Syndrom Reiter - Llid y Cymalau adweithiol

Cyflwyniad

Credir bod cyflwr arthritis adweithiol yn cael ei achosi gan haint flaenorol sy'n aflonyddu ar weithrediad arferol y system imiwnedd (amddiffyniad naturiol y corff rhag haint a salwch).

Mewn arthritis adweithiol, mae'r system imiwnedd yn camweithio ac yn achosi i lid (cochni a chwyddo) ddatblygu drwy'r corff i gyd. Y tri lle mwyaf cyffredin sy'n llidio yw:

  • y llygaid (llid y gyfbilen) - sy'n gallu achosi symptomau fel poen a chochni yn y llygaid 
  • y cymalau (arthritis) - sy'n gallu achosi symptomau fel poen ac anystwythder 
  • yr wrethra (wrethritis) - yr wrethra yw'r tiwb y mae troeth yn pasio drwyddo; mae wrethritis yn gallu achosi poen wrth droethi 

Darllenwch ragor am symptomau arthritis adweithiol.

Triniaeth

Ar hyn o bryd, nid oes gwellhad ar gyfer arthritis adweithiol, ond mae'n gwella fel arfer ymhen tri i 12 mis.  

Mae triniaeth yn cynnwys defnyddio meddyginiaeth i leddfu symptomau, fel poen ac anystwythder.

Fel rheol, mae modd rheoli symptomau ysgafn i gymedrol drwy ddefnyddio dosbarth o gyffuriau lladd poen y cyffuriau gwrthlidiol ansteroidol (NSAID), fel ibwproffen. 

Fel arfer, bydd angen tabledi steroid (corticosteroidau i'w llyncu) neu bigiadau steroid (corticosteroidau mewnwythiennol) ar symptomau mwy difrifol.

Darllenwch ragor ynghylch trin arthritis adweithiol.

Mewn rhai pobl, bydd y symptomau'n dychwelyd ar ryw adeg yn y dyfodol ac, yn y pen draw, bydd tua 1 o bob 7 o bobl yn datblygu arthritis tymor hir sy'n parhau am lawer o flynyddoedd.

Achosion

Mae arthritis adweithiol yn datblygu ar ôl haint, ac yn nodweddiadol ar ôl haint a drosglwyddir yn rhywiol fel clamydia neu haint y system dreulio fel haint sy'n digwydd yn ystod gwenwyn bwyd.

Am resymau sy'n aneglur o hyd, bythefnos i bedair wythnos ar ôl i'r haint basio, mae'r system imiwnedd, sef amddiffyniad y corff rhag haint, fel petai'n camweithio ac yn dechrau ymosod ar feinwe iach.

Mae'n anfon gwrthgyrff i fannau amrywiol yn y corff ac mae'r gwrthgyrff hyn yn gyfrifol am y symptomau llid sy'n gysylltiedig ag arthritis adweithiol.

Darllenwch ragor am achosion arthritis adweithiol.

Ar bwy mae arthritis adweithiol yn effeithio?

Cyflwr cymharol anghyffredin yw arthritis adweithiol. 

Mae arthritis adweithiol sy'n digwydd ar ôl haint i'r system dreulio yn effeithio i'r un graddau ar ddynion a menywod.

Serch hynny, mae arthritis adweithiol sy'n digwydd ar ôl haint a drosglwyddir yn rhywiol yn llawer mwy cyffredin ymhlith dynion, sef 9 o bob 10 achos.

Mae'r rhan fwyaf o achosion o arthritis adweithiol yn datblygu mewn pobl rhwng 20 a 40 oed.

Syndrom Reiter

Roedd arthritis adweithiol yn arfer cael ei alw'n syndrom Reiter ond prin iawn y defnyddir y term hwnnw erbyn hyn gan fod y meddyg a wnaeth adnabod y cyflwr gyntaf, Hans Reiter, yn aelod o'r Blaid Nazi a chafodd ei arestio am droseddau rhyfel.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 14/04/2026 10:09:47