Haint facterol yw twbercwlosis (TB) sy’n cael ei lledaenu trwy anadlu i mewn ddefnynnau bach iawn o beswch neu disian rhywun sydd wedi'i heintio.
Mae'n gyflwr difrifol ond mae'n gallu cael ei wella gyda thriniaeth gywir.
Mae TB yn effeithio ar yr ysgyfaint yn bennaf. Fodd bynnag, mae'n gallu effeithio ar unrhyw ran o'r corff, gan gynnwys yr esgyrn a'r system nerfol.
Mae symptomau nodweddiadol TB yn cynnwys:
- cael peswch parhaus am fwy na thair wythnos sy'n achosi i chi godi fflem, a all fod yn waedlyd
- colli pwysau
- chwysu yn y nos
- tymheredd uchel (twymyn)
- blinder a lludded
- colli archwaeth
Dylech fynd i weld eich meddyg teulu os oes gennych beswch sy'n para mwy na thair wythnos neu os ydych yn pesychu gwaed.
Darllenwch fwy am symptomau twbercwlosis.
Beth sy'n achosi twbercwlosis?
Caiff TB ei achosi gan facteriwm o'r enw twbercwlosis mycobacteriwm.
TB sy'n effeithio ar yr ysgyfaint yw'r unig fath o'r cyflwr sy'n heintus ac mae fel arfer dim ond yn lledaenu ar ôl bod yng nghwmni rhywun sydd â'r salwch am gyfnod hir. Er enghraifft, mae TB yn aml yn lledaenu o fewn teulu sy'n byw yn yr un ty.
Yn y rhan fwyaf o bobl iach, mae'r system imiwnedd (amddiffyniad naturiol y corff yn erbyn haint a salwch) yn lladd y bacteria ac nid ydych yn cael unrhyw symptomau pellach.
Fodd bynnag, weithiau nid yw'r system imiwnedd yn gallu lladd y bacteria, ond mae'n llwyddo i'w atal rhag lledaenu yn y corff. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn cael unrhyw symptomau, ond bydd y bacteria yn aros yn eich corff. Caiff hyn ei adnabod fel TB cudd.
Os nad yw'r system imiwnedd yn gallu lladd neu atal yr haint, mae'n gallu lledaenu i'r ysgyfaint neu i rannau eraill o'r corff, a bydd symptomau yn datblygu ymhen rhai wythnosau neu fisoedd. Caiff hyn ei adnabod fel TB gweithredol.
Gallai TB cudd ddatblygu i fod yn haint TB gweithredol yn ddiweddarach, yn enwedig os yw eich system imiwnedd yn gwanhau.
Darllenwch fwy am achosion twbercwlosis.
Sut caiff twbercwlosis ei drin?
Gyda thriniaeth, gellir gwella haint TB fel rheol. Bydd angen cwrs o wrthfiotigau ar y rhan fwyaf o bobl, fel arfer am chwe mis.
Defnyddir nifer o wahanol wrthfiotigau gan fod rhai mathau o TB yn ymwrthol (resistant) i wrthfiotigau penodol. Os byddwch yn cael eich heintio â math o TB sy'n ymwrthol i gyffuriau, gall triniaeth bara mor hir â 18 mis.
Os ydych chi mewn cysylltiad agos â rhywun sydd â TB, gellir cynnal profion i weld os ydych chi wedi cael eich heintio hefyd. Mae'r rhain yn gallu cynnwys pelydr-X ar y frest, profion gwaed a phrawf gwaed o'r enw prawf Mantoux.
Mae triniaeth ar gyfer TB am ddim yn y DU, beth bynnag yw eich statws mewnfudo.
Darllenwch fwy ynghylch gwneud diagnosis o dwbercwlosis a trin twbercwlosis.
Brechu
Mae brechlyn Bacillus Calmette-Guerin (BCG) yn gallu rhoi amddiffyniad effeithiol yn erbyn TB mewn hyd at wyth o bob 10 o bobl sy'n ei gael.
Ar hyn o bryd, caiff brechiadau BCG eu hargymell dim ond ar gyfer grwpiau o bobl sy'n wynebu risg uwch o ddatblygu TB.
Mae hyn yn cynnwys plant sy'n byw mewn ardaloedd sydd â chyfraddau uchel o TB, neu'r bobl hynny y mae aelodau agos o'u teulu yn dod o wledydd sydd â chyfraddau uchel o TB.
Argymhellir hefyd y dylai rhai pobl, fel gweithwyr gofal iechyd, gael eu brechu oherwydd y risg cynyddol o ddal TB wrth weithio.
Pa mor gyffredin yw TB?
Cyn cyflwyno gwrthfiotigau, roedd TB yn broblem iechyd fawr yn y DU. Heddiw, mae'r cyflwr yn llawer llai cyffredin. Fodd bynnag, yn yr 20 mlynedd diwethaf, mae achosion TB wedi cynyddu'n raddol, yn enwedig ymhlith y cymunedau ethnig lleiafrifol sy'n dod yn wreiddiol o leoedd lle mae TB yn fwy cyffredin.
Yn 2011, adroddwyd bod 8,963 o achosion o TB yn y DU. O'r rhain, roedd dros 6,000 o'r achosion hyn yn effeithio ar bobl oedd wedi cael eu geni y tu allan i'r DU.
Amcangyfrifir bod traean o boblogaeth y byd wedi'i heintio â TB cudd. O'r rhain, bydd tua 10% yn dod yn weithredol ar ryw adeg.
Gwledydd sydd â chyfraddau uchel o TB
Mae rhannau o'r byd sydd â chyfraddau uchel o TB yn cynnwys:
- Affrica - yn enwedig Affrica is-Sahara (holl wledydd Affrica i'r de o anialwch Y Sahara) a gorllewin Affrica, gan gynnwys Nigeria a De Affrica
- De ddwyrain Asia - gan gynnwys India, Pacistan, Indonesia a Bangladesh
- Rwsia
- Tsieina
- De America
- ardal orllewinol y Môr Tawel (i'r gorllewin o'r Môr Tawel) - gan gynnwys Fietnam a Cambodia