Twbercwlosis

Cyflwyniad

Tuberculosis (TB)
Tuberculosis (TB)

Haint facterol yw twbercwlosis (TB) sy’n cael ei lledaenu trwy anadlu i mewn ddefnynnau bach iawn o beswch neu disian rhywun sydd wedi'i heintio.

 

Mae'n gyflwr difrifol ond mae'n gallu cael ei wella gyda thriniaeth gywir.

 

Mae TB yn effeithio ar yr ysgyfaint yn bennaf. Fodd bynnag, mae'n gallu effeithio ar unrhyw ran o'r corff, gan gynnwys yr esgyrn a'r system nerfol.

 

Mae symptomau nodweddiadol TB yn cynnwys:

  • cael peswch parhaus am fwy na thair wythnos sy'n achosi i chi godi fflem, a all fod yn waedlyd
  • colli pwysau
  • chwysu yn y nos
  • tymheredd uchel (twymyn)
  • blinder a lludded
  • colli archwaeth

Dylech fynd i weld eich meddyg teulu os oes gennych beswch sy'n para mwy na thair wythnos neu os ydych yn pesychu gwaed.

 

Darllenwch fwy am symptomau twbercwlosis.

 

Beth sy'n achosi twbercwlosis?

 

Caiff TB ei achosi gan facteriwm o'r enw twbercwlosis mycobacteriwm.

 

TB sy'n effeithio ar yr ysgyfaint yw'r unig fath o'r cyflwr sy'n heintus ac mae fel arfer dim ond yn lledaenu ar ôl bod yng nghwmni rhywun sydd â'r salwch am gyfnod hir. Er enghraifft, mae TB yn aml yn lledaenu o fewn teulu sy'n byw yn yr un ty.

 

Yn y rhan fwyaf o bobl iach, mae'r system imiwnedd (amddiffyniad naturiol y corff yn erbyn haint a salwch) yn lladd y bacteria ac nid ydych yn cael unrhyw symptomau pellach.

 

Fodd bynnag, weithiau nid yw'r system imiwnedd yn gallu lladd y bacteria, ond mae'n llwyddo i'w atal rhag lledaenu yn y corff. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn cael unrhyw symptomau, ond bydd y bacteria yn aros yn eich corff. Caiff hyn ei adnabod fel TB cudd.

 

Os nad yw'r system imiwnedd yn gallu lladd neu atal yr haint, mae'n gallu lledaenu i'r ysgyfaint neu i rannau eraill o'r corff, a bydd symptomau yn datblygu ymhen rhai wythnosau neu fisoedd. Caiff hyn ei adnabod fel TB gweithredol.

 

Gallai TB cudd ddatblygu i fod yn haint TB gweithredol yn ddiweddarach, yn enwedig os yw eich system imiwnedd yn gwanhau.

 

Darllenwch fwy am achosion twbercwlosis.

 

Sut caiff twbercwlosis ei drin?

 

Gyda thriniaeth, gellir gwella haint TB fel rheol. Bydd angen cwrs o wrthfiotigau ar y rhan fwyaf o bobl, fel arfer am chwe mis.

 

Defnyddir nifer o wahanol wrthfiotigau gan fod rhai mathau o TB yn ymwrthol (resistant) i wrthfiotigau penodol. Os byddwch yn cael eich heintio â math o TB sy'n ymwrthol i gyffuriau, gall triniaeth bara mor hir â 18 mis.

 

Os ydych chi mewn cysylltiad agos â rhywun sydd â TB, gellir cynnal profion i weld os ydych chi wedi cael eich heintio hefyd. Mae'r rhain yn gallu cynnwys pelydr-X ar y frest, profion gwaed a phrawf gwaed o'r enw prawf Mantoux.

 

Mae triniaeth ar gyfer TB am ddim yn y DU, beth bynnag yw eich statws mewnfudo.

 

Darllenwch fwy ynghylch gwneud diagnosis o dwbercwlosis a trin twbercwlosis.

 

Brechu

 

Mae brechlyn Bacillus Calmette-Guerin (BCG) yn gallu rhoi amddiffyniad effeithiol yn erbyn TB mewn hyd at wyth o bob 10 o bobl sy'n ei gael.

 

Ar hyn o bryd, caiff brechiadau BCG eu hargymell dim ond ar gyfer grwpiau o bobl sy'n wynebu risg uwch o ddatblygu TB.

