Cyflwyniad
Mae anhwylder straen wedi trawma (PTSD) yn anhwylder gorbryder sy'n cael ei achosi gan ddigwyddiadau hynod o ingol, brawychus neu drallodus.
Yn aml, mae rhywun â PTSD yn ail-fyw'r digwyddiad trawmatig trwy hunllefau ac ôl-fflachiau, a gallai brofi teimladau o arwahanrwydd, natur flin ac euogrwydd.
Gall gael problemau'n cysgu hefyd, fel anhunedd, a'i chael yn anodd canolbwyntio.
Yn aml, mae'r symptomau hyn yn ddigon difrifol a pharhaus i gael effaith sylweddol ar fywyd yr unigolyn o ddydd i ddydd.
Achosion PTSD
Mae'r math o ddigwyddiadau sy'n gallu achosi PTSD yn cynnwys:
- damweiniau ffordd difrifol
- ymosodiadau personol treisgar, fel ymosodiadau rhywiol, mygio neu ladrata
- problemau iechyd difrifol
- profiadau wrth eni plant
Gall PTSD ddatblygu yn syth ar ôl i rywun brofi digwyddiad annymunol, neu gall ddigwydd wythnosau, misoedd neu hyd yn oed flynyddoedd yn ddiweddarach.
Amcangyfrifir bod PTSD yn effeithio ar ryw 1 o bob 3 o bobl sy'n cael profiad trawmatig, ond nid yw'n glir pam yn union mae rhai pobl yn datblygu'r cyflwr, a phobl eraill ddim yn ei ddatblygu.
PTSD Cymhleth
Gall pobl sy'n profi sefyllfaoedd trawmatig dro ar ôl tro, fel esgeulustra difrifol, camdriniaeth neu drais, gael diagnosis PTSD cymhleth.
Gall PTSD cymhleth achosi symptomau tebyg i PTSD, ac efallai na fyddant yn datblygu nes blynyddoedd ar ôl y digwyddiad.
Yn aml, mae'n fwy difrifol os cafodd y trawma ei brofi'n gynnar mewn bywyd, oherwydd gall hyn effeithio ar ddatblygiad plentyn.
Pryd i geisio cyngor meddygol
Mae'n arferol profi meddyliau gofidus a dryslyd ar ôl digwyddiad trawmatig, ond mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwella'n naturiol dros ychydig o wythnosau.
Dylech chi fynd i weld meddyg teulu os ydych chi neu'ch plentyn yn cael problemau o hyd, tua 4 wythnos ar ôl y profiad trawmatig, neu os yw'r symptomau yn drafferthus iawn.
Os bydd angen, gall eich meddyg teulu eich cyfeirio at arbenigwyr iechyd meddwl i gael asesiad pellach a thriniaeth.
Sut caiff PTSD ei drin
Gall PTSD gael ei drin yn llwyddiannus, hyd yn oed pan fydd yn datblygu flynyddoedd lawer ar ôl digwyddiad trawmatig.
Mae unrhyw driniaeth yn dibynnu ar ba mor ddifrifol yw'r symptomau, a pha mor fuan maen nhw'n digwydd ar ôl y digwyddiad trawmatig. Gellir argymell unrhyw un o'r opsiynau canlynol fel triniaeth:
- Aros yn wyliadwrus - monitro eich symptomau i weld a ydyn nhw'n gwella neu'n gwaethygu heb driniaeth.
- Gwrth-iselyddion - fel paroxetine neu mirtazapine.
- Therapïau seicolegol - fel therapi ymddygiadol gwybyddol (CBT) yn canolbwyntio ar drawma neu ddadsensiteiddio ac ailbrosesu symudiadau'r llygaid (EMDR).
Symptomau
Gall symptomau anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD) gael effaith sylweddol ar eich bywyd o ddydd i ddydd.
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae'r symptomau yn datblygu yn ystod y mis cyntaf ar ôl digwyddiad trawmatig.
