Ewch i weld deintydd os oes gennych ddannoedd.
Os nad oes gennych ddeintydd neu os na allwch gael apwyntiad brys, ffoniwch eich Llinell Cymorth Deintyddol lleol.
Peidiwch â mynd at eich meddyg teulu. Ni fydd yn gallu rhoi triniaeth ddeintyddol i chi.
Os oes gennych chwydd yn eich wyneb neu'ch ceg hefyd, ewch i weld ein pwnc Chwyddo (ceg ac wyneb) am gyngor.
Beth fydd y deintydd yn ei wneud
Bydd y deintydd yn asesu eich dant ac yn rhoi cyngor i chi ar yr opsiynau triniaeth.
Efallai bydd yn rhaid i chi dalu am eich apwyntiad. Darllenwch fwy am gostau deintyddol y GIG.
Beth gellir ei wneud tra byddwch chi'n aros?
- llyncwch boenleddfwyr fel parasetamol neu Ibuprofen (dilynwch gyfarwyddiadau'r dos ar y pecyn). Cofiwch y gall enwau brand gwahanol gynnwys yr un poenleddfwyr.
- bwytwch ddiet meddal ac osgoi cnoi ar y dannedd hynny os ydynt yn dyner
- osgowch fwydydd a diodydd poeth neu oer iawn (e.e. diodydd poeth, hufen iâ)
Os byddwch angen cyngor ar ba boenleddfwyr i'w cymryd, cysylltwch â gweithiwr deintyddol proffesiynol neu fferyllydd.
Osgowch
- fwyta bwydydd sy'n felys, yn boeth iawn neu'n oer iawn
- ysmygu – gall wneud rhai problemau deintyddol yn waeth
Achosion y ddannoedd
Gall y canlynol achosi'r ddannoedd:
- pydredd dannedd
- crawniad deintyddol
- dannedd sydd wedi cracio neu eu difrodi
- llenwad rhydd neu lenwad sydd wedi torri
- haint
- problemau gyda ffrâm ddannedd
Poen dargyfeiriedig yw pan fydd y ffynhonnell mewn man gwahanol i'r man lle'r ydych chi'n teimlo'r poen a gellir ei achosi gan lid y sinysau, anhwylder arleisiol-fandiblaidd neu haint y glust.
Sut i atal y ddannoedd
Y ffordd orau o atal y ddannoedd yw trwy gadw eich dannedd a'ch deintgig mor iach â phosibl.
I wneud hyn:
- ewch i weld eich deintydd yn rheolaidd
- bwytewch lai o fwydydd siwgraidd a diodydd siwgraidd
- brwsiwch eich dannedd ddwywaith y dydd am oddeutu 2 funud gyda phast dannedd fflworid
- glanhewch rhwng eich dannedd gan ddefnyddio edau ddeintiol neu frwsh rhyngddeintiol bob dydd
Mae mwy o gyngor yn y fideos isod
Lleddfu'r ddannoedd.
Pryd a ble i geisio cyngor ar ofal deintyddol.