ledaenu trwy:

  • olchi eich dwylo â sebon yn rheolaidd
  • defnyddio a chael gwared ar hancesi papur wrth disian
  • peidio â mynd i'r ysgol neu waith am o leiaf pum niwrnod ar ôl i'ch symptomau ymddangos am y tro cyntaf.

Atal clwy'r pennau

Gallwch chi amddiffyn eich plentyn rhag clwy'r pennau trwy wneud yn siwr ei fod yn cael y brechlyn MMR cyfunol (ar gyfer clwy'r pennau, y frech goch a rwbela).

Mae'r brechlyn MMR yn rhan o amserlen imiwneiddio rheolaidd y GIG i blant. Dylai'ch plentyn gael un dos pan fydd tua 12-13 mis oed ac ail ddos atgyfnerthol yn 3 blwydd a 4 mis oed. Os byddwch chi neu eich plentyn wedi colli'r cynnig, gallwch ddal i fyny trwy wneud cais am y brechlyn hwn am ddim. Ar ôl cael y ddau ddos, mae'r brechlyn yn rhoi amddiffyniad da rhag clwy'r pennau.

Triniaeth ar gyfer clwy'r pennau

Nid oes gwellhad i glwy'r pennau ar hyn o bryd, ond dylai'r haint fynd heibio ymhen wythnos neu ddwy.

Caiff triniaeth ei defnyddio i leddfu symptomau, ac mae'n cynnwys:

  • gorffwys yn y gwely ac yfed digon o hylifau
  • defnyddio cyffuriau lleddfu poen, fel ibuprofen a pharasetamol – ni ddylech roi aspirin i blant dan 16 oed
  • rhoi clwtyn oer neu gynnes ar y chwarennau chwyddedig i helpu i leddfu'r boen

Cymhlethdodau

Bydd clwy'r pennau fel arfer yn mynd heibio heb achosi niwed difrifol i iechyd rhywun. Mae cymhlethdodau difrifol yn brin.

Fodd bynnag, gall clwy'r pennau arwain at feningitis firaol os bydd y firws yn symud i haenen allanol yr ymennydd. Mae cymhlethdodau eraill yn cynnwys chwyddo'r ceilliau neu'r ofarïau (os bydd yr unigolyn sydd â chlwy'r pennau wedi bod drwy'r glasoed).

Pwy sy'n cael eu heffeithio

Mae'r rhan fwyaf o achosion o glwy'r pennau yn digwydd ymhlith oedolion ifanc (a gafodd eu geni rhwng 1980 a 1990, fel arfer) na chawsant y brechlyn MMR fel rhan o'u hamserlen imiwneiddio rheolaidd i blant ac na chawsant glwy'r pennau yn blentyn.

Ar ôl i chi gael eich heintio gan firws clwy'r pennau, byddwch fel arfer yn datblygu imiwnedd gydol oes rhag unrhyw haint bellach.

Symptomau

Fel arfer, bydd symptomau clwy'r pennau yn datblygu rhwng 14 a 25 niwrnod ar ôl i rywun gael ei heintio gan firws clwy'r pennau (yr enw ar yr oedi hwn yw'r cyfnod magu). Tua 17 niwrnod yw'r cyfnod magu cyfartalog.

Chwyddo yn y chwarennau parotid yw symptom mwyaf cyffredin clwy'r pennau. Mae'r chwarennau parotid yn bâr o chwarennau sy'n gyfrifol am gynhyrchu poer. Mae'r rhain y ddwy ochr i'ch wyneb, ychydig islaw eich clustiau.

Fel arfer, bydd y chwyddo'n effeithio ar y ddwy chwarren, er y gall effeithio ar un chwarren yn unig. Gall y chwyddo achosi poen, tynerwch ac anhawster wrth lyncu.

Yn aml, mae symptomau mwy cyffredinol yn datblygu ychydig ddyddiau cyn i'r chwarennau parotid chwyddo. Gall y rhain gynnwys:

  • cur pen/pen tost
  • poen yn y cymalau
  • cyfog
  • ceg sych
  • poen ysgafn yn yr abdomen
  • blinder
  • colli archwaeth bwyd
  • tymheredd uchel (twymyn) o 38C (100.4F) neu'n uwch

Mewn tuag un o bob tri o achosion, nid yw clwy'r pennau yn achosi unrhyw symptomau amlwg.