Ond mewn lleiafrif o achosion, gall blynyddoedd lawer neu hyd yn oed flynyddoedd basio cyn i symptomau ddechrau ymddangos.
Mae rhai pobl â PTSD yn profi cyfnodau hir pan nad yw eu symptomau mor amlwg, wedi eu dilyn gan gyfnodau pan fyddant yn gwaethygu. Mae pobl eraill yn cael symptomau difrifol cyson.
Gall symptomau penodol PTSD amrywio'n eang rhwng unigolion, ond yn gyffredinol, maen nhw'n dod o dan y categorïau sy'n cael eu disgrifio isod.
Ail-brofi
Ail-brofi yw symptom mwyaf nodweddiadol PTSD.
Dyma pan fydd unigolyn yn ail-fyw'r digwyddiad trawmatig yn anfwriadol ac yn fyw, ar ffurf:
- ôl-fflachiau
- hunllefau
- delweddau neu ymdeimladau ailadroddus a gofidus
- ymdeimladau corfforol, fel poen, chwysu, teimlo'n sâl neu grynu
Mae rhai pobl yn cael meddyliau negyddol cyson am eu profiad, gan ofyn cwestiynau iddyn nhw eu hunain dro ar ôl tro, sy'n eu hatal rhag dod i delerau â'r digwyddiad.
Er enghraifft, gallen nhw feddwl pam wnaeth hynny ddigwydd iddyn nhw ac a allen nhw fod wedi gwneud unrhyw beth i'w atal, sy'n gallu arwain at deimladau o euogrwydd neu gywilydd.
Osgoi a fferru emosiynol
Mae ceisio osgoi cael eich atgoffa am y digwyddiad trawmatig yn un o symptomau allweddol eraill PTSD.
Mae hyn fel arfer yn golygu osgoi rhai pobl neu leoedd sy'n eich atgoffa am y trawma, neu osgoi siarad ag unrhyw un am eich profiad.
Mae llawer o bobl â PTSD yn ceisio gwthio atgofion am y digwyddiad i gefn eu meddwl, gan wneud gwaith neu hobïau yn aml er mwyn tynnu eu sylw oddi wrtho.
Mae rhai pobl yn ceisio delio â'u teimladau trwy geisio peidio â theimlo unrhyw beth o gwbl. Mae hyn yn cael ei adnabod fel fferru emosiynol.
Gall hyn achosi i'r unigolyn fod ar wahân a mynd i'w gragen, a gall hefyd roi'r gorau i wneud gweithgareddau roedd yn arfer eu mwynhau.
Gor-gynnwrf (teimlo 'ar binnau')
Gall rhywun â PTSD fod yn orbryderus iawn a'i chael yn anodd ymlacio. Gall fod yn gyson ymwybodol o fygythiadau a chael ei ddychryn yn hawdd.
Yr enw am y cyflwr meddwl hwn yw gor-gynnwrf (hyperarousal).
Yn aml, mae gor-gynnwrf yn arwain at:
- natur flin
- hyrddiau blin
- problemau'n cysgu (anhunedd)
- anhawster yn canolbwyntio
Problemau eraill
Mae llawer o bobl â PTSD yn cael nifer o broblemau eraill hefyd, gan gynnwys:
- problemau iechyd meddwl eraill - fel iselder, gorbryder neu ffobiâu
- hunan-niweidio neu ymddygiad dinistriol - fel camddefnyddio cyffuriau neu gamddefnyddio alcohol
- symptomau corfforol eraill - fel pen tost / cur pen, penysgafnder, poenau yn y frest a phoenau stumog
Weithiau, mae PTSD yn arwain at broblemau yn gysylltiedig â gwaith a chwalu perthynas.
PTSD mewn plant
Mae PTSD yn gallu effeithio ar blant, yn ogystal ag oedolion. Gall plant â PTSD gael symptomau tebyg i oedolion, fel cael trafferth yn cysgu a hunllefau annifyr.
