Gwaedu rhefrol

Cyflwyniad

Rectal bleeding
Rectal bleeding

Dydy achos unigol o ychydig bach o waedu o’r pen ôl ddim fel arfer yn broblem ddifrifol. Ond gall meddyg teulu wirio.

Gwiriwch a ydych chi’n gwaedu o’r pen ôl

Efallai eich bod yn gwaedu o’r pen ôl:

  • os oes gennych chi waed ar y papur toiled
  • os oes gennych chi farciau coch ar du allan eich pŵ
  • os oes dŵr pinc ym mowlen y toiled
  • os oes gwaed yn eich pŵ neu ddolur rhydd gwaedlyd
  • os yw eich pŵ yn dywyll a drewllyd iawn (gall hyn fod yn waed wedi’i gymysgu mewn pŵ)

Mae achos unigol o ychydig bach o waedu yn gallu stopio ar ei ben ei hun heb fod angen triniaeth.

Ewch i weld meddyg teulu:

  • os yw eich plentyn wedi gwneud pŵ a bod gwaed ynddo
  • os oes gwaed wedi bod yn eich pŵ am 3 wythnos
  • os yw eich pŵ wedi bod yn fwy meddal, yn deneuach neu'n hirach na'r arfer am 3 wythnos
  • os oes gennych chi lawer o boen o gwmpas y pen ôl
  • os oes gennych chi boen neu lwmpyn yn eich bol
  • os ydych chi wedi bod yn teimlo'n fwy blinedig na'r arfer
  • os ydych chi wedi colli pwysau am ddim rheswm

Gofynnwch am apwyntiad brys gyda’r meddyg teulu neu ffoniwch 111 i gael help:

  • os yw eich pŵ yn ddu neu'n goch tywyll
  • os oes gennych chi ddolur rhydd gwaedlyd am ddim rheswm amlwg

Ewch i adran achosion brys a damweiniau neu ffoniwch 999:

  • os ydych chi'n gwaedu'n ddi-stop
  • os oes llawer o waed - er enghraifft, mae dŵr y toiled yn troi'n goch neu rydych chi'n gweld clotiau gwaed mawr

Dewch o hyd i’ch adran damweiniau ac achosion brys agosaf.

Beth sy’n digwydd yn eich apwyntiad â’r meddyg teulu

Bydd y meddyg teulu yn gwirio beth sy'n achosi eich symptomau.

Efallai y bydd:

  • yn archwilio’ch pen ôl (rectwm) â bys trwy wisgo maneg (archwiliad rhefrol)
  • yn gofyn am sampl o'ch pŵ i'w phrofi
  • yn eich cyfeirio at arbenigwr am brofion

Risg canser y coluddyn

Weithiau, mae gwaedu o’r pen ôl yn arwydd o ganser y coluddyn.

Mae hyn yn haws ei drin os caiff ei ddarganfod yn gynnar, felly mae’n bwysig gwirio hyn.

Achosion cyffredin gwaedu o’r pen ôl

Os oes gennych chi symptomau eraill, efallai bydd hyn yn rhoi syniad i chi ynghylch beth sy’n ei achosi.

Peidiwch â gwneud diagnosis eich hun. Ewch i weld meddyg teulu os ydych chi’n poeni.

Gwaed coch llachar ar bapur toiled, marciau ar y pŵ, dŵr toiled pinc

Gwaed yn y pŵ neu waed â llysnafedd

Mae pŵ yn gallu edrych fel pe bai wedi’i gymysgu â gwaed os ydych chi wedi bwyta llawer o fwydydd coch neu borffor, fel tomatos a betys.

Ond weithiau, mae’n arwydd o rywbeth arall. Gall meddyg teulu wirio os ydych chi’n poeni.

  • Gwaed a llysnafedd melyn wrth wneud pŵ, anws wedi llidio, poen barhaus yn y pen ôl. Achos posibl: ffistwla rhefrol
  • Dolur rhydd gwaedlyd gyda llysnafedd clir, teimlo’n sâl a chwydu. Achos posibl: byg stumog (gastroenteritis)
  • Dolur rhydd gwaedlyd, crampiau a phoen bol, teimlo wedi chwyddo (bloated). Achos posibl: clefyd llidus y coluddyn (IBD) fel llid briwiol y coluddyn neu glefyd Crohn
  • Gwaed yn y pŵ. Achos posibl: gwaedu yn yr anws, y coluddyn neu ran isaf y perfedd o anaf neu broblem arall
  • Gwaed yn y pŵ, newid mewn arferion pŵ (fel pŵ mwy rhydd, dolur rhydd neu rhwymedd), llysnafedd gyda’r pŵ. Achosion posibl: polypau yn y coluddyn, arwyddion cynnar o canser y coluddyn

Pŵ tywyll iawn neu waed du yn y pŵ

Gall pŵ edrych yn dywyll iawn neu’n ddu os ydych chi:

  • yn cymryd tabledi haearn
  • yn bwyta llawer o fwydydd tywyll fel licoris a llus

Ond weithiau mae’n arwydd o rywbeth arall. Gall meddyg teulu wneud prawf i wirio hyn os ydych chi’n poeni.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 04/09/2023 11:30:40