Sut i gael gwybodaeth bersonol, gan gynnwys nodiadau iechyd gan sefydliadau GIG Cymru
Mae Deddf Gwarchod Data 1998 yn rhoi'r hawl i unigolion wybod pa wybodaeth sy’n cael ei chadw amdanynt a pha ddeunydd a wneir ohoni. Mae’n rhoi’r hawl i unigolion gael mynediad at eu cofnodion iechyd, fodd bynnag, rheolir mynediad at gofnodion cleifion a fu farw gan Ddeddf Mynediad at Gofnodion Iechyd 1990.
Os byddwch yn dymuno cael mynediad at eich gwybodaeth bersonol, neu gofnod iechyd rhywun sydd wedi marw, bydd raid i chi wneud eich cais yn ysgrifenedig. Er mwyn cynorthwyo GIG Cymru i gydymffurfio â’ch cais, a fyddech gystal â:
· Bod yn benodol – helpwch nodi’r union wybodaeth sydd ei hangen arnoch, e.e. a oes angen gwybodaeth ynghylch eich cofnod staff GIG Cymru, cofnod iechyd neu gofnod rhywun arall arnoch. Os yn bosibl, rhowch unrhyw rifau cofnod y gellir eu defnyddio, megis rhif staff neu rif claf, hefyd cyfnodau penodol o amser neu driniaethau yr hoffech fynediad atynt.
· Darparu prawf o’ch enw - er enghraifft, pasbort, trwydded yrru neu eich tystysgrif geni ynghyd â gwybodaeth berthnasol arall a all gadarnhau eich cyfeiriad e.e. bil gwasanaethau;
· Darparu prawf o berthynas – Os yw’r wybodaeth yn ymwneud â rhywun arall, darparwch brawf o berthynas ac unrhyw gydsyniad angenrheidiol. Bydd angen i chi nodi’r rheswm pam rydych am gael yr wybodaeth os yw’r unigolyn wedi marw;
· Darparu eich manylion cyswllt - eich cyfeiriad gohebiaeth a rhif ffôn os bydd angen cysylltu â chi i drafod eich cais ymhellach.
Caniateir i GIG Cymru godi ffi o hyd at £50 am gopïau o wybodaeth bersonol.
Gwybodaeth bersonol – ddim cofnodion iechyd.
Os bydd angen mynediad at eich gwybodaeth bersonol, na chynhwysir mewn cofnod iechyd, dylech ymgeisio’n ysgrifenedig at y Swyddog Gwarchod Data yn y sefydliad GIG Cymru rydych yn credu bydd yn cadw eich gwybodaeth bersonol.
Cofnodion Iechyd Ysbyty
Os bydd angen mynediad atoch at gofnodion iechyd a grëwyd mewn ysbyty, dylech ymgeisio’n ysgrifenedig i’r ysbyty a ddarparodd eich triniaeth.
Cofnodion Iechyd Meddyg Teulu sy’n ymwneud â chleifion byw
Os bydd angen mynediad at eich cofnodion meddygol a grëwyd gan MT ac rydych wedi’ch cofrestru ar hyn y bryd gyda MT, bydd angen i chi gysylltu â’ch Meddyg yn uniongyrchol am gopi o’ch cofnod iechyd.
Os nad ydych wedi’ch cofrestru ar hyn o bryd gyda MT yn y DU, er enghraifft; os ydych dramor, yn y lluoedd arfog neu ar hyn o bryd yn y carchar, bydd eich cofnod iechyd MT yn cael ei storio gan y GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau, felly bydd raid i chi gysylltu â'u swyddfa leol.
Cofnodion Iechyd Meddyg Teulu sy’n ymwneud â chleifion marw
Pan fydd claf yn marw, bydd eu cofnodion iechyd MT yn cael eu storio gan y GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau, felly bydd angen i chi gysylltu â’u swyddfa leol.
Gwybodaeth bellach
Mae manylion pellach ynghylch prosesu eich gwybodaeth bersonol ar gael ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.