 

Mae hyn yn cynnwys plant sy'n byw mewn ardaloedd sydd â chyfraddau uchel o TB, neu'r bobl hynny y mae aelodau agos o'u teulu yn dod o wledydd sydd â chyfraddau uchel o TB.

 

Argymhellir hefyd y dylai rhai pobl, fel gweithwyr gofal iechyd, gael eu brechu oherwydd y risg cynyddol o ddal TB wrth weithio.

 

Pa mor gyffredin yw TB?

 

Cyn cyflwyno gwrthfiotigau, roedd TB yn broblem iechyd fawr yn y DU. Heddiw, mae'r cyflwr yn llawer llai cyffredin. Fodd bynnag, yn yr 20 mlynedd diwethaf, mae achosion TB wedi cynyddu'n raddol, yn enwedig ymhlith y cymunedau ethnig lleiafrifol sy'n dod yn wreiddiol o leoedd lle mae TB yn fwy cyffredin.

 

Yn 2011, adroddwyd bod 8,963 o achosion o TB yn y DU. O'r rhain, roedd dros 6,000 o'r achosion hyn yn effeithio ar bobl oedd wedi cael eu geni y tu allan i'r DU.

 

Amcangyfrifir bod traean o boblogaeth y byd wedi'i heintio â TB cudd. O'r rhain, bydd tua 10% yn dod yn weithredol ar ryw adeg.

 

Gwledydd sydd â chyfraddau uchel o TB

 

Mae rhannau o'r byd sydd â chyfraddau uchel o TB yn cynnwys:

  • Affrica - yn enwedig Affrica is-Sahara (holl wledydd Affrica i'r de o anialwch Y Sahara) a gorllewin Affrica, gan gynnwys Nigeria a De Affrica
  • De ddwyrain Asia - gan gynnwys India, Pacistan, Indonesia a Bangladesh
  • Rwsia
  • Tsieina
  • De America
  • ardal orllewinol y Môr Tawel (i'r gorllewin o'r Môr Tawel) - gan gynnwys Fietnam a Cambodia

Symptomau

Mae symptomau twbercwlosis (TB) yn dibynnu ble mae'r haint yn digwydd.

Mae TB fel arfer yn datblygu'n araf. Efallai na fydd eich symptomau'n dechrau am fisoedd neu hyd yn oed flynyddoedd ar ôl i chi gael eich amlygu i'r bacteria am y tro cyntaf.

Mewn rhai achosion, mae'r bacteria yn effeithio ar y corff ond nid yw'n achosi unrhyw symptomau, ac fe gaiff ei adnabod fel TB cudd. Caiff ei alw'n TB gweithredol os yw'r bacteria yn achosi symptomau.

Darllenwch fwy am achosion twbercwlosis.

Twbercwlosis ysgyfeiniol (TB)

Caiff haint TB yn yr ysgyfaint ei adnabod fel TB ysgyfeiniol. Yn y DU, TB ysgyfeiniol yw ychydig dros hanner o'r heintiau TB.

Mae symptomau yn cynnwys:

  • peswch parhaus sy'n para dros dair wythnos ac yn achosi i chi godi fflem, a all fod yn waedlyd
  • diffyg anadl, sydd fel arfer yn gymedrol i ddechrau ac yn gwaethygu'n raddol
  • diffyg archwaeth a cholli pwysau
  • tymheredd uchel o 38ºC (100.4Fº) neu'n uwch
  • chwysu yn y nos
  • blinder eithafol neu ludded
  • poen anesboniadwy am fwy na thair wythnos

Pryd i gael cymorth meddygol

Dylech fynd i weld eich meddyg teulu os oes gennych beswch sy'n para dros dair wythnos neu os ydych yn pesychu gwaed.

Darllenwch fwy ynghylch pesychu gwaed.

Twbercwlosis (TB) allysgyfeiniol

Mewn rhai achosion, gall TB ddigwydd y tu allan i'r ysgyfaint, ac fe gaiff hyn ei adnabod fel TB allysgyfeiniol.

Mae TB allysgyfeiniol yn fwy cyffredin ymhlith pobl sydd â system imiwnedd wan, yn enwedig pobl sydd â haint HIV. Rydych chi hefyd yn fwy tebygol o ddatblygu TB allysgyfeiniol os ydych wedi cael eich heintio â TB yn y gorffennol ond nad ydych wedi cael unrhyw symptomau (haint TB cudd).

