Cyflwyniad
Mae Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif (PMDD) yn anhwylder hwyliau sy'n gysylltiedig â hormonau sy'n digwydd bob mis. Fe'i hachosir gan sensitifrwydd i newidiadau hormonaidd, gyda symptomau fel arfer yn ymddangos 1 i 2 wythnos cyn i'r mislif ddechrau ac yn gwella ychydig ddyddiau ar ôl iddo ddechrau.
Yn wahanol i Syndrom Cyn Mislif (PMS), mae symptomau PMDD yn fwy aflonyddgar a gallant effeithio'n sylweddol ar wahanol agweddau ar fywyd bob dydd person.
Achosion PMDD
Mae PMDD yn gyflwr difrifol a chronig a achosir gan adwaith annormal yn yr ymennydd i'r newidiadau hormonaidd naturiol mewn estrogen a progesteron yn ystod y cylch mislif. Mae unigolion â PMDD yn profi sensitifrwydd cynyddol i'r newidiadau hyn, a all sbarduno symptomau llethol. Nid yw union achos yr adwaith hwn yn hysbys eto.
Gall symptomau PMDD gynnwys y canlynol:
- Newidiadau hwyliau, iselder, neu grïo.
- Teimlo'n anobeithiol, pryderus neu’n or-bryderus.
- Dicter, llid neu deimlad o golli rheolaeth.
- Anhawster canolbwyntio neu "ymennydd niwlog”.
- Newidiadau mewn arferion cysgu neu fwyta, gan gynnwys chwantau.
- Symptomau corfforol: blinder, poen yn y cymalau neu'r cyhyrau, bronnau dolurus, cur pen/meigryn, chwyddo neu roi pwysau ymlaen.
Mae llawer o bobl â PMDD hefyd yn profi meddyliau a theimladau hunanladdol.
Gellir diagnosio PMDD yn unig trwy olrhain symptomau ochr yn ochr â'r cylch mislif am o leiaf 2 fis.
Triniaethau ar gyfer PMDD
Mae triniaeth yn amrywio, ond mae opsiynau'n cynnwys:
- Gwrthiselyddion, a gymerir yn barhaus neu dim ond yn ystod y cyfnod cyn mislif.
- Dulliau atal cenhedlu.
- Menopos a gaiff ei ysgogoi’n gemegol (trwy feddyginiaeth neu lawdriniaeth).
Ffyrdd eraill i helpu:
- Newidiadau iach i’ch ffordd o fyw (ee. lleihau caffein a siwgr, ymarfer corff rheolaidd).
- Therapi: Therapïau gwybyddol ymddygiadol, therapi seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar.
Os oes angen cyngor brys arnoch gallwch:
- Ffonio meddyg teulu a gofyn am apwyntiad brys
- Ffonio 111 y tu allan i oriau (byddant yn eich helpu i ddod o hyd i'r gefnogaeth a'r help sydd eu hangen arnoch)
- Ffonio llinell gymorth, fel y Samariaid (ffoniwch am ddim ar 116 123)
- Os ydych chi'n teimlo y gallech fod ar fin niweidio'ch hun, ffoniwch 999 am ambiwlans neu ewch yn syth i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Neu gallwch ofyn i rywun arall ffonio 999 neu fynd â chi i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys.
- Cysylltwch a MIND ar 0300 102 1234
A ydych chi newydd ddysgu am PMDD ac am wybod mwy?
Am ragor o wybodaeth am PMDD, ewch i Triniaeth Deg i Fenywod Cymru. Mae canllaw hawdd hefyd ar gael gan IAPMD.
Gwaethygiad Cyn Mislif (PME)
Mae PME yn gwaethygu symptomau cyflwr presennol. Gall rhywun â PME brofi symptomau trwy gydol y mis, ond maent yn aml yn gwaethygu yn yr wythnos neu ddwy cyn eu cylch mislif. Er enghraifft, gall rhywun â phryder deimlo'n fwy llidiog neu gael anhawster canolbwyntio yn ystod y cyfnod hwn.
Nid yw'r achos o PME yn cael ei ddeall yn llawn, ond credir bod y rhai â PME yn fwy sensitif i newidiadau hormonau.
Mae triniaeth fel arfer yn canolbwyntio ar reoli'r cyflwr presennol, gyda therapïau siarad a newidiadau i’ch ffordd o fyw yn helpu i leddfu symptomau.
Ddim yn siŵr os yw'n PMDD neu PME? Mae gan Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Anhwylderau Cyn Mislif (IAPD) offeryn ‘sgriniwch eich hun’ defnyddiol