Ysigiadau

Cyflwyniad

Mae ysigiadau a straeniau yn anafiadau cyffredin sy'n effeithio ar y cyhyrau a'r ligamentau. Gall y rhan fwyaf ohonynt gael eu trin gartref heb weld meddyg teulu. 

Gwirio a oes gennych ysigiad neu straen

Mae'n debygol o fod yn ysigiad neu'n straen:

  • os oes gennych boen, tynerwch neu wendid - yn aml o gwmpas eich ffêr/pigwrn, troed, arddwrn, bys bawd, pen-glin, coes neu gefn
  • os yw'r ardal wedi'i hanafu wedi chwyddo neu gleisio
  • os na allwch roi pwysau ar yr anaf na'i ddefnyddio fel arfer
  • os ydych yn cael gwingiadau yn y cyhyrau neu gyfangu - pan fydd eich cyhyrau'n tynhau'n boenus ar eu pen eu hunain 

Ai ysigiad neu straen ydyw?

Ysigiadau:

  • Rhwyg neu dro mewn ligament (meinwe sy'n cysylltu'r cymalau)
  • Mae'n fwyaf cyffredin mewn: arddyrnau, fferau, bodiau, pengliniau

Straeniau:

  • Cyhyrau wedi gorymestyn neu wedi rhwygo (mae tynnu cyhyr yn enw arno hefyd)
  • Mae'n fwyaf cyffredin mewn: pengliniau, traed, coesau, y cefn

Sut i drin ysigiadau a straeniau eich hun

Am y diwrnodau cyntaf, dilynwch y 4 cam sy'n cael eu galw'n therapi 'RICE' i helpu lleihau'r chwyddo a chynnal yr anaf: 

  • Gorffwys (Rest) - rhowch y gorau i unrhyw ymarfer corff neu weithgareddau a cheisiwch beidio â rhoi unrhyw bwysau ar yr anaf.
  • (Ice) - rhowch becyn iâ (neu becyn o lysiau rhewedig wedi'i lapio mewn tywel) ar yr anaf am hyd at 20 munud bob 2 i 3 awr.
  • Cywasgu (Compression) - lapiwch rwymyn o gwmpas yr anaf i'w gynnal.
  • Codi (Elevate) - codwch yr anaf ar glustog gymaint â phosibl.

I helpu atal chwyddo, ceisiwch osgoi gwres (fel bath poeth a phecynnau gwres), alcohol a thylino am y diwrnodau cyntaf.

Pan allwch chi symud yr ardal wedi'i hanafu heb fod poen yn eich atal chi, ceisiwch ddal ati i'w symud fel nad yw'r cymal neu'r cyhyr yn anystwytho.

Gall fferyllydd helpu gydag ysigiadau a straeniau

Siaradwch â fferyllydd am y driniaeth orau i chi. Gallent awgrymu tabledi, hufen neu eli i chi ei rwbio ar y croen.

I ddechrau, rhowch gynnig ar boenleddfwyr fel parasetamol i leddfu poen ac eli, hufen neu chwistrell ibuprofen i leihau'r chwyddo.

Os bydd angen, gallwch gymryd tabledi, capsiwlau neu surop ibuprofen rydych chi'n eu llyncu 

Dod o hyd i fferyllfa

Pa mor hir mae'n ei gymryd i ysigiad neu straen wella 

Ar ôl pythefnos, bydd y rhan fwyaf o ysigiadau neu straeniau'n teimlo'n well.

Osgowch ymarfer corff egnïol fel rhedeg am hyd at 8 wythnos, gan fod risg difrod pellach.

Gall ysigiadau a straeniau difrifol gymryd misoedd i ddod yn iawn.

Ni allwch atal ysigiadau a straeniau bob amser 

Mae ysigiadau a straeniau yn digwydd pan fyddwch chi'n gorymestyn neu'n troi cyhyr.

Mae peidio â chynhesu cyn gwneud ymarfer corff, cyhyrau blinedig a gwneud chwaraeon yn achosion cyffredin.

Mynnwch gyngor gan 111 nawr:

  • os nad yw'r anaf yn teimlo'n well ar ôl ei drin eich hun 
  • os yw'r poen neu'r chwyddo'n gwaethygu 
  • os oes gennych dymheredd uchel neu os ydych chi'n teimlo'n boeth iawn ac yn crynu - efallai mai haint fydd hyn

Bydd 111 yn dweud wrthych beth i'w wneud. Gallant roi'r man cywir i chi gael help os bydd angen i chi weld rhywun.

Ewch i 111.wales.nhs.uk neu ffoniwch 111

Triniaeth mewn uned mân anafiadau 

Efallai y cewch chi gyngor ar hunanofal neu boenleddfwr cryfach ar bresgripsiwn.

Os bydd angen pelydr-X arnoch, efallai y gallwch gael un yn yr uned neu efallai cewch eich cyfeirio i ysbyty.

Chwiliwch am eich Uned Mân Anafiadau agosaf yma.

Ffisiotherapi ar gyfer ysigiadau a straeniau 

Os oes gennych ysigiad neu straen sy'n cymryd mwy o amser na'r arfer i wella, efallai gall meddyg teulu eich cyfeirio at ffisiotherapydd.

Efallai na fydd ffisiotherapi ar gael gan y GIG ym mhobman a gall amseroedd aros fod yn hir. Gallwch gael ffisiotherapi yn breifat, hefyd.

Chwiliwch am ffisiotherapydd.

Ewch i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys neu ffoniwch 999:

  • os clywoch chi sŵn torri pan gawsoch eich anaf
  • os yw siâp y rhan o'r corff sydd wedi'i anafu wedi newid neu os yw ar ongl ryfedd
  • os yw'r anaf wedi fferru, wedi afliwio neu'n oer o'i gyffwrdd

Efallai eich bod wedi torri asgwrn a bydd angen pelydr-X arnoch.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 19/06/2024 14:23:57