Cyflwyniad
Y term meddygol ar gyfer pen-ôl coslyd yw 'pruritis ani'. Caiff pen-ôl coslyd ei nodweddu gan awydd cryf iawn i grafu'r croen o gwmpas yr anws (yr agoriad ar ddiwedd y system dreulio lle mae gwastraff solid yn gadael y corff).
Symptom yw pen-ôl coslyd, yn hytrach na chyflwr. Mae achos sylfaenol i lawer o achosion o ben-ôl coslyd fel:
Fodd bynnag, nid oes modd adnabod beth sy'n achosi pob achos o ben-ôl coslyd.
Gall y rhain gwneud pen-ôl coslyd yn waeth:
- gwres
- dillad gwlan neu blancedi
- lleithder
- baeddu eich hun
- straen
- pryder
Am rai pobl bydd y cosi'n deimlad ysgafn. Am eraill fe all fod yn ingol.
A ddylwn i ymweld â'm meddyg teulu?
Dylech. Fe ddylech chi ymweld â'ch meddyg teulu os byd eich pen ôl yn cosi. Bydd yn ceisio dod o hyd i beth sydd yn achosi'r broblem a sut i'w thrin.
Efallai bydd angen archwiliad rhefrol byseddol (DRE) arnoch chi i wrthbrofi achos sylfaenol mwy difrifol. Yn ystod yr archwiliad fe fydd eich meddyg teulu'n rhoi bys wedi'i iro a'i orchuddio gan faneg i mewn i'ch pen ôl. Nid oes angen embaras. Bydd eich meddyg teulu wedi arfer a gwneud archwiliadau o'r math yma.
Trin pen-ôl coslyd
Fel arfer mae hi'n hawdd trin pen-ôl coslyd gartref.
Dylai gofalu am eich hunan trwy gadw eich pen-ôl yn sych a glân, osgoi sebon persawrus, defnyddio papur ty-bach meddal, osgoi crafu a newid eich diet yn lleddfu ar y cosi wedi mis neu ddau.
Fe fydd eich meddyg teulu yn medru rhagnodi eli ac ennaint i leddfu ar eich symptomau tra bydd y mesurau a nodwyd uchod yn cael effaith. Gofynnwch i'ch meddyg neu fferyllydd am faint y dylech chi fod yn defnyddio'r rhain.
Os oes cyflwr sylfaenol sydd yn achosi'r pen-ôl coslyd, fel haint facteriol, bydd angen ei drin hefyd.
Cymhlethdodau
Gall crafu parhaus yn achosi niwed i'r croen tyner o gwmpas eich pen-ôl, neu ei rwygo. Gall hyn arwain at broblemau fel:
- croen tew a lledraidd (cenyddiad)
- croen dolurus sydd yn torri (doluriad)
- treulio haen uchaf y croen i ffwrdd (blingiad)
Y cynharach y bydd y cymhlethdodau hyn yn cael diagnosis a thriniaeth y cyflymach y byddwch yn gwella. Fe ddylech chi ymweld â'ch meddyg teulu os bydd y croen o amgylch eich pen-ôl yn newid neu'n ddolurus.