Fel oedolion, gallai plant â PTSD golli diddordeb mewn gweithgareddau roedden nhw'n arfer eu mwynhau hefyd, a gallen nhw gael symptomau corfforol fel pen tost / cur pen a phoenau stumog.
Fodd bynnag, mae yna rai symptomau sy'n fwy penodol i blant â PTSD, fel:
- ymddygiad anodd
- osgoi pethau yn gysylltiedig â'r digwyddiad trawmatig
- ail-greu'r digwyddiad trawmatig dro ar ôl tro trwy eu chwarae
Pryd i geisio cyngor meddygol
Mae'n arferol profi meddyliau gofidus a dryslyd ar ôl digwyddiad trawmatig, ond mae'r rhain yn gwella'n naturiol dros ychydig o wythnosau i'r rhan fwyaf o bobl.
Dylech chi fynd i weld eich meddyg teulu os byddwch chi neu'ch plentyn yn cael problemau o hyd ryw bedair wythnos ar ôl y profiad trawmatig, neu os bydd y symptomau'n drafferthus iawn.
Bydd eich meddyg teulu eisiau trafod eich symptomau gyda chi mor fanwl ag y bo modd.
Bydd yn gofyn p'un a ydych chi wedi profi digwyddiad trawmatig yn ddiweddar neu yn y gorffennol pell, a ph'un a ydych chi wedi ail-brofi'r digwyddiad trwy ôl-fflachiau neu hunllefau.
Gall eich meddyg teulu eich cyfeirio at arbenigwyr iechyd meddwl os yw'n teimlo y byddech chi'n elwa ar gael triniaeth.
Achosion
Mae anhwylder straen wedi trawma (PTSD) yn gallu datblygu ar ôl digwyddiad hynod o ingol, brawychus neu drallodus, neu ar ôl profiad trawmatig hirfaith.
Mae mathau o ddigwyddiadau sy'n gallu arwain at PTSD yn cynnwys:
- damweiniau difrifol
- ymosodiad corfforol neu rywiol
- camdriniaeth, gan gynnwys camdriniaeth yn ystod plentyndod neu gamdriniaeth ddomestig
- bod yn agored i ddigwyddiadau trawmatig yn y gwaith, gan gynnwys o bell
- problemau iechyd difrifol, fel mynd i uned gofal dwys
- profiadau wrth eni plentyn, fel colli baban
- rhyfel a gwrthdaro
- arteithio
Nid yw PTSD fel arfer yn gysylltiedig â sefyllfaoedd sydd dim ond yn annymunol, fel ysgaru, colli swydd neu fethu arholiadau.
Mae PTSD yn datblygu mewn tua 1 o bob 3 o bobl sy'n profi trawma difrifol.
Ni ddeellir yn llawn pam mae rhai pobl yn datblygu'r cyflwr a phobl eraill ddim yn ei ddatblygu.
Ond mae'n ymddangos bod ffactorau penodol yn gwneud rhai pobl yn fwy tebygol o ddatblygu PTSD.
Pwy sydd mewn perygl
Os ydych chi wedi cael iselder neu orbryder yn y gorffennol, ond nad ydych yn cael llawer o gefnogaeth gan deulu neu ffrindiau, rydych chi'n fwy agored i ddatblygu PTSD ar ôl digwyddiad trawmatig.
Gall fod yna ffactor genetig yn gysylltiedig â PTSD hefyd. Er enghraifft, credir bod cael rhiant â phroblem iechyd meddwl yn cynyddu eich tebygolrwydd o ddatblygu'r cyflwr.
Pam mae'n datblygu?
Er nad yw'n glir pam yn union mae pobl yn datblygu PTSD, mae nifer o resymau posibl wedi cael eu hawgrymu.
Mecanwaith goroesi
Un awgrym yw bod symptomau PTSD yn digwydd o ganlyniad i fecanwaith greddfol sydd wedi'i fwriadu i'ch helpu i oroesi rhagor o brofiadau trawmatig.
