Y dwymyn goch

Cyflwyniad

Mae'r dwymyn goch yn haint heintus iawn sy'n effeithio'n bennaf ar blant ifanc. Mae'n hawdd ei thrin â gwrthfiotigau.

Gwiriwch i weld a oes gennych y dwymyn goch

Gall arwyddion cyntaf y dwymyn goch fod yn symptomau tebyg i ffliw, gan gynnwys tymheredd uchel, dolur gwddf a chwarennau gwddf chwyddedig (lwmp mawr ar ochr eich gwddf).

Mae brech yn ymddangos 12 i 48 awr yn ddiweddarach. Mae'n edrych fel lympiau bach ac yn dechrau ar y frest a'r bol, yna'n lledaenu. Mae'r frech yn gwneud i'ch croen deimlo'n arw, fel papur tywod.

Ar groen gwyn mae'r frech yn edrych yn binc neu'n goch. Gall fod yn anoddach ei weld ar groen brown neu ddu, ond gallwch chi ei deimlo o hyd.

Mae’r caenu gwyn hefyd yn ymddangos ar y tafod. Mae hwn yn plicio, gan adael y tafod yn goch, wedi chwyddo ac wedi'i orchuddio â lympiau bach o'r enw ("tafod mefus").

Nid yw'r frech yn ymddangos ar yr wyneb, ond gall y bochau edrych yn goch. Gall fod yn anoddach gweld y cochni ar groen brown a du

Mae’r symptomau yr un peth ar gyfer plant ac oedolion, er bod y dwymyn goch yn llai cyffredin mewn oedolion.

Ewch i weld meddyg teulu os oes gennych chi neu'ch plentyn:

  • symptomau'r dwymyn goch
  • ddim yn gwella mewn wythnos (ar ôl gweld y meddyg teulu)
  • yn sâl eto wythnosau ar ôl i'r dwymyn goch wella - gall hyn fod yn arwydd o gymhlethdod, fel twymyn rhewmatig
  • yn teimlo'n sâl ac wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd â'r dwymyn goch

Mae'r dwymyn goch yn lledaenu'n hawdd iawn. Gwiriwch gyda meddyg teulu cyn i chi fynd i'w weld. Efallai y bydd yn awgrymu ymgynghoriad dros y ffôn.

Beth sy'n digwydd yn eich apwyntiad

Yn aml, gall meddygon teulu wneud diagnosis o'r dwymyn goch drwy edrych ar y tafod a'r frech. Efallai y bydd yn:

  • defnyddio ffon gotwm i brofi am facteria o amgylch cefn y gwddf
  • trefnu prawf gwaed

Trin y dwymyn goch

Bydd eich meddyg teulu yn rhagnodi gwrthfiotigau. Bydd yn:

  • eich helpu i wella'n gyflymach
  • lleihau'r siawns o afiechydon difrifol, fel niwmonia
  • ei gwneud yn llai tebygol y byddwch yn trosglwyddo'r haint i rywun arall

Parhewch i gymryd y gwrthfiotigau nes eu bod wedi gorffen, hyd yn oed os ydych chi'n teimlo'n well.

Pethau y gallwch chi eu gwneud eich hun

Gallwch leddfu symptomau'r dwymyn goch drwy:

  • yfed hylifau oer
  • bwyta bwydydd meddal i leddfu dolur gwddf
  • cymryd cyffuriau lleddfu poen fel parasetamol i ostwng tymheredd (peidiwch â rhoi asbirin i blant o dan 16 oed)
  • defnyddio eli calamin neu dabledi gwrth-histamin  i atal cosi

Pa mor hir y mae'r dwymyn goch yn para

Mae'r dwymyn goch yn para tua wythnos.

Gallwch ledaenu'r dwymyn goch i bobl eraill hyd at 6 diwrnod cyn i chi gael symptomau tan 24 awr ar ôl i chi gymryd eich dos 1af o wrthfiotigau.

Os na fyddwch yn cymryd gwrthfiotigau, gallwch ledaenu’r haint am 2 i 3 wythnos ar ôl i’r symptomau ddechrau.

Pwysig - os oes gennych chi neu'ch plentyn y dwymyn goch, cadwch draw o'r feithrinfa, yr ysgol neu'r gwaith am 24 awr ar ôl cymryd y dos cyntaf o wrthfiotigau.

Ydy'r dwymyn goch yn beryglus?

Gall y dwymyn goch fod yn salwch difrifol, ond diolch i wrthfiotigau mae’n llai cyffredin nag yr arferai fod ac yn haws ei drin.

Ond mae achosion o'r dwymyn goch wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf. Am fwy o wybodaeth, ewch i  http://www.gov.uk/government/collections/scarlet-fever-guidance-and-data

Mae cymhlethdodau yn brin ond gallant gynnwys:

Cyngor os ydych yn feichiog

Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu y bydd cael y dwymyn goch yn ystod beichiogrwydd yn niweidio'ch babi. Ond gall wneud i chi deimlo'n sâl, felly mae'n well osgoi cysylltiad agos ag unrhyw un sydd â'r dwymyn goch.

Cysylltwch â'ch meddyg teulu os byddwch yn cael symptomau.

Ystyrir bod llawer o'r gwrthfiotigau a ddefnyddir ar gyfer y dwymyn goch yn ddiogel i'w cymryd yn ystod beichiogrwydd.

Sut i osgoi lledaenu'r dwymyn goch

Mae'r dwymyn goch yn heintus iawn a gall ledaenu'n hawdd i bobl eraill.

Er mwyn lleihau'r risg o ledaenu'r dwymyn goch:

Pethau y dylid eu gwneud:

  • golchi dwylo yn aml gyda sebon a dŵr cynnes
  • defnyddio hancesi papur i ddal germau wrth beswch neu disian
  • rhoi hancesi papur yn y bin sbwriel yr ydych wedi'u defnyddio cyn gynted â phosibl

Peidiwch â:

  • peidiwch â rhannu cyllyll a ffyrc, cwpanau, tywelion, dillad, dillad gwely na bath gydag unrhyw un sydd â symptomau'r dwymyn goch


Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 19/12/2022 12:44:04