LGBTQ+

Mynediad i ofal iechyd i bobl LGBTQ+

Mae gan bawb hawl i gael gofal iechyd o ansawdd uchel, ni waeth beth yw eich cyfeiriadedd rhywiol. Mae gennych hawl i gael gofal o’r un safon â phobl heterorywiol a phobl cis yn y GIG.

Fel person LGBTQ+, efallai bod mwy o risg o ddioddef cyflyrau iechyd penodol. Ceir tystiolaeth bod pobl LGBTQ+ yn smygu ac yn yfed ac efallai eu bod yn fwy tebygol o gymryd cyffuriau adloniant (e.e. canabis). Mae gan rai pobl LGBTQ+ broblemau iselder, gorbryder, hunan-niweidio neu broblemau bwyta. Efallai mai’r rheswm am hyn yw nad yw bod yn LGBTQ+ yn cael ei dderbyn gan deulu, ffrindiau neu gydweithwyr rhai pobl. Mae gennych hawl i gael eich trin cystal ag unrhyw un arall, ni waeth beth yw eich cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth neu fynegiant rhywedd.

Mae gennych hawl i fod yn agored â’ch meddyg teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol am eich cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth neu fynegiant rhywedd i gael gofal priodol. Mae llawer o bobl LGBTQ+ sy’n dod allan i’w meddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cael profiad da. Os nad ydych yn cael profiad da, er enghraifft os ydych o’r farn bod rhywun wedi gwahaniaethu yn eich erbyn, eich bod wedi cael eich bwlio neu eich aflonyddu ar sail cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth neu fynegiant rhywedd, gallwch gyflwyno eich pryder trwy’r broses Putting Things Right.

Gwahanol ffyrdd o gael mynediad at ofal iechyd

Os ydych chi’n poeni am gael eich trin yn llai ffafriol gan eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol oherwydd eich bod yn LGBTQ+, gallwch:

  • Gyflwyno pryder trwy’r broses Putting Things Right. Ni ddylai hyn olygu eich bod yn cael gofal o ansawdd is.
  • Ystyried cael gofal iechyd yn rhywle arall. Efallai bydd modd i chi ddefnyddio gwasanaethau gwahanol. Er enghraifft, mae clinigau Iechyd Rhywiol weithiau’n gallu bod yn fwy sensitif i anghenion iechyd rhywiol pobl LGBTQ+. I gael manylion eich Clinig Iechyd Rhywiol agosaf, ewch i Gwasanaethau yn agos atoch chi
  • Weithiau, mae mynd â ffrind neu bartner gyda chi i apwyntiad yn gallu gwneud gwahaniaeth. Efallai byddwch yn teimlo’n fwy hyderus ac yn teimlo y cewch well gwasanaeth os bydd rhywun arall yno.

A ddylwn i gwyno?

Mae deddfwriaeth y Ddeddf Cydraddoldeb yn golygu ei fod yn anghyfreithlon i unrhyw un yn y GIG wrthod eich trin neu eich trin mewn ffordd annheg oherwydd eu rhagfarn yn erbyn pobl LGBTQ+.

Mae gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol ddyletswydd nid yn unig i’ch trin yn gyfartal ond i gydnabod y gallai eich cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth neu fynegiant rhywedd, olygu bod angen triniaeth wahanol neu ofal gwahanol arnoch. Efallai cydnabyddiaeth yn unig o’ch cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth neu fynegiant rhywedd. Fodd bynnag, gall fod ynghylch gwneud rhagdybiaethau sy’n eich atal rhag cael mynediad at y gofal sydd ei angen arnoch. Mae gwahaniaethu cynnil, gan gynnwys tybio bod pawb yn heterorywiol neu’n cis, yn ei wneud yn anoddach i ni fel pobl LGBTQ+ i deimlo’n gyfforddus wrth ddefnyddio gwasanaethau’r GIG. Mae’r GIG yn cydnabod bod hyn yn broblem, ac mae’n ymroi i newid.

Os cewch eich trin yn anffafriol, ac rydych eisiau cyflwyno pryder, cofiwch fod gennych hawl i wneud hyn, ac ni ddylech dderbyn gofal o ansawdd is yn sgil hyn. Hefyd, mae grwpiau ar gael i’ch helpu a’ch cynorthwyo wrth gwyno. Mae gan Stonewall restr o grwpiau a all eich helpu, gweler y ddolen isod.

Cofiwch, fel person LGBTQ+, mae gennych yr un hawl i gael yr un gofal iechyd â phawb arall.