Mae haint TB yn gallu effeithio ar y canlynol:

  • nodau lymff (nod lymff TB)
  • esgyrn a chymalau (TB sgerbydol)
  • y system dreulio (TB gastroberfeddol)
  • y bledren a'r system atal cenhedlu (TB cenhedlol-droethol)
  • y system nerfol (TB y system nerfol ganolog)

Mae'r mathau hyn o TB allysgyfeiniol yn gallu achosi symptomau ychwanegol, sy'n cael eu disgrifio isod.

TB nodau lymff

Chwarennau bychain sy'n rhan o'r system imiwnedd yw nodau lymff. Maent yn cael gwared ar facteria a gronynnau diangen o'r corff. Mae symptomau TB nodau lymff yn cynnwys:

  • chwyddo parhaus, di-boen yn y nodau lymff, sydd fel arfer yn effeithio ar nodau yn y gwddf, ond mae chwyddo yn gallu digwydd mewn nodau trwy eich holl gorff
  • dros gyfnod, mae'r nodau wedi chwyddo yn gallu rhyddhau hylif trwy'r croen

TB sgerbydol

Mae symptomau TB sgerbydol yn cynnwys:

  • poen yn yr esgyrn
  • yr asgwrn neu'r cymal sydd wedi'i effeithio yn crymu
  • colli symudiad neu deimlad yn yr asgwrn neu'r cymal sydd wedi'i effeithio
  • asgwrn gwan a all dorri'n hawdd 

TB gastroberfeddol

Mae symptomau TB gastroberfeddol yn cynnwys:

TB cenhedlol-droethol

Mae symptomau TB cenhedlol-droethol yn cynnwys:

  • teimlad o losgi pan fyddwch yn pasio dwr
  • gwaed yn eich wrin
  • awydd i basio wrin yn aml yn ystod y nos
  • poen yn eich gwerddyr (groin)

TB y system nerfol ganolog

Mae eich system nerfol ganolog yn cynnwys eich ymennydd a madruddyn y cefn. Mae symptomau TB y system nerfol ganolog yn cynnwys:

  • cur pen/pen tost
  • bod yn sâl
  • gwddf stiff
  • newidiadau yn eich cyflwr meddwl, fel dryswch
  • golwg aneglur
  • ffitiau (seizures)

Achosion

Mae twbercwlosis (TB) yn cael ei achosi gan fath o facteriwm o'r enw twbercwlosis mycobacteriwm.

Caiff TB ei ledaenu pan fydd rhywun sydd â haint TB gweithredol yn ei ysgyfaint yn pesychu neu'n tisian a rhywun arall yn anadlu i mewn y defnynnau ysgyfeiniol sy'n dod allan sy'n cynnwys bacteria TB.

Fodd bynnag, er ei fod yn cael ei ledaenu mewn ffordd debyg i annwyd neu'r ffliw, nid yw TB mor heintus. Fel arfer, byddai'n rhaid i chi dreulio cyfnodau hir mewn cyswllt agos â rhywun sydd wedi'i heintio i ddal yr haint eich hun.

Er enghraifft, mae heintiau TB fel arfer yn lledaenu rhwng aelodau teuluol sy'n byw yn yr un ty. Byddai'n hynod annhebygol cael eich heintio trwy eistedd drws nesaf i rywun sydd wedi'i heintio ar fws neu drên.

Nid yw pawb sydd â TB yn heintus. Yn gyffredinol, nid yw plant sydd â TB neu bobl sydd â TB sy'n digwydd y tu allan i'r ysgyfaint (TB allysgyfeiniol) yn lledaenu'r haint.

TB cudd neu weithredol

Fel rheol, bydd eich system imiwnedd yn gallu ymladd y bacteria sy'n achosi TB. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, mae'r bacteria yn heintio'r corff ond nid yw'n achosi unrhyw symptomau (TB cudd) neu bydd yr haint yn dechrau achosi symptomau o fewn wythnosau neu fisoedd (TB gweithredol).

Mae tua 10% o bobl sydd â TB cudd yn datblygu TB gweithredol flynyddoedd ar ôl yr haint gychwynnol. Mae hyn fel arfer yn digwydd pan fydd y system imiwnedd yn gwanhau, er enghraifft yn ystod cemotherapi.

