Mae’r pâs (sydd hefyd yn cael ei alw’n pertussis) yn haint bacterol ar yr ysgyfaint a thiwbiau anadlu. Mae'n lledaenu'n hawdd iawn.
Gwiriwch a oes gennych chi neu’ch plentyn y pâs
Mae arwyddion cyntaf y pâs yn debyg i annwyd.
Ar ôl tua wythnos, byddwch chi neu eich plentyn:
- yn cael pyliau peswch sy'n para am ychydig funudau ac sy’n waeth yn y nos
- yn gwneud sŵn "whoop" - ebwch am anadl rhwng pesychiadau (efallai na fydd babanod ifanc ac oedolion yn gwneud sŵn "whoop")
- efallai'n pesychu mwcws trwchus, sy'n gallu eich gwneud chi'n sâl (chwydu)
- efallai'n mynd yn goch iawn yn yr wyneb (yn fwy cyffredin mewn oedolion)
Ewch i weld meddyg teulu ar frys neu ffoniwch 111:
- os yw’ch babi o dan 6 mis oed ac mae ganddo symptomau o’r pâs
- os oes gennych chi neu’ch plentyn beswch gwael iawn sy'n gwaethygu
- os ydych chi wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd â’r pâs a’ch bod chi'n feichiog
- os ydych chi neu'ch plentyn wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd â’r pâs ac mae gennych chi system imiwnedd wan
Gall y pâs ledaenu'n hawdd iawn. Mae'n well ffonio eich meddyg teulu cyn mynd i mewn. Efallai y byddan nhw'n awgrymu siarad dros y ffôn.
Gall y pâs fod yn beryglus
Mae gan fabis o dan 6 mis oed siawns cynyddol o gael problemau, gan gynnwys:
Mae’r pâs yn llai difrifol ymhlith plant hŷn ac oedolion ond gall pesychu achosi problemau gan gynnwys:
Ffoniwch 999 neu ewch i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys:
- os yw’ch plentyn yn cael cyfnodau o stopio anadlu ac mae ei wyneb neu ei wefusau yn mynd yn las (cyanosis)
- os ydych chi neu’ch plentyn yn ei chael hi'n anodd anadlu'n iawn (anadlu bas)
- os oes gennych chi neu’ch plentyn boen yn eich brest sy'n waeth wrth anadlu neu besychu - gallai hyn fod yn arwydd o niwmonia
- os yw’ch plentyn yn cael ffitiau
Triniaeth ar gyfer y pâs
Mae triniaeth yn dibynnu ar eich oedran a pha mor hir rydych cxhi wedi cael yr haint.
Os yw eich pâs yn ddifrifol, neu os yw eich babi o dan 6 mis oed ac mae ganddo’r pâs, fel arfer bydd angen triniaeth arnoch chi yn yr ysbyty.
Os rhoddir diagnosis o fewn 3 wythnos o'r haint, byddwch yn cael gwrthfiotigau i helpu i'w atal rhag lledaenu i eraill. Efallai na fydd gwrthfiotigau'n lleihau symptomau.
Os ydych chi wedi cael y pâs am fwy na 3 wythnos, ni fyddwch yn heintus mwyach ac ni fydd angen gwrthfiotigau arnoch chi.
Pwysig
Parhewch i gymryd eich gwrthfiotigau nes eich bod wedi cwblhau'r cwrs, hyd yn oed os ydych chi'n teimlo'n well.
Pethau y gallwch chi eu gwneud eich hun i leddfu symptomau’r pâs
Gwnewch
- cael digon o orffwys
- yfed llawer o hylifau
- cymryd paracetamol neu ibuprofen i leddfu anghysur
Peidiwch â
- rhoi paracetamol ac ibuprofen ar yr un pryd i blentyn o dan 16 oed - gwiriwch gyda meddyg teulu neu fferyllydd yn gyntaf bob amser
- rhoi aspirin i blant o dan 16 oed
- cymryd meddyginiaethau peswch – nid ydyn nhw’n addas i blant ifanc ac nid ydyn nhw’n helpu gyda'r math yma o beswch
Am ba mor hir y mae’r pâs yn heintus
Rydych yn heintus o tua 6 diwrnod ar ôl dechrau symptomau tebyg i annwyd i 3 wythnos ar ôl i'r peswch ddechrau.
Os byddwch chi'n dechrau gwrthfiotigau o fewn 3 wythnos o ddechrau peswch, bydd yn lleihau'r cyfnod rydych chi'n heintus.
Mae brechlyn y pâs (sy'n rhan o'r brechlyn 6-mewn-1) yn amddiffyn babanod a phlant rhag cael y pâs. Dyna pam mae'n bwysig cael holl frechiadau arferol y GIG.
Rhoddir y brechlyn fel arfer fel rhan o’r:
Os ydych chi'n feichiog, dylech chi hefyd gael brechlyn y pâs – yn ddelfrydol rhwng 16 a 32 wythnos.