Presgripsiwn Llyfrau Cymru

Nod Presgripsiwn Llyfrau Cymru yw helpu pobl sydd â phroblemau seicolegol mân i gymedrol ddefnyddio llyfrau hunangymorth o safon uchel sydd wedi'u dewis yn arbennig gan seicolegwyr a chwnselwyr sy'n gweithio yng Nghymru.

Mae'r cynllun hynod lwyddiannus hwn yn golygu bod meddyg teulu, neu weithiwr proffesiynol arall yn rhoi 'presgripsiwn' am lyfr therapi y gellir ei gyfnewid am y llyfr yn unrhyw lyfrgell ledled Cymru.

Presgripsiwn Llyfrau Cymru - Taflen Gwybodaeth i'r Cyhoedd