Er enghraifft, gallai'r ôl-fflachiau mae llawer o bobl â PTSD yn eu profi orfodi i chi feddwl am y digwyddiad yn fanwl fel eich bod wedi'ch paratoi'n well os bydd yn digwydd eto.
Gall y teimlad o fod "ar binnau" (gor-gynnwrf) ddatblygu i helpu i chi ymateb yn gyflym mewn argyfwng arall.
Ond er bod yr ymatebion hyn efallai wedi eu bwriadu i'ch helpu i oroesi, maen nhw'n gwbl ddiwerth mewn gwirionedd, oherwydd ni allwch brosesu a symud ymlaen o'r profiad trawmatig.
Lefelau adrenalin uchel
Mae astudiaethau wedi dangos bod gan bobl â PTSD lefelau annormal o hormonau straen.
Fel arfer, pan fydd y corff mewn perygl, mae'n cynhyrchu hormonau straen fel adrenalin i sbarduno adwaith yn y corff.
Mae'r adwaith hwn, sy'n aml yn cael ei adnabod fel yr adwaith "brwydro neu hedfan" ("fight or flight"), yn helpu lladd y synhwyrau a'r poen mud.
Canfuwyd bod pobl â PTSD yn parhau i gynhyrchu llawer o hormonau brwydro neu hedfan, hyd yn oed pan nad oes perygl.
Credir y gallai hyn fod yn gyfrifol am yr emosiynau fferru a'r gor-gynnwrf sy'n cael eu profi gan rai pobl â PTSD.
Newidiadau yn yr ymennydd
Mewn pobl â PTSD, mae rhannau o'r ymennydd sy'n ymwneud â phrosesu emosiynol yn ymddangos mewn sganiau ymennydd.
Yr enw am un rhan o'r ymennydd sy'n gyfrifol am y cof a'r emosiynau yw'r hipocampws.
Mewn pobl â PTSD, mae'r hipocampws yn ymddangos yn llai mewn maint.
Credir y gallai newidiadau yn y rhan hon o'r ymennydd fod yn gysylltiedig ag ofn a gorbryder, problemau â'r cof ac ôl-fflachiau.
Os nad yw'r hipocampws yn gweithio'n iawn, gallai hynny atal ôl-fflachiau a hunllefau rhag cael eu prosesu'n gywir, felly nid yw'r gorbryder maen nhw'n ei gynhyrchu yn lleihau dros gyfnod.
Mae trin PTSD yn arwain at brosesu'r atgofion yn gywir, felly, dros gyfnod, mae'r ôl-fflachiau a'r hunllefau yn diflannu'n raddol.
Triniaeth
Y prif driniaethau ar gyfer anhwylder straen wedi trawma (PTSD) yw seicotherapi a meddyginiaeth.
Gall fod yn anodd iawn dod i delerau â digwyddiadau trawmatig, ond yn aml, yr unig ffordd o drin PTSD yn effeithiol yw trwy wynebu eich teimladau a cheisio cymorth proffesiynol.
Mae'n bosibl trin PTSD yn llwyddiannus flynyddoedd lawer ar ôl y digwyddiad trawmatig, sy'n golygu nad yw hi byth yn rhy hwyr i ofyn am gymorth.
Asesiad
Cyn cael triniaeth ar gyfer PTSD, bydd asesiad manwl o'ch symptomau yn cael ei gynnal i sicrhau bod triniaeth yn cael ei theilwra yn unol â'ch anghenion unigol.
Yn aml, bydd eich meddyg teulu yn cynnal asesiad cychwynnol, ond byddwch chi'n cael eich cyfeirio at arbenigwr iechyd meddwl am asesiad pellach a thriniaeth os ydych chi wedi cael symptomau PTSD ers mwy na phedair wythnos neu fod eich symptomau yn ddifrifol.
Mae nifer o arbenigwyr iechyd meddwl y gallech chi eu gweld os oes gennych PTSD, fel seicolegydd, nyrs seiciatrig gymunedol neu seiciatrydd.