Risg cynyddol

Gall unrhyw un ddal TB, ond mae pobl sy'n wynebu risg mawr yn cynnwys:

  • pobl sy'n byw mewn amgylcheddau lle mae lefel yr haint TB bresennol yn uwch na'r arfer
  • pobl sydd â chyflyrau iechyd fel HIV neu y mae eu hamgylchiadau yn golygu eu bod yn llai abl o ymladd haint TB

Mae pethau eraill sy'n gallu cynyddu eich risg o ddatblygu haint TB gweithredol yn cynnwys:

  • bod mewn cyswllt agos â rhywun sydd wedi'i heintio
  • wedi byw mewn rhannau o'r byd lle mae TB yn gyffredin, teithio yno neu wedi cael ymwelwyr oddi yno
  • bod yn rhan o grwp ethnig a ddechreuodd mewn rhannau o'r byd lle mae TB yn gyffredin o hyd
  • cael system imiwnedd wan oherwydd HIV, diabetes neu gyflyrau meddygol eraill
  • cael system imiwnedd wan oherwydd cyrsiau hir o feddyginiaeth, fel corticosteroids, cemotherapi neu atalyddion ffactor necrosis tiwmor (defnyddir i drin rhai mathau o arthritis)
  • bod yn ifanc iawn neu'n hen iawn - mae systemau imiwnedd pobl sy'n ifanc neu'n oedrannus yn tueddu i fod yn wannach na systemau imiwnedd oedolion iach
  • iechyd gwael neu fwyta deiet gwael oherwydd ffordd o fyw a phroblemau eraill, fel camddefnyddio cyffuriau, camddefnyddio alcohol neu ddigartrefedd
  • byw dan amodau tai tlawd neu orlawn, fel carchardai

Man geni

Yn 2011, roedd y gyfradd TB ymhlith pobl na chawsant eu geni yn y DU (ond sy'n byw yn y DU erbyn hyn) dros 20 gwaith yn uwch na'r gyfradd TB ymhlith pobl a anwyd yn y DU.

Roedd bron tair gwaith yn fwy o achosion o bobl â TB na chawsant eu geni yn y DU o gymharu â phobl a gafodd eu geni yno.

Diagnosis

Defnyddir nifer o brofion i wneud diagnosis o dwbercwlosis (TB). Bydd y prawf a gewch chi yn dibynnu ar y math o TB a amheuir. Gall eich meddyg teulu eich cyfeirio at arbenigwr TB os yw'n credu bod gennych TB.

TB ysgyfeiniol

Fel rheol, gellir cadarnhau diagnosis o TB ysgyfeiniol (TB sy'n effeithio ar yr ysgyfaint) gyda pelydr-X o'r frest. Mae hwn yn defnyddio ymbelydredd ynni uchel i greu delwedd o'ch ysgyfaint. Os oes gennych haint TB, dylai newidiadau i ymddangosiad eich ysgyfaint, fel creithiau, fod yn weladwy ar y pelydr-X.

Bydd samplau o fwcws a fflem yn cael eu cymryd hefyd a'u harchwilio o dan ficrosgop i weld a oes bacteria TB yn bresennol.

TB allysgyfeiniol

Os amheuir bod gennych TB allysgyfeiniol (TB sy'n digwydd y tu allan i'r ysgyfaint), gellir defnyddio sawl prawf i gadarnhau diagnosis. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • sgan tomograffi cyfrifiadurol (CT) - cymerir cyfres o belydrau-X o'ch corff ar onglau ychydig yn wahanol ac mae cyfrifiadur yn rhoi'r delweddau gyda'i gilydd i greu darlun manwl o'r tu mewn i'ch corff
  • sgan delweddu cyseinedd magnetig (MRI) - defnyddir maes magnetig a thonnau radio cryf i greu delweddau manwl o'r tu mewn i'ch corff
  • sgan uwchsain - mae tonnau sain amledd uchel yn creu delwedd o ran o'r tu mewn i'ch corff
  • prawf gwaed
  • prawf wrin
  • biopsi - cymerir sampl fach o feinwe o'r man sydd wedi'i effeithio ac fe gaiff ei phrofi i weld a yw'r clefyd yn bresennol 

Efallai y byddwch yn cael pigiad meingefnol (lumbar puncture) hefyd. Mae hyn yn cynnwys cymryd sampl fach o hylif yr ymennydd o waelod eich asgwrn cefn. Hylif clir sy'n amgylchynu ac yn cynnal yr ymennydd yw hylif yr ymennydd. Bydd hylif yr ymennydd yn cael ei archwilio i weld p'un a yw TB wedi effeithio ar eich system nerfol ganolog.

