Dant, wedi'i bwrw allan

Cyflwyniad

Os yw eich dant wedi cael ei fwrw allan, ceisiwch ei roi'n ôl yn ei le. Os na allwch chi wneud hynny, rhowch y dant mewn llaeth neu boer cyn gynted â phosibl, cyn chwilio am ddeintydd. 

Beth i'w wneud os bydd dant wedi cael ei fwrw allan 

Os dant oedolyn ydyw:

Daliwch y dant wrth y darn gwyn sy'n dod allan o'r deintgig (y corun). Peidiwch â chyffwrdd â'r gwreiddyn. 

Os yw'n fudr, dylai'r unigolyn y daeth y dant o'i geg lyfu'r dant yn lân neu ei olchi'n gyflym o dan ddŵr oer am ddim mwy na 10 eiliad. 

Ceisiwch ei roi'n ôl yn y twll yn y deintgig. Os yw'n mynd yn ôl i mewn, cnowch yn ysgafn ar liain glân i ddal y dant yn ei le. 

Os nad yw'n mynd i mewn yn hawdd:

  • rhowch y dant mewn llaeth NEU 
  • rhowch y dant mewn poer – poerwch mewn cynhwysydd (os eich dant chi ydyw) neu dylai perchennog y dant wneud hyn NEU
  • daliwch y dant yn eich boch hyd nes gwelwch chi ddeintydd. Peidiwch â gadael i blant iau wneud hyn rhag ofn y byddant yn llyncu'r dant 

Ewch at y deintydd cyn gynted â phosibl.

Os yw'n ddant babi:

  • peidiwch â'i roi yn ôl – gallai wneud difrod i'r dant sy'n tyfu oddi tano

Os nad ydych chi'n siwr ai dant oedolyn neu ddant babi ydyw:

  • rhowch y dant mewn llaeth neu boer (trwy ofyn i'r plentyn boeri mewn cynhwysydd) ac ewch ag ef at y deintydd 

Mynnwch gyngor gan 111 yn syth:

  • os ydych chi neu eich plentyn wedi bwrw dant oedolyn allan, hyd yn oed os na allwch ddod o hyd iddo.

Cael help mor gyflym â phosibl yw'r peth gorau i'w wneud.

Bydd GIG 111 Cymru yn dweud wrthych beth i'w wneud. Gallant roi gwybod i chi am y man cywir i gael help os bydd angen i chi weld rhywun. Ffoniwch 111.

Beth fydd y deintydd yn ei wneud

Os ydych chi wedi rhoi'r dant yn ôl yn ei le, bydd y deintydd yn gwirio ei fod yn y lle cywir ac yn ei symud os bydd angen.

Os daethoch chi â'r dant i'r deintydd mewn llaeth neu boer, byddant yn ei lanhau a'i roi'n ôl yn ei le. 

Yna, byddant yn clymu'r dant wrth y dannedd i'r naill ochr a'r llall ohono i'w ddal yn ei le (sblintio).

Bydd angen tynnu'r sblint ymhen ychydig wythnosau.

Os na allwch ddod o hyd i'r dant neu os nad yw'r deintydd yn gallu ei arbed, holwch y deintydd am opsiynau i gael dant newydd.

Efallai bydd yn rhaid i chi dalu am eich apwyntiad a'ch triniaeth.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 06/03/2024 11:33:06