Cyflwyniad
Mae tonsilitis yn gyflwr cyffredin yn ystod plentyndod, ond gall pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc ei gael hefyd. Fel arfer, mae'n diflannu ar ei ben ei hun ymhen ychydig ddyddiau.
Gwirio a oes tonsilitis arnoch
Gall tonsilitis deimlo fel annwyd trwm neu'r ffliw. Bydd y tonsiliau yng nghefn eich llwnc yn goch ac wedi chwyddo.
Dyma brif symptomau tonsilitis mewn plant ac oedolion:
- dolur gwddf/llwnc tost
- trafferth wrth lyncu
- llais cryglyd neu ddim llais
- tymheredd uchel o 38C neu uwch
- pesychu
- cur pen/pen tost
- teimlo'n sâl
- pigyn clust
- teimlo'n flinedig
Weithiau, gall y symptomau fod yn fwy difrifol a chynnwys:
- chwarennau poenus, chwyddedig yn eich gwddf – yn teimlo fel lwmp ar ochr eich gwddf
- smotiau gwyn llawn crawn ar eich tonsil yng nghefn eich llwnc
- anadl ddrwg
Os nad ydych chi'n siwr mai tonsilitis sydd arnoch
Edrychwch ar symptomau eraill dolur gwddf/llwnc tost.
Pa mor hir mae tonsilitis yn para
Bydd symptomau'n diflannu fel arfer mewn 3 i 4 diwrnod.
NId yw tonsilitis yn heintus, ond mae'r heintiau sy'n ei achosi yn heintus (er enghraifft, annwyd a'r ffliw).
I atal yr heintiau hyn rhag lledaenu:
- arhoswch gartref o'r gwaith neu cadwch eich plentyn gartref hyd nes byddwch chi neu eich plentyn yn teimlo'n well
- defnyddiwch hancesi papur wrth besychu neu disian a'u taflu i ffwrdd wedyn
- golchwch eich dwylo ar ôl pesychu neu disian
Sut i drin tonsilitis eich hun
Fel arfer, mae'n rhaid gadael i donsilitis wella ar ei ben ei hun.
I helpu i liniaru'r symptomau:
- gorffwyswch ddigon
- yfwch ddiodydd lled oer i leddfu'r llwnc
- llyncwch barasetamol neu ibuprofen (peidiwch â rhoi aspirin i blant o dan 16 oed)
- garglwch ddwr cynnes â halen ynddo (ni ddylai plant roi cynnig ar hyn)
Sut i garglo gyda dwr â halen
- Toddwch hanner llwy de o halen mewn gwydraid o ddwr cynnes – mae dwr cynnes yn helpu i halen doddi.
- Garglwch gyda'r dwr â halen hwn ac yna'i boeri allan – peidiwch â'i lyncu.
- Gwnewch hyn mor aml ag y mynnwch.
Nid yw hyn yn addas i blant iau.
Gall fferyllydd helpu gyda thonsilitis
Siaradwch â fferyllydd am donsilitis. Gall fferyllwyr roi cyngor ac awgrymu triniaethau i helpu lleddfu llwnc tost, fel:
- losin gwddf
- chwistrelli i'r llwnc
- toddiannau gwrthseptig
Dod o hyd i fferyllfa
Ewch i weld eich meddyg teulu:
- os oes gennych sbotiau gwyn llawn crawn ar y tonsiliau yng nghefn eich llwnc
- os yw'r dolur gwddf/llwnc tost mor boenus, mae'n anodd bwyta ac yfed
- os nad yw'r symptomau'n diflannu ar ôl 4 diwrnod
Beth fydd yn digwydd yn eich apwyntiad
Fel arfer, bydd eich meddyg yn gallu dweud p'un a oes tonsilitis arnoch trwy ofyn am eich symptomau ac edrych yng nghefn eich llwnc. Weithiau, fe allai:
- dynnu pin cotwm dros gefn eich llwnc i brofi am facteria
- trefnu prawf gwaed i ddiystyru twymyn y chwarennau (os bydd eich symptomau'n ddifrifol neu'n gwrthod diflannu)
Fel arfer, daw canlyniadau'r profion yn ôl ymhen ychydig ddiwrnodau.
Triniaeth gan feddyg teulu
Bydd y driniaeth yn dibynnu ar yr hyn sy'n achosi'ch tonsilitis:
- firws (tonsilitis firaol); dyma sydd gan y rhan fwyaf o blant ac oedolion – mae'n rhaid gadael i'r math hwn wella ar ei ben ei hun ac ni fydd gwrthfiotigau yn helpu
- bacteria (tonsilitis bacterol) – gallai eich meddyg teulu roi gwrthfiotigau ar bresgripsiwn
Fel arfer, bydd yn rhaid i'ch meddyg teulu aros am ganlyniadau'r profion er mwyn gallu dweud pa fath sydd arnoch chi.
Pwysig
Yn anaml iawn y mae'n rhaid tynnu tonsiliau rhywun. Mae hyn ond yn digwydd fel arfer os oes gennych donsilitis difrifol sy'n digwydd dro ar ôl tro.
Cymhlethodau tonsilitis (ysbinagl)
Mae cymhlethdodau tonsilitis yn anghyffredin iawn. Os byddant yn digwydd, byddant yn effeithio'n bennaf ar blant ifanc, rhwng 2 a 4 oed.
Weithiau, gallwch gael poced llawn crawn (crawniad) rhwng eich tonsiliau a wal eich llwnc. Yr enw ar hyn yw ysbinagl.
Ewch i weld meddyg teulu ar unwaith neu ewch i adran ddamweiniau ac achosion brys os oes gennych:
- ddolur gwddf/llwnc tost difrifol sy'n gwaethygu'n gyflym
- chwyddo y tu mewn i'r geg a'r llwnc
- anhawster wrth siarad
- anhawster wrth lyncu
- anhawster wrth anadlu
- anhawster wrth agor eich ceg
Mae'r rhain yn arwyddion o ysbinagl.