Sgrinio ar gyfer TB cudd

Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd angen i chi gael eich sgrinio i weld a oes gennych haint TB cudd. Dyma pan rydych wedi cael eich heintio â'r bacteria TB ond nid oes gennych unrhyw symptomau.

Er enghraifft, efallai y bydd angen i chi gael eich sgrinio os ydych wedi bod mewn cyswllt agos â rhywun y mae'n hysbys bod ganddo haint TB gweithredol, neu os ydych wedi treulio cyfnod mewn gwlad lle mae lefelau TB yn uchel yn ddiweddar.

Os ydych chi newydd symud i'r DU o wlad lle mae TB yn gyffredin, efallai y byddwch yn cael eich sgrinio pan fyddwch yn cyrraedd neu gallai eich meddyg teulu awgrymu y dylech gael eich sgrinio pan fyddwch yn cofrestru fel claf.

Os oes angen i chi gael eich sgrinio am TB, efallai y cewch eich cyfeirio at Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn helpu i ddiogelu iechyd yng Nghymru trwy roi cymorth a chyngor i sefydliadau fel y GIG. Mae ganddynt swyddfeydd ledled Cymru ac efallai mai gyda nhw y byddwch yn cysylltu os oes gennych TB neu fod angen i chi gael eich sgrinio. Trowch at wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael mwy o wybodaeth ynghylch sut maent yn ymdrin ag achosion o TB.

Prawf Mantoux

Mae prawf Mantoux yn cael ei ddefnyddio'n helaeth ar gyfer TB cudd. Mae'n cynnwys chwistrellu sylwedd o'r enw twbercwlin PPD i mewn i'r croen ar flaen eich braich.

Os oes gennych haint TB cudd, bydd eich croen yn sensitif i twbercwlin PPD a bydd bwmp coch caled yn datblygu ar leoliad yr haint, fel arfer o fewn 48 i 72 awr o gael y prawf. Os ydych yn cael adwaith cryf iawn ar eich croen, efallai y bydd angen i chi gael pelydr-X ar y frest i gadarnhau p'un a oes gennych haint TB gweithredol.

Os nad oes gennych haint cudd, ni fydd eich croen yn adweithio i brawf Mantoux. Fodd bynnag, gan ei bod yn gallu cymryd amser i TB ddatblygu, efallai y bydd angen i chi gael eich sgrinio eto o fewn blwyddyn.

Os ydych chi wedi cael brechiad Bacillus Calmette-Guerin (BCG), efallai y byddwch yn adweithio ychydig bach i brawf Mantoux. Nid yw hyn yn golygu bod gennych TB cudd, ond bod eich system imiwnedd (amddiffyniad naturiol y corff yn erbyn haint a salwch) yn adnabod y TB.

Prawf rhyddhau gama interfferon (IGRA)

Math mwy newydd o brawf gwaed ar gyfer TB yw'r prawf rhyddhau gama interfferon (IGRA), sydd ar gael yn fwy.

Gellir defnyddio'r IGRA i helpu i wneud diagnosis o TB cudd:

  • os ydych yn cael prawf Mantoux positif
  • fel rhan o'ch sgrinio TB os ydych chi newydd symud i'r DU o wlad lle mae TB yn gyffredin
  • os ydych chi ar fin cael triniaeth a fydd yn amharu ar eich system imiwnedd, fel math o feddyginiaeth o'r enw atalyddion ffactor necrosis tiwmor
  • os ydych chi'n weithiwr gofal iechyd

                     

Triniaeth

Mae triniaeth ar gyfer twbercwlosis yn dibynnu pa fath sydd gennych, er mai cwrs hir o wrthfiotigau a ddefnyddir amlaf.

Er bod TB yn gyflwr difrifol sy'n gallu bod yn angheuol os na chaiff ei drin, mae marwolaethau yn brin os caiff triniaeth ei chwblhau.