Pryd dylech chi geisio cyngor meddygol

Mae'n bwysig ffonio eich meddyg teulu os ydych chi'n amau bod clwy'r pennau ar rywun.

Er nad yw'r haint yn ddifrifol fel arfer, mae gan glwy'r pennau symptomau tebyg i fathau eraill mwy difrifol o heintiau, fel twymyn y chwarennau a thonsilitis. Mae bob amser yn well i chi fynd i weld eich meddyg teulu fel y gall gadarnhau (neu ddiystyru) diagnosis o glwy'r pennau.

Mae hefyd yn bwysig rhoi gwybod i'ch meddyg teulu ymlaen llaw os byddwch yn mynd i'r feddygfa, fel y gall gymryd unrhyw ragofalon angenrheidiol i osgoi lledaenu'r haint.

Achosion

Mae clwy'r pennau yn cael ei achosi gan firws clwy'r pennau, sy’n perthyn i deulu o firysau o'r enw paramycsofirysau. Mae paramycsofirysau yn ffynhonnell gyffredin o heintiau, yn enwedig ymhlith plant.

Pan fyddwch chi'n cael clwy'r pennau, bydd y firws yn symud o'ch llwybr resbiradu (eich trwyn, ceg a gwddf) i'ch chwarennau parotid (chwarennau cynhyrchu poer sydd i'w cael y ddwy ochr i'ch wyneb), lle mae'n dechrau atgynhyrchu. Mae hyn yn achosi i'r chwarennau chwyddo.

Gall y firws fynd i'ch hylif serebro-sbinal hefyd, sef yr hylif sy'n amgylchynu ac yn amddiffyn eich ymennydd a'ch asgwrn cefn. Pan fydd y firws wedi mynd i'r hylif hwn, gall ledaenu i rannau eraill o'ch corff, fel eich ymennydd, pancreas, ceilliau (ymhlith bechgyn a dynion) ac ofarïau (ymhlith menywod a merched).

Sut mae clwy'r pennau yn cael ei ledaenu

Mae clwy'r pennau yn firws sy'n cael ei gludo yn yr aer a gall gael ei ledaenu:

  • pan fydd rhywun heintiedig yn pesychu neu'n tisian ac yn rhyddhau diferion mân o boer heintiedig, sy'n gallu cael eu mewnanadlu gan rywun arall
  • pan fydd rhywun heintiedig yn cyffwrdd â'i drwyn neu ei geg ac yna'n trosglwyddo'r firws i wrthrych, fel dolen drws neu arwyneb; os bydd rhywun arall yn cyffwrdd â'r gwrthrych hwnnw'n fuan wedi hynny, gallai drosglwyddo'r firws i'w lwybr anadlu
  • trwy rannu llestri, fel cwpanau, cyllyll a ffyrc neu blatiau gyda rhywun heintiedig

Fel arfer, bydd rhywun â chlwy'r pennau yn fwyaf heintus o ychydig ddyddiau cyn i'w chwarennau parotid chwyddo nes ychydig ddyddiau wedyn. Am y rheswm hwn, mae'n ddoeth peidio â mynd i'ch gwaith neu ysgol am bum niwrnod ar ôl i chi ddatblygu symptomau os byddwch yn cael diagnosis o glwy'r pennau.

Gall clwy'r pennau hefyd gael ei ledaenu gan bobl sydd wedi'u heintio â'r firws er nad oes ganddynt unrhyw symptomau amlwg.

Triniaeth

Mae triniaeth ar gyfer clwy'r pennau yn canolbwyntio ar leddfu'r symptomau nes i system imiwnedd eich corff lwyddo i frwydro yn erbyn yr haint. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw feddyginiaeth i drin firws clwy'r pennau.

Fel arfer, bydd yr haint yn gwella cyn pen wythnos neu ddwy.

Yn y cyfamser, gallai'r camau isod helpu.