Aros yn wyliadwrus
Os oes gennych chi symptomau ysgafn PTSD, neu eich bod wedi cael symptomau am lai na 4 wythnos, gall dull o'r enw aros yn wyliadwrus gael ei argymell.
Mae aros yn wyliadwrus yn cynnwys monitro'ch symptomau yn ofalus i weld a ydyn nhw'n gwella neu'n gwaethygu.
Mae hyn weithiau'n cael ei argymell am fod 2 o bob 3 o bobl sy'n datblygu problemau ar ôl profiad trawmatig yn gwella o fewn ychydig wythnosau heb driniaeth.
Os yw aros yn wyliadwrus yn cael ei argymell, dylech chi gael apwyntiad dilynol o fewn 1 mis.
Seicotherapi
Os oes gennych chi PTSD sydd angen triniaeth, caiff seicotherapi ei argymell yn gyntaf, fel rheol. Gellir argymell cyfuniad o seicotherapi a meddyginiaeth os oes gennych chi PTSD difrifol neu barhaus.
Mae seicotherapi yn fath o therapi sy'n cael ei ddefnyddio'n aml i drin problemau emosiynol a chyflyrau iechyd meddwl, fel PTSD, iselder, gorbryder ac anhwylder gorfodol obsesiynol.
Caiff y driniaeth ei rhoi gan weithwyr proffesiynol iechyd meddwl hyfforddedig sy'n gwrando arnoch chi ac yn helpu i chi feddwl am strategaethau effeithiol i ddatrys eich problemau.
Caiff y prif fathau o seicotherapi sy'n cael eu defnyddio i drin pobl â PTSD eu disgrifio isod.
Therapi ymddygiad gwybyddol (CBT)
Mae therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) yn fath o therapi sy'n anelu at eich helpu i reoli'ch problemau trwy newid sut rydych chi'n meddwl ac yn gweithredu.
Mae CBT sy'n canolbwyntio ar drawma yn defnyddio ystod o driniaethau triniaeth seicolegol i helpu i chi ddod i delerau â'r digwyddiad trawmatig.
Er enghraifft, gallai eich therapydd ofyn i chi wynebu eich atgofion trawmatig trwy feddwl am eich profiad yn fanwl. Yn ystod y broses hon, mae eich therapydd yn helpu i chi ymdopi ag unrhyw ofid rydych chi'n ei deimlo, tra'n nodi unrhyw feddyliau di-fudd neu gamddarluniau sydd gennych chi am y profiad.
Gall eich therapydd helpu i chi gael rheolaeth o'ch ofn a'ch gofid trwy newid y ffordd negyddol rydych chi'n meddwl am eich profiad. Er enghraifft, teimlo mai chi sydd ar fai am yr hyn a ddigwyddodd, neu ofni y gallai ddigwydd eto.
Gallech chi gael eich annog hefyd i ailddechrau unrhyw weithgareddau rydych chi wedi eu hosgoi ers eich profiad, fel gyrru car os cawsoch chi ddamwain.
Byddwch chi fel arfer yn cael 8-12 sesiwn wythnosol o CBT sy'n canolbwyntio ar drawma, er y gallai fod angen llai ohonynt. Mae sesiynau fel arfer yn para tua 60-90 munud.
Dadsensiteiddio ac ailbrosesu symudiadau'r llygaid (EMDR)
Mae dadsensiteiddio ac ailbrosesu symudiadau'r llygaid (EMDR) yn driniaeth gymharol newydd y canfuwyd ei bod yn lleihau symptomau PTSD.
Mae'n cynnwys symud y llygaid o’r naill ochr i’r llall, fel arfer trwy ddilyn symudiad bys eich therapydd, tra'n adalw'r digwyddiad trawmatig.
Gallai dulliau eraill gynnwys y therapydd yn taro'i fys neu'n chwarae tôn.
Nid yw'n hollol glir sut mae EMDR yn gweithio, ond gallai helpu i chi newid y ffordd negyddol rydych chi'n meddwl am brofiad trawmatig.