Nid oes angen i'r rhan fwyaf o bobl fynd i'r ysbyty yn ystod triniaeth.

TB ysgyfeiniol

Os byddwch yn cael diagnosis o TB ysgyfeiniol gweithredol (TB sy'n effeithio ar eich ysgyfaint ac yn achosi symptomau), byddwch yn cael eich cyfeirio at dîm arbenigol sy'n trin TB, sef tîm o weithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd â phrofiad mewn trin TB.

Tîm sy'n rhoi triniaeth

Gall y tîm sy'n trin eich TB gynnwys:

  • meddyg anadlu - meddyg sy'n arbenigo mewn cyflyrau sy'n effeithio ar yr ysgyfaint ac anadlu
  • arbenigwr mewn clefydau heintus
  • nyrs TB
  • ymwelydd iechyd - nyrs gymwys sydd wedi cael hyfforddiant ychwanegol, sy'n helpu teuluoedd â babanod a phlant ifanc i aros yn iach
  • eich meddyg teulu
  • paediatregydd (os bydd angen) - meddyg sy'n arbenigo mewn cyflyrau sy'n effeithio ar blant

Mae hefyd yn debygol y bydd gweithiwr allweddol yn cael ei ddynodi ar eich cyfer, sef nyrs, ymwelydd iechyd neu weithiwr cymorth gofal cymdeithasol fydd yn gweithredu fel yr unigolyn cyswllt rhyngoch chi a gweddill y tîm ac a fydd yn helpu i gydlynu eich gofal.

Gwrthfiotigau

Caiff TB ysgyfeiniol ei drin gan ddefnyddio cwrs chwe mis o gyfuniad o wrthfiotigau. Dyma'r cwrs arferol o driniaeth:

  • dau wrthfiotig - isoniazid a rifampicin - bob dydd am chwe mis
  • dau wrthfiotig ychwanegol - pyrazinamide ac ethambutol - bob dydd am y deufis cyntaf

Fodd bynnag, efallai y bydd ond angen i chi gymryd y gwrthfiotigau hyn dair gwaith yr wythnos os oes angen goruchwyliaeth arnoch.

Gall gymryd rhai wythnosau neu fisoedd cyn i chi ddechrau teimlo'n well. Bydd union hyd y cyfnod yn dibynnu ar eich iechyd cyffredinol a pha mor ddifrifol yw eich TB.

Ar ôl cymryd y feddyginiaeth am bythefnos, mae'r rhan fwyaf o bobl nad ydynt yn heintus mwyach yn teimlo'n llawer gwell. Fodd bynnag, mae'n bwysig eich bod yn parhau i gymryd eich meddyginiaeth yn union fel y mae'r presgripsiwn yn ei nodi a'ch bod yn cwblhau'r cwrs cyfan o wrthfiotigau.

Cymryd meddyginiaeth am chwe mis yw'r dull mwyaf effeithiol o sicrhau bod y bacteria TB yn cael eu lladd. Os byddwch yn rhoi'r gorau i gymryd eich gwrthfiotigau cyn i chi gwblhau'r cwrs neu os byddwch yn methu dos, gall yr haint TB fynd yn ymwrthol i'r gwrthfiotigau. Mae hyn yn gallu bod yn ddifrifol, oherwydd gall fod yn anodd ei drin a bydd gofyn cael cwrs hwy o driniaeth ar ei gyfer.

Os caiff y driniaeth ei chwblhau yn gywir, ni ddylai fod angen unrhyw archwiliadau eraill arnoch gan arbenigwr TB ar ôl hynny. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn cael cyngor ynghylch adnabod arwyddion bod y salwch wedi dod yn ôl, er bod hyn yn anarferol.

Mewn achosion prin, gall TB fod yn angheuol hyd yn oed gyda thriniaeth. Gallwch farw os bydd yr ysgyfaint yn cael gormod o niwed i allu gweithio'n iawn.

TB allysgyfeiniol

Gellir trin TB allysgyfeiniol (TB sy'n digwydd y tu allan i'r ysgyfaint) gan ddefnyddio'r un cyfuniad o wrthfiotigau â'r rheiny a ddefnyddir i drin TB ysgyfeiniol. Fodd bynnag, efallai bydd angen i chi eu cymryd am 12 mis.

