Hunananafu

Cyflwyniad

Hunan-niweidio yw pan fydd rhywun yn niweidio neu’n anafu ei gorff yn bwrpasol. Fel arfer, mae'n ffordd o fynegi neu ymdopi â gofid emosiynol llethol.

Weithiau, pan fydd pobl yn hunan-niweidio, maen nhw'n teimlo ar ryw lefel eu bod nhw'n bwriadu marw. Mae gan fwy na hanner y bobl sy'n marw trwy hunanladdiad hanes o hunan-niweidio.

Ond, yn amlach, y bwriad yw eu cosbi eu hunain, mynegi eu gofid neu ryddhau tensiwn annioddefol. Weithiau, mae'n gymysgedd o'r tri.

Gall hunan-niweidio fod yn alwad am gymorth hefyd.

Cael cymorth

Os ydych chi'n hunan-niweidio, dylech fynd at eich Meddyg Teulu am gymorth. Gall eich atgyfeirio i weithwyr gofal iechyd proffesiynol mewn gwasanaeth iechyd meddwl cymunedol lleol i gael asesiad pellach.

Yn dilyn yr asesiad hwn, bydd eich tîm gofal yn creu cynllun triniaeth gyda chi i'ch helpu gyda'ch gofid.

Mae triniaeth ar gyfer pobl sy'n hunan-niweidio fel arfer yn cynnwys gweld therapydd i drafod eich meddyliau a'ch teimladau, a sut mae'r rhain yn effeithio ar eich ymddygiad a'ch lles.

Gallant hefyd ddysgu strategaethau ymdopi i chi i'ch helpu i ymatal rhag hunan-niweidio eto.

Os ydych chi'n isel iawn, gallai hefyd gynnwys cymryd gwrthiselyddion neu feddyginiaeth arall.

Sefydliadau defnyddiol

Mae sefydliadau ar gael sy'n cynnig cymorth a chyngor i bobl sy'n hunan-niweidio, yn ogystal â'u ffrindiau a'u teuluoedd. Mae'r rhain yn cynnwys:

Mathau o hunan-niweidio

Gall pobl niweidio eu hunain yn fwriadol mewn sawl ffordd, megis:

  • torri neu losgi eu croen
  • dyrnu neu daro eu hunain
  • gwenwyno eu hunain â thabledi neu gemegau gwenwynig.

Yn aml, mae pobl yn ceisio cadw hunan-niweidio'n gyfrinach oherwydd eu bod nhw'n teimlo cywilydd neu'n ofni y bydd rhywun yn dod i wybod amdano.

Er enghraifft, os ydyn nhw'n torri eu croen, efallai y byddan nhw'n gorchuddio eu croen ac yn osgoi trafod y broblem.

Yn aml, rhaid i deulu agos a ffrindiau sylwi pan fydd rhywun yn hunan-niweidio, a chodi'r pwnc yn ofalus ac yn ystyriol.

Arwyddion hunan-niweidio

Os ydych chi'n credu bod ffrind neu berthynas yn hunan-niweidio, cadwch lygad am unrhyw un o'r arwyddion canlynol:

  • cytiau, cleisiau neu losgiadau sigarét diesboniad, ar yr arddyrnau, y breichiau, y cluniau a'r frest fel arfer
  • gorchuddio ei groen drwy'r amser, hyd yn oed mewn tywydd poeth
  • arwyddion iselder, fel hwyliau isel, bod yn ddagreuol neu ddiffyg cymhelliad neu ddiddordeb mewn unrhyw beth
  • hunan-gasineb a mynegi dymuniad i'w gosbi ei hun
  • dim eisiau parhau a dymuno rhoi diwedd arni
  • mynd i'w gragen a pheidio â siarad â phobl eraill
  • newidiadau mewn arferion bwyta neu fod yn gyfrinachgar ynghylch bwyta, ac unrhyw arwydd anarferol o golli neu fagu pwysau
  • arwyddion hunan-barch isel, fel ei feio ei hun am unrhyw broblemau neu feddwl nad yw'n ddigon da am rywbeth
  • arwyddion ei fod wedi bod yn tynnu gwallt ei ben

Mae pobl sy'n hunan-niweidio yn gallu gwneud niwed mawr i'w hunain, felly mae'n bwysig eu bod nhw'n siarad â Meddyg Teulu am y mater sylfaenol ac yn gofyn am driniaeth neu therapi a allai eu helpu.

Pam mae pobl yn hunan-niweidio

Mae hunan-niweidio'n fwy cyffredin nag y mae llawer o bobl yn sylweddoli, yn enwedig ymhlith pobl iau.

Amcangyfrifir bod tua 10% o bobl ifanc yn hunan-niweidio ar ryw adeg, ond mae pobl o bob oed yn gwneud hynny.

Mae'r ffigur yn debygol o fod yn amcangyfrif rhy isel hefyd, gan nad yw pawb yn ceisio cymorth.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae pobl yn hunan-niweidio i'w helpu i ymdopi â materion emosiynol llethol, a allai gael eu hachosi gan:

  • broblemau cymdeithasol - fel cael eu bwlio, profi anawsterau yn y gwaith neu'r ysgol, perthnasoedd anodd gyda ffrindiau neu deulu, dod i delerau â'u rhywioldeb os ydynt yn credu y gallent fod yn hoyw neu'n ddeurywiol, neu ymdopi â disgwyliadau diwylliannol, fel priodas wedi'i threfnu
  • trawma - fel camdriniaeth gorfforol neu rywiol, marwolaeth aelod agos o'r teulu neu ffrind, neu gamesgoriad
  • achosion seicolegol - fel meddwl yn fynych am hunan-niweidio neu glywed lleisiau'n fynych sy'n dweud wrthynt am hunan-niweidio, datgysylltu (colli cysylltiad â phwy ydynt a'u hamgylchoedd), neu anhwylder personoliaeth ffiniol

Gall y materion hyn achosi i deimladau dwys gronni, fel dicter, euogrwydd, anobaith a hunan-gasineb.

Efallai na fydd yr unigolyn yn gwybod at bwy i droi am gymorth, a gallai hunan-niweidio ddod yn ffordd o ryddhau'r teimladau caeth hyn.

Mae hunan-niweidio yn gysylltiedig â gorbryder ac iselder. Gall y cyflyrau iechyd meddwl hyn effeithio ar bobl o unrhyw oed.

Gall hunan-niweidio hefyd ddigwydd ochr yn ochr ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, fel camymddwyn yn yr ysgol neu fynd i drafferth gyda'r heddlu.

Er bod rhai pobl sy'n hunan-niweidio mewn perygl uchel o hunanladdiad, nid yw llawer o bobl sy'n hunan-niweidio eisiau diweddu eu bywydau.

Mewn gwirionedd, gallai'r hunan-niweidio eu helpu i ymdopi â gofid emosiynol, fel nad ydynt yn teimlo bod angen iddynt ladd eu hunain.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 14/02/2024 11:46:38