Therapi grŵp
Gallech chi gael cynnig therapi grŵp hefyd, gan fod rhai pobl yn ei chael yn fuddiol siarad am eu profiadau gyda phobl eraill sydd â PTSD. Gellir defnyddio therapi grŵp i ddysgu ffyrdd i chi reoli'ch symptomau a helpu i chi ddeall y cyflwr.
Mae nifer o elusennau sy'n darparu grwpiau cwnsela a chymorth ar gyfer PTSD hefyd. Er enghraifft:
- Combat Stress - elusen filwrol sy'n arbenigo mewn helpu cyn-filwyr
- Rape Crisis - elusen yn y DU sy'n darparu ystod o wasanaethau ar gyfer menywod a merched sydd wedi profi camdriniaeth, trais domestig ac ymosodiadau rhywiol
- Victim Support - yn darparu cymorth a gwybodaeth i ddioddefwyr neu dystion trosedd
- CRUSE - elusen yn y DU sy'n darparu cymorth a gwybodaeth i bobl sydd wedi cael profedigaeth
Meddyginiaeth
Weithiau, caiff gwrth-iselyddion fel paroxetine, sertraline, mirtazapine, amitriptyline neu phenelzine eu defnyddio i drin PTSD mewn oedolion.
O'r meddyginiaethau hyn, paroxetine a sertraline yw'r unig rai sydd wedi eu trwyddedu'n benodol ar gyfer trin PTSD. Fodd bynnag, gwelwyd bod mirtazapine, amitriptyline a phenelzine hefyd yn effeithiol, a gellir eu hargymell nhw hefyd.
Fodd bynnag, bydd y meddyginiaethau hyn dim ond yn cael eu defnyddio:
- os byddwch yn dewis peidio â chael triniaeth seicolegol sy'n canolbwyntio ar drawma
- os na fyddai triniaeth seicolegol yn effeithiol gan fod bygythiad parhaus o drawma pellach (fel trais domestig)
- os nad ydych chi wedi cael llawer o fudd, os o gwbl, o driniaeth seicolegol sy'n canolbwyntio ar drawma
- os oes gennych chi gyflwr meddygol isorweddol, fel iselder difrifol, sy'n effeithio'n sylweddol ar eich gallu i elwa ar driniaeth seicolegol
Fel arfer, bydd amitriptyline neu phenelzine dim ond yn cael eu defnyddio o dan oruchwyliaeth arbenigwr iechyd meddwl.
Gellir rhoi gwrth-iselyddion ar bresgripsiwn hefyd i leihau unrhyw symptomau cysylltiedig iselder a gorbryder, a helpu â phroblemau cysgu. Fodd bynnag, nid ydyn nhw fel arfer yn cael eu rhoi ar bresgripsiwn ar gyfer pobl sy'n iau na 18 oed oni bai eu bod yn cael eu hargymell gan arbenigwr.
Os yw meddyginiaeth ar gyfer PTSD yn effeithiol, bydd fel arfer yn parhau i gael ei rhoi i chi am o leiaf 12 mis cyn cael ei diddyfnu'n raddol dros gyfnod o bedair wythnos neu fwy. Os nad yw meddyginiaeth yn effeithiol yn lleihau eich symptomau, gellir cynyddu'ch dos.
Cyn rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn, dylai eich meddyg roi gwybod i chi am sgil-effeithiau posibl y gallech chi eu cael tra'n ei chymryd, ynghyd ag unrhyw symptomau diddyfnu posibl pan gaiff y feddyginiaeth ei diddyfnu.
Er enghraifft, mae sgil-effeithiau cyffredin paroxetine yn cynnwys teimlo'n sâl, golwg aneglur, rhwymedd a dolur rhydd.
Mae symptomau diddyfnu posibl sy'n gysylltiedig â paroxetine yn cynnwys tarfu ar gwsg, breuddwydion dwys, gorbryder a natur flin.
