Llosg cylla

Cyflwyniad

Llosg cylla/dŵr poeth yw'r llosgi yn y frest sy'n cael ei achosi wrth i asid y stumog deithio i fyny tuag at y gwddf (adlif asid). Os yw'n digwydd yn fynych, yr enw arno yw clefd adlif sefnigol (GORD).

Gwirio a oes gennych adlif asid

Dyma brif symptomau adlif asid:

  • llosg cylla/dŵr poeth - teimlad o losgi yng nghanol y frest
  • blas sur, annymunol yn eich ceg, y mae asid y stumog yn ei achosi

Hefyd, gall fod gennych:

  • beswch neu igian sy'n digwydd yn fynych
  • llais cryg
  • anadl ddrwg
  • bol chwyddedig a chyfog 

Yn ôl pob tebyg, bydd eich sympomtau'n waeth ar ôl bwyta, wrth orwedd ac wrth blygu.

Achosion llosg cylla/dŵr poeth ac adlif asid

Mae llawer o bobl yn cael llosg cylla/dŵr poeth o bryd i'w gilydd. Yn aml, nid oes rheswm amlwg drosto.

Weithiau, bydd y canlynol yn ei achosi neu'n ei waethygu:

  • bwydydd a diodydd penodol - fel coffi, alcohol, siocled a bwydydd brasterog neu sbeislyd 
  • bod dros eich pwysau
  • ysmygu
  • beichiogrwydd
  • straen a gorbryder
  • rhai meddyginiaethau, fel poenleddfwyr gwrthlid (fel ibuprofen)
  • hernia bwlch (hiatus hernia) - pan fydd rhan o'ch stumog yn symud i fyny i'ch brest

Sut gallwch chi leddfu llosg cylla/dŵr poeth ac adlif asid eich hun

Gall newidiadau syml i'ch ffordd o fyw helpu atal neu leihau llosg cylla/dŵr poeth.

  • bwytewch brydau llai, yn amlach
  • codwch ben eich gwely 10 i 20cm trwy roi rhywbeth o dan eich gwely neu'ch matras - gwnewch hynny fel bod eich brest a'ch pen uwchlaw lefel eich canol, fel nad yw asid y stumog yn teithio i fyny tuag at eich gwddf 
  • ceisiwch golli pwysau os ydych chi dros bwysau
  • ceisiwch ddod o hyd i ffyrdd o ymlacio

Peidiwch â

  • chael bwyd neu ddiod sy'n sbarduno'ch symptomau 
  • bwyta o fewn 3 neu 4 awr cyn mynd i'r gwely
  • gwisgo dillad sy'n dynn o gwmpas eich canol
  • ysmygu
  • yfed gormod o alcohol
  • rhoi'r gorau i gymryd meddyginiaeth sydd gennych ar bresgripsiwn, heb siarad â meddyg yn gyntaf

Gall fferyllydd helpu gyda llosg cylla/dŵr poeth ac adlif asid

Siaradwch â fferyllydd am gyngor os ydych chi'n cael llosg cylla/dŵr poeth yn aml.

Gall argymell meddyginiaethau o'r enw gwrthasidau, sy'n gallu helpu lleddfu'ch symptomau.

Cymryd y rhain gyda bwyd neu'n fuan ar ôl bwyta sydd orau, oherwydd dyma pryd y byddwch chi'n fwyaf tebygol o gael llosg cylla/dŵr poeth.  Gallant weithio am gyfnod hwy hefyd os byddwch yn eu cymryd gyda bwyd.

Dod o hyd i fferyllfa

Ewch i weld meddyg teulu:

  • os nad yw newidiadau i'ch ffordd o fyw a meddyginiaethau o'r fferyllfa yn helpu
  • os ydych cyn cael llosg cylla/dŵr poeth bron bob dydd, am 3 wythnos neu fwy
  • os oes gennych symptomau eraill, fel bwyd yn mynd yn gaeth yn eich gwddf, chwydu'n fynych neu golli pwysau heb reswm

Gall meddyg teulu ddarparu triniaethau cryfach a helpu diystyru unrhyw achosion mwy difrifol posibl eich symptomau.

Triniaeth gan feddyg teulu 

I leddfu'ch symptomau, gallai eich meddyg teulu roi meddyginiaeth i chi ar bresgripsiwn sy'n lleihau faint o asid sy'n cael ei gynhyrchu gan eich stumog, fel:

  • omeprazole
  • lansoprazole

Fel arfer, bydd angen i chi gymryd y math hwn o feddyginiaeth am 4 neu 8 wythnos, yn dibynnu pa mor ddifrifol yw eich adlif asid.

Pwysig

Ewch yn ôl at y meddyg teulu os bydd eich symptomau'n dychwelyd ar ôl rhoi'r gorau i'ch meddyginiaeth. Gall fod angen presgripsiwn hirdymor arnoch.

Profion a llawdriniaeth ar gyfer llosg cylla/dŵr poeth ac adlif asid 

Os na fydd meddyginiaethau'n helpu neu os bydd eich symptomau'n ddifrifol, gall eich meddyg teulu'ch atgyfeirio i arbenigwr ar gyfer:

  • profion i ddarganfod beth sy'n achosi'ch symptomau, fel gastrosgopi (pan roddir tiwb tenau gyda chamera arno i lawr eich gwddf)
  • llawdriniaeth i atal adlif asid - o'r enw laparoscopic fundoplication


Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 09/01/2024 12:25:23