Cyflwyniad
Mae norofirws, sydd hefyd yn cael ei alw'n 'fyg chwydu'r gaeaf', yn fyg stumog sy'n achosi chwydu a dolur rhydd. Mae'n gallu bod yn annymunol iawn, ond mae'n gwella ymhen tua 2 ddiwrnod fel arfer.
Gwiriwch i weld a oes gennych chi norofirws
Prif symptomau norofirws yw:
- teimlo'n gyfoglyd
- dolur rhydd
- chwydu
Efallai y bydd gennych chi hefyd:
- dymheredd uchel o 38C neu uwch
- cur pen/pen tost
- dolur yn eich breichiau a'ch coesau
Mae'r symptomau'n dechrau'n sydyn o fewn 1 i 2 ddiwrnod o gael eich heintio.
Sut i drin norofirws eich hun
Gallwch drin eich hun neu'ch plentyn gartref, fel arfer.
Dylech ddechrau teimlo'n well ymhen diwrnod neu ddau.
Darllenwch am sut i drin dolur rhydd a chwydu mewn plant ac oedolion.
Arhoswch i ffwrdd o'r ysgol neu'r gwaith hyd nes y bydd y symptomau wedi peidio am 2 ddiwrnod. Ceisiwch osgoi ymweld ag unrhyw un yn yr ysbyty yn ystod y cyfnod hwn hefyd.
Dyma pryd byddwch chi'n fwyaf heintus.
Sut mae norofirws yn lledaenu
Mae norofirws yn gallu lledaenu'n rhwydd iawn.
Gallwch ddal norofirws trwy:
- gysylltiad agos â rhywun sydd â norofirws
- cyffwrdd ag arwynebau neu wrthrychau y mae rhywun sydd â norofirws wedi cyffwrdd â nhw
- bwyta bwyd sydd wedi cael ei baratoi neu ei drin gan rywun sydd â norofirws
Golchi eich dwylo'n aml â sebon a dwr yw'r ffordd orau o'i atal rhag lledaenu. Nid yw geliau dwylo alcohol yn lladd norofirws.