Os oes gennych TB sy'n effeithio ar eich ymennydd, gallwch hefyd gael corticosteroid ar bresgripsiwn, fel prednisolone, am sawl wythnos i'w gymryd ar yr un pryd â'ch gwrthfiotigau. Bydd hyn yn helpu i leihau unrhyw chwyddo yn y mannau sydd wedi'u heffeithio.

Yn yr un modd â TB ysgyfeiniol, mae'n bwysig cymryd eich meddyginiaethau yn union fel y nodir ar y presgripsiwn a gorffen y cwrs.

TB cudd

O ran TB cudd, rydych wedi cael eich heintio â'r bacteria TB ond nid oes gennych unrhyw symptomau o glefyd gweithredol. Mae triniaeth ar gyfer TB cudd fel arfer yn cael ei argymell ar gyfer:

  • pobl sy'n 35 oed neu'n iau
  • pobl â HIV, beth bynnag fo'u hoedran
  • gweithwyr gofal iechyd, beth bynnag fo'u hoedran
  • pobl sydd â thystiolaeth o greithiau wedi'u hachosi gan TB, fel y dangosir ar belydr-X o'r frest, ond nad ydynt erioed wedi cael eu trin

Ni chaiff triniaeth ei hargymell ar gyfer pobl sydd â thwbercwlosis cudd ac sydd dros 35 oed (ac nid oes ganddynt HIV ac nid ydynt yn weithwyr gofal iechyd). Mae hyn am fod risg niwed i'r iau/afu yn cynyddu gydag oedran ac mae mwy o risgiau na manteision yn sgil y driniaeth i rai pobl.

Nid yw TB cudd bob amser yn cael ei drin os oes amheuaeth ei fod yn ymwrthol i gyffuriau. Os felly, efallai y byddwch yn cael eich archwilio yn rheolaidd i wneud yn siwr nad yw'r haint yn mynd yn weithredol.  

Mewn rhai achosion, efallai y bydd triniaeth ar gyfer TB cudd yn cael ei hargymell i bobl y mae angen meddyginiaeth wrthimiwnaidd arnynt. Mae'r feddyginiaeth hon yn atal y system imiwnedd (amddiffyniad naturiol y corff yn erbyn salwch a haint) a gall alluogi i TB cudd ddatblygu i fod yn ffurf weithredol o'r clefyd. Gallai hyn gynnwys pobl sy'n cymryd corticosteroids yn y tymor hir neu bobl sy'n cael cemotherapi.

Yn yr achosion hyn, dylid trin yr haint TB cyn dechrau meddyginiaeth wrthimiwnaidd.

Mae triniaeth ar gyfer TB cudd yn cynnwys cymryd naill ai cyfuniad o rifampicin ac isoniazid am dri mis, neu isoniazid ar ei ben ei hun am chwe mis.

Sgîl-effeithiau triniaeth

Mae rifampicin yn gallu lleihau effeithiolrwydd rhai mathau o ddulliau atal cenhedlu, fel y pilsen atal cenhedlu gyfunol. Defnyddiwch ddull atal cenhedlu arall, fel condomau, tra byddwch yn cymryd rifampicin.

Mewn achosion prin, mae'r gwrthfiotigau hyn yn gallu achosi niwed i'r iau/afu neu'r llygaid, sy'n gallu bod yn ddifrifol. Felly, gellir profi gweithrediad eich iau/afu cyn i chi ddechrau cael triniaeth. Os ydych yn mynd i gael eich trin ag ethambutol, dylid profi eich golwg ar ddechrau cwrs y driniaeth hefyd.

Cysylltwch â'r tîm sy'n rhoi triniaeth TB i chi os oes gennych unrhyw un o'r symptomau canlynol:

  • teimlo'n sâl neu fod yn sâl
  • eich croen yn mynd yn felyn (clefyd melyn) a'ch wrin yn dywyll
  • twymyn heb esboniad - tymheredd o 38ºC (100.4ºF) neu'n uwch
  • goglais neu fferdod yn eich dwylo neu'ch traed
  • brech ar y croen neu groen coslyd
  • newidiadau i'ch golwg, fel golwg aneglur neu ddallineb lliw

Triniaeth dan oruchwyliaeth 

Weithiau, mae pobl yn ei chael yn anodd cymryd eu meddyginiaeth bob dydd. Os yw hyn yn effeithio arnoch chi, gall y tîm sy'n eich trin weithio gyda chi i ddod o hyd i ateb. Gan amlaf, gofynnir i chi ymuno â rhaglen o "therapi sy'n cael ei arsylwi yn uniongyrchol".

