Gwiriadau Iechyd
Asesiadau Iechyd a Sgrinio ar gyfer pobl LGBTQ+
Mae tystiolaeth yn dangos nad yw pobl LGBTQ+ bob amser yn cael yr asesiadau iechyd sydd eu hangen arnynt i gadw’n iach. Gall hyn fod am sawl rheswm. Yn aml, gwneir rhagdybiaethau nad oes angen profion penodol arnom. Er enghraifft, nid yw dynion traws a phobl anneuaidd yn cael eu galw am brofion sgrinio’r fron a/neu sgrinio serfigol, ac efallai na fydd menywod traws a phobl anneuaidd yn cael eu galw am brofion sgrinio’r fron neu sgrinio’r brostad.
Os ydych chi’n LGBTQ+, efallai eich bod yn meddwl bod eich risg yn isel oherwydd eich cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, neu oherwydd eich bod chi wedi trawsnewid yn feddygol. Fodd bynnag, nid yw hyn yn gywir bob amser. Mae sgrinio a chynnal asesiadau eich hunain yn ffyrdd pwysig o ddiogelu eich iechyd. Mae’n syniad da cael gwybod am ba brofion sgrinio a hunan-wiriadau sydd eu hangen arnoch.
Sgrinio
Mae sgrinio’n ffordd o ddarganfod a oes gennych risg neu symptomau o gyflyrau iechyd penodol. Mae triniaeth a gwybodaeth gynnar yn cynyddu’r opsiynau sydd ar gael. Mae hefyd yn golygu bod afiechydon yn llai tebygol o gael eu trosglwyddo.
Mae sgrinio’n bwysig i bawb. Mae darganfod bod clefyd arnoch yn gynnar yn golygu bod llai o risg y bydd yn eich effeithio yn y tymor hir.
Os ydych yn LGBTQ+, mae rhai profion sgrinio’n benodol o berthnasol i chi.
Os ydych chi wedi newid eich rhywedd ar gofnodion y GIG, efallai na fyddwch yn cael eich galw am brawf sgrinio penodol, fel profion serfigol, y fron a phrostad. Bydd yr union brawf sgrinio sydd ei angen arnoch yn dibynnu ar y driniaeth cadarnhau rhywedd yr ydych chi wedi ei chael, os o gwbl. Siaradwch â’ch meddyg teulu i sicrhau eich bod yn cael nodyn atgoffa am sgrinio.
Mae hunan-wirio yn rheolaidd yn bwysig hefyd. Mae rhywfaint o dystiolaeth ar gael nad yw pobl drawsryweddol yn hunan-wirio eu bron, meinwe’r fron na’u ceilliau yn iawn. Os yw hyn yn anodd i chi, efallai na fyddwch eisiau eu cyffwrdd na chael eich atgoffa ohonynt. Fodd bynnag, mae’n bwysig eich bod yn gwirio’r rhannau hyn o’r corff.
Sgrinio serfigol
Os oes gennych geg y groth, gallwch fod mewn perygl o ganser ceg y groth. Dylech gael prawf ceg y groth pob 3 blynedd, neu bob 5 mlynedd os ydych chi dros 50 oed. Dylech dderbyn nodyn atgoffa gan eich meddyg teulu. Gallwch ofyn am brawf ceg y groth os nad ydych chi wedi cael nodyn atgoffa. Os ydych chi wedi eich cofrestru fel dyn, ond mae gennych geg y groth o hyd, efallai bydd angen i chi wneud cais i dderbyn negeseuon atgoffa.
Yn aml, mae menywod lesbiaidd a deurywiol sydd mewn perthynas â menywod eraill yn adrodd bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi dweud wrthynt nad oes angen prawf ceg y groth arnynt. Nid yw hyn yn gywir. Os nad ydych wedi cofrestru â meddyg teulu, gallwch ofyn am un yn eich clinig iechyd rhywiol lleol.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Sgrinio Serfigol Cymru.