Mae symptomau diddyfnu yn llai tebygol o ddigwydd os caiff y feddyginiaeth ei lleihau'n araf.
Plant a phobl ifanc
I blant a phobl ifanc â PTSD, caiff CBT sy'n canolbwyntio ar drawma ei argymell fel rheol.
Mae hyn fel arfer yn cynnwys cwrs o 6-12 sesiwn, sydd wedi cael eu haddasu yn ôl oedran, amgylchiadau a lefel datblygiad y plentyn.
Pan fydd yn briodol, mae triniaeth yn cynnwys ymgynghori â theulu'r plentyn, a'i gynnwys.
Gallai EMDR gael ei gynnig i blant nad ydynt yn ymateb i CBT sy'n canolbwyntio ar drawma.
PTSD a gyrru
Gallai anhwylder straen wedi trawma (PTSD) effeithio ar eich gallu i yrru'n ddiogel, felly dylech chi roi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) am eich cyflwr.
Ewch i GOV.UK i gael mwy o wybodaeth am PTSD a gyrru.
Complex PTSD
Gall oedolion neu blant sydd wedi profi digwyddiadau trawmatig dro ar ôl tro, fel trais, esgeulustra neu gamdriniaeth, gael diagnosis o PTSD cymhleth.
Credir bod PTSD cymhleth yn fwy difrifol:
- os oedd y digwyddiadau trawmatig yn gynnar mewn bywyd
- os cafodd y trawma ei achosi gan riant neu ofalwr
- os oedd yr unigolyn wedi profi'r trawma am gyfnod hir
- os oedd yr unigolyn ar ei ben ei hun yn ystod y trawma
- os oes cyswllt o hyd â'r unigolyn sy'n gyfrifol am y trawma
Gan ei bod yn gallu cymryd blynyddoedd i adnabod symptomau PTSD cymhleth, gall datblygiad plentyn newid wrth iddo fynd yn hŷn, gan gynnwys ei ymddygiad a'i hunanhyder.
Gall oedolion â PTSD cymhleth golli eu hymddiriedaeth mewn pobl a theimlo eu bod ar wahân i bobl eraill.
Symptomau PTSD cymhleth
Mae symptomau PTSD cymhleth yn debyg i symptomau PTSD, ond gallen nhw gynnwys:
- teimladau o gywilydd neu euogrwydd
- anhawster yn rheoli'ch emosiynau
- cyfnodau o roi'r gorau i dalu sylw a chanolbwyntio - caiff hyn ei adnabod fel datgysylltiad
- symptomau corfforol - fel pen tost / cur pen, penysgafnder, poenau yn y frest a phoenau stumog
- torri cysylltiad â ffrindiau a theulu
- anawsterau o ran perthynas
- ymddygiad dinistriol neu beryglus - fel hunan-niweidio, camddefnyddio alcohol neu gamddefnyddio cyffuriau
- meddyliau hunanladdol
Trin PTSD cymhleth
Os oes gennych chi PTSD cymhleth, efallai y byddwch chi'n cael cynnig therapïau sy'n cael eu defnyddio i drin PTSD, fel therapi ymddygiad gwybyddol sy'n canolbwyntio ar drawma neu ddadsensiteiddio ac ailbrosesu symudiadau'r llygaid (EMDR).
Yn aml, mae pobl â PTSD cymhleth yn ei chael yn anodd ymddiried mewn pobl eraill. Gallech chi gael cynnig mwy o sesiynau therapi na'r arfer, er mwyn i chi gael amser i feithrin perthynas ymddiriedus â'ch therapydd.
Byddwch chi hefyd yn cael cynnig triniaeth am broblemau eraill a allai fod gennych chi, fel iselder neu gaethiwed i alcohol.
Dylech chi gael cynnig cymorth parhaus wedi i'ch triniaeth ddod i ben.
Mae elusen iechyd meddwl Mind yn cynnig gwybodaeth am PTSD cymhleth.
Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan
wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf:
08/01/2025 11:34:54