  • gorffwyswch ddigon yn y gwely nes bod eich symptomau wedi mynd
  • cymerwch gyffuriau lleddfu poen y gallwch eu prynu dros y cownter, fel ibuprofen neu barasetamol, i leddfu unrhyw boen (ni ddylid rhoi aspirin i blant 16 oed ac iau)
  • yfwch ddigon o hylifau, ond ceisiwch osgoi diodydd asidig fel sudd ffrwythau, oherwydd y gall y rhain lidio eich chwarennau parotid. Fel arfer, dŵr yw'r hylif gorau i'w yfed
  • gallwch ddal clwtyn oer neu dwym ar eich chwarennau chwyddedig i helpu i leihau'r boen
  • bwytwch fwyd nad oes angen llawer o gnoi arno, fel cawl, tatws stwnsh ac wyau wedi'u sgramblo

Os na fydd eich symptomau'n gwella ar ôl saith niwrnod, neu os byddant yn gwaethygu'n sydyn, cysylltwch â'ch meddyg teulu i gael cyngor.

Atal yr haint rhag cael ei lledaenu

Os yw clwy'r pennau arnoch chi neu'ch plentyn, mae'n bwysig atal yr haint rhag cael ei lledaenu, yn enwedig ymhlith pobl iau a gafodd eu geni rhwng 1980 a 1990 (dyma'r bobl y mae'n annhebygol fod ganddynt imiwnedd yn sgil haint flaenorol, ond maent hefyd yn annhebygol o fod wedi'u brechu).

Dyma'r ffordd orau o wneud hyn:

  • cadwch draw o'r ysgol, coleg neu waith tan bum niwrnod ar ôl i'ch symptomau ddatblygu'n gyntaf
  • golchwch eich dwylo'n rheolaidd gan ddefnyddio dŵr a sebon
  • defnyddiwch hances bapur i orchuddio'ch ceg a'ch trwyn bob tro y byddwch chi'n pesychu ac yn tisian, a thaflwch yr hances bapur i'r bin sbwriel ar unwaith

Cymhlethdodau

Mae nifer o broblemau sy'n aml yn digwydd gyda chlwy'r pennau. Gall y rhain beri pryder, ond anaml iawn y maent yn ddifrifol ac fel arfer byddant yn gwella wrth i'r haint fynd.

Cymhlethdodau cyffredin

Chwyddo yn y ceilliau

Mae poen a chwyddo yn y ceilliau (llid y ceilliau/orcitis) yn effeithio ar un o bob pedwar o'r holl ddynion sy'n cael clwy'r pennau ar ôl y glasoed. Fel arfer, fe ddaw'r chwyddo'n gyflym gan effeithio ar un gaill yn unig. Gall y gaill deimlo'n dwym/cynnes ac yn dyner hefyd.

Mewn bechgyn a dynion sydd wedi'u heffeithio, bydd y gaill fel arfer yn dechrau chwyddo rhwng 4 ac 8 diwrnod ar ôl i'r chwarren barotid chwyddo. Weithiau, gall y chwyddo ddigwydd hyd at chwe wythnos ar ôl i'r chwarennau chwyddo.

Gall unrhyw boen yn y ceilliau gael ei lleddfu gan ddefnyddio cyffuriau lleddfu poen y gallwch eu prynu o fferyllfa neu archfarchnad, fel parasetamol neu ibuprofen. Os yw'r boen yn arbennig o ddifrifol, dylech gysylltu â'ch meddyg teulu a allai roi presgripsiwn i chi ar gyfer cyffur lleddfu poen cryfach.

Gall dal clwtyn oer neu gynnes ar y gaill a gwisgo dillad isaf cynhaliol a helpu i leihau unrhyw boen hefyd.

Bydd ychydig yn llai na hanner y gwrywod sy'n cael llid y ceilliau yn gysylltiedig â chlwy'r pennau yn sylwi ar ychydig o leihad ym maint eu ceilliau, a bydd tuag 1 o bob 10 o ddynion yn dioddef ychydig o ostyngiad yn eu cyfrif sberm (sef faint o sberm iachus y gall eu corff ei gynhyrchu). Fodd bynnag, anaml iawn y bydd hyn yn ddigon i achosi anffrwythlondeb.