Sgrinio canser y fron
Os oes gennych feinwe’r fron, neu wedi bod â meinwe’r fron yn y gorffennol, gallwch fod mewn perygl o ganser y fron. Mae hyn yn cynnwys dynion traws, pobl anneuaidd a benodwyd yn fenywaidd pan gawsant eu geni, yn ogystal â menywod traws a phobl anneuaidd a benodwyd yn wrywaidd pan gawsant eu geni sydd wedi cymryd oestrogen. Os nad ydych chi wedi bod yn feichiog a/neu fwydo babi, mae gennych risg arbennig o uchel.
Gallwch ddatblygu canser y fron, hyd yn oed os cawsoch eich pennu’n wrywaidd adeg eich geni. os ydych yn ddyn. Mae bron i 300 o ddynion yn cael diagnosis canser y fron bob blwyddyn yn y DU, ond yn anffodus, yn aml mae’r diagnosis yn rhy hwyr oherwydd nad ydynt yn hunan-wirio. Os ydych yn ddyn traws sy’n cymryd testosteron, efallai bod risg uwch, hyd yn oed os ydych chi wedi cael llawdriniaeth ar ran uchaf eich corff. Mae hunan-wirio bronnau yn dilyn yr un patrwm â’r hyn sy’n cael ei gynghori sod.
Yn ôl Stonewall, bydd tua 8% o fenywod lesbiaidd a deurywiol hŷn yn datblygu canser y fron, o gymharu â thua 5% o fenywod yn gyffredinol. Mae canser y fron yn fwy tebygol o lawer o allu cael ei drin os caiff ei ddal yn gynnar.
Mae dwy ffordd o wirio am ganser y fron: hunan-wirio a sgrinio.
Hunan-wirio’r bronnau
Dylai pawb sydd â meinwe’r fron, neu rai sydd wedi bod â meinwe’r fron, hunan-wirio. Os byddwch yn sylwi ar unrhyw beth anarferol, dylech drafod hyn â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cyn gynted â phosibl.
Os ydych chi wedi bod â meinwe’r fron yn y gorffennol, mae’r risg yno o hyd. Gall canser ledaenu’n gynt mewn pobl sydd wedi cael mastectomi o ganlyniad i lwmp blaenorol, neu lawdriniaeth ar ran uchaf y corff i ddynion traws, yn enwedig os ydych yn cymryd testosteron. Mae gwirio meinwe’r fron yn anodd iawn i rai dynion traws, cyn ac ar ôl llawdriniaeth. Fodd bynnag, mae’n hollbwysig.
Sgrinio’r fron
Os ydych chi rhwng 50 a 70 oed, ac wedi’ch cofrestru fel menyw gyda’ch meddyg teulu, byddwch yn cael eich gwahodd yn awtomatig i gael eich sgrinio pob tair blynedd. Mae risg uwch o ganser y fron ymysg menywod lesbiaidd a deurywiol hŷn. Efallai mai’r rheswm am hyn yw eu bod yn llai tebygol o fod yn feichiog neu fwydo babi. Os ydych yn fenyw lesbiaidd neu ddeurywiol hŷn, mae cael eich sgrinio’n bwysig dros ben. Os ydych yn poeni, neu’n gyndyn i fynd, gallwch fynd â phartner neu ffrind. Os nad ydych yn cael eich gwahodd i gael eich sgrinio, cysylltwch â Bron Brawf Cymru.
Os ydych chi wedi bod â meinwe’r fron yn y gorffennol, ond wedi cael llawdriniaeth ar ran uchaf eich corff, rydych mewn perygl o hyd. Efallai bydd gennych rywfaint o feinwe’r fron ar ôl. Gall canser ledaenu’n gynt, yn enwedig os byddwch yn cymryd testosteron. Felly, mae’n bwysig eich bod yn cael eich sgrinio, hyd yn oed os nad ydych chi wedi’ch cofrestru fel menyw gyda’r feddygfa. Bydd angen i chi siarad â’ch meddyg teulu neu’r tîm llawfeddygol am sut gallwch gael eich sgrinio yn y dyfodol.
