Llid y sinysau

Cyflwyniad

Sinysau wedi chwyddo yw llid y sinysau, sydd fel arfer yn cael ei achosi gan haint. Mae'n gyffredin ac fel arfer yn clirio ar ei ben ei hun o fewn 2 i 3 wythnos. Ond gall meddyginiaethau helpu os yw'n cymryd amser hir i ddiflannu.

Gwiriwch a oes gennych chi lid y sinysau

Mae llid y sinysau yn gyffredin ar ôl cael annwyd neu’r ffliw.

Mae symptomau llid y sinysau yn cynnwys:

  • poen, chwyddo a thynerwch o gwmpas eich bochau, eich llygaid neu'ch talcen
  • trwyn llawn
  • llai o synnwyr arogli
  • mwcws gwyrdd neu felyn o'ch trwyn
  • cur pen sinws
  • tymheredd uchel
  • y ddannoedd
  • anadl drwg

Gall arwyddion o lid y sinysau ymhlith plant ifanc hefyd gynnwys anniddigrwydd, trafferth bwydo, ac anadlu trwy eu ceg.

Beth yw'r sinysau?

Mae'r sinysau’n fannau bach, gwag y tu ôl i esgyrn eich bochau a'ch talcen sy'n cysylltu â thu mewn y trwyn.

Mae llid y sinysau yn achosi i leinin y sinysau chwyddo.

Mae hyn yn atal mwcws rhag draenio i'ch trwyn a'ch gwddf yn iawn, gan wneud i chi deimlo bod eich sinysau’n llawn.

Sut gallwch chi drin llid y sinysau eich hun

 Yn aml, gallwch drin llid y sinysau ysgafn heb weld meddyg teulu drwy wneud y canlynol:

  • cael digon o orffwys
  • yfed digon o hylifau
  • cymryd poenladdwyr, fel paracetamol neu Ibuprofen - peidiwch â rhoi aspirin i blant dan 16 oed
  • osgoi sbardunau alergedd a pheidio ag ysmygu
  • glanhau eich trwyn gyda thoddiant dŵr halen er mwyn lleddfu gorlawnder

Sut i lanhau eich trwyn gyda thoddiant dŵr halen

  1. Berwch beint o ddŵr, yna ei adael i oeri
  2. Cymysgwch lwy de o halen a llwy de o soda pobi i mewn i'r dŵr
  3. Golchwch eich dwylo
  4. Sefwch dros sinc, gwnewch gwpan â chledr un llaw ac arllwys ychydig bach o'r toddiant iddo
  5. Anadlwch y dŵr i mewn i un ffroen ar y tro. Anadlwch drwy eich ceg a gadael i'r dŵr arllwys yn ôl i'r sinc. Ceisiwch beidio â gadael i'r dŵr fynd i lawr cefn eich gwddf
  6. Ailadroddwch y 5 cam cyntaf hyd at 3 gwaith y dydd nes bod eich trwyn yn teimlo'n fwy cyfforddus

Nid oes angen i chi ddefnyddio'r holl doddiant, ond defnyddiwch doddiant newydd bob tro rydych chi'n glanhau eich trwyn.

Gall fferyllydd helpu gyda llid y sinysau

Gall fferyllydd eich cynghori am feddyginiaethau a all helpu, fel:

Gallwch brynu chwistrelli trwynol heb bresgripsiwn, ond ni ddylid eu defnyddio am fwy nag wythnos.

Dewch o hyd i fferyllfa

Ewch i weld Meddyg Teulu:

  • os yw eich symptomau’n ddifrifol
  • os nad yw poenladdwyr yn helpu neu os yw’ch symptomau'n gwaethygu
  • os nad yw’ch symptomau’n gwella ar ôl wythnos
  • os ydych chi’n parhau i gael lid y sinysau

Triniaeth ar gyfer llid y sinysau gan feddyg teulu

Os oes gennych lid y sinysau, efallai y bydd eich meddyg teulu yn gallu argymell meddyginiaethau eraill i helpu â'ch symptomau, fel:

  • chwistrelli neu ddiferion trwynol steroid - i leihau'r chwyddo yn eich sinysau
  • gwrth-histaminau - os yw alergedd yn achosi’ch symptomau
  • gwrthfiotigau - os yw haint bacterol yn achosi’ch symptomau ac os ydych chi'n sâl iawn neu mewn perygl o gymhlethdodau (ond nid oes angen gwrthfiotigau yn aml, gan mai feirws sy'n achosi llid y sinysau fel arfer)

Efallai y bydd angen i chi gymryd chwistrelli neu ddiferion trwynol steroid am ychydig o fisoedd. Weithiau, maent yn achosi llid, dolur gwddf neu waedlifau o’r trwyn.

Efallai y bydd eich meddyg teulu yn eich cyfeirio at arbenigwr y glust, y trwyn a’r gwddf (ENT) os ydych, er enghraifft:

  • yn dal i gael llid y sinysau ar ôl 3 mis o driniaeth
  • yn parhau i gael llid y sinysau
  • yn cael symptomau ar un ochr eich wyneb yn unig

Efallai y byddant yn argymell llawdriniaeth mewn rhai achosion, hefyd.

Llawdriniaeth ar gyfer llid y sinysau

Gelwir llawdriniaeth i drin llid y sinysau cronig yn llawdriniaeth endosgopig gweithredol ar y sinysau (FESS).

Caiff FESS ei gwblhau o dan anesthetig cyffredinol (pan fyddwch yn cysgu).

Gall y llawfeddyg ledu eich sinysau drwy naill ai:

  • dynnu rhywfaint o'r meinwe croen sydd wedi'i blocio
  • chwyddo balŵn bach yn y sinysau sydd wedi'u blocio, wedyn ei dynnu

Dylech allu cael FESS o fewn 18 wythnos ar ôl eich apwyntiad meddyg teulu.

Cewch fwy o wybodaeth am FESS ar wefan ENT UK



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 18/12/2023 07:58:05