Suicidal thoughts

Cyflwyniad

Os ydych chi’n teimlo eich bod eisiau marw, mae’n bwysig dweud wrth rywun.

Mae help a chymorth ar gael ar unwaith os oes angen hyn arnoch. Does dim rhaid i chi ddelio â theimladau anodd ar eich pen eich hun.

Ffoniwch linell gymorth

Mae’r llinellau cymorth hyn sydd am ddim ar gael i helpu pan fyddwch chi’n teimlo’n isel neu’n anobeithiol.

Oni bai ei fod yn dweud fel arall, maen nhw fel arfer ar agor 24 awr y dydd, bob dydd.

Gallwch chi hefyd ffonio’r llinellau cymorth hyn i gael cyngor os ydych chi’n poeni am rywun arall.

Siaradwch â rhywun rydych yn ymddiried ynddo

Rhowch wybod i deulu a ffrindiau am eich sefyllfa. Efallai y byddant yn gallu cynnig cymorth a helpu eich cadw’n ddiogel.

Does dim ffordd gywir nac anghywir – dechrau’r sgwrs yw’r hyn sy’n bwysig.

Gyda phwy arall allwch chi siarad

Os ydych yn ei chael yn anodd siarad â rhywun rydych chi’n ei adnabod, gallech chi:

  • ffonio meddyg teulu – gofynnwch am apwyntiad brys
  • ffoniwch 111 y tu allan i oriau – byddant yn eich helpu i ddod o hyd i’r cymorth a’r help sydd ei angen arnoch
  • cysylltwch â’ch tîm argyfwng iechyd meddwl – os oes gennych chi un

Pwysig – Ydy eich bywyd mewn perygl?

Os ydych chi wedi niweidio’ch hun yn ddifrifol – er enghraifft, trwy gymryd gorddos o gyffuriau – neu rydych yn teimlo eich bod ar fin niweidio’ch hun, ffoniwch 999 am ambiwlans neu ewch i’r adran damweiniau ac achosion brys ar unwaith.

Neu gofynnwch i rywun arall ffonio 999 neu fynd â chi i’r adran damweiniau ac achosion brys.

Cynghorion ar gyfer ymdopi nawr

  • ceisiwch beidio â meddwl am y dyfodol – canolbwyntiwch ar ymdopi heddiw
  • peidiwch â chymryd cyffuriau ac alcohol
  • ewch i le diogel, fel tŷ ffrind
  • byddwch yng nghwmni pobl eraill
  • gwnewch rywbeth rydych chi fel arfer yn ei fwynhau, fel treulio amser gydag anifail anwes

Gweler mwy o gynghorion gan Rethink.

Yn poeni am rywun arall?

Os ydych chi’n poeni am rywun, ceisiwch ei annog i siarad â chi. Gofynnwch gwestiynau penagored, fel: "Sut wyt ti’n teimlo am...?"

Peidiwch â phoeni am gael yr atebion. Mae gwrando ar yr hyn sydd gan rywun i’w ddweud a’i gymryd o ddifri yn gallu bod yn fwy buddiol.

Gweler cynghorion y Samariaid ar sut i gynorthwyo rhywun rydych chi’n poeni amdano

Darllenwch gyngor Rethink ar sut i gynorthwyo rhywun sy’n meddwl am hunanladdiad

Creu cynllun diogelwch

Os ydych chi’n brwydro â meddyliau am hunanladdiad neu’n cynorthwyo rhywun arall, efallai byddai creu cynllun diogelwch yn helpu os oes ei angen arnoch:



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 02/07/2024 07:25:31