LGBTQ+

Hunaniaeth rhywedd

I gael gwybodaeth am y rhestr o dermau LGBTQ+, ewch i Stonewall.

Eich penderfyniad chi yw eich ffordd o drawsnewid, ac mae’n iawn i chi newid eto yn y dyfodol. Mae gan Ymddiriedolaeth Terrence Higgins wybodaeth i bobl draws, sy’n esbonio’r gwahanol ffyrdd o drawsnewid: www.tht.org.uk/transwomen a www.tht.org.uk/transmen.

Mae deddfwriaeth y Ddeddf Cydraddoldeb yn golygu ei fod yn anghyfreithlon i unrhyw un yn y GIG wrthod eich trin neu eich trin mewn ffordd annheg oherwydd eu rhagfarn yn erbyn pobl draws.

Mae gennych hawl I gyflwyno pryder os cewch eich trin yn wael, ac ni fyddwch yn derbyn gofal o ansawdd is o ganlyniad. Dyma fwy o wybodaeth am y broses Putting Things Right.

Fel person traws, mae angen ystyried pethau penodol am eich iechyd a all fod yn wahanol i bobl cis. Mae hyn yn cynnwys iechyd rhywiol, sgrinio a mynediad at ofal iechyd i bobl draws. [link to each of these).