Am ragor o wybodaeth am sgrinio’r fron, yn ogystal â sut i adnabod unrhyw newidiadau yn eich bronnau, gallwch ddarllen ein haadran ar ganser y fron. Efallai bydd hyn yn fwy perthnasol i chi os cawsoch eich pennu’n fenywaidd adeg eich geni.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Bron Brawf Cymru.
Canser y brostad
Os oes gennych brostad, gallwch fod mewn perygl o ganser y prostad. Gallwch ddod o hyd i symptomau canser y prostad yma. Mae rhan o’r prawf yn cynnwys archwilio chwarren y prostad. Fel arfer, mae hyn yn cael ei wneud drwy’r anws, ond os ydych chi wedi cael ‘vaginoplasty’, efallai bydd angen i chi gael y prawf digidol trwy’r wain.
Os nad ydych chi wedi eich cofrestru fel dyn ar y GIG, efallai na fyddwch yn cael eich galw i gael prawf sgrinio’r prostad. Os oes gennych chi brostad, hyd yn oed os ydych chi wedi cael llawdriniaeth ar ran isaf eich corff, bydd angen cael eich sgrinio ar gyfer canser y brostad. Siaradwch â’ch meddyg teulu.
Prostate Cancer UK: deall y brostad.
Cancer Research UK: symptomau canser y brostad.
Canser y ceilliau
Os oes gennych geilliau, rydych mewn perygl o ddatblygu canser y ceilliau.
Os ydych chi’n fenyw, ond mae gennych geilliau, efallai na fyddwch yn mwynhau eu harchwilio. Fodd bynnag, mae’n bwysig dros ben.
Os byddwch yn dod o hyd i rywbeth anarferol, unrhyw lympiau, chwyddo neu newidiadau i’ch ceilliau, dylech siarad â’ch meddyg teulu.
Mae gwybodaeth am hunan-wirio ar gael gan Cancer Research UK.
Pwnc A-Y ar gyfer lympiau a chwyddo yn eich ceilliau.
Archwiliadau Iechyd Rhywiol
Os ydych chi’n cael rhyw, mae gofalu am eich iechyd rhywiol yn bwysig. Mae hyn yn arbennig o bwysig os oes gennych sawl partner, neu os ydych yn newid eich partneriaid yn aml.
Am ragor o wybodaeth, darllenwch y tudalennau Iechyd Rhywiol ar gyfer menywod LGBTQ+, pobl anneuaidd a menywod a dynion traws, Iechyd Rhywiol ar gyfer dynion LGBTQ+, pobl anneuaidd a dynion a menywod traws, HIV ac AIDS, a thudalennau heintiau a drosglwyddir yn rhywiol A-Y.
Cewch asesiad iechyd rhywiol rhad ac am ddim, cyfrinachol a dienw o glinig meddygaeth genhedlol-wrinol (GUM).
Dod o hyd i’ch clinig GUM agosaf.
Asesiadau iechyd cyffredinol i bawb
Rydych yn gymwys i gael prawf sgrinio canser y coluddyn pan rydych yn 60 oed, ac am brawf pwysau gwaed pob rhyw bum mlynedd ar ôl troi’n 40 oed (yn fwy aml os mae eich pwysau gwaed yn uwch).
Am ragor o wybodaeth, ewch i’r pwnc A-Y canser y coluddyn; pwnc A-Y sgrinio pwysau gwaed.
Adnoddau
Erthyglau iechyd traws ar Gires https://www.gires.org.uk/health
Llinell gymorth a gwasanaeth cwnsela LGBT Cymru http://www.lgbtcymruhelpline.org.uk/news.html