Chwyddo yn yr ofarïau

Bydd 1 o bob 20 o fenywod sy'n cael clwy'r pennau ar ôl y glasoed yn cael profiad o chwyddo yn yr ofarïau (llid yr wyfa/öofforitis), sy'n gallu achosi

  • poen yn rhan isaf yr abdomen
  • tymheredd uchel
  • chwydu

Fel arfer, bydd symptomau öofforitis yn diflannu pan fydd y corff wedi brwydro yn erbyn haint sylfaenol clwy'r pennau.

Meningitis firaol

Gall meningitis firaol ddigwydd os bydd firws clwy'r pennau yn lledaenu i haen amddiffynnol allanol yr ymennydd (pilenni'r ymennydd). Mae'n digwydd mewn tuag 1 o bob 7 o achosion o glwy'r pennau.

Yn wahanol i feningitis bacteriol, sy'n cael ei ystyried yn argyfwng meddygol a all fygwth bywyd, mae meningitis firaol yn achosi symptomau ysgafnach tebyg i'r ffliw, ac mae'r risg o ddioddef cymhlethdodau difrifol yn isel.

Mae sensitifrwydd i olau, cyffni yn y gwddf a chur pen/pen tost yn symptomau cyffredin meningitis firaol. Bydd y rhain fel arfer yn gwella ymhen 14 diwrnod.

Pancreatitis

Mae tuag 1 o bob 20 o achosion o glwy'r pennau yn arwain at lid tymor byr yn y pancreas (pancreatitis acíwt). Y symptom mwyaf cyffredin yw poen sydyn yng nghanol eich bol.

Gall symptomau eraill pancreatitis acíwt gynnwys:

  • cyfog neu chwydu
  • dolur rhydd
  • colli archwaeth bwyd
  • tymheredd uchel
  • tynerwch yn y bol
  • yn llai cyffredin, y croen a gwynion y llygaid yn melynu (y clefyd melyn)

Er bod y pancreatitis sy'n gysylltiedig â chlwy'r pennau yn ysgafn fel arfer, mae'n bosibl y bydd angen i chi dreulio cyfnod yn yr ysbyty fel bod modd cefnogi gweithrediadau'r corff hyd nes bod eich pancreas yn gwella.

Cymhlethdodau prin clwy'r pennau 

Mae cymhlethdodau prin ond difrifol posibl clwy'r pennau yn cynnwys haint ar yr ymennydd, sef enseffalitis. Credir iddo ddigwydd mewn 1 o bob 1,000 o bobl sy'n datblygu meningitis firaol o glwy'r pennau. Mae enseffalitis yn gyflwr a all achosi marwolaeth a bydd angen cyfnod mewn uned gofal dwys mewn ysbyty.

Bydd tuag 1 o bob 20 o bobl â chlwy'r pennau yn colli eu clyw dros dro i ryw raddau, ond mae colli clyw'n barhaol yn brin iawn. Caiff ei amcangyfrif y bydd hyn yn digwydd mewn 1 o bob 20,000 o achosion o glwy'r pennau.

Clwy'r pennau a beichiogrwydd

Yn y gorffennol, credwyd bod datblygu clwy'r pennau yn ystod beichiogrwydd yn gallu cynyddu risg camesgor, ond nid oes llawer o dystiolaeth i brofi hyn.

Fodd bynnag, fel rhagofal cyffredinol, caiff ei argymell bod menywod beichiog yn osgoi dod i gysylltiad agos â phobl y gwyddys bod ganddynt haint clwy'r pennau actif (neu unrhyw fath arall o haint).

Os ydych chi'n feichiog ac yn amau i chi ddod i gysylltiad â rhywun sydd â chlwy'r pennau arno ond nid ydych wedi cael eich brechu, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu eich bydwraig am gyngor.

Nid oes meddyginiaeth i iacháu clwy'r pennau, ond bydd meddyg teulu'n gallu awgrymu triniaeth i leddfu'ch symptomau.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 07/06/2022 10:00:02