Gall hyn gynnwys triniaeth dan oruchwyliaeth, a fydd yn cynnwys cyswllt rheolaidd â'r tîm sy'n eich trin (bob dydd neu dair gwaith yr wythnos) i'ch cynorthwyo wrth i chi gymryd eich meddyginiaeth. Mae hyn yn gallu digwydd yn eich cartref, y clinig triniaeth neu rywle arall sy'n fwy cyfleus.

Twbercwlosis (TB) sy'n ymwrthol i wrthfiotigau

Yn yr un modd â'r rhan fwyaf o facteria, mae bacteria sy'n achosi TB yn gallu datblygu ymwrthedd i wrthfiotigau. Mae hyn yn golygu nad yw'r meddyginiaethau yn gallu lladd y bacteria y maent i fod i'w hymladd mwyach.

Nid yw twbercwlosis (TB) sy'n datblygu ymwrthedd i un math o wrthfiotig fel arfer yn destun pryder gan fod gwrthfiotigau eraill ar gael. Yn 2011, roedd dros wyth o bob 100 o achosion o TB yn ymwrthol i o leiaf un math o wrthfiotig a ddefnyddir i drin y cyflwr fel arfer.

Fodd bynnag, mewn nifer o achosion:

  • mae TB yn datblygu ymwrthedd i ddau wrthfiotig - sy'n cael ei adnabod fel twbercwlosis ymwrthol aml gyffur (MDR-TB)
  • mae TB yn datblygu ymwrthedd i dri gwrthfiotig neu fwy - caiff hyn ei adnabod fel twbercwlosis ymwrthol cyffur helaeth (XDR-TB)

Yn 2011, roedd bron i ddau o bob 100 o achosion o TB yn ymwrthol i o leiaf ddau wrthfiotig.

Bydd angen triniaeth am o leiaf 18 mis ar gyfer MDR-TB ac XDR-TB gan ddefnyddio cyfuniad o wrthfiotigau gwahanol. Gan fod y cyflyrau hyn yn anodd i'w trin, efallai y byddwch yn cael eich cyfeirio at glinig TB arbenigol i gael eich trin a'ch monitro.

Atal haint rhag lledaenu

Os cewch ddiagnosis o dwbercwlosis ysgyfeiniol (TB), sy'n effeithio ar yr ysgyfaint, byddwch yn heintus am ryw bythefnos i dair wythnos ar ôl dechrau ar eich triniaeth.

Ni fydd angen i chi fod ar eich pen eich hun yn ystod y cyfnod hwn gan amlaf, ond mae'n bwysig cymryd rhai rhagofalon sylfaenol i atal TB rhag lledaenu ymhlith eich teulu a'ch ffrindiau, sef:

  • peidiwch â mynd i'r gwaith, yr ysgol neu'r coleg nes bod eich tîm sy'n trin y TB yn dweud ei bod yn ddiogel i chi fynd yn ôl
  • dylech orchuddio'ch ceg bob tro rydych yn pesychu, yn tisian neu'n chwerthin
  • dylech gael gwared ar unrhyw hancesi papur mewn bag plastig wedi'i selio
  • agorwch ffenestri pan fo modd i sicrhau cyflenwad da o awyr iach
  • peidiwch â chysgu yn yr un ystafell â phobl eraill oherwydd gallech besychu neu disian yn eich cwsg heb sylweddoli hynny

Beth os oes TB ar rywun rwy'n ei adnabod?

Pan fydd rhywun yn cael diagnosis â TB, bydd y tîm sy'n ei drin yn asesu p'un a yw pobl eraill mewn perygl o gael eu heintio. Gallai hyn gynnwys cysylltiadau agos, fel pobl sy'n byw gyda'r unigolyn sydd â TB, yn ogystal â chysylltiadau achlysurol, fel cydweithwyr yn y gwaith a chysylltiadau cymdeithasol.

Gofynnir i unrhyw un y gwelir ei fod mewn perygl o gael TB fynd i gael ei sgrinio.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 02